Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Canmlwyddiant yr Achos yn…

GAIR 0 MARMATO, DE AMERICA.,

NODION LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODION LLENYDDOL. (Pob Llyfr a Chyhoeddiad Cymraeg i'w hadolygu i'w hanfon i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llys Menai, Port- dinorwic.) Y E "w .11 Yr Eurgrawn a'r In an am Ebrill. pr6 fetliwr y Mis yn yr Eur- grawn" yw'r Parch Thomas Rowlands, Llanidloes, a'r testun Iago i. 23—25,— Gwrando a gwneuthur y Gwirionedd." Y n ddilys ddigon, dyma bregeth gref, gain, iraidd, mewn iaith ragorol— sylwer ar ystafell lanastr," arteith- glwyd," diarffordd,yr eglurebau'n newydd a grymus, a"r meddyliau'n gyf- joetliog. Beth arill, a ddisgwyliech oddiwrth frawd a fedr clrethu Butler, Coleridge, Hawthorne, a W. Watson i'w wasanaeth? Rhoddir darlun da o'r pregetliwr. Carwn fanylu mwy ar y bregeth ragorol hon, Os rhywbeth, cyn- hyddu yn ei flas a'i ragoriaeth y mae Cofiant y Parch. Wm. Hugh Evans gan ei annwyl fab y Parch. W. O. Evans. Gwerthfawr i bawb sy'n ymboeni ym mhethau mawr yr Efengyl mewn oes fel hon yw ysgrif alluog a chlir y Parch. Evan Jones ar Dystiolaeth Ei Fed- ydd am yr IJl." Ond nid yw "brenin" byth yn talu ymweliad," ymweled" y mae efe, a phobl eraill o'u tlodi' n ami yn talu Ysgrif ddiarffordd a dydd- orol oblegid hynny yw un Mr. David Jones, Van, ar Hen Gantorion Ys- tumtuen." Bydd yn newydd i liaws wybod mai'r Wesleaid a gyhoeddodd y Llyfr Tonau enwadol cyntaf yng Nghymru. Dywedir i'r awen "dalu ymweliad ag Ystumtuen,—faint dal- odd hi tybed? A dywedir nad oedd "dimhynodrwyddyn perthyn i'r un" o'r hen Gantorion, ac mai pobl yn gwneud pob peth yn debyg i bobl eraill oedclynt. Os felly, ni fuasai waeth i'r awdwr ysgrifennu am "bobl eraill" mwy nag am danynt hwythau! Da iawn yw gwaith Cynfor yn ysgrifennu cystal ar Dclefosiynau Walter James, "y sant-bregethwr" a liunodd mor gynnar. Hoffwn yn fanvi- weld ysgrif arall gan Cynfor ar Percy C. Ainsworth, y pregethwr anghyffredin a fu farw'n 36 oed. Cynfor yw'r gwr i wneud y gymwynas hon inni yng Nghymru. Yn nesaf, daw rhan gyntaf papur. a ddar- llenwycl gan yr ysgrifennydd presennol yng Nghyngor Eglwysi Rhyddion Gog- ledd Cymru ar bwnc amserol,—" Cad- wraeth y Saboth." Diau y bydd hel- aeth ddarllen ar Y Ddadl ar Sosial- aeth." Dyma'r tri wyr hyn o blaid y peth ond gan fy mod yn credu mewn cynnydd, ae nic1 mewri symiid yn unig, da gennyf eu clywed ill tri'n dweyd mai'n araf y daw (os daw hefyd). O'r tri, y Parch. W. 0. Evans sy'n ysgri- fennu gliriaf o dipyn, yng ngolwg un beth bynnag. Dyma'r drydedd bennod o Nofel y Parch. E. Tegla Davies, "Yn Swn y Mor"; a dengys hon eto chwaeth a medr uchel. Gwerthfawr dros ben yw Cofiant yr hen sant annwyl a gwronol Mr. Evan Morris (tad y Parch. David Morris) gan y Parch. T. Isfryn Hughes. Bendith anrhaethol fuasai i ddarllenwyr ieuanc fyfyrio'n hir uwchben y Cofiant Invn. Dyma i chwi sylw gan Evan Morris gwertli ei gerfio yn y grata' dros byth,— Wyddoch chwi, fydd 'na fawr o drain ar cldyn byth heb idclo deimlo 'i hun yn beehaclur colledig ymhob man ond yng Nghrist." A rhai eraill cystal ag yntau, yn y Cof- iant. Yn olaf dyma Gell y Golygydd (y Parch. Thos. Hughes.) Hai! dyma Olygydd arall yn fy mhen Ond dengys