Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Canmlwyddiant yr Achos yn…

News
Cite
Share

Canmlwyddiant yr Achos yn Pont-ar-dulais. (Gan y Parch. A. C. Pierce). I PENNOD II. I RICHARD JONES. I Ar y 7fed o Mehefin, yn y flwyddyn 1811, ganwyd i Henry a Charlotte Jones, fab, yr hwn a anwyd yn Richard. Cafodd ei fagu yn dyner a gofalus. Dysgodd yn fore ffydd ei anwyl Fam, a chyfranogodd yn helaeth o'i hysbryd. Tyfodd i fyny yn un o brif golofnau yr Achos Wesleyaidd yn y Bont. Yn yr Eurgrawn Mehefin 1873, ceir gofiant tyner a theilwng o hono yntau. Dygir tystiolaeth i'w fywyd pur a phrydferth, ei wybodaeth a'i wroldeb, a'i fedrusrwydd i amddiffyn Athrawiaeth Crefydd—yn neill- tuol yr Athrawiaethau hyny y rhoddai y Pregethwyr Wesleyaid gymaint o bwys- lais arnynt yn y dyddiau hyny. Yr oedd yn weithiwr difefl dros Achos ei Waredwr. Dygai fawr sel dros yr Ysgol Sul, a byddai wrth ei fodd yn dysgu ac egwyddori y Plant ar ieuengtyd. Meddai ddawn neill- tuol hefyd gyda'r canu. Ceid gwledd wrth edrych ar wyneb Richard Jones, gyda'i ddagrau yn llifo drosto pan y byddai yn canu rai o'r hen Emynau. Meddai brofiad diamheuol o ras achubol Duw yn ei enaid. Gwasanaethodd yr Achos yn ffyddlon ac effeithiol am dros 30ain mlynedd yna symudwyd ef i fod yn golofn hardd ac ar osol yn y deml nid o waith llaw, ond fe erys ei enw a'i goffadwriaeth yn felus hyd y dydd hwn. Dylid dyweycl mai merch iddo ef ydyw Mrs Morris, gweddw y di- weddar yr hynod, a'r adnabvcldus, Dafydd Taliesin Morris, yr hon sydd eto er yn llesg a nychlyd yn aros yn ein plith. JOHN A MARGARET BOWEN. I Teulu arall teilwng o sylw yn y cyssyllt- iad hwn ydyw John a Margaret Bowen, Wernbwll, sef tad a mam Mrs Marks. Gan- wyd Margaret Bowen yn y flwyddyn 1793, a ganwyd John Bowen yn 1804. felly yr oedd y naill yn 16eg, a'r llall yn 5 mlwydd oed pan ddechreuwyd yr Achos. Nis gellir bod yn sicr pa bryd yr ymun- odd y ddau yn aelodau, ac nis gwyddom y flwyddyn yr ymunodd y ddau mewn priodas a'u gilydd. Y mae yn amlwg iddynt wneud pob un o'r ddau yn gynar. Y mae arwyddion aelodaeth y ddau ar gael heddyw, ac wedi eu hysgrifenu gan Davies, Affrica, Rhagfyr 1828 fraint cyn hyny y buont yn aelodau nis gwyddom. (Dyddorol ydyw crybwyll mai Davies, Affrica, hefyd, fedyddiodd Mrs Marks.) Bu ei rhieni yn selog a ffyddlon. Gwasanaeth- odd John Bowen yr Achos fel Arweinydd y Canu ac mewn moddion eraill, a gwein- yddai Mrs Bowen yn garedig ar y Pregeth- wyr pan ddeuent heibio trwy estyn croesaw a lletygarwch. Yn mhlith y chwiorydd ffyddlon y dyddiau hyny, ac yn un o'r ael- odau cyntaf hefyd, ceir Mrs Jones, Hendy Farm. Yr oedd hi yn fam-gu i Mr John Thomas, yr "Engineer," (un o'r Goruch- wylwyr, ac o'r Blaenoriadpresenol). Drwy- ddi hi y daeth Ffarm yr Hendy, yn llety croesawus i'r Pregethwyr o'r cychwyn, a pharhaodd i raddau canmoladwy felly yn ddiweddar. Chwith ydoedd colli y caredigrwydd hwn oddiar yr hen aelwyd- ydd