Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Canmlwyddiant Wesleyaith Gymreig,…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Canmlwyddiant Wesleyaith Gymreig, yn Mhontarddulais 1909. Trem ar ei Hanes. I Hyd y gwyddom, nid oes hanes fod y Sylfaenydd dynol y Cyfundeb Wesleyaidd erioed wedi taflu ymweliad a Phontar- ddulais. Y lie agosaf i'r 11 Bont" gyffyrdd- wyd gan Iohn Wesley oedd Penclawdd yn Gowyr, yr hwn oedd yn borthladd nid an- enwog yn y dyddiau hyny. Ac yma y glaniodd Mr. Wesley o'r Iwerddon, ar ei ffordd i Bryste i'r Gynhadledd, yr hon a gynhelid yn mis Awst, 1758. Ar ol y Gynhadledd, dychwelodd gydag un o'n bregethwyr, o'r enw Joseph Jones i Gastell-nedd; ac oddiyno daeth i dref Abertawe, pryd y pregethodd am y tro cyntaf yn y dref, gan sefydlu hefyd y gym- deithas Wesleyaidd gyntaf ynddi. Yr oedd hyn ar y 24ain o Awst 1758, rhyw gant a hanner o flynyddoedd yn ol. Hefyd, talodd ymweliad, a phregethodd yr adeg honno yn amryw o'r pentrefi cylchynol, megis Newton, Oxwich, Horton, Pen- clawdd &c, ond nid oes genym hanes fod dim wedi ei gymhell i gyfeirio camrau ei geffyl ymhellach tua'r rhan Orllewinol o'r wlad gan ddyfod a. phregethu yn Mhont- arddulais. Talodd John Wesley amryw ymweliad- au a thref Abertawe ar ol hyn, yr ymwel- iad olaf o'i eiddo oedd yn y flwyddyn 1790. ac 'roedd hyn o gwmpas chwe mis cyn ei farwolaeth. Priodol yw nodi hefyd yn y cysylltiad hwn er fod Mr. Wesley wedi talu ymwel- iad ag Abertawe a'r cylch mor fore a 1758, ac hefyd amryw weithiau ar ol hyny, nid oes hanes bod yr un achos Wesleyaidd Cymreig wedi ei sefydlu, hyd yn oed yn Nhref Abertawe, hyd y flwyddyn 1805,, ac ni chychwynwyd yr achos yn Mhont- arddulais hyd y flwyddyn 1809, sef yn mhen 51 mlynedd ar ol i Wesley dalu ei ymwel- iad cyntaf a'r cylch, ac ymhen agos i 20 mlynedd ar ol ei farwolaeth. Nis gallwn lai na rhyfeddu at hyn, pan gofiwn fod Mr WTesley yn gwybod mor dda am gyflwr moesol ac ysbrydol feel, nid yn unig y Saeson ond y Cymry hefyd, Ie, a phan gof- iwn am y dyddiau hyny, a'i barodrwydd bob amser i gyfaddasu ei hun a'i Gynorth- wywyr i helpu y werin yn mhob man. Hwyrach, fod y diwygiad a gerid yn mlaen gan Howell Harris yn mhlith y Cymry, yn cyfrif am na wnaeth Wesley ddim darpar- iaethyn ei ddydd tuagat sefydlu Achosion Cymreig. I DECHREUAD YR ACHOS YN ABERTAWE. Er bod llawer o Gymry wedi ymuno a'r Achos Wesleyaidd Saesneg yn y dref, eto, fel y nodasom, ni chynygiwyd' at Sefydlu Achos Gymreig, a chael Gweinidogaeth Gymreig hyd y flwyddyn 1805. Cynaliwyd y Cynhadledd y flwyddyn honno yn Sheffield gyda Dr. Coke, yn llywydd am yr ail waith. A thrwy offerynol- iaeth y Cymro enwog a gwladgar hwn o dref Aberhonddu y cychwyn- wyd y gwaith o anfon Cenhadon i Ddeheudir Cymru. Gwnaeth y Doctor apel daer at y Gynhadledd y flwyddyn honno am benodi dynion i Ddeheudir Cymru a fedrent bregethu yn Gymraeg. Llwyddodd yn ei gais, a phenodwyd Cen- hadon Cymreig i