Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. [Gan ein Gohebydd Arbenigl. Wrtli dremio yn ol dros dipyn seibiant y Pasg yr hyn ddaw i'n cof yn fwyaf byw o'r tu hwynt i'r Gwyliau ydyw Y CANGHELLYDD AR Y DIFFYNOL. Yr oedd y cwpl dyddiau olaf cyn tori i j fyny am Wyl y Pasg yn gwneyd i ddyn feddwl am gwdyn y saint, neu len llian Pedr gan mor amrywiol y materion ddygid ger- bron y Senedd. Dyma safle ardderchog grwgnachwyr ydynt wedi methu yn ystod y tymhor gael cyfle i arllwys eu hareithiau ar glybVedd y ty. Nid oedd derfyn ar ddi- gywilydd-dra rhai ohonynt a chawsant yn dal gurfa gan y Canghellydd y cofiiant am dani. Nid oes yn v tv well boneddwr na Mr Lloyd George; ond mae perygl i ddynion o -aed gymeryd gormod o fantais ar ei natur dda. Gwnaeth rhai hyny, a hyfryd oedd gweled y Canghellydd a'i gefn ar y mur megis yn gwahodd y giwaid yn mlaen. Mae'n llwyr feistr ar y Gyllideb, ac v mae wedi dyfeisio sefyllfa i'r gelyn sydd yn nodedig ddyddorol i'w gwylio. SEIBIAXT YXG NGHAXOL YSTORM. Mae terfyn ar Wleidyddiaeth, a hyfryd fydd cael hyd yn nod ddarn o wythnos i feddwl yn dawel am bethau trymach y Gyfraith. Rhuthrodd nifer aruthrol allan o Llundain dros y Pasg a gallem feddwl mai gwvn-eu byd. Cawsant haul i wenu ac awelon mwynion i chwythu. Yr oedd yn y Ddinas ddigonedd o honom wedi i'r rhai rhagor-freintiedig ein gadael. Caf- v/yd tywydd hyfryd dros yr wyl, a llawer i gyfarfod crefyddol bendithiol iawn. Clyw- som y gwr o Frynsiencyn yn pregethu yr hen Efengyl gyda grym mawr, a da iawn mewn argyfwng o ansefydlogrwydd oedd clywed cyfeiriad mor ddoeth ac mor gryf at y pethau nad ysgydwir." Carem pe buasai deng mil o ieuengctid ei wlad yn ei wrando. HALDAXE YR YMYRWR NIWEIDIOL. I Nid llawer- gymerasant fantais ar yr Wyl i anerch eu hetholwyr ond oherwydd an- hwyideb llygadol yn amser yr Etholiad Gyffredinol, cymerodd Ysgrifenydd Rhyfel fantais ar ddyddiau cysegredig yr Wyl i ymweled a'i bobl. Mewn rhyw ystyr cred- wn fod rhywbeth ar ei lygaid o hyd. Mae ar graft, ar feddwl cymdeithas er's tro fod rhyw ddylanwadau croes-ddynol yn y Cabinet. Dyma yn sicr un o honynt. Dyn ardderchog yn ddiau mor rhwydd ei bar- abl ac Elihu. Ond y mae amser i beidio siarad yn ogvstal ag i wneyd hyny. Mae y si ar led fod y gwr hwn wedi -peri peth anhawsder i'w arweinydd trwy ymyryd a'r brenhin tu ol i'w gefn. Ni wnaeth ei areithiau yr wythnos ddiweddaf ronyn o !es i'r sefyllfa. AGORIAD YR ARMAGGEDOX. Golwg ardderchog yn ddiau oedd yn Nhy y Cyffredin prynhawn dydd Mawrth, pan agorwyd brwydr nad oes gan neb ddychyrayg clir iawn'pa bryd y daw i ben. Yr oedd genym syniad y byddai y dyn cryf sydd wedi cael cymaint o gam yn wir feistr y sefyllfa pan ddeuai'r adeg. Ac felly yn ddiau y profodd. Nid oes ddadl pad yw y Prif Weinidog yn ddiweddar wedi gorfod yniddangos fel bwch diangol er mwyn er- aill. Beiwyd llawer arno parthed anerch- iad vr Albert Hall, neu yn hytrach ei es- poniad arm wedi hyny. Ond credem o hyd, ac yr ydym yn credu yn fwy heddyw nag