Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
,'Et@@?R AN C r LIVERPOOL. SHAFTESBURY HOTEL. Mount Pleasant. Four Minutes' Walk from Lime Street and Central Stations. Cars from Landing Stage stop at the door. A High Class Temperance Hotel. Moderate Charges. Welsh spoken. Arran Monumental Works, DOLGELLEY. BRANCH AT TRAWSFYNYDD. J. & R. W. THOMAS, MONUMENTAL MASONS. ALL MARBLE WORK UNDERTAKEN, including Memorials in Granite and Marble. Ccf-Seiri Marmor a Cheryg Beddau o'r gwaith goreu. Estimates Free. Distance no object. Anfonwch am y Prisiau. Why buy trashy Foreign made Watches, when you can obtain Reliable British Made Watches fully Guaranteed, in Gilt, Oxydized, Nickel, Silver, or Gold Filled Cases from G. E. OWEN, Watchmaker, Barmouth, at 5s., cl Is., El 17s. 6d., and [2 2s. each in Gent's size, and [I 5s., [I 9s. 6d. and [2 2s. each in Ladies' size. On receipt of Postal Order any of the above will be sent at sender's risk and cost. Money refunded if the Watch is not ap- proved of DYMUNA T IP T?  ?T?tC Mr. J. E. Morris, Arweinydd Hen Gor Meibion enwog Llangollen, yr hwn fu yn fuddugol yn rhai o brif Eisteddfodau y Gogledd, hys- bysu ei fod yn barod i wasan- aethu fel Arweinydd Cyman- faoedd ac fel Beirniad Cerdd- orol. Cyfeiriad:— Central, Oak Street, Llangollen. Mr. T. CARRINGTON (PENCERDD GWYNFRYN), Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. BEIRNIAD, CYFEILYDD, fie. Ail Argraffiad o'r Gan boblogaidd, Cymru." Y geiriau gan Mr. T. Herbert Hughes, Llanrwst. Unrhyw lais. Drwy'r post, 7c. Anthem Goffa Canrhawdfardd, Gwyn ei fyd y gwr." Dewiswyd i Gymanfaoedd Lerpwl, Manchester, &c. am 1910. Can Ddirwestol hwyliog. 6s. y cant. Cyfeirier Coedpoeth, Wrexham. Arweinydd a Beirniad Cerddorol. DYMUNA Mr. ROBERT GRIFFITH, Vulcan Villa, Abermaw, Wneyd yn hysbys ei fod yn agared i dderbyn ymrwym- iadau fel Arweinydd Cyman- faoedd a Beirniad Cerddorol. TELERAU RHESYMOL. YMOFYNER I'R CYFEIRIAD UCHOD. TELYNOR MAWDDWY. DYMUNA Mr. DAV'ID ROBERTS (TELYNOR MAWDDWY), Morben Villa, Abermaw, HYSBYSU ei fod am brisiau rhesymol i-i yn barod i Ddysgu Pupils ar y Delyn Gymreig (y deires neu'r bedolawg), ac hefyd eu dysgu i Ganu Penillion. At hyny y mae yn barod i Ganu Pen- illion a Chwareu'r Delyn mewn Cyng- herddau a'r cyffelyb, ynghyd a Beirniadu mewn Cyfarfodydd Cystadleuol. John Penri," Y Merthyr Cymreig, I'w gyhoeddi yn fuan. LLYFR SWLLT AR HANES JOHN PENRI, GAN; D. Gwynfryn Jones, ABERMAW. Bydd y Llyfr yn cynwys rhai ffeithiau newyddion. Archebion ac Enwau Tanys-. grifwyr i'w danfon i'r Awdwr.