cyssegredig hyn Nac anghofiwch letygarwch." Yr oedd i Mrs Jones, yr Hendy, chwaer o'r enw Nance. Yr oedd hi yn un o'r aelodau cyntaf yn Llanon, ac yn Ilawn tan a brwdfrydedd, a'i hymroddiad i'w wasanaeth a'i Achos yn symbylu eraill. MORGAN HOPKIN, A TEULU GAETREWEN. I Teulu nodedig arall yn meddu cyssyllt- iad a'r Achos, ac yn aelodau y pryd hwn oedd Morgan Hopkin a'i wraig. Yr oedd y rhai'n yn bobl barchus iawn yn yr ardal, cawn mai i Mr Morgan Hopkin y cyflwyn- odd yj Parch Wm. Davies, Affrica, y tir ar yr hwn yr adeiladwyd y Capel. Yr oedd Mrs Hopkins yn un o'r rai cyntaf yn y gymdogaeth i ddychwelyd o dan Weinid- ogaeth Jones, Bathafarn. Dygwycl hi i fyny gyda'r Annibynwyr yn Llanelly, ond, pan yn gwrando ar y Cenhadwr Wesley aidd yn pregethu gyda'r fath eneiniad. argyhoeddwyd hi o'i phechod, a phender- fynodd ymuno ar "Sect Newydd," fel y gelwid hi y dyddiau hyny, a pharhaodd yn ffyddlon a selog hyd ei bedd. Bu farw yn y flwyddyn 1841. Ymhellach, yr oedd ganddynt ferch, yr hon oedd tuag 20ain oed y pryd hwn, daeth hithau gyda'i mham yn aelod o'r eglwys ieuangc. Ac yn y flwyddyn 1815, digwyddodd amgylch- iad yn ei hanes fu yn foddion caffaeliad a chysur i'r Achos yn y lie a thrwy y Gylch- daith. Ymbriododcl Miss Hopkins a Mr. Thomas Braithwaite William Lot, Gae- trewen. Nid oedd gan Mr Lot y pryd hwnnw fawr o gariad at y Wesleyaid yn wir yr oedd yn eu cashau a chasineb cyf- lawn ond yr oedd ganddo wir gariad at ei wraig rinweddol, yr hon o dipyn i beth a Iwyddodd i'w berswadio i glywed y Pregethwyr, a barnu drosto ei hun. Y canlyniad fu i Mr Lot benderfynu yn fuan mai Duw ei briod hawddgar, gai fod yn Dduw iddo yntau a'i pnobl hi, ei bobl yntau Agorodd Duw ddrws ei galon, ac agorodd yntau ddrws Goitrewen yn gartref croes awus i'r pregethwyr. Daeth y teulu yn gefnogwyr cryf i'r Achos yn y Bont," ac yn y Gylchdaith. Bu Mrs Lot farw mewn tangnefedd heddychol Gorphenaf Hi, 1842, sef yn mheii blwyddyn ar ol claddu ei han- wyl fam Mrs Hopkins. Claddwyd hi mewn galar mawr yn mvnwent Llanedi, a phregethodd y Parch Hugh Hughes, (taid Hugh Price Hughes), ei phregeth angladdol y Sul canlynol i dyr- fa fawr o alarwyr o bob dosbarth o ddyn- ion. Yr oedd yn Goitrewen hefyd yr adeg honno gymeriad amlwg arall ynghlyn a'r Achos yr hwn a elwid yn Henry Tabitha, (Henry Evans oedd ei enw priodol, Tabitha oedd enw ei fam). Gwas yn Gri- trewen oedd Henry, ac yn ffafrddyn gan ei feistr a'i feistres. Yr oedd ganddo ddawn a llais ardderchog i ganu, a chysegrodd ei hun a'i ddawn i'r Arglwydd. Bu Henry yn aelod ffyddlon ac yn godwr canu effeithiol yn y capel am flynyddau. "l\'T"V\F T,'D All ] AMRYW ERAILL. I Yr oedd eraill yno y dyiem hefyd eu I henwi megis, Isaac Morris, gwr ffyddlon a gofalus yn byw yn Mhenywaenfawr, tua pedair milltir o'r Capel, ond mynychai y moddionau'ar y Sul yn ffyddlon a difwlch dnvybob tywydd. John Harris, Ysgol- feistr, gelwid ef yn Wesley Bach ar gyf- rif