Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Amodau Llwyddiant yr Eglwys.

News
Cite
Share

Amodau Llwyddiant yr Eglwys. (Gan y PARCH J. WESLEY HUGHES.) (parhad). Cyn symud ymlaen, nodwn un peth arall sydd yn hanfodol i wir lwyddiant yr Eglwys, sef meithriniad helaeth o'r Ysbryd Cenhadol. Dyma un o nodweddion am- lyccaf yr Eglwys foreol. Nid ymfoddlonai ar ddyogelu ei chysur crefyddol ei hun, yn wir ychwanegai yn feunyddiol at ei nerth, a chyfoeth ei bywyd, trwy estyn ei therfyn a chludo allan i'r byd y bendithion a cldeu- ent i'w rhan trwy weddl a myfyrdod vs- brydol. Eglwys ymosodol ydoedd yr eglwys gynt- efig. Meddianu'r byd i Grist ydoedd ei harwyddair. Darostwng pob tywysogaeth a gallu oedd ar ffordd crefydd y Groes i lywoaraethu bywyd y ddynoliaeth, ydoedd nod mawr ei bodolaeth. Erys y gwirion- edd hwn yr un ar hyd yr oesaii,mai yr eglwys fwyaf cenhadol ei hysbryd ydyw yr eglwys sydd yn llwyddo fwyaf ac yn cyn- yddu gyflymaf. The torch we hold up for the help and redemption of others, illuminates our own path of progress and prosperity." Yn nghyfrol y Parch Andrew Murray," The key to the Missionary Prob- lem ceir y difyniad canlynol Andrew Fuller, when alarmed at the spiritual lethargy of this church, preached a sermon on the duty of the Church to give the gospel to the world and as he broadened their intellectual life, and quickened their zeal, and stirred their purpose, he followed it up the following Sabbath with another sermon on the duty of the Church to give the gospel to the world. The third Sabbath, the same theme was presented from the pulpit, and then men began to enquire; Then, if the gospel can save the world, can it not save our own children, and own community? "and from that missionary sermon, there sprang one of the most mem- orable revivals in the history of any church." Cwestiwn mawr ambell i eglwys yn y dyddiau hyn ydyw, beth ellir eu wneud i wella sefyllfa ein heglwys ? Pe gofynid. Beth allai yr eglwys hon ei wneud er eangu terfynau Teyrnas y Gwaredwr, a gweila cyflwr dynoiiaeth? buan y delai'r eglwys hono i deimlo ei hangen am y grasusau hynny a'i cymhwysai i sylweddoli e'i chen- hadaeth ac ar yr un pryd i berffeithio ei chyflwr a gloe wi ei chymeriad ei hun. Gwnelai les anrhaethol i'n heglwys pe darllenid Llyfr yr Actau o'i gwr yn ein cyfeillachau wythnosol. Eglwys Genhadol ydyw.Eglwys Crist i fod i ddiwedd amser, oblegid hi ydyw cyfrwng ordemiedig y Nef i ddwyn y byd i'w le, ac nis gall fforddio ymddiried y gwaith hwn i'r un sefydliad arall. Prif amod llwyddiant yr Eglwys, modd bynag, ydyw trigiad gwastadol Ysbryd Duw o'i mewn. Dyma'r Ager Dwyfol sydd i roddi symudiad yn y peirianwaith. dyma'r nerth Dwyfol sydd i roddi bywyd yn ei geiriau, a grym yn ei gweithredoedd. Beth bynnag all fod yr athrylith sydd yn gorphoredig yn ei chylch swyddogol, y cyfoeth a gyfrennir gan ei haelodau tuagat gario ymlaen ei rhaglen o wa*n- aeth, y dylanwad cyhoeddus a wasgerir