Canmlwyddiant Wesleyaith Gymreig,…
Canmlwyddiant Wesleyaith Gymreig, yn Mhontarddulais 1909. Trem ar ei Hanes. I Hyd y gwyddom, nid oes hanes fod y Sylfaenydd dynol y Cyfundeb Wesleyaidd erioed wedi taflu ymweliad a Phontar- ddulais. Y lie agosaf i'r 11 Bont" gyffyrdd- wyd gan Iohn Wesley oedd Penclawdd yn Gowyr, yr hwn oedd yn borthladd nid an- enwog yn y dyddiau hyny. Ac yma y glaniodd Mr. Wesley o'r Iwerddon, ar ei ffordd i Bryste i'r Gynhadledd, yr hon a gynhelid yn mis Awst, 1758. Ar ol y Gynhadledd, dychwelodd gydag un o'n bregethwyr, o'r enw Joseph Jones i Gastell-nedd; ac oddiyno daeth i dref Abertawe, pryd y pregethodd am y tro cyntaf yn y dref, gan sefydlu hefyd y gym- deithas Wesleyaidd gyntaf ynddi. Yr oedd hyn ar y 24ain o Awst 1758, rhyw gant a hanner o flynyddoedd yn ol. Hefyd, talodd ymweliad, a phregethodd yr adeg honno yn amryw o'r pentrefi cylchynol, megis Newton, Oxwich, Horton, Pen- clawdd &c, ond nid oes genym hanes fod dim wedi ei gymhell i gyfeirio camrau ei geffyl ymhellach tua'r rhan Orllewinol o'r wlad gan ddyfod a. phregethu yn Mhont- arddulais. Talodd John Wesley amryw ymweliad- au a thref Abertawe ar ol hyn, yr ymwel- iad olaf o'i eiddo oedd yn y flwyddyn 1790. ac 'roedd hyn o gwmpas chwe mis cyn ei farwolaeth. Priodol yw nodi hefyd yn y cysylltiad hwn er fod Mr. Wesley wedi talu ymwel- iad ag Abertawe a'r cylch mor fore a 1758, ac hefyd amryw weithiau ar ol hyny, nid oes hanes bod yr un achos Wesleyaidd Cymreig wedi ei sefydlu, hyd yn oed yn Nhref Abertawe, hyd y flwyddyn 1805,, ac ni chychwynwyd yr achos yn Mhont- arddulais hyd y flwyddyn 1809, sef yn mhen 51 mlynedd ar ol i Wesley dalu ei ymwel- iad cyntaf a'r cylch, ac ymhen agos i 20 mlynedd ar ol ei farwolaeth. Nis gallwn lai na rhyfeddu at hyn, pan gofiwn fod Mr WTesley yn gwybod mor dda am gyflwr moesol ac ysbrydol feel, nid yn unig y Saeson ond y Cymry hefyd, Ie, a phan gof- iwn am y dyddiau hyny, a'i barodrwydd bob amser i gyfaddasu ei hun a'i Gynorth- wywyr i helpu y werin yn mhob man. Hwyrach, fod y diwygiad a gerid yn mlaen gan Howell Harris yn mhlith y Cymry, yn cyfrif am na wnaeth Wesley ddim darpar- iaethyn ei ddydd tuagat sefydlu Achosion Cymreig. I DECHREUAD YR ACHOS YN ABERTAWE. Er bod llawer o Gymry wedi ymuno a'r Achos Wesleyaidd Saesneg yn y dref, eto, fel y nodasom, ni chynygiwyd' at Sefydlu Achos Gymreig, a chael Gweinidogaeth Gymreig hyd y flwyddyn 1805. Cynaliwyd y Cynhadledd y flwyddyn honno yn Sheffield gyda Dr. Coke, yn llywydd am yr ail waith. A thrwy offerynol- iaeth y Cymro enwog a gwladgar hwn o dref Aberhonddu y cychwyn- wyd y gwaith o anfon Cenhadon i Ddeheudir Cymru. Gwnaeth y Doctor apel daer at y Gynhadledd y flwyddyn honno am benodi dynion i Ddeheudir Cymru a fedrent bregethu yn Gymraeg. Llwyddodd yn ei gais, a phenodwyd Cen- hadon Cymreig i lafurio ar y tir. Syrth- iodd yr anrhydedd o gacly Cenhadon Cym- raeg cyntaf yn Abertawe a'r Cylch ar y Parch. John Hughes. Ymddengys mai ychydig allodd wneud gyda'r anturiaeth, a chan i iechyd y Gweinidog Seisnig yn Nghaerfyrddin dori i lawr y flwyddyn honno, symudwyd John Hughes yno i gymeryd gofal y gwaith yn ei le. Modd bynag erbyn y flwyddyn 1809, penderfyn- wyd gosod pethau ar dir mwy diogel a sicr. Ffurfiwyd Castell-nedd yn ben cvlch- daith Gymreig,[phenodwyd