Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

ICYNGRAIR EGLWYSI RHYDDION…

SUDDIAD Y " KATE THqMAS."_I

CANFASIO. I

CYFOED YN MARW. I

GAIR DA I'R CYMRY.I

TRO TIRiOM.-1

ICLADDEDIGAETH Y IParch. THOMAS…

YR APOCRYPHA.

Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo

News
Cite
Share

Yn mhob cylch gwnaeth wasan- aeth anmhrisiadwy i'w Genedl a'i Eglwys. Nid ym am honi ei fod yn ber- ffaith. Pwy sydd berffaith ? Nid oedd neb yn fwy ymwybodol o'i amherffeithrwydd na'n hanwyl frawd ei hun. Clywsom ef lawer gwaith yn gofidio oherwydd ei ddiffygion. Yr oedd ganddo ddyn- oliaeth dda. Nid oedd dim yn fach ynddo. Yr oedd yn fawr a hardd o ran corph, yr oedd felly hefyd o ran y dyn oddimewn. Dywedodd rhywun am un o'r Tad- au Ymneillduol He had a countenance attuned to harmony with the mind." Yr oedd ei ym- ddangosiad personol yn fawreddog yn ystyr oreu y gair. Nid oedd eisiau iddo ond codi ar ei draed, na fyddai pawb oil wedi ymgolli mewn edmygedd o honno gan mor hardd a chyflawn yr edrychai. 0 ran ei gorph tal a lluniaidd gall- ai sefyll ochr yn ochr a gwyr grymus nerthol fel John Elias yr hwn a safai yn bump a deg, a Christmas Evans yr hwn oedd yn ddwy lath, neu David Rogers, a David Williams, Thomas Aubrey a Rowland Hughes. Tywysogion oedd y rhai hyn o ran ymddangos- iad, felly hefyd am ein hanwyl frawd. Yr oedd hefyd yn dywysog mewn meddwl. Nid enaid bach mewn corph mawr oedd ganddo, fel ambell un sydd ar ei ol, ond enaid braf a chyflawn mewn corph hardd a theg. Gallesid meddwl ei fod yn ddyn garw a Ilym wrth ei glywed yn llefaru ar rai adegau- ac mae'n rhaid cyfaddef ei fod felly weithiau, ond odditan y ger- windeb allanol gorweddai calon dyner iawn. Loes i'w galon ef oedd yr ymdeimlad ei fod wedi bod yn rhy arw a brathog yn ei eiriau. Methai gysgu y nos oher- wydd hyny. Dyn ar ben ei hun yn hollol oedd ein brawd. Nid efelychwn mo honno. Perthynai iddo wahanfod- aeth gref. Nid oedd am fod yr un fath a phawb arall, ac nid oedd am i bawb arall fod yr un fath ag yntau. Yr oedd yn bregethwr da -byw,iiewydd, coeth yr oedd yn llenor galluog, dengys Eur grawn y Canmlwyddiant ei allu yn y cyfeiriad yna. Darllenid ei gynyrchion gyda bias. Pe byddai wedi gosod ei fryd, mae'n ddiameu y gallai ragori fel bardd, cafwyd rhai darnau o'i eiddo a ddangosent ei fod o'r un waed a'r Awen wir." Fel Trefnydd yr oedd yn hynod lygadog a phwyllog yn yr oil a wnai. Gorchwyl mawr ei fywyd wedi'r cyfan oedd pregethu Crist yn Geidwad i bechadur. Ni fu erioed yn boblogaidd fel pregethwr y Cwrdd mawr oblegid ni allai ganu mewn hwyl heb iddo fynd yn annaturiol, ac ni allai floeddio heb ladd ei hun. Gallai waeddi a bloeddio pan fyddai ei ysbryd wedi ei gynhyrfu, a gwnai hynny mewn full swing heb ofni gwg na gwen y gynulleidfa. Yn ein tristwch, ymwrolwn, er fod Duw yn claddu ei weithwyr, mae'n dwyn Ei waith yn mlaen. "Mae Gweithwjo" goreu'r Ne' Yn marw yn eu gwaith Ond eraill ddaw'n eu lie Ar hyd yr oesoedd maith A ffyddlon i'w addewid fry, Yw'r Hwn a fu'n sylfaenu'r Ty." Ni fydd i'r Duw a gododd ac arddelodd Thomas Manuel anghofio ei Eglwys. Ni ddiffydd yr haul am i'r seren fachludo Os pallodd yr aber, ni sychodd y mor." Bregethwr byw oedd yn genad dros Grist, fugail hoff y praidd, cyfaill diddan, arweinydd gwres- og, cadfridog dewr, ni feddyliasom dy golli yn 58ain oed Siomwyd ein gobeithion, dyryswyd ein cyn- lluniau. Edrychem yn mlaen am gael dy wasanaeth am lawer blwyddyn arall, ond wele yr wyt yn dy fedd Huna yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Diolchwn i Dduw am danat, gweddiwn am ddeuparth o'th ys- pryd, ac enneiniwn dy fedd. a dag- rau ein calon. But 0, for the touch of a vanish'd hand, And the sound of a voice that is still.