Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

[No title]

BRWYDR Y BRWYDRAU.

News
Cite
Share

BRWYDR Y BRWYDRAU. Mae ein gwlad yn yr argyfwng pwysicaf y bu ynddo efs dyddiau Cromwell—brwydr rhwng y ben- difigaeth a'r bobi, rhwng Ty yr) Arglwyddi a Thy y Cyffredin. Er's canrifau bellach, yn wir er pan y ffurhwyd Ty y Cyffredin ar yr eg- wyddor gynrychiadol, cydnabydd- wyd yn ddibetrus, fed llinyn pwrs y wlad i fod yn nwylaw Ty y Cyffredin. Felly y dylai fod. Os arian y wlad sydd yn dwyn treui ion y Llywodraeth, y wlad ddylai gael llais yn y modd y dylent gael eu codi a'u treulio ac nis gall y wlad wneud hynny ond trwy ei chynrychiolwyr. Ond yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf! gwrthododd Ty yr Arglwydd basic y Gyllideb—cymerodd yn ei law' ei nun i reoli cyllid y wlad. Dyma, asgwrn y gynnen-dyma achos y frwydr. Mae y weinyddiaeth yn sefyll dros iawnderau Ty y Cyff redin, ac wedi cyhoeddi rhyfel. Rhaid dwyn y rhyfel ymlaen. Heb hynny, bydd deddfwriaeth y wlad' yn Haw Ty yr Arglwyddi,—rhaid derbyn yr hyn welant yn dda gan- iattau inni, a bod heb yr hyn nad ydynt hwy yn foddlon i'w roddi. Maent yn anwybyddu, nid gwerin! y wlad yn unig, ond y Penadur hefyd. Yn ol v cyfansoddiad Pryd- einig, gan y Penadur y mae hawl i apelio at y wlad ond yn niwedd y nwyddyn ddiweddaf, cymerodd yr Arglwyddi yr hawl i\v dwylaw eu hunain, i worthed y Gyllideb heb gael apelio at y wlad. Os goddenr i hyn fyned ymlaen, bydd iawnderau pawb at drugaredd yr Argl wyddi. A oes ganddynt hawl i'r fath draha a gormes ? Methwn a gweled fod. Nid ydynt yn cynrychioli neb ond hwy eu huna-in. Maent yn aelodau o'r Ty trwy ddamwain— am y digwyddodd fod eu tadau yn bendif-igion. Nid cymhwysterau sydd yn rhoddi hawl iddynt. Yr ydym yn barod i gydnabod fod y cyfartaledd o honynt yn gyfartal i ddynion yn gyffredm—dim uwch, dim is. Maent wedi cael manteis- ion addysg, end nid yw llawer o honynt wedi manteisio ar hynny. Nid yn fynych y mae plant y Pen- deng yn rhagori mewn dysg na dawn. Mae llawer b fechgyn gweithwyr y wlad yn rhagori ar- nvnt mewn diwylliant. Nid oes ganddynt hawl ar y cyfrif hwnnw. Nid yw eu cylchyniadau yn gym- hwyster. Maent yn byw mewn gormod o neillduaeth, yn rhy bell oddi wrth fywyd cymdeithas. Ni wyddant am galedi llafur, am wasgfa tlodi, nac am ormes uchaf iaeth. Ychydig o honynt sydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn destyn efrydiaeth, Nid oes mwy nag un ran o chwech o'r aelodau yn rhoddi eu presenoideb yn y Ty o dan am- gylchiadau cySredin ond os bydd eu buddiannau hwy eu hunain yn y glorian, byddant yno fel llewod ac eirth glanau yr lorddonen yn amser ei hymchwyddiad. Nid oes ganddynt hawl i reoli'r wlad yni rhinwedd eu safle bendengol. oblegyd rhaid iddynt gael warrant y Penadur cyn y gallant roddi eu presenoldeb yn y Ty i ddeddfu na gweinyddu. Methem a dirnad ar ba beth y mae eu hawl i reoli y wlad yn gorffwys. Mae Arglwydd Roseberry yn ei gynnygion i wella cyfansoddiad y Ty yn cydnabod na ddylai y Pendeng, fel