o'r blaen fod yr arweinydd mawr hwn wedi gwneyd yr oil a ellid, a'i fod yn gorfod dwyn beiau eraill. Agorodcl frwydr y Cyf- ansoddiad fel gwr sicr o'i fater ac o'i ffordd, a chredir yn bur gyffredinol bellach ei fod ef yn un o'r elfenau iachusaf yn y Cabinet, ac yn bleicliol i ddinistr Veto yr Arglwyddi o'r dechreu. Yr oedd yn groew iawn ar fater dymunoldeb Ail Dy a methwn wel- ed wedi'r cyfan fod gwahaniaeth rhyngddo a Sir Edward Grey. Mae'r cldau am Ail Dy ond am i Dy v Cyffredin fod yn or- uchaf. nYFC'I"VR PI "ID' ARWEIXWYR PLEIDIAU. Wedi i'r Prif Weinidog siarad am agos awr a haner, daeth cyfle arweinwyr y pleidiau. Ac i ddechreu Balfour. Daeth- ai i fyny o Cannes, o ganol heulwen, ac oddiwrth arfau Golf a'i wyneb yn felyn ond i'n golwg ni heb wella fawr ar wahan i felyniad ei groen. Traddododd araeth nodweddiadol ohono ei hun-heb deimlad dwfn o gwbl. Ei le er mewn dadl ydyw dangos medrusrwvdd ymosodiad rhwng difrif a chwareu. Nid yw bosibl ei fod yn credu yn ei ddadl ei hun. Pa ddyn yn ei synwyr all amheu y cam dderbynia Rhydd- frydwyr beunydd a byth oddiar law yr Ar- glwyddi be eto, dyma faich ei araeth— nad oedd rhwystr neu wrthdarawiad o gvvbl. Hawdd y gallefe—codiad bys yr hwn sydd wedi bod ddigon o orchymyn i'r Arglwyddi ar hyd y blynyddoedd, fod yn foddlon ar eu gwaith. Siaradodd Redmond yn gryf dros yr Iwerddon. Nid yw wedi newid dim ar ei dir hyd y gallwn weled. Ac efe sydd yn iawn. Yn awr neu byth iddo ef. Ni thyb- i vvn fod Barnes wedi enill na cholli fel ar- weinydd Llafur. CYMRY YN Y SEXEDD. I Cawsom fel ami i dvlotyn arall fynediad i'r Ty wedi i'r round gyntaf gael ei hym- ladd a chawsom y ddysgyblaeth o wran- do ar beth dot anrhaethadwy. Ond o aros ymlaen daeth gwobr i amynedd. Wedi gwrando ar fwy nag un llef yn llefain yn y diffaetlnvch" cawsom y fraint o wrando ar ddau Gymro, a gweled ami un arall. Gyda llais hyglyw clywsom y Llefaryda yn galw ar Sir Herbert Roberts," a thra- ddododd yntau araeth fer, ond hynod gymhwys a chryf. Synem na chymerai ragor o amser. Gwrandawid arno gan bob dust yny Ty, a gosododd yntau yr achos yn erbyn yr Arglwyddi o safbwynt Cymru, yn glir a diofn. Dipyn yn nes yn mlaen galwyd ar Mr. Edgar Jones Dyma yr aelocl dros Ferthyr. Ni fuasai neb yn rneddwl mai aelod newydd ydyw dros unman. Siaradodd fel pe buasai yn y Tv- er's ugain mlynedd. Os mai eofndra sydd eisiau, gwna hwn y tro. Synem mewn rhyw ystyr at y sylw astud roddwvd i'r lleisiau dros Gymru. Ond tybiem mai parch a'i sicrhaodd i'r cyntaf, a newvdd- deb i'r ail. CAFFAELIAD I'R WEIXYDDIAETH. Anaml y siomir neb yn Nhy y Cyftredin, ond iddo aros yno yn ddigon hir. Wedi araeth hir, a galluog gan un Mr Cave ar ochr yr Wrthblaid, cyfododd Sir Rufus Isaacs ar ei draed a chlywsom ei araeth gyntaf fel aelod o'r Weinyddiaeth. Cred- wn ei bod yn nodweddiadol iawn o hono. Cymerodd ei amser os wedi trin yn fon- ecidigaidd ei flaenorydd Mr Cave, dechreu-' odd ymosod ar Mr. Balfour, ac'ar brydiau yr oedd yn bur galed arno. Colled fawr i Dy y Cyffredin fu colli Sir S. T. Evans yn ddiau. Ond tybiwn y byddai yn anhawdd cael yn ei le well dyn na Sir Rufus Isaacs. Pleser oedd edrych ar ei wyneb mynegiadol, a gwrando ar ei lais haner cwynfanus. Hawdd gweled o'r oriel mai un o feibion Abraham ydoedd. Ond uwchlaw gwedd a llais, yr oedd ei fedr i osod ei achos, ac i droi y gelyn yn ol, yn edmygol. Cafodd wrandawiad gan yr holl dy. Yr unig geg agorediawn oedd yr eiddo F. E. Smith, ac y mae yn hen gyf- arwydd a hono. GOLEU TU FIWXT I'R CWMWL. Gwyliem yn fanwl beth a ddywedai y g\vr hwn oedd yn llais cyfreithiol dros y Llywodraeth. Beth bynag ellid ddyweyd ar gwestiwn y Cyfansoddiad gallai hwn ei ddweyd, a gwnaeth. Yr oedd ei eiriau olaf yn hynod gryfion, ac i'n bryd ni yn obeithiol. Credwn yn sicr y pasia y Gyll- ideb, ac y penderfvnir Cwestiwn y Veto yn y dyfodol cydmarol agos. GWLEIDYDDWYR AR Y GORIWAERED. Yn mhlith y rhai hyn rhaid rhestru F. E. Smith, a'r Arglwydd Hugh Cecil. Am y cyntaf nis gallasom gredu rhyw lawer yn ffafriol erioed. Canmoiir ef gan yr Wrth- blaid am yr hyn 31 ceisiant ei gondemnio yn y Canghellydd. Y gwir yw nid yw gymhwys i ddal canwyll i'r olaf mewn dim. Siomir ni gan yr Arglwydd Hugh. Cymerwn ef i fod yn ddvn crefyddol a da. Ond am rhyw reswm mae wedi dechreu mabwysiadu iaith y gwter, ac y mae wedi ei niweiclio yn fawr.
Beddau Enwogion yn Mro Dinbych.
Beddau Enwogion yn Mro Dinbych. (Gan y PARCH. DAVID THOMAS.) Doniau, gwlad awen, gludir—i'r fYlnvent Y prif enwau gollir, Ac arwyr teg—cewrir tir Yn y bedd anwybyddir." Dyna fel y canodd'" Meigant amser yn ol, ac y mae yn bur gywir. Gyda ychydig o amser y mae'r prif enwau yn myn'd ar goll. Yn y fynwent yn unig y mae llawer o'r enwau i'wfgweled. Mae Erw Duw yn mhob ardal, ac nis gellir myned heibio heb ddv/eyd gyda Tafolog— Dacw'r fan cwyd cerf-feini—'n golofnog LyfnWaith, i'w dynodi, Ar eu hwvneb ceir ini Hanes sobr ei chynwys hi." Un fynwent yn Mro Dinbych, ag sydd yn mecldu ar ddyddordeb i bob Weslevad athrawiaeth-garol ydyw mynwent Eglwys Dewi Sant, oblegid yno y gorwedd llwch y Duweinydd enwog Samuel Davies laf. Nid fy He i mewn Adgof uwch anghof," o'r natur yma, ydyw traethu ar adomau a gwaith y gwr enwog hwnw. Ymataliaf drwy, ond cyfeirio at hyn sydd yn gerf- edig ar y" golofno- Lyfnwaith," uwch ei lwch. Yma y gorwedd y Parch Samuel Davies, yr hwn a fu yn weinidog Weslev- aidd am 47 mlynedd. Dychwelwyd ef at grefydd yn ei fachgdn-docl, a dechreuodd bregethu yr efengyl yn ieuanc. Yr oedd ei weinidogaeth yn nodedig am y gallu a'r ffyddlondeb yr eglurodd ras Duw yn mhlith ei gydwladwYr, drwy ei weithiau Duwinyddol a dadleuol, ag ydynt yn weithiau safonol yr enwad y perthynai iddo. Ganwyd yn 'Cilcen, Sir Fflint, 1789. Bu farw yn Ninbych 1854. Dyna yr oil sydd ar y golofn. Gwelir iddo syrthio pan ond 65 oed, pan y disgwylid iddo fod yn fwyaf addfed i arwain fel cadfridog dewr, ei rengoedd i fuddugollaeth. Fe fydd vVesleyaid Cymru yn ddyledus i'r Duw- einydd, ar dadleuwr, cryf ac enwog yma, tra y bvdd Weslevaeth Cymreig mewn bod. Y mae yn y fro hon fynwent arall llawer mwy adnabyddus na mynwent Eglwys Dewi Sant, sef mynwent yr Eglwys Wen. Yno y gorphwj's llu mawr o bob gradd, ac oedran. Os ydyw yn wir fod dau angel yn gwarchod porth pob mynwent gyda II userna u yn eu dwylaw--sef Angel Adgof ac Angel Gobaith, ac os ydynt yn gwarch- pd porth mynwent yr Eglwys Wen, cefais fyned heibio'r ddau lawer gwaith, ond nid heb orfod, bron yn ddiarwydod i mi fy hun, edrych yn ol ac yn mlaen, ac wedi myned i mewn i'r erw gwnaethym fel y bardd,— Yn awr hyd feini oerion— y llanerch Darllenwn gofnodion, Rhai o'r llwch i heddwch hon W\Tsiai Duw yn westeion." Un o'r enwogion ag yr oedclwn eisiau gweled ei fedd oedd y Parch. Rowland Hughes, "Y Cawr Bregethwr" fel y gal- wyd ef y dydd o'r blaen gan yr hynafgwr parchus D. Williams, Lianelwy, wedi dy- fod o hyd i'r fedd-adail yn mhlith y can oedd sydd yn y Llanerch hwnw, meddyl iais am yr hyn a ddarllenais yn ymson gwr galluog ar Y Fynwent "flynyddoedd yn ol—mor wag ac- ofer ydyw gyru enw unig a dinod i lawr gyda ffrwd Amser ar gareg fedd Y mae fel deilen goll o ryw hen lyfr ddyfethwyd yn golosgiad Rhuf- ain gynt, nid oes neb yn teimlo 31 dydclor- deb lleiaf yn y ddeilen goll. Yn mhen canrif neu ddwy ar ol codi y maen costus bydd bin oer y gauafau hirion wedi bwyta 31 gareg galed, a helynt y canrifoedd wedi golchi allan hanes llawem-dd a phoen y gwr dinod o gof y byd." Digon gwir am y "dinod," os nad hefyd i raddau am y byd glodus yn mhen amser. Deilen unig" ydyw Rowland Hughes, heddyw, heb berthynas yn y byd cyfan, i dynu y glas- wellt gwvi-iion sydd yn tyfu rhwng rhigiol- au y meini, sydd yn gorwedd ar ei fedd, i ymgeleddu y Llanerch," a phlanu blodau serch o'i chwmpas- Llygad blodeuyn lliwgar—a gyfycl Yn gofeb o'r ddaear, I'w llwch hwynt uwch t'wllwch ar, Siriola nos hir alar." ebe y bardd, ond nid oes "blodeuvn lliw- gar yn gofeb i Rowland Hughes, ond hin oer gauafau hirion" wedi magu cancr a mwswgl ar y gofadail nes cuddio y llythrenau a gerfiwyd yn ddwfn i'r maen agos i haner canrif yn ol. Nid wyf yn gwybod fod Haw garedig neb wedi ym- geleddu y golofn goff a" byth er hyny. Ond o barch i'r "cawr-bregethvn," ac i gyfeillion caredig Dolgellau (ag sydd yn meddwl y byd o Rolant" ac o'i fam. Clywais ddau o flaenoriaid ffyddlon Dol- gellau, sef Mri Lewis Lloyd, a John Barnet yn son am fam Rolant" chwedl hwythau), fe gyflogais wr cyfarwydd a thrin meini, i lanhau y gofadail, ai dwyn eilwaith i ed- rych fel newydd, ac wedi glanhau y maen isaf daeth y geiriau canlynol i'r golwg Codwyd y fedd-adail hon trwy gyfran- iadau rhai o'i gvfeillion yn Lerpwl." Dich- on nad oes neb o'r rhai gyfranodd yn gar- edig at y fedd-aelail," yn bresenol ynfyw, ond feallai fod rhai o'n plant, os oes gall- af eu sicrhau fod y golofn heddyw yn lan a threfnus, ac yn ol pob tebyg, ni bydd an- gen gwneyd dim iddi eto am rai blynydd- au lawer. Yrhyn sydd yn gerfiedig ar y gof-adail yw Er cof am y Parch Rowland Hughes, gweinidog yng Nhvfundeb y Wes- leyaid, yr hwn a fu farw Rhagfyr 25ain, 1861, yn 51 mlwydd oed- Cofier na chuddia'r oer fedd-Athrylith Rowland Hughes, na'i fawredd, Er mor chwerw oedd bwrw i'r bedd Aur enau a gwirionedd. Yr hen Archdderwydd Clwydfardd, gan- odd y geiriau tarawgar yna, ac y m'aent yn deilwng o'r awdwr, ac yn nodweddiadol o'r gwrthrych. Gwelir fod enaid mawr Rowland Hughes, wedi esgyn o'r babell o glai ar ddydd y Naclolig-dydd dathlu y Dwyfol yn disgyn i babell o glai "-y gwas yn gadael y babell," ar ddydd coffa am y Meistr yn dod i'r babell," wrth gefni ar fedd "Aur enau y gwirionedd," o dan gyfaredd Angel Gobaith dilynaf ddwy frawddeg o Gywydd Tudno." Dranoeth wedi'r farn. A'r marw er ymorwedd, Safai'n fyw uwch safn.y bedd." Ychydig oddiwrth fedd Rowland Hughes, y gorwedd gwr arall hwyliog, defnyddiol, a mawr ei barch yn ei ddydd, sef yr Hybarch Thomas Morris. Mae dw37 flyii- edd-ar-hugain er pan y noswyliodd ef, sef Ebrill 30, 1888, yn 75 o'i oedran a 47 o'i Weinidogaeth. Gwelir iddo fod yn y Weinidogaeth yr un nifer o flynyddoedd ar Parch Samuel Davies, laf. Gwnaeth ei ran fel gwas ffyddlon yn ei ddydd, a diau fod yr adnod sydd ar ei fedd-adail. 1. Gorphwysant oddiwrth eu llafur c-c." vn ddigon cymwys wrth edrych arno fel gweithiwr mawr a difiino, ond carwn wel- ed cyfeiriad arni at hyawdledd a grymus der 31 gwr." Tybed na fuasai geiriau coffa a welais am un tebyg iddo, yn gymwys iddo yntau :— Gwr enwog ar gwirionedd—o'i enau Dam eneiniol fawredd, Canaid iawn fel cenad hedd Ei drwsiad—ddawn cldiclrosedd." Ofnaf fod yr ysgrif eisoes wedi trethi amyn- edd sissiwrn y Golygydd, ond rhaid taflu blodetiyn cyn SLil v Bloclau," ar fedd un arall, ar olaf o'n henwogion sydd yn gor- wedd yn Mro Dinbych, sef yr Hybarch William Jones. Pum' mlynedd sydd er pan yr aeth ef i orphwys. Cafodd gvraedd yr oedran teg o 83 a G5 o'i Weinidogaeth, ar ei fedd-adail ef y mae'r geiriau canlyn- r e,, -edcl-adail ef ?- mae7r Z,eii- i au canlyn- Life's work well done. Life's race well run. Life's crown well won, Now comes rest." Gallesid rhoddi geiriau syml fel hyn, ar gareg bedd unrhyw gristion cyffredin, gyda phriodoldeb. Credaf y dylasid cael eu gweil yn linellau coffa am y bugaii gofalus, y gweinidog ffydcllon, ar-efengyl- ydd pur o Fochdre, eto i gyd, daw y dvdd pan y bydd helyntion y canrifoedd wedi golchi allan hanes y gwr o gof y bycl," fel hanes pawb a anwyd i flinder. Bellach gadawn yr enwogion yn eu bro- ydd tawel, gan obeithio bod eu hysbryd yn cerdded yn mlaen yn barhaus drvvy yr ad- ran Gymreig o'r Cyfundeb Wesleyaidd.
Advertising
Yn barod erbyn Mawrth 23. ESBONIAD Y MAES LLAFUR: < r '-n" f '!y? 9 T 'E''E'TF'!??' V S' T<f? A TM Cyfrol I. EFENGYL lOAN, Pennod I.—IX. GAN Y Parch. Richard Lloyd Jone.s.  T)* I <! T?S!?1 <?A?H- Pris Dan Swllt. Gwerthir Dwsin ac uchod, yn ol Is. 6c. yr un i'r Dosbarthiadau neu yr Ysgolion fydd yn anfon am danynt, gyda Blaendal. ap Efengyl Mathew (Rhan laf, Pen,. 1-9.) Ar gyfer Dosbarth 11 a III GAN Y Parch. P. Jones Roberts. PRIS PEDAIR CEINIOG. Gwerthir Dwsin, ac uchod, am clair cein- iog yr un i'r Ysgolion a anfonant am dan- ynt g3rda blaendal. SYLWER Y mae y Gwersi wedi eu trefnu ar gyfer pob Sabboth. Cynwysa yr Adnodau ac Esboniad arnynt ar gyfer pob gwers. Dyma lyfr hwylus a rhad. Dylai fod yn llaw bob un o'n Pobl Ieuainc yn y Ddau Dosbarth II a III. RHYBUDD. RHYL: Glanhad (Dredging) bwr- iadsdig yr Afon Clwyd. 1) HODDIR trwy hyn Rybudd fod cais .iA? wedi ei dderbyn gan Fwrdd Masnach (Board of Trade, i'r hwn trwy Ddeddf Tiroedd y Goron, 18G6, y trosglwyddwyd arolygiaeth hawliau a buddianau y Goron | yrig nglan mor y Deyrnas Gyfunol) oddi-I wrth E. HAWTHORNE, Ieuanc, am ganiatad i lanhau (dredge) yr Afon Clwyd yn nghymdogaeth y Sianel ar ddistyll (low water channel) i'r dyfnder o 6 troedfedd (adeg low water springs) cydrhwng y pwyntiau safent 320 a 870 llatheni yr un tua'r mor o Bonty Rhyl. Rhoddir Rhybudcl i bawb all feddu dyddordeb yn hyn, y bydd i Fwrdd Mas- nach ym mhen 21 diwrnodau wedi'r dydd- ] iad hwn symud i ystyried y cais, ac yn y cyfamser derbynia unryw wrthwynebiadau a all gael eu gwneud. (Arwyddwyd) T. H. W. PELHAM, Ysgrifenydd Cynorthwyol. Board of Trade (Bwrdcl Masnach), Harbour Department, Ebrill 5ed, 1910. CylchdaithWesleyaidd Oakfield, LERP"VTL. GydlaV amcan o gyfarfod a'r treulion yn nglyn a Cape!! Newydd Oakfield a Spellow Lane, Ysgoidy Newydd Trinity Road, Booties a treuSion eraill y Gylchdaith, cynhelir Nodacl^fa faWFeddo o YN Brunswick Hall, Moss Street, Lerpwl, Mai 3, 4, 5, a'r 6, 1910. DiolcMr am cyfraniadau neu Nwyddau gan yr Ysgrif* enyddion— Parch, Edward Davies. 82, Newby Street, Liverpool. Mr. Ell D. Williams, 66, Dacy Road, Liverpool. Mr. R. T. Jones, 180, Wadham Road, Bootle. 5 T Total Assetts exceed £ 11,000,000. FIRE, LIFE, ANNUITIES, Personal Accident, Burglary, Workmen's Compensation (including Domestic Servants), Sickness, Fidelity Guarantee, PSate Glass, Motor Car, Loss of Proffits, Driving Accidents, &c. LIFEQ-For the Quinquennium ended 31st December, 1908, the LARGE REVERSIONARY BONUS of S8 15s. per cent was again declared on Sums Assured under the Participating Tables of the Prospectuses. Prif Swyddfeydd Head Office: 1, Dale Street, Liverpool. j London Chief Office: i I 1, Cornhill, E. C. Cardiff Office: 108, St. Mary Street. Applications for Agencies Invited. CWMNI YSWJRIOL LERPWL, LLUNDAIN a'r GLOB. Cyfanswm Cyfalaf dros 11 Miliwn o Bunan. TAN, fBYWYD, BLWYDD-DALIADAtt Qamweiniau Personol, Tori Ty, lawn i Weithwyr (yn cyn- wys Gweision a Morwynion), Afiechyd, Diogeliad Cytun- deb, Gwydr (Plate Glass), Modur, Coiled EnilSion, Dam- weiniau Cerbydau ac felly yn y blaen. BYWYI).-Am y Pum' Mlynedd yn terfynu Rhagfyr, 1908, dyche wyd yn ol Y RHODD FAWR o S8 15s. y cant ar y Sylllioti Yswiriwyd yn yr Adrasn Gyfranogol. Gwahoddir Ceisiadau am Ie fel Agents i'r Cvvmni. Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Glyndwr Artistic Prin^1" Works, High Street, Blaenau Ffestiniog,