hwn ysbryd dymunol a humour hyfryd, wrth drin tipyn arnaf, neu yn hytrach wrth ddatgan fod piniwn yn mhob pen. Wel, gwir mai mater o piniwn yw defn- yddio Cymdeithasiaeth yn lie Scs- ialaeth," a cymeriad yn lie caritor." Ond beth petai'r piniwn hwnnw'n iawn, neu o leiaf yn well na'r Ilall ? Cydneb- ydd y Golygydd fod Cymdeithasiaeth yn fwy Cymreig o ran pryd a gwedd, ond fod y llall yn fwy clealladwy. Tybed? Oni wyr gwerin Cymru am y gair Cvm- deithas" ? Oni chanasant filoedd o weithiau, Braint braint, Yw cael cymdeithas gyda'r saint ? Oni chly vyyd son yng Nhymru am y Gymdeithasfa ? Os defnyddir Sosial- aeth, gellir hefyd ddefnyddio Liberal- iaeth." Am caritor neu "carictor" (wfft iddynt ill dau!), os defnyddir y rhain oni ddylid arfer yn lie newid a "neidio" y ffurfiau "altro" a jumpo ? Am begio," y mae hwnnw mewn cae arall yn y priod-ddull Saesneg to beg the question, fel y mae yn yr ys- grif gyntaf ar Sosialaeth." Afrwydd ac anaturiol fyddai cardota'r cwest- iwn" o'i gyi-iiharu A "chardota bara." Petai'r Cymreigfwr gwych a Gymraig- iodd yr ysgrif yn mynd ati i gyfieithu to beg bread, y mae'n amheus gennyf a ddywedasai begio bara." Am Pryd- en," nid yw diofalwch Golygydd Cym- y?. d Cym- ru," na'i hyhawsedd ef a Golygydd yr "Eurgrawn" yn ddigon imi dynnu'n ol ddim a ddywedais. Er fod Rhyd- yehen" (cymharer ox-en) yn gywir, nid yw "Pryden, "Rhufen," Llunden" y w n, iu felly. Prydein, Rhutein &c, yd- ynt yn ddieithriad yn y Llyfr Coch aa yn y Myfyrian, ac ychen yw'r llall bob amser. Cyfatebiaeth gau (false analogy) gyda "Rhydychen" sy'n cyfrif am "Pryden." Oddi wrth weddill Cell y Golygydd" dyma rai gwersi 1. Fod y Cymreigiwr a gyfrifir yn "awdurdod diamheuol'' ar y Gymraeg yn mabwysiadu'r argraff a gymhellir yn y "Nodion hyn. 2. Nid oes gan eich adolygydd ddim ffafriaeth tuag at "EurgrawIl "rnwy IIA,R Winllan," onite nis galwesid i gyfrif gan Olygydd yr Eurgrawn fel y gwneir Y mae rhifyn Ebrill yn llawn cystal at ei gilydd a'r un eto elerii. Y WlXl.LAX." Rhwydd y gallaf ddywedyd yr un peth am y Winllan am y mis hwn. Hyfryd yw edrych ar wyneb mwyn Mr. Wm. Evans, Eglwys Fach, Cylchdaith Machynlleth,—gwr rhagorol sy'n en- graifft dda o Wesleaid bonheddig a ffyddlon Sir Drefaldwyn. Ysgrifennir yn dda am dano gan y Parch. Evan Isaac. Nis gall neb ddweyd faint o les a all ysgrif ragorol Mr. E. Foulkes, Llangollen, ar Y Cam Cyntaf" ei wneud i'r ieuenctid a'i darllenant. Canmoladwy yw gwaith Gwynfryn yn ysgrifennu mor darawgar a byw ar Y Fron, cartref Mynyddog. Trwy'r ys- grifau hyn fe ddaw'r plant i wybod am Erwau Sanctaidd ein gwlad, ac i'w caru. Ond o ble yn y byd y daeth sylwes ? Dyma'r ysgrif gyntaf o gyfres ar Em- ynwyr Cymru" gan y Parch. Evan Isaac,—ysgrif ddyddorol ar rater anodd i'r "Winllan." Ond tybed nad oes gymaint ag un Emynydd yn fyw yng Nghymru ? Gwell o gryn dipyn fuasai "greddf" na hinstinct ac nid yw "llithro'r genedl yn gywir, am mai instransitive yw "llithro." Deil Hir- aeth Eluned gan Bedford yn ei bias. Cyfaddas a hapus yw Apostol y Plant," Bryniau'r Beddau," y man ddarnaii amryddawn eraill, y don gan Mr. E. Williams o'r Felin Heli yma, a'r pumf darlun da at y cwbl. A'r Winllan" doreithiog a melus hon i'w cliael i gycl am geiniog!

CRONFA GWRTHRYFEL LLOYD GEORGE.