Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

[No title]

Y FASNACH A'R FAINC.I

Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo YSGRIFENYDD TALAETH Y DE. I Y Parch Thomas Manuel wedi marw," dyna'r newydd trist a phruddaidd a dderbyniasom foreu Llun diweddaf. Anhawdd vcloecld sylweddoli y ffaith fod y Gwein- idog da hwn wedi ein gadael, a' hynny mor sydyn ac anisgwyliad- wy. Ar ol cystudd byr am ychydig o ddyddiau hunodd yn yr angau foreu Sadwrn, Ebrill yr 2il, am 8 o'r gloch y boreu. Dydd Mawrth blaenorol yr oedd yn cyfiawni ei waith fel arfer, a phrydnawn y dydd hwnw bu 3m llywyddu yng nghyfarfod Chwarter ei Gylch- daith. Cymerwyd ef yn glaf prydnawn Mercher tua 5 o'r gloch, ac o hyny hyd y diwedd dioddefodd ar adeg au gryn boenau. Ni freuddwyd- iodd ef, na'i briod hofi fod y di- wedd mor agos. Yr oedd yn holl- 01 ymwybodol trwy ei gystudd, ac I hyd y funud yr anadlodd ei anad- had olaf. Tebyg yw, fod ei boen wedi effeithio ar ei galon, ac mai gwendid y galon fu'n achos ei far- wolaeth. Y mddiddanai vn dawel fel arfer gyda'i briod yn ystod or- iau olaf ei fywyd, ac amlygodd ei ddymuniad yr hoffai pe byddai ei ferched anwjd gartref. Yr oedd i'w deulu bach le dwfnyn ei galon fawr. Do, bu y brawd anwyl, y Gweinidog da, a'r Arweinydd medrus farw pan nad oedd ond wyth blwydd dros banner cant oed a chladdwyd ei weddillion dydd Mercher diweddaf yn Mynwent Llethr Ddu, yng Nghwm Rhon- dda, dan gawod o ddagrau Eglwys a Chenedl. Cydymdeimlir yn fawr gyda'r teulu yn eu trallod nawdd y Nef fydclo drostynt yn y dydd blin. Mae Talaeth y De wedi cael colled, anrhaethol yn ei symudiad. Syrth- iodd "tywysog a gwr mawr yn Israel Duw." Cyn ein bod fel Tal- aeth wedi sychu ein dagrau ar ol y diweddai J. D. Jones, wele ni eto mewn dyfroedd dyfnion, a chyda calonau dry lliog yn gorfod dyweyd fod ffyrdcl yr Arglwydd yn y mor a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfn- ion." Collwyd ef o'n plith pan y safai y Dalaeth mewn mwyaf o angen am dano. Os bu angen er- ioed am ei gyfarwyddid, ei gyngh- or a'i arweiniad, mae felly yn awr yn ddibetrus yn hanes ein Talaeth fechan. Yn ystod yr ugain mlyn- edd diweddaf, yr ym wedi colli cynifer ag un-a'r-bymtheg o weis- ion y Goruchaf on plith. Y tad- au pa le y maent "? Yn ofer hedd- yw yr edrychwn am John Evans, y seraph bregethwr a swynai y mil oedd a'i ddoniau mel John Griffiths anwyl a didwyll ei gYln- eriad Henry Pritchard y pregeth- wr diragrith, a'r prophwyd gwrol; John M. Owen ffyddlon a gweith- gar Father Rees a'i brofiad cyf- oethog; William Morgan a'i ddawn melus Robertus y bugail gofalus a'r Arolygwr trefnus. Collwyd rhai wedi iddynt aros yn hir yn rhosydcl Moab,—Dr Thomas Jones yn 88 mlwydd oed; John Rees yn 88 Joseph Jones yn 78 Henry Parry yn 79; Thomas Mor- gan yn 74; William Morgan yn 84. Collwyd eraill yn ieuangc iawn—Thomas Philips yn 56; John Griffiths yn 47; Henry Pritchard yn 53 John Evans yn 57 J. M. Owen yn 51; John Rowlands yn 41 J. D. Jones yn 46, ac yn olaf Thomas Manuel yn 58. Pan yn gweddio uwch bedd J. D. Jones yn Mynwent Aberdar mis Rhagfyr di- weddaf, 37chydig feddyliai neb oedd yn bresenol mai Mr. Manuel oedd yn gweddio mor afaelgar yr adeg honno fyddai y cyntaf o'r Weinidogaeth a gawsai ei alw adref. Ganwvd y Parch T. Manuel yn Cnwch Coch, Cylchdaith Ystum- tuen. Yn yr ardal brydferth dawel hon yn Sir Aberteifl y ganwyd y Parchn Isaac Jones, Dr John Hughes, Glanystwyth," R. Rowl- ands a John Rowlands. Erbyn hyn, yn marwolaeth Mr Manuel maent oil wedi eu galw oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Bendith Duw fyddo ar Eglwys fechan y Cnwch am godi dynion mor enwog ac athrylithgar yn hanes ein gwlad. Cafodd ein brawd addysg dda yn moreu ei oes. Nodweddid ei ddyddiau boreuol gan lawer o fywiogrwydd a direidi diniwed. Llawer awr ddifyr a dreuliodd pan yn hogyn gartref i hela a dilyn y cwn ar hyd y dyffrynoedd a thros gymoecld ei ardal enedigol. Mawr oedd ei ddyled i hen flaenoriaid y Capel bach yn y pentref. Bu dylanwad yr hen saint syml a gwerinol yn fawr ar ei fywyd. Derbyniwyd ef i'r Weinidogaeth yn 1878, ac o hyny hyd y diwedd bu yn teithio am 32ain o fiynydd- au yng Nghylchdeithiau Talaeth y De. Yn rnhob lie gadawodd ar ei ol nifer o gyfeillion calon, a bu yn hynod o lwyddianus mewn llawer cyfeiriad. Llanwodd 1 swydd bViysig o Ysgrifenydd ei Dalaeth am lawer blwyddyn, ac fel y dywedai y Cadeirydd ddydd ei angladd gwnaeth ei waith yn raenus. ld i-i a f ei Fl?ll- Cafodd anrhydedd uchaf ei En- wad yn Nghymru trwy ei etholiad yn Llywydd y Gymanfa Wesley- aidd yn 1904. Efe oedd Llyw3rdd Cymanfa Coedpoeth, a thraddod- odd Anerchiad grymus ar Genad- wri yr Eglwys Rycld." Y flwyddyn ganlynol yng Nghymanfa Caer- narfon, traddododd siars werth- fawr i'r Gweiniddgion ieuangc yIlg nghyfarfod Ordeinio y G3^manfa- Testyn y siars oedd Cymhwyster a Gwaith," a chafodd amser nod- edig o hapus i'w thraddodi. Bl1 yn Llywydd doeth ac urddasol-