lafurio ar y tir. Syrth- iodd yr anrhydedd o gacly Cenhadon Cym- raeg cyntaf yn Abertawe a'r Cylch ar y Parch. John Hughes. Ymddengys mai ychydig allodd wneud gyda'r anturiaeth, a chan i iechyd y Gweinidog Seisnig yn Nghaerfyrddin dori i lawr y flwyddyn honno, symudwyd John Hughes yno i gymeryd gofal y gwaith yn ei le. Modd bynag erbyn y flwyddyn 1809, penderfyn- wyd gosod pethau ar dir mwy diogel a sicr. Ffurfiwyd Castell-nedd yn ben cvlch- daith Gymreig,[phenodwyd Cenhadon cym hwys i lafurio ar y tir, sef.y Parch. Edward Jones, Bathafarn, —Tad Wesleyaith Gym- reig. Penodwyd hefyd y Parch. Thomas Thomas i fod yn Gyd-lafurwr iddo. Ac yn awr dyma'r adeg a dyma'r dynion a dde- wisodd Duw i gychwyn, a ffurfio Eglwys Wesleyaid yn Mhontardulais. Am nad oedd ganddynt ar y pryd yr un Capel Cymraeg ym Maes eu Cenhadaeth, pregethent yn rhai o Gapeli y Saeson. ond yn benaf, yn yr awyr agored, ac yn nhai y bobol a sefydlent Gymdeithasau o'r rai a gredasant ac a ddychwelasant at yr Ar- glwydd o dan eu Gweinidogaeth. Y lle- oedd ym Maes eu Cenhadaeth y flwyddyn 'honno. y sefydlasant achosion ynddynt oedd-Castell nedd, Abertawe. Treforris, Llanedi, iPontyberem, Pembre, Llanelly, Llanon, a Pnontardulais. Oddiwrth lyfr-cofnoclion y Cyfarfod Chwarterol, a gynhaliwyd yn mis Rhagfyr 1809..Gwelir fod yr aelodau yn y Gvlch- daith yn rhifo 81 dosberthir hwynt fel y canlyn—Neath, 7; Swansea a Foxhole, 20; Treforris, 10; Llanedi, 6 Pontvberem, 4; Pembre, 12; Llanelly, 10 Llanon, 13; ac yn olaf Pontardulais, G. Ac nid annyddorol ydyw sylwi mai y swm a dalwyd gan Eglwys Pontardulais at gynal y Weinidogaeth yn y Cyfarfod Chwarter cyntaf hwnnw oedd 10s, cyfar talecld o Is. 8c. yr aelod. Y cyfanswm a dalwyd gan yr holl eglwysi yn cynhwys pedwar-ugain-ag-un o aelodau oedd, £ 20 10s. yn gwneud cyfartaledd o dros 3s. yr aelod cynhwysai hyn y casgliadau cy- hoeddus a'r cyfraniadau personol. Wrth gydmaru y swm hwn gyda'r symiau a delir i fewn gan yr eglwysi heddyw, gwelwn fod yr aelodau gan mlynedd yn 01, gyda'u cyflogau bychain, a bara ac enllyn, yn- ghyda dillad mor uchel eu pris, yn esiampl- au o haelfrydigrwydd wrth gyfranu at Achos Crefydd, a ddylai godi cywilydd ar lawer heddyw sydd yn fwy clyd eu ham- gylchiadau, ond yn cyfranu lawer yn llai. Tra yn son am y cyfraniadau i'r Bwrcld Chwarter dyddorol ydyw sylwi hefyd ar y Taliadau a wnaed y pryd yma, mewn ffordd o gyflogau i'r Gweinidogion, a phethau eraill Wele y manylion— [ s. d. Rev. Edward Jones Stipend 4 0 0 6 Turnpikes. 0 13 0 Blacksmith 0 (5 0 Postage and Stamps 1 0 5 Extra Expense 2 5 10j 2 Rev. Thomas Thomas Stipend 4 0 0 Washing 0 10 6 Turnpikes. 0 13 0 Blacksmith 0 6 0 Postage and Stamps 1 0 5 Extra Expense 2 3 11 Ic 8 2 51 Eto, Candies and Chapel keeper 1 12 3 For Preachers' Board and Lodgin,gs 10 12 6 Total £29 3 0 Derbyniadau 12 10 0 Diffyg £ 16 13 0 Talwyd y diffyg gydag arian a gafwyd gan y Parch. Owen Davies, yr Arolygwyr Cyffredinol. Erbyn mis Mawrth yn y flwyddyn 1910, cawn fod Achos wedi ei gychwyn yn Llan- gennach, ac yn rhifo pump o aelodau. Ac yr oedd Achos Pontardulais yn rhifo un aelod yn llai na'r Chwarter blaenorol, ond yr oedd aelodau'r Gylchdaith wedi cynn- yddu o 81 i 110. Ar cyfraniadau i'r Bwrdd Chwarter wedi codi i {14 10s -ac ar ddi- wedd y flwyddyn Gyfundebol yn mis Mehefin, yr oedd yr aelodau wedi cynnyddu i .1.60, yn cynnwys 20 oedd yn perthyn i'r Achos yn Llanon. Yn mis Medi 1810, cafwyd cyfnewidiad eglwysig yn y Weinidogaeth, daeth Will- iam Davies laf.—Davies Africa fel y gel- wid ef yn ddiweddarach, i lafurio ar y tir yn lie Edward Jones, Bathafarn. Gyda dyfodiad William Davies, gwawriodd cyf- nod pwysig a dyddorol yn hanes y Gylch- daith, ac yn arbenig yn hanes yn Achos yn Mhontardulais. Erbyn diwedd flwyddyn y Gyfundebol honno yr oedd rhif aelodau y Gylchdaith wedi codi o 160 i 218, cynnydd o 58. Trwy offerynoliaeth Mr William Davies, cafwyd darn o dir yn perthyn i Glanllwchwr ar brydles o 99 mlynedd, un John Lucas, o Stone Hall, Sir Forganwg, a'i rhoddodd, ac yn y fan hon yr adeilad- wyd y cartref cyntaf i'r arch Wesleyaidd ym Mhont-ar-du lais. Nid oedd y capel cyntaf hwnnw yn ryw arddunol iawn yr olwg arno, nid oedd nemor o olion chwaeth na medr cywrain yr Arch-adeiladydd arno na, nid oedd yn adeilad-hardd, na chost- fawr, dywedir mae to gwellt oedd iddo ar y cyntaf, yr hwn a newidiwyd yn ddiwedd- arach am ddefnydd mwy sylweddol, a mwy cydweddol a chynydd gwareiddiad yn y Gymydogaeth. Cafodd ei doi toe a llechi lleol o'r mynydd gerllaw. Nid oes modd gwybod yn iawn werth yr adeilad hwnnw, ond mewn cyfnod diwedd- arach ar ol iddo fynd o dan amryw gyf- newidiadau a gwelliantau, mentrwyd cyf- rif gwerth yr eiddo Gyfundebol yn Mhont- ardulais yn £ 260. Yn flaenorol ihyn, cyn- helid yr oedfaon a chyfarfodydd yr eglwys mewn ty annedd o'r enw" Constantinople," gerllaw y" Farmers." Y maeyn anhawdd dyfalu paham y rhoddwyd yr enw uchel- seiniol ac estronol hwn ar y lie, os nad am ei fod fel Contsantinople yn enwog am ledr da, canys yr oedd Henry Jones, yr hwn a drigai yno, yn dilyn yr alwedigaeth o Glover and Skinner. Modd bynag, y mae yn clra sicr mae yn nhy Henry Jones, a Charlotte ei wraig, y byddid yn arfer cynal y moddion cyn cael capel yn y lie. Y mae yn hysbys i drigolion y Bont mae hen- daid a hen-nainy brawd Henry Jones, Bryn-gwili, yr hwn sydd flaenor ffyddlon yn y Eglwys Wesleyaidd yn y lie heddyw, ar hwn sydd wedi etifeddu ei enw gyda llawer o'i rinweddau, ydoedd y bobl dda hyny. Mewn ysgrif yn yr Eurgrawn am Medi 1873, ni ganfyddwn fod Charlotte Jones yn wraig rinweddol iawn, yr oedcl yn hvnod am ei duwiolfrydedd. ei sel a'i hym- lyniad wrth yr Achos. Yr oedd hi yn un o'r rhai cyntaf i ymuno a'r Achos Wesley- aidd yn yr ardal, a pharhaodd hyd ei bedd i harddu mewn bywyd athrawiaeth gref- ydd ei Harglwydd. (I barhau).

LLITH O'R AMERICA. I

FY ADGOFION.

[No title]