ei sel a'i ffyddlondeb i'renwad meddai r, ei ddiffvgion, ond meddai rin-wecldau lawer hefyd. Thomas Williams, a Thomas Roberts, David Jones, (tad Mrs Williams, y Fforest, a Griffith Thomas y "Sheaf," gwr parchus a charedig iawn bob amser i bregethwyr oedd efe. Bu hefyd yn Oruch- wyliwr y Gylchdaith am un cyfnod. Den gys hyn ei fod yn wr teilwng o ymddiried- aeth yn ei gylch. JENKIN HENRY. I Ac yn olaf, ond nid y lleiaf o lawer o'r dynion da a welwyd yn poeni gyda'r Achos yn nydd ei bethau bychain, a'i ys- gwydd yn dyn, a chref, o dan yr arch oedd Jenkin Henry, o Langeunech, (tad Mrs Thomas y Shop). Dyn cryf mewn 11awer ystyr oedd Jenkin Henry, gwybodus a galluog yn yr Ysgrythyrau, ac yn gallu siarad yn dda ac effeithiol. Ond yn sicr elfen amlycaf ei garictor, medd ei gofiant- ydd, yn yr Eurgrawn, oedd ei rodiad diar- gyhoedd gyda Duw. Dyma oedd sylwedd a dirgelwch ei gryfder fel dyn a Christion. Perchid ef yn fawr gan fyd ac eglwys ar gyfrif hyn. Talodd y Cenhadon Wesley- aidd ymweliad a Llangeunech tua'r un adeg yr ymwelasant a Phontardulais, a llwyddasant i gychwyn achos yma yr oedd Jenkin Henry yn un o'r aelodau. Byddai hefyd yn ami yn myned i Lanon i gynorthwyo yr Achos yno. Pr,ofodd ei hun yn ffyddlon a defnyddiol yn Llan- geunech hyd yr adeg gorfu iddynt roddi yr achos i fyny. Pa bryd y bu hyny, nid yw yn hawdd penderfynu. Yn Nghyfrif-lyfr y Gylchdaith am Mawrth 1812, ni cheir cyf- rif o aelodau Llangeunech, ond cawn y rlodiad a ganlyn, wedi ei ysgrifenu gan y Parch. Edward Jones,—" Not alloived to preach in the public house." Modd bynag, y mae yn amhvg fod Jenkin Henry wedi penderfynu bwrw ei goelbren i blith yr ychydig enwau oedd yn Mhontardulais, ac iddo gael ei benodi yn flaenor, sef y blaen- or cyntaf yn yr eglwys, a pharhaodd yn y swydd, a llanwodd hi gyda medr aceffeith- iolrwydd am 54 mlynedd. Buont yn aelod ffyddlon a dychlynaidd o'r eglwys Wesley- aidd am 60 namyn un o flynyddoedd. Cerddai trwy bob tywydd, haf a gauaf, oerni a gwres, bydded wlaw neu eira, chwythed gwynt deifiol y dwyrain, neu awelon mwyn y deheu, yr oedd hawliau Achos Iesu Grist yn y Bont yn ei gymhell yn gyson i gerdded y daith, dair gwaith yn ol ac yn mlaen bob Sul am flynyddau lawer. Dywedir na chollodd ond dau Gymundeb ar hyd ei oes, ac yr oedd hyny oherwydd afiechyd. Bu farw medd ei Gofiantydd a'i lygaid yn edrych ar Iach- awdwriaeth ei Arglwydd," yr oedd hyn yn mis Tachwedd yn y flwyddyn 1874. Cladd- wyd .ef yn mynwent y Capel bedwar diwr- nod ar ol hyny gan dyrfa fawr, a chydag arwyddion amlwg o barch a galar. Tern- tir ni i ddywedyd cyn tewi, wrth ochr ei fedd. Gwyn fyd yr eglwys a'r ardal sydd wedi magu, ac wedi magu cymeriadau fel Jenkin Henry. Cyfoded Duw. ychwaneg eto o rai cyffelyb iddo yn ein Heglwysi a'n hardaloedd. Ni fu erioed fwy o'u heisiau nag sydd heddyw. (I'w barhau),

GAIR 0 MARMATO, DE AMERICA.,

NODION LLENYDDOL.

CRONFA GWRTHRYFEL LLOYD GEORGE.