Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

I GOHEBIAETHAU.I

[No title]

Advertising

,DEFOSIWN CREFYDDOL.

News
Cite
Share

DEFOSIWN CREFYDDOL. [G-AN IEUlnG MALDWYN.] Hyd yma yr wyf wedi darllen y Gwyliedydd Newydd yn gyson a di- fwlch er ei gychwyniad, ac yr wyf yn cael dwTysged o bleser ac adeiladaeth wrth wneud hyny. Os digwydd bod ynddo ysgrif o'm gwaith fy hun, dyna y peth cyntaf fyddaf yn ei ddaiilen yn wastad First Myself! Hunanol gynddeiriog" medde chwi. Hwyrach yn wir, ond yr hwn sydd ddieuog o honoch tafled y gareg gyntaf. Pe bae pawb yn ddigon gonest i gyfaddef y gwir, fe allai y ceid allan mai nid y fi yw yr unig un sydd yn gwneyd y fath beth, ond myfi y mae'n debyg yw yr unig un sydd yn ddigon diniwed i gyfaddef hyny, Gan y gwirion ceir y gwir. Yn y Gwyliedydd wythnos neu bythefnos yn ol yr ysgrif a dynodd fy sylw yn fwyaf neillduol ydoedd yr ys- grif ar Ddefosiwn Crefyddol," oblegid yr oeddwn inau hefyd beth amser yn ol wedi bod yn dweyd tipyn ar y mater yn un o gyfarfodydd ein Cyrndeithas Lenyddol, a bron yr un sylwadau a wnawd genyf finau y pryd hyny, ac a geir yn yr ysgrif hono, ond eu bod wedi eu rhoddi wrth eu gilydd yn fwy taclus a Ilafar-ber yn yr ysgrif. "What oft was thought, but ne'er so well ex- pressed. Oes y mae mawr angen am ddiwygiad yn y cyfeiriad yma yn ein plith fel Ym- neillduwyr. Yr ydym filldiroedd ar ol Eglwys Loegr yn y gras yma. Nis gwn lawer am Eglwys Rufain, unwaith yn ystod fy oes y bum mewn eglwys Bab- yddol. Ail gynyg i Gymro, eglwys y Pabyddion fuasai yn nes i'r marc. Wil Bryan onide ddywedai y carai weledenwad newydd yn codi yn Nghym- ru i gymeryd i fyny good points yr holl enwadau, a defosiwn Eglwys Loegr ydoedd un o'r rhai hyny. Onibae fod eisioes lawn digon o enwadau, a gormod ddengwaith o enwadaeth yn Nghymru buaswn yn eilio y cynygiad olwyrfryd calon, ond beth sydd yn lluddias i'r gwahanol enwradau introducio y good points yma i'w henwad eu hun, ac nid y lleiaf o honynt yw Defosiwn. Y mae y ffaith ein bod ni Ymneilldu- wyr wedi cychwyn ein gyrfa grefyddol mewn tai anedd a hen ysguboriau yn cyfrif i raddau helaeth am y diffyg parch a ddangosir genym yn ein hym- ddygiad yn Nhy Dduw. Y mae y dull trystfawr o fyned i fewn ac allan o'r addoldai gan liaws mawr y dyddiau hyn yn gweddu yn well i ysgubor nac i Dy Dduw. Peth arall sydd wedi bod yn flinder ysbryd i mi ydyw y pesychu a'r hecian dianghenrhaid a glywir yn rhy fynych o lawer yn ein hoedfaon. Gellid medd- wl ambell waith gan gyffredinolrwydd y pesychu fod pob perchen anwyd wedi dyfod i'r oedfa y diwrnod hwnw. Nid amhriodol fyddai ysgrifenu ar furiau ein haddoldai mewn llythrenau breision Peidiwch pesychu hyd y gellir, ond os bydd raid gwnewch mor ddistaw ag sydd bosibl" Mae fel pe tae rhyw gyd- ddealltwriaeth yn bod cydrhwng pobl y peswch yma, oblegid cyn gynted ag y dechreua un yn y fan hyn, etyb un arall, ac felly ymlaen hyd y seithwaith ie, a thrugain seithwaith yn ami, digon i beri i ddyn diarth feddwl mai cystad- leuaeth besychu sydd yn myn'd ym- laen ac nid addoliad Crefyddol. Ni all na ddel pesweh, mwy na rhwystrau, Love and a cough cannot be hid," meddai, ond yn benclifaddeu fe ellid cuddio Ilpwer iawn o hono pe bae pobl ddim ond treio, For I have tried both," chwedi y Scotman. Dosbarth arall sydd yn haeddu gair o sen ydyw y rhai hyny sydd yn cysgu yn yr addoliad. Y mae genyf fwy o gydymdeimlad ar torllwyth yma nag ar un blaenorol, er mai hollol anweddus ydyw ymddygiad y rhai hyn hefyd. Mae John Ploughman yn meiddio amddiffyn tipyn arnvnt, Dim rhyfedd fod y bobl yn cysgu dan y pregethau," meddai. Some preachers put such a lot of sleeping stuff in. their Sermons,—They mesmerize the people." Y mae yr un awdwr yn ei Lectures to his Students, yn dweyd rhywbeth i'r perwyl a ganlyn os wyf yn cofio yn iawn. Os digwydd i chwi ganfod rhywun yn cysgu pan fydd wch yn pregethu, cymerwch hyny yn awgrym nact yv, eich pregeth yr hyn y dylai fod, a'r cwestiwn ddylid ei ofyn ydyw, Nid beth yw y mater ar y cys- gadur,? ond beth yw y diffyg sydd ynof fi ? A dyma berl arall o enau Will Bryan, Os nad elli di wneud i bob en- aid wrando arnat ti, rho hi i fyny a cher i werthu calico." Clywais ystori am un o hen fiaenor- iaid Cymru fn, a fvddai yn arfer cau ei lygaid ar adegau o dan y bregeth. Gan feddwl gweinyddu tipyn o gerydd ar yr hen frawd, gofynai y pregethwr iddo un tro, 11 Ai cysgu y byddweh chwi bob amser yn ystod y bregeth Nage bob amser," ebe yr hen flaenor yn ddiniwed ei wala. Y mae yma. ambell i ddyn yn pregethu weithiau yn fy myw y cysgwn i." Etoi gyd o'r braidd y gallaf gredu fod y bai i gyd ar y pregethwr. Gwyddom i un gysgu pan oedd yr Apostol Paul yn pregethu, ond buasai yn well i hwnw gadw ei lygaid yn agored beth bynag. Fe allai bod hynyna yn ddigon ar un daliad. Y mae y Golygwyr yn erfyn am ysgrifau byrion a melus, fy nliuedd inau yw bod yn hir ac yn liallt. Mel- usaf can, can yr eos, ond ni pharodd Duw i'r fran dewi. Nid dyddan gwrando casuri. Oni fyddai y testyn hwn (Defosiwn Crefyddol) yn bwnc Seiat priodol iawn? Nic hidiwn ben botwun pe cawn ystlys genad gan yr awdurdodau goruehel agor y mater. A ddarlleno ystyried.

[No title]

Family Notices

Marwolaeth y Parch. T. Manuel.

Adgofion Kelly.

YR HOLL EGLWYSI.

GWASANAETHU YR AR-GLWYMX BETH…