Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD.…

PENMACHNO..I

EGREMONT. I

Y WESLEY AID A'R CYRFFI CYHOEDDUS.

CYFARFODYDD CHWARTEROL.,

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

ASHTON IN MAKERFIELD. I

CYLCHDAITH PWLLHELI.

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

LLANBEDR. ,I

News
Cite
Share

LLANBEDR. I Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarter y Gylch- daith hon yn Llanbedr, Ebrill yr 2il, pryd y daeth cynrychiolaeth dda o'r gwahanol eglwysi yn nghyd. Dechreuwyd trwy weddi gas y Parch W. T. Roberts. Ar ol darllen cofnodion y Cyfarfod o'r blaen a'u derbyn fel rhai cywir, aed yn mlaen gyda gwaith y cyfarfod. Daeth y cyfraniadau o'r gwahanol Eg Iwysi i law yn llawn. Gwnaed sylw o adferiad y Parch W. Hughes, a dymunwyd iddo gael hir oes ac iechyd i wasanaethu yr achos. Nodwyd Mri. David Evans, Capel Vicar J. W. Davies, C.S. Llangybi, yng nghyd a'r ddau oruchwylwyr i gynrychioli y Gylch- daith yn y Cyfarfod Talaethol. Cyflwynodd yr Arolygwr achos Cym- deithas Cydgynorthwyol y Pregethwyr lleol i sylw y frawdoliaeth, ond y teimlad cyffredinol oedd fod gofynion personol y Gylchdaith yn pwyso yn drwm ar ysg- gwyddau ein heglwysi a phasiwyd i'w ohirio y tro hwn. Arholwyd a derbyniwyd y brawd Evan Jones, Bethel, yn gyflawn bregethwr cyn- orthwyol. Rhoddwyd gwahoddiad cynes ac unfryd- ol i'r Parch. H. P. Atkins i aros ar y tir am ei ail flwyddyn a chydsyniodd. Gwahodd- wyd hefyd y Parch. W. Hughes, i aros am y drydedd flwyddyn a'r Parch. W. T. Rob- erts i aros ei ail fiwyddyn yny Gylchdaith. Diolchodd y ddau am y gwahoddiad ond mynegasant eu penderfyniad i geisio gor- eu y gallant am fyned i'r Coleg y flwydd- yn nesaf. Treuliwyd rhan olaf y cyfarfod mewn rhydd-ymddiddan ar agwedd ysbrydol yr achos yn y Gylchdaith. Cymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan y Parchn. H. P. Atkins; W. Hughes; W. T. Roberts, Mri. Benjamin Jenkins John Evans Ben Jones a John Thomas. Teimlwyd fod y llanw yn codi yn uchel tra y siaradai y brodyr. Credwn y gall y Gylchdaith fanteisio i raddau helaeth ar y Cyfarfod Chwarter hwn, ond i'r cynrychiolwyr gario tipyn o wres haner awr olaf y cyfarfod i'r gwahan- ol eglwvsi. YSG.

CYLCHDAITH FERNDALE.I

I CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH LLANRWST. I

! CYLCHDAITH MACHYNLLETH.I

ABERGELE.

CYLCHDAITH TREGARTH.

LLANFYLLIN.