y cyfryw, fod yn aelod o'r Ty. Od oes angen am ddau Dy. dylai yr ail fod yn gynrychiadol, ar ryw linellau, fel Ty y Cyffredin. Nis gallwn feddwl am ddim mwy afresymol nag fod gan Dy yr Arglwyddi hawl i wrth- od Mesurau Ty y Cyffredin, am eu bod trwy ddamwain yr hyn ydynt. Nid ydym am eu difuddio o'r hyn y mae ganddynt hawl gyfreithlon o honno. Od oes ganddynt fedd- iannau i'w hamddiffyn, tafler drws Ty y Cyffredin yn agored iddynt, modd y gallont fod yn aelodau o honno ar yr un ammodau ag ereill. Byddai hynny yn eu galluogi i amddinyn eu buddiannau yr un modd a deiliaid ereill. Mae rhoddi gallu deddfwrol a gweinyddiadol iddynt, yn unig, am eu bod yn ben- defigion yn wrthuni afresymol. Pwy ydynt, onid dynion fel dynion ereill ? Y Pendeng sydd ddyn fel Elias, ond yn anrhaethol is mewn cymeriad, cenedlgarwch, a gwlad- garwch. Mae rhagorfreintiau heb deilyngdod yn beryglus, yn falldod, a melldith. Nid yw ond mantais i'r cyfryw osod eu hunangarwch ar waith i grafangu popeth iddynt eu hunain ar draul iawnderau rhai ereill. Y mae yn sane hudolus i ddiystyru a gorthrymu eraill. Onid hyn oedd wrth wraidd gwrthod y Gyllideb. Dangosodd y trefniant gynnygiwyd gan ein cydwiadwr fod adnoddau gan ben- dinon y wlad sydd heb eu trethu, ddylid eu trethu i chwyddo cyllid y wlad, heb orthrymu y tiawd sydd eisoes yn cael ei drethu yn ormodol. Mwy na hynny, dangos- odd y ffordd i gael adnoddau pell- ach sydd hyd yma yn gudd o'r golwg. Ofni hynny wnaeth y bendengaeth; a dyna paham v daethant allan yn eu holl rym. i wasgar eu dylanwad ar eu tenant- laid i bleidleisioyn erbyn anfon i'r Senedd gynrychiolwyr a digon o ddynoliaethynddynt i sefy!! dros degwch a chynawnder. Mae y rhyfel wedi ei chyhoeddi, a rhaid ymladdyfrwydi. Niddylem fed yn Meroziaid llywaith, yn gadael i ereill ymladd y frwydr, a ninnau yn mwynhau ein hunain yn edrych arnynt. Mae g'an y Prirweinidog a'i weinyddwyr egwyddor gywir, amcan pur, a chyclwybod yn asgwrn cefn iddynt, er nad ydynt mor sefydlog yn eu polisi ag y carasem; ond nis gellir eu beio. Mae ystryw eu gwrthwynebwyr yn dyfeisio pob cynllun possibi i'w dyrysu a'u hattal yn eu hymg'ais, a rhaid newid y polisi i gyfarfod a gwahanol ffurnau yr ystryw. Mae egwyddorion yn sefydlog fel y mynyddoedd a'rbryniau, ond rhaid i bolisi newid gyda'r tyv/ydd. O'n rhan ein hunain yr ydym yn can mol y Weinyddiaeth am beidio datguddio gormod ar eu c.ynllun- iau, rhag rhoddi mantais i'r gelyn. Nid datguddio ei gynlluniau ymae y Cadfridog llwyddiannus, ond eu eu cuddio, a'u newld i gyfarfod yr amgylchiadau. Na y mae genym Asquith, Lloyd George, Churchill, Grey, a Haldane i'n harwain yr ydym yn ddiogel yn eu cl\v:ylavv. Bydded inni ymddiried ynddynt. Gofalwn am wneud popeth a allwn i'w calonogi. Ymarfogwn ar gyfer y frwydr etholiadol nesaf. Rhaid iddi ddyfod- Yn wir y mae wrth y drws. Gwnawn ein goreu lllewn gair a gweithred i daj'ostwng traha yr Arglwyddi, ac i sicrhau iawn- derau, rhyddid, a br,i-itlau 'erin gwlad.

GWASANAETHU YR AR-GLWYMX BETH…