Cenhadon cym hwys i lafurio ar y tir, sef.y Parch. Edward Jones, Bathafarn, —Tad Wesleyaith Gym- reig. Penodwyd hefyd y Parch. Thomas Thomas i fod yn Gyd-lafurwr iddo. Ac yn awr dyma'r adeg a dyma'r dynion a dde- wisodd Duw i gychwyn, a ffurfio Eglwys Wesleyaid yn Mhontardulais. Am nad oedd ganddynt ar y pryd yr un Capel Cymraeg ym Maes eu Cenhadaeth, pregethent yn rhai o Gapeli y Saeson. ond yn benaf, yn yr awyr agored, ac yn nhai y bobol a sefydlent Gymdeithasau o'r rai a gredasant ac a ddychwelasant at yr Ar- glwydd o dan eu Gweinidogaeth. Y lle- oedd ym Maes eu Cenhadaeth y flwyddyn 'honno. y sefydlasant achosion ynddynt oedd-Castell nedd, Abertawe. Treforris, Llanedi, iPontyberem, Pembre, Llanelly, Llanon, a Pnontardulais. Oddiwrth lyfr-cofnoclion y Cyfarfod Chwarterol, a gynhaliwyd yn mis Rhagfyr 1809..Gwelir fod yr aelodau yn y Gvlch- daith yn rhifo 81 dosberthir hwynt fel y canlyn—Neath, 7; Swansea a Foxhole, 20; Treforris, 10; Llanedi, 6 Pontvberem, 4; Pembre, 12; Llanelly, 10 Llanon, 13; ac yn olaf Pontardulais, G. Ac nid annyddorol ydyw sylwi mai y swm a dalwyd gan Eglwys Pontardulais at gynal y Weinidogaeth yn y Cyfarfod Chwarter cyntaf hwnnw oedd 10s, cyfar talecld o Is. 8c. yr aelod. Y cyfanswm a dalwyd gan yr holl eglwysi yn cynhwys pedwar-ugain-ag-un o aelodau oedd, £ 20 10s. yn gwneud cyfartaledd o dros 3s. yr aelod cynhwysai hyn y casgliadau cy- hoeddus a'r cyfraniadau personol. Wrth gydmaru y swm hwn gyda'r symiau a delir i fewn gan yr eglwysi heddyw, gwelwn fod yr aelodau gan mlynedd yn 01, gyda'u cyflogau bychain, a bara ac enllyn, yn- ghyda dillad mor uchel eu pris, yn esiampl- au o haelfrydigrwydd wrth gyfranu at Achos Crefydd, a ddylai godi cywilydd ar lawer heddyw sydd yn fwy clyd eu ham- gylchiadau, ond yn cyfranu lawer yn llai. Tra yn son am y cyfraniadau i'r Bwrcld Chwarter dyddorol ydyw sylwi hefyd ar y Taliadau a wnaed y pryd yma, mewn ffordd o gyflogau i'r Gweinidogion, a phethau eraill Wele y manylion— [ s. d. Rev. Edward Jones Stipend 4 0 0 6 Turnpikes. 0 13 0 Blacksmith 0 (5 0 Postage and Stamps 1 0 5 Extra Expense 2 5 10j 2 Rev. Thomas Thomas Stipend 4 0 0 Washing 0 10 6 Turnpikes. 0 13 0 Blacksmith 0 6 0 Postage and Stamps 1 0 5 Extra Expense 2 3 11 Ic 8 2 51 Eto, Candies and Chapel keeper 1 12 3 For Preachers' Board and Lodgin,gs 10 12 6 Total £29 3 0 Derbyniadau 12 10 0 Diffyg £ 16 13 0 Talwyd y diffyg gydag arian a gafwyd gan y Parch. Owen Davies, yr Arolygwyr Cyffredinol. Erbyn mis Mawrth yn y flwyddyn 1910, cawn fod Achos wedi ei gychwyn yn Llan- gennach, ac yn rhifo pump o aelodau. Ac yr oedd Achos Pontardulais yn rhifo un aelod yn llai na'r Chwarter blaenorol, ond yr oedd aelodau'r Gylchdaith wedi cynn- yddu o 81 i 110. Ar cyfraniadau i'r Bwrdd Chwarter wedi codi i {14 10s -ac ar ddi- wedd y flwyddyn Gyfundebol yn mis Mehefin, yr oedd yr aelodau wedi cynnyddu i .1.60, yn cynnwys 20 oedd yn perthyn i'r Achos yn Llanon. Yn mis Medi 1810, cafwyd cyfnewidiad eglwysig yn y Weinidogaeth, daeth Will- iam Davies laf.