Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

[No title]

Y FASNACH A'R FAINC.I

News
Cite
Share

Y FASNACH A'R FAINC. Ychydig ddyddiau yn ol bu Dir- prwyaeth Frenhinol yn eistedd yn Scotland House, Westminster, i edrych i mewn i'r modd o ddewis Ynadon. Arglwydd James o Henffordd oedd Cadeirydd y Ddirprwyaeth. Ym mhlith y tyst- ion fu ger bron y Ddirprwyaeth yr oedd un Henadur o Lundain yn siarad o blaid y Fasnach Feddwol, acyndangos mawr ofal calon" am fuddiannau y Fasnach. Mae'r Henadur hwn yn Faer Lambeth, ac yn Gadeirydd Cymdeithas i amddiffyn buddiannau Bragwyr, Distyllwyr a Thafarnwyr y Brif ddinas. Chwi dybiech oddi wrth ei siarad fod y Fasnach Feddwol yn anhepgor gwlad, ac fod ganddi hawl foesol yn ogystal a chyfreith- iol i fodoli, ac y dylai gael ei dwyn ym mlaen yn annibynnol ar ymyriad oddi allan. Dylai y rhai sy'n siarad fel hyn o blaid y Fas- nach gofio mai trwy oddefiad cyf- reithiol gwlad mae'r Fasnach yn bodoli-" legalised temptations" yw tai y Fasnach. Dywedai yr Henadur hwn na ddylai neb sy'n teimlo yn elyn iaethus at y Fasnach Feddwol eis- tedd ar y Fainc mewn llys trwy- ddedol, ac na ddylai neb sy'n awyddus i leihau ymyfed wneud hynny ychwaith. Ni ddylai neb sy'n cyfrannu at unrhyw Gym- deithas Ddirwestol weithredu yn nglyn a gweinyddu y deddfau trwyddedol. Nis gall unrhyw Fragwr, na Distyllwr, na neb sydd yn meddu vested interest" yn y Fasnach eis- tedd ar y Fainc pan yn caniatau trwyddedau newyddion, neu ad- newyddu hen drwyddedau; a thybir oherwydd hynny na ddylai unrhyw Ynad Dirwestol eistedd ar y Fainc Ynadol ar achlysur o'r fath. Condemniai gwr y Fasnach Ynad- on Dirwestol oherwydd fod gan- ddynt ragfarn yn erbyn y Fasnach, ebai ef. Onid oes ihyw haerllug- rwydd a digywilydd-dra eithafol yn perthyn i wyr y Fasnach Fedd- wol ? Pebai unrhyw Ynad yn cyfrannu at Gyngrair Dirwestol y Deyrnas Gyfunol, neu at unrhyw Gymdeith- as Ddirwestol er Cynorthwyo achos sobrwydd neu pe digwyddai iddo fod yn aelod o'r Gynhadledd Wesleyaidd, a'r Gynhadledd hono yn pasio penderfyniad o blaid Dir- west, ni ddylai yr Ynad hwnw fod ar .y Fainc drwyddedol. Y fath ffiloreg Daioni dyn yn annghym wyster ynddo pan yn ceisio lleihau drygau a thrueni! Llefarai gwr y Fasnach fel pe llefarai un o'r yn- fydion Os na ddylai Ynad dir- westol eistedd ar y Fainc drwydd- edol, ni ddylai Ynad sy'n gym- edrolwr ychwaith eistedd ami—a phwy felly geid i weinyddu y Deddfau trwyddedol ? Dylasai y tyst hwn gofio geirau pwysig Arglwydd Esher yn nglyn a'r Farnham Case yn 1903. Cvn pasio Deddf Drwyddeddol 1904 penderfynnodd yr Ynadon yn Farn- ham gau rhai tafarnau nad oedd angen am danynt yn ol eu barn hwy. Apeliodd gwyr y Fasnach at lys uwch, a chadarnhaodd y llys hwnw ddyfarniad yr Ynadon. Dy- wedai gwyr y Fasnach yn yr adeg hono na ddylai Ynadon godi gwrthwynebiad i drwyddedau ac na ddylent eistedd ar y Fainc pan yn gwrthwynebu ac na ddylent chwilio am wvbodaeth flaenorol yn nghylch tafarnau. A glybu erioed ddyfnach ynfydrwydd ? os nad all Ynadon arfer eu gwybod- aeth a'u rheswm ynglyn a'r trwy- ddedau, byddai cael dynion pren ar y fainc lawn cystal, a gwneud pob Ynad yn dummy. Dywedodd Arglwydd Esher mai ymddiriedol- wyr i'r cyhoedd ac nid i'r tafarnwr yw yr Ynadon yn y llys trwydded- ol. Mater o fusnes yw gweinyddu y deddfau trwyddedol—penderfynnu pa sawl ty, a pha fath dai i werthu diodydd meddwol sydd i fod mewn rhanbarth. Mae gwybodaeth leol, a llygad i weled trueni meddwdod, ac yspryd llawn o gydymdeimlad a sobrwydd, yn anhepgor i bender- fynnu y cwestiwn. Dywedodd Arglwydd Watson yn y Dover Case mai gwarchod buddiannau y cyhoedd yw gwaith yr Ynadon. Mae yn Nhy yr Arglwyddi nifer o Fragwyr, a nifer fawr o rai yn gyfran-ddalwyr mewn bragdai a thafarnau, ac y mae yn sicr nad oedd gan y tyst hwn fu yn siarad gerborn y Ddirprwyaeth ddim gwrthwynebiad i'r Arglwyddi un- ochrog hyn eistedd mewn barn at Fesur trwyddedol 1908, a chyflawn- i'r gyflafan foesol honno yn Lansdowne House. A dyma'r gwr sy'n siarad yn erbyn Ynadon dir- westol. Onid oes gan y Gydwybod ddirwestol hawl i siarad ar y Fainc Ynadol? Mae'n arnlwg iawn, yn ol y tyst hwn, fod ar wyr y Fasnach ofn i'r werin gael gallu yn ei llaw ei hun i reoli'r Fasnach. Safedneu syrth- ied y Fasnach o flaen y farn gyh- oeddus! Os yw hi yn un deg a da ni raid iddo ofni syrthio; ond os dywed gwerin gwlad y dylid llei- hau y tafarnau pan na chaif llais y bobl fod ynoruchaf ? "Vox populi, vox Dei," llais y bobl, llais Duw yn yr achos yma. Nid oes dim yn Nghyfraith Pryd- ain yn gwahardd ynadon sydd yn awyddus i leihau ymyfed i eistedd ar y Fainc yn y llysoedd trwydded- ol ac er gwaethaf ymgais y Fas- nach credwn na bydd ar Reithlyfr Prydain ddim gwaharddiad felly byth. Y Fainc, dros y eyhoedd, sydd i reoli'r Fasnach, ac nid y Fasnach i reoli'r Fainc.

Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo