Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODION LLENYDDOL.I

ESBONIAD Y MAES LLAFUR. I…

ESBONIAD Y MAES LLAFUR.

News
Cite
Share

ESBONIAD Y MAES LLAFUR. LLAWLYFR AR MATHEW I.-ix. I Cefais yr hyfrydwch o weld y Llaw- lyfr uchod cyn iddo fynd i'r wasg, lie y mae yn awr, ac o'r lie y daw allan ar unwaith. Darllenais ef yn ofalus, ac y mae'n bleser gennyf ddwyn tystiol- aeth i'w ragoriaeth. Yr awdwr yw y Parch. P. Jones Roberts, Llywydd y Gymanfa. Ysgrifenwryd ef ar gyfer Dosbarthiadau II. a III. Y pris yw pedair ceiniog ond gellir cael dwsin ac uchod am dair ceiniog yr un, ond anfon blaendal. Yn y Llyfrfa Wesleaidd, Is- fryn, Bangor, y cyhoeddir ef gan Dr. Hugh Jones. Dyma'r Rhan I. o'r Llawlyfr, ond cymer i mewn y Maes Llafur am eleni. Dosrennir y Llawlyfr i 39 o Wersi; gwers ar gyfer pob Saboth am clri chwarter, yr oil i'w hadolygu yn y chwarter olaf. Y mae hwn yn gynllun newydd ac yn sicr o brofi yn fanteisiol i'r athrawon a'r ysgolheigion. Dymunaf o galon longyfarch yr awd- wr. Nid peth hawdd yw gwneud Llawlyfr ar gyfer y Dosbarthiadau hyn. Haws gwaith yw gwneud Esboniad ar gyfer y Dosbarth hynaf, megys y mae'n haws golygu'r Eugrawn na'r Win- llan, neu megys y mae'n haws pregethu i bobl mewn oed nag i blant. Rhaid i Esboniad ar gyfer yr ail a'r try dyed Dosbarth fod yn anad dim yn ddydd- orol ac yn fyrr. Da gennyf ddweyd fod Llawlyfr Mr. Jones Roberts felly. Ond os yw yn ddyddorol, nid yw yn arwynebol, ac os yw yn fyrr, nid yw yn llipa. Yn ogystal a bod yn ddyddorol ac yn fyrr, y mae yn gynhwysfawr. Yn ddiau y mae'n engraifft darawgar o lawer mewn ychydig. Nid osgoir yr un anliawsder, hyd y sylwais. Canlyniad y chwalu a'r chwilio a'r meddwl fu'n mynd ymlaen wrth baratoi'r Llawlyfr a geir yma, ac nicl y cwrsweithrediad. Ceir ynddo lawer sylw pert, effeithiol, yn ogystal ag eglurhadaeth gryno, oleu. I Fel y gweddai i Lawlyfr fel hyn, byrr yw y Rhagarweiniad, ond y mae hwnnw'n gryno a llawn. Nid oes rhyw lavver chwaneg o ddim gwerth ei ddweyd fel Rhagarweiniad i'r Efengyl yn ol Mathew. Poenus yw darllen Rhag-I arweiniad ambell i Esboniad,—rhai o'r Esboniadau Saesneg yn enwedig—oher- wydd y gor-ysgolheigdod a'r dyfynnu a'r cyfeirio di-orffen sydd ynddynt y maent yn ddigon i godi diffyg treuliad ar dclyn cyffredin yn ami. Ond nid oes yma yr un ias o goeg-ddysgeidiaeth nac o pedantry. Dyddorol yw sylwi fod Mr Jones Roberts wedi mabwysiadu'r cyf- ieithiad Cymraeg o'r Cyfieithiad Diwyg- iedig fel testun. Dianghentaid dweyd fod hyn yn welliant. Gwell yw y newydd yn yr achos hwn, ar bob cyfrif. Meddylier am Math. vi. 6, Ond tydi, pan weddiech, dos i'th ystafell &c." Yn niwedd yr adnod, fel y mae yn y cyf- ieithiad awdurdodedig, y mae'r geiriau a ganlyn: A'th Dad yr Hwn a wel yn y dirgel, a dal i ti yn yr amlwg. Ond ni dclylai y geiriau yn vr arnZwg fod i mewn o gwbl. A'th D,-cl a ddl i ti,"—nid yn yr amlwg, o angen- rheiclrwycld, fel y mae'r gau weddiuwyr yn derbyn eu tal; ond y mae tal gwedcli wir yn anrhaethol well na dim tal yn yr amlwg o gwbl. Nid amlwg, yn y lie dyfnaf a chyntaf, yw gwedcli wir; ac nicl amlwg chwaith mo'i thai goreu hi. Nodwn hyn fel engraifft go dda o ragoriaeth diamheuol y cyfieithiad newydd ar yr hen. Nid oes gennyf ddim ond camoliaeth i'w roddi i'r Llawlyfr o'r dechreu i'r cli- weclcl. Gwyn fyd pobl ieuanc ein Hys- golion Sul heddyw sy'n derbyn cymorth mor hylaw a gwerthfa-wr a rhad a hwn, i'w helpu i astudio rhan o'r llyfr godid- ocaf yn llenyddiaeth y byd. Y Testa- ment Daearyddol" (pob parch idclo hefyd, da odiaeth fu inni wrtho), oedd yr help goreu o gafoclcl rhai ohonom i agor ein de all i welecl pethau rliyfedd allan o Gyfraith yr Arglwydd. Ond dyma Law- lyfr cymv^ys iawn, rhagorol ymhob ys- tyr, yng nghyrraedd ieuenctic1 Y sgolion ISul Yvresleaicld Cymru am y pris isel o dair ceiniog neu rot. Pleser pur i mi yw ei gymell i sylw'r Ysgolion a'r ysgol- beigion trv/y'r wlad.

Y SENEDD. i

Advertising