—Davies Africa fel y gel- wid ef yn ddiweddarach, i lafurio ar y tir yn lie Edward Jones, Bathafarn. Gyda dyfodiad William Davies, gwawriodd cyf- nod pwysig a dyddorol yn hanes y Gylch- daith, ac yn arbenig yn hanes yn Achos yn Mhontardulais. Erbyn diwedd flwyddyn y Gyfundebol honno yr oedd rhif aelodau y Gylchdaith wedi codi o 160 i 218, cynnydd o 58. Trwy offerynoliaeth Mr William Davies, cafwyd darn o dir yn perthyn i Glanllwchwr ar brydles o 99 mlynedd, un John Lucas, o Stone Hall, Sir Forganwg, a'i rhoddodd, ac yn y fan hon yr adeilad- wyd y cartref cyntaf i'r arch Wesleyaidd ym Mhont-ar-du lais. Nid oedd y capel cyntaf hwnnw yn ryw arddunol iawn yr olwg arno, nid oedd nemor o olion chwaeth na medr cywrain yr Arch-adeiladydd arno na, nid oedd yn adeilad-hardd, na chost- fawr, dywedir mae to gwellt oedd iddo ar y cyntaf, yr hwn a newidiwyd yn ddiwedd- arach am ddefnydd mwy sylweddol, a mwy cydweddol a chynydd gwareiddiad yn y Gymydogaeth. Cafodd ei doi toe a llechi lleol o'r mynydd gerllaw. Nid oes modd gwybod yn iawn werth yr adeilad hwnnw, ond mewn cyfnod diwedd- arach ar ol iddo fynd o dan amryw gyf- newidiadau a gwelliantau, mentrwyd cyf- rif gwerth yr eiddo Gyfundebol yn Mhont- ardulais yn £ 260. Yn flaenorol ihyn, cyn- helid yr oedfaon a chyfarfodydd yr eglwys mewn ty annedd o'r enw" Constantinople," gerllaw y" Farmers." Y maeyn anhawdd dyfalu paham y rhoddwyd yr enw uchel- seiniol ac estronol hwn ar y lie, os nad am ei fod fel Contsantinople yn enwog am ledr da, canys yr oedd Henry Jones, yr hwn a drigai yno, yn dilyn yr alwedigaeth o Glover and Skinner. Modd bynag, y mae yn clra sicr mae yn nhy Henry Jones, a Charlotte ei wraig, y byddid yn arfer cynal y moddion cyn cael capel yn y lie. Y mae yn hysbys i drigolion y Bont mae hen- daid a hen-nainy brawd Henry Jones, Bryn-gwili, yr hwn sydd flaenor ffyddlon yn y Eglwys Wesleyaidd yn y lie heddyw, ar hwn sydd wedi etifeddu ei enw gyda llawer o'i rinweddau, ydoedd y bobl dda hyny. Mewn ysgrif yn yr Eurgrawn am Medi 1873, ni ganfyddwn fod Charlotte Jones yn wraig rinweddol iawn, yr oedcl yn hvnod am ei duwiolfrydedd. ei sel a'i hym- lyniad wrth yr Achos. Yr oedd hi yn un o'r rhai cyntaf i ymuno a'r Achos Wesley- aidd yn yr ardal, a pharhaodd hyd ei bedd i harddu mewn bywyd athrawiaeth gref- ydd ei Harglwydd. (I barhau).
LLITH O'R AMERICA. I
LLITH O'R AMERICA. Mri. Golygwyr, Diweddais yn fy ysgrif flaenorol yn nhwrw dinas Chicago, ac addewais y bu- aswn yn yr ysgrif hon yn gadael Chicago am y wlad, yr hyn a wnethum; teithiais gyda Rock Islsnd Rail Road am Cotter Iowa, pellder o 236 o filldiroedd teithiais 181 o honynt yn nhalaeth Illinois; os yw yr oil o'r dalaeth hon fel y rhanau y teith- iais i ynddynt, y mae yn wlad dda odiaeth, Pan oeddwn yn teithio rhan o wlad Canada, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld Indian (corn) yn tyfu; tybiwn mai byr oedd, er nad oedd genyf brofiad i ddweyd y naill ffordd na'r llall ond fel yr oeddwn yn nesu at Chicago, gwelwn eng- reiphtiau o gorn yn rhagori ar eiddo Can- ada a thrachefn pan yn teithio trwy Illinois am Iowa gwelwn fod y corn yma yn rhagori ar ddim a welais yn flaenorol, yr hyn sydd yn profi ei bod yn wlad dda iawn ond os wyf yn deall yn iawn eu bod am roi y flaenoriaeth i Iowa fel gwlad y corn; beth bynag y mae genyf brofiad o hono yn Long Creek Iowa, ei fod yn tyfu mor uchel a bod yn 9,10, ac 11 o droedfeddi o uchder, a pheth yn uwch na hyny; ac y mae gwerth y corn i'w brisio yn ol uchder y gorsen, oblegid ar y gorsen frasg y mae y gornen oreu. Dywedodd Cranogwen