gan ei harweinwyr, a'r wybodaeth a'r hvawdledd a nodweddai'r pwlpud, heb hwn nis gall yr Eglwys wneuthur dim, a fydd o werth gwirioneddol yng ngolwg y Xefoedd. Tybed nad un o ddiffygion arnlyccafyr Eglwys, a chymeryd golwg gyffredinol ar bethau, ydyw diffyg gwir ysbrydolrwydd, diffyg cyfathrach agos a chyson a'r ysbrydol ? Priodol ac angen- rheidiol ydyw pob ymdrech i godi safon y pwlpud i gyfarfod a chynnydd diwylliant yr oes pob cais i wneud ein haddoldai yn fwy cysurus, ac yn fwy o atdyniad i'r rhai sydd o'r tu allan pob ymdrech i berffeith- io caniadaeth y cyssegr, ac i wneuthnr y gwasanaeth cyhoeddus yn fwy defosiynol a pharchus. Ond tybed nad yw yr hyn a nodweddoi grefydd yr hen bobl," yr ysbrydolrwydd dwfn hwnnw; yr agosrwydd yn wir familiarity prydferth hwnnw a nodweddai eu gweddiau a'u profiadau, a'r nerth ofnadwy hwnnw a nodweddai eu pregethau yn absennol i fesur mawr o'n crefydd ni yn y dyddiau hyn, ac mai hyn sydd yn cyfrif am nad yw ein bywyd cre- ddol yn fwy o ddylanwad yn y byd ? Ai tybed fod gweddi yn cael digon o le yn ein pwyllgorau, a'n cvfarfodvdd swyddog- ol? Ai tybed nad oes yn ein plith ormod o ddibynnu ar adnoddau dynol. a rhy ych- ydig o ymddiried yn y Nef ?- Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, eithr trwy fy Ysbryd I medd yr Arglwydd." Fel yr awgrymwyd eisoes, nid ydym am ddirmygu yr ymdrech- Jon a wneir i wneud y wasanaeth gy- hoeddus yn fwy atdyniadol, nac ychwaith y sefydliacIau sydd ar waith i wasanaethu Cymdeithas trwy yr Eglwys ond i roddi vstyr i'r naill, a grym i'r llall, rhaid cael Ysbryd yr Arglwydd yn factor a'r factor amlycaf yn y cyfryw. Gall yr Eglwys vvneud heb v blaenaf am gyfnod beth bynnag, fel y prawf y Diwygiad, ond nis gall ffordclio bod am foment heb yr olaf. Rhaid i'r Brenin gael Ei le osyw y Deyrnas i lwyddo. "The Kingdom is much" ebai rhywun y dydd o'r blaen—" but the King is more. A sight of the King, a vision of Christ, is our great need. In the year that King Uzziah died I saw the Lord" said Isaiah, and we know what happened. ff only we could see Him, and receive the aspiration, the commission, the power, the purity the vision would bring, the tide of battle would turn." Dyma ein hangen gweledigaetn o'r Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi y deml." Anadl bywiol ein Duw, i doddi ein hoerfelgarwch. i godi gradd ?o.? yn ei Saint, a wna i Ardd yr Ar- glwydd flodeuo yn harddach nag erioed. ymweliad o'rnewydd o Ysbryd Crist a'i ddysgyblion a wnelai'r Eglwys yn fwy o :lllu nag erioed yn erbyn y drwg, ac yn ^mddiffynfa gadarnach nag erioed i eg- vyddorion y Deyrnas dragwyddol, oblegid ■p.py^hwysterau eraill nid ydynt brinion. loIeh i Dduw am hynny Disgyn lor a rhwyga'r nefoedd, Tywallt Ysbryd gras i lawr DIsyn fel y toddo'r bryniau, Diosg fraich dy allu mawr O na rwygit y nefoedd, a disgyn."

1,TROI CAERDYDD YN GYMREIG.--1

COLOFN Y MERCHED.

CYFARFOD TALAETHOL Y I DE.

CYFARFOD TALAETHOL YR I -AIL…

Advertising