pan ar ymweliad a Long Creek flynyddoedd lawer yn ol, fod tri pheth mawr yn Long Creek, a dau o'r pethau hyny oedd corn a moch. Yr oedd y tren yr oeddwn i arno i fod yn Cotter am 5-35 p.m., ond methodd a chadw ei amser y tro hwn am fod tren nwyddau yn mynd o'i flaen, a hwnw wedi nogio ar y ffordd, yn methu tynu ei lwyth i roi ffordd glir i'r un oedd yn dyfod ar ei ol, a dyma y tren cyntaf welais yn yr America yn methu cadw ei amser, ond ysywaeth, nid dyma yr olaf. Yr oeddwn ar y pryd yn meddwl fel y mae yr America yn rhagori ar Brydain mewn llawer o bethau, ei bod yn rhagori yn y peth hwn, ond dyn a'n helpo, y mae yn beth cyffredin yn y gauaf beth bynag, i'r tren fod ar ol ei amser 3, 4, a 5 o oriau, ac y mae hyn yn- gwneyd anghyfleustra mawr i'r teithwyr. Ond o'r diwedd cyrhaeddais ben y daith yn ddiogel, os nad yn brydlon, a phwy oedd yn y Depot yn bryderus ddisgwyl am danaf ond William fy mab, a nifer o'r cvmydogion. Cofiwch mai enw Americ- anaidd ar Station yw Depot. Bellach wedi yr ysgwyd ilaw a chyfarch gwell i'n gilydd, aethom mewn Buggy oedd wedi ei ddarparu gan William er ein cludo i'w gartref i fwynhau cymdeith- as wyneb yn wyneb, wedi i ddwy flynedd ar hugain o amser ein gwneyd yn ddieith- riaid. Cofiwch eto mai gair American- aidd yw Buggy, am gerbydd ysgafn, ped- air olwyn, yn y rhai sengi gall dau eis- tedd, a dim ond hyny, ond yn y rhai dwbl, gall pedwar eistedd, ac y mae iddo gyfar i'w godi uwch ben pan fo haul, neu ar wlaw. Bellach ceisiaf ddweyd gair am y lie a'r trigolion. Gelwir y rhanbarth yn Long Creek, am fod afon ddu o'r enw Long Creek, nid yn rhedeg, ond yn araf symud trwy y fro, ac y mae yma sefydliad Cymreig yn mesur efallai 8 milldir o hyd, a 2 o led, ac yn y pen gogleddol iddo ben- tref o'r enw Cotter—y preswylwyr gan mwyaf yn Gymry: preswylir y lie, fel yr awgrymwyd yn barod, gan ddyfodiad o Gymru, a llawer o honynt wedi dod o gymdogaeth Pennal, Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, a gallaf enwi tri wedi dod o Eglwysfach, Ceredigion Richiard Jen- kins, y mae iddo frawd yn byw yn Ynys- greigog, a chwaer, Mrs. Pritchard, Tyno- hir gynt, y ddau le yn agos i'r Eglwysfach, gall y brawd hwn ganmol yr America-y mae uwchben angen. John Richards yw yr ail a nodaf wedi dod o ardal Eglwys- fach, hen wr yn nghymdogaeth yr 80; bu yn filwr yn y Rhyfel Gartrefol yn yr Am- erica flynyddoedd yn ol hoffa son am yr adeg, ac y mae yn meddwl llawer o hono ei hun fel un ymladdodd dros ryddid y caethion, ac yn ei henaint y mae yn der byn gan yr Arlywydd gyfran dda fel ad- daliad. Y mae ei briod, yr hon sydd yn gysur mawr iddo, yn enedigol o Bryn- llwyd ger Corris. Y mae iddo frawd a chwaer yn Sir Drefaldwyn, y brawd, T. Richards, Glygrnant, Llanbrynmair, a'i chwaer, Mrs. Jones, Gelli, Llanwrin. Y trydydd a nodwn yw, Humphrey Richards, cefnder i John Richards a nodwyd, a nai i'r diweddar David Jenkins, Maesteg, Eglwysfach. Yr oedd y diweddar David Jenkins yn Wleidyddwr deallus, yn lienor gwybodus, yn bregethwr melus, ac yn Wesley selog, ac y mae ei nai wedi oyfran- ogi i fesur o'r un elfenau, y mae yn darllen llawer, ac yn ysgrifenu yn ami i'r Cyfaill- cyhoeddiad misol Methodistiaid America, ac i'r Drych, ac er ei fod yn flaenor gyda'r Methodistiaid er's llawer o flynyddoedd, y mae yn Wesley selog er hyny, yn caru eu hathrawiaeth, ac yn derbyn eu cofnodolion -yr Eurgrawn a'r Wmllan yn fisol, ac yn up to date gyda y llyfrau diweddaraf sydd yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Wres- leyaidd. Un arall y carwn i ddweyd gair am dano yw Mr. Rees, os nad wyf wedi cam- gymeryd, Rowland Rees wrth ei enw, ac yn gefnder i Mr. Edward Rees. Y.H., Med- ical Hall, Machynlleth, ei briod yn ferch i'r diweddar bellach Edward Humphreys, ac E. T. Humphreys yn frawd i Mrs Rees, priod y diweddar Lewis Rees, Carmel ger Llwyngwril. Y peth sydd i fesur yn hynod yma yw fod y teulu yn cael eu gwneyd i fyny o dad a mam a J3 o blant, yr oil o'r plant gartref, ac ar adeg ciniaw pob un yn cymeryd ei gadair wrth y bwrdd, a gall- wch feddwl nad bwrdd bychan a wna y tro. Bum yn llygad-dyst o'r olygfa, ac y mae y tad a'r fam, er eu holl ofal, rnor sir iol ar un tad a mam yn y sefydliad, a'r fam yn edrych yn well na llawer mam hefyd. Gobeithio y gwelir y plant oil yn tyfu i fyny yn genhedlaeth gref, yn ofni Duw, ac yn cashau drygioni. Un arall y carwn wneyd svlw o hono yw Thomas Hugh Jones. Y mae yn fab i'r diweddar Thomas Hugh Jones, oedd yn wr blaenllaw os nad yn flaenor yn eglwys St Paul's, Aberystwyth. Gwyddwn iddo ddod i'r ardal, ac yr oeddwn yn falch o'i weled ar gyfrif y caredigrwydd a dderbyniais gan ei rieni lawer gwaith pan yr awn o Gorris i Aberystwyth i bregethu. Yr oedd gan- ddo chwiorydd yn Aberystwyth, pe dig- wyddai i rai ohonynt weled y nodion hyn, gallant fod yn dawel am eu brawd T. H. Jones, ei fod mewn amgylchiadau cysurus iawn. Bu yn gallach na llawer, wrth briodi cafodcl wraig, ie, un yn llond yr enw, a chafodd wraig sydd yn gwneyd ei goreu o'r ddau fyd. Y mae y ddau yn gwneyd llawer er hyrwyddo yr achos da. Dylaswn fod wedi dweyd cyn hyn fod yn y Sefydliad Cymreig hwn dri achos Cym- reig, un gyda'r Anibynwyr, a dau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Y gweinidog ar hyn o bryd ar y.ddwy eglwys Fethod- istaidd yw y Parch Hugh E. Jones. Brod- or yw ef o Abergynolwyn, sir Feirionvdd. Y mae yn nai i'r diweddar Edward Ed- wards, pregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid yn Abergynolwyn, ac y mae yn berthynas o bell a'r Patriarch Edward Jones, Hendrewallog. Wesleyad i'w ef fu yn garedig i'w enwad, nid mewn gair yn unig, ond mewn rhoddion hefyd. Da genyf allu ei ddweyd fod y Parch. Hugh E. Jones uchod yn gymeradwy yn y ddwy eglwys y mae yn llafurio ynddynt, ac fel prawf o hyny, cafodd eleni gan eglwys Bethel anrheg o Ffur Coat, er ei alluogi i sefyll gerwinder yr hin, ac i gadw gwres pan y bydd hi yn 20 a rhagor islaw godd- im. Yn awr gall ganu fel y canodd arall o'i flaen ar dderbyniad cyffelyb anrheg. Byth, byth ni fethaf Bethel,clan ganu Do'i gynar i'r capel Nid dychryn yn syn ddisel, 0 achos rhew-wynt uchel. Yn barod i bob oerwynt—yr ydwyf A rhedeg i'r rhuthrwynt; Carwn glywed y corwynt, Yn codi ffrae—gwae i'r gwjmt." Deallaf fod i Mrs Jones ddau frawd wedi llwvddo i fyned i'r Weinidogaeth Seisnig yn rhywle yn yr America, a diau y bydd hyn yn destyn llawenydd i'r Eglwys Wes- leaidd yn Abergynolwyn ddeall fod ei phlant yn troi allan yn dda. ac nad ofer fu y llafur i'w hadclysgu a'u hyfforddi. Gwr arall y carwn wneyd sylw o hono, ac efe yn Weslead pan yn yr Hen Wlad yw y Parch. D. T. Davies, Maesyneuadd, Pont- robert, cylchdaith Llanfair Careinion. gynt ac y mae yn frawd yn nghyfraith i Thomas Pierce, pregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Nghorris ond yn awr yn trigianu yn Bedliniog, Deheudir Cymru. Y mae Mr. Davies yn awr yn weinidog yn Caroll Nebraska, a'r rheswm fy mod i yn son am dano ynglyn a Long Creek, yw mai yno y cyfarfyddais ag ef,pan yr oedd ar ymweliad a'r lie, a'r rheswm am hyny drachefn mai yno y cafodd gydmar bywyd, a'i fod yn cael seibiant oddiwrth ei waith gyda'i deulu ynghyfraith. Bu yn sirioldeb i fy meddwl ei gyfarfod, a charaswn gael mwy o'i gwmni nac a gefais, a sicr yw y bydd pawb yn yr Hen Wlad oedd yn ei adnabod yn falch o ddeall ei fod yn gymeradwy fel gweinidog yr efengyl. Un arall y carwn wneyd sylw o hono, daeth i gyfarfyddiad a mi yn ardal Long Creek oedd y Parch. James Vincent Jones, Cleeveland, Ohioh; yr oeddwn yn ei adnabod yn dda pan yr oedd yn llanc brodor yw o Eglwysbach, Sir Aberteifi, ac yno y dechreuodd bregethu a chyda'r Wesleyaid y gwnaeth hyny, ond yn awr y mae yn weinidog gyda'r Anibyn- wyr yn y lie a nodwyd, a chanddo eglwys luosog, ac yn cael ei gydnabodyn ei enwad yn bregethwr poblogaidd, a phrawf o hyn yw iddo yn un o dri gael ei ddewis i Long Creek i Gyfarfod Pregethu. Wedi yr adeg yma, cafodd ei frawd E. Mansel Jones ei ordeinio yn weinidog ar eglwys Anibynol Johnstown, Pensylvania, a Vincent Jones oedd ar yr amgylchiad yn traddodi siars i'r eglwys. Dyma i chwi ychydig o hanes dau o fechgyn fagwyd gan eglwys Wes- leyaidd Eglwysbach Cvlchdaith Machyn- lleth. Y casgliad yr wyf yn ei dynu ar ddiwedd hyn o ysgrif yw, fod llawer o WTesleyaid Cymru wedi llwvddo i gael lie da yn yr America, ac fel rheol yn cael eu cydnabod yn y closbarth goreu o bregethwyr. Bell- ach cyn sychu fy ysgrifbm, rhaid dweyd gair eto am amaethwyr Cymreig Long Creek-eu bod fel amaethwyr wedi llwy- cldo i ddod yn dirfeddianwyr, bron 'yr oil o honynt yn byw ar eu tir eu hunain, ac ami un yn meddianu dwy a thair ffarm, a mwy na hyny, yn werth miloedd mewn arian parod; diau nad drwg gan y Cymry yn yr Hen Wlad, ddeall am lwyddiant eu brodyr yn ngwlad yr Yankee oes y mae miloedd yn y Talaethau Unedig o Gymry, groesas- ant y Weilgi haner can mlynedd yn ol heb allu gwneyd fawr ond talu eu cludiad, yn awr yn amaethwyr cefnog, a'r tlodion yn few and far between. Ydwyf Cymro ar grwvdr. JOHN OWEN.
FY ADGOFION.
FY ADGOFION. I (Gan EGWEST.) I IV. Yr oedd teulu arall yn Penegos fu yn selog iawn i'r Wesleyaid, Teulu Ty'ny- maes. Yr oedd John Jones a Catti yn mhob moddion o ras, ac yr oedd y ddau fab yn gantorion gwych, ac yn deall y Gamut yn dda. Peth anfynych iawn yn V dyddiau hyny. Yr oedd Edward yn gerdd- or da. Y mae yn fy meddiant hen Lyfr Cerddorol a llawer o hen Donau ac An- themau ynddo wedi eu pricio ganddo ef yn lan a threfnus. Meddai William ar lais Baritone rhagorol. Bass cryf oedd Edward, a gallai fyned i lawr i'r Double C, yn hollol ddi-drafferth. Cafodd can- iadaeth y cysegr golled yn Penegos, pan symudodd y ddau fab i Llanbrynmair i weithio yn Ngwaith Mwn y Ty Isaf, ond bu y tad a'r fam yn ffyddlon i'r capel tra y buont byw, a buont feirw yn Ty'nymaes wedi cyraedd oedran teg. Ond yr wyf yn cofio teulu arall hefyd fu yn ffyddlon iawn i Ebenezer, sef Maes-y-Perthi. Cafodd Richard Evans y gwr ei anrhegu a Beibl Hardd gan aelodau yr ysgol SuI. Pan bu'm yn Penegos tuag wvth mlynec14 yn ol, gwelais Hugh y Mab, a deallais ei fod yn teimlo yn gynes at yr achos yn y lie. Yr wyf yn cofio teulu arall hefvd fn yn bur i Wesleyaeth Penegos, sef Bryn Clygo. Yr wyf wedi methu a chael allan pwy oedd y person a elwid Clygo, ond dvwed traddodiad mai efe a feddianodd V bryn hwn gyntaf tua'r 13 ganrif. Cymer- wyd meddiant o fryn arall yr un adeg gan berson a elwicl Tudor a galwodd hwnw y bryn yn Bryn Tudur. Bu teuin y ddau fryn yn dra chyson a haelionus t achos y Gwaredwr yn Penegos. Myfi a roddaf yn awr ychydig o hanes yr hen bentref. Saif mewn rhan ar dir Maes-y-llwynau, a Galltyllan. Yr oedd Capel i'r Anibynwyr wedi ei adeiladu ar dir Galltyllan. Nid wyf yn cofio pa bryd na chan byw, na pha faint oedd hyd y Lease, ond pan ddaeth hono i ben, gwrth- odwyd ei hadnewyddu, a chafodd yr Anibynwyr ddarn bychan o dir yn ymyl yr hen gareg filldir, a'r ffynon fach. Mr- Lewis Evans, Maesyllwyna a roddodd Y tir, ac y mae y ddau gapel yn ymyl eu gilydd. Yr oedd rhes o dai a elwir Bron- heulog, wrth ben Wtra Ty'nymaes wedi eu godi ar dir Gallt-y-llan, ac yr oedd y tenantiaid, yn nghyda John Jones, yr hwn oedd yn dal y Lease, yn Weslevaid, Rhys Jones y Masiwn, a Dafydd Jones, nell Dafydd y Banker, gwydd' wrth ei grefft, yr oil yn wastad mynychu Capel Bethesda. Y mae yn chwith iawn i mi feddwl fod teulu gronhelilog oedd yn fyw i Wesley- aeth yr adeg hono wedi myned i ffordd yr holl dciaear, a'r Lease wedi dvfod i ben fel yr aeth Bronheulog yn feddiant i Gallt-y- llan. Ond bu agos i mi anghofio teulu arall fu yn nodedig o ffyddlon i Wresleyaid pen- egos, sef Evan Morris, neu Evan y Felii] Fach fel y byddem yn ei alw. Derbyniodd y lIe yr enw hwnw am y bll yno Felin,3 godwyd oddeutu pedwar cant o flynydd- oedd yn ol, ar dir Pant ystyllen, ar lan Afo Crewi. Ond wedi i hono wasanaethu el Chenhedlaeth, fei gwnaed yn dy. Y rna.e ol y ffos trwy ba un vr oedd y dwfr Yl1 rhedeg i droi yr Olwyn i'w gwelecl eta. By dda i y teulu yn gyson yn dod i Bethesda- trwy bob tywydd, haf a gauaf trwy ffol-dcl hynod o anhygyrch ac unig. A gwaell1 na'r oil oedd myn'd trwy goeclffy.,ion-I)C)r myn, lie oedd yn nodedig am ysprydionV1 amser gynt, yn ol lien gwerin ardalwyrPen* egos. Pwt o ddyn byr oedd Evan Morn5' ac yn hynod am ei nerth a'i gryfder, ac y^ llawn sirioldeb yn wastad. Nis gs-? ddyweyd yn gywir pa bryd y sy nudodd teulu i Graig-y-nenffordd ond daethui? gydnabyddiaeth ag wyr i Evan Morris,  enw Evan Jones, yr hwn sydd naen?.  gweithgar yn Bethesda. Pan wybu ?? un o blant Penegos oeddwn ac ) B—g—th—r bu yn daer arnaf. 0? myned heibio a wnaethum i'r hen betifr'f gael gweled Edward Wood, blaenor aTtLn oedd wedi ei gaethiwo i'w wely  afiechyd a nychdod. Yr oedd ef yn ??? i Rowland Wood, a ddysgodd chwareu y Bassoon. Fu yn flaenor yn Eglwys ?'? ?, leyaidd yn Machynlleth ar ol hyny.
[No title]
Talu'r Proffwydi.—Yn nghyfarfod b1* } r'1!a" yddol eglwysi Saesneg yr Annibynwyi ¿tlJ. Ngogledd Cymru apeliwyd am gefnog??? I'r ymgais i geisio codi cronfa er sic? ?? 'r ym-ais 1 goisio codi cronfa e F ;jcfc'ILI cyHog o ddim llai na ?120 y awyddy?j; bob bugail. Ar hyn o bryd yr amce??. 'i ei gyrhaedd ydyw codi safon y gy??? [100 y flwyddyn.