Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Amodau Llwyddiant yr Eglwys.
Amodau Llwyddiant yr Eglwys. (Gan y PARCH J. WESLEY HUGHES.) O'i barnu oddiar un safbwynt, gellir dyweyd fod yr Eglwys yn gwisgo gweddau mwy llewrychus heddyw nag erioed, a'i hymdrechion yn arddangos mwy o olion llwyddiant. Ychwanegir yn ddyddiol at rif ei hadeiladau, a cheir cystadleuaeth fywiog rhwng y gwahanol ganghenau yn- glyn a'r peth hwn. Gwelir mwy o sefyd- liadau a'u hamcan i ddyrchafu meddwl a moes yn gyssylltiol a'r Eglwys heddyw nag erioed, ac y mae ei horganyddiaeth ymhob cyssylitiad yn fwy cyflawn a chywrain heddyw nag y bu mewn unrhyw gyfnod o ddyddiau Crist. At hyn gellir dyweyd heb amheuaeth fod ei Llenyddyddiaeth yn gyf- oethoccach, a'i phwlpud yn fwy diwyllied- ig a goleu (a llefaru yn gyffredinol), a'i chendawri yn fwy ymarferol. Mae'n wir nad oes gan yr Eglwys heddyw y cewri tebyg i'r rhai a fuont yn disglaerio yn ffurfafen y mynedol, ond gall mai y ffaith fod y cyfartaledd yn llawer uwch yn awr nag a fu, sydd yncyfrif am hyn. Mentrwn ddyweyd na fu gan yr Eglwys Brotestan- aidd erioed fwy o bregethwyr galluog, dewr, hyawdl, a chydwybodol nag y sydd ganddi ar ddechreu yr Ugeinfed Ganrif. Eto i gyd, a barnu oddiar safbwynt gwahanol, nis gallwn fod yn ddall i'r ffaith nad ydyw yr Eglwys yn cynyddu mewn dylanwad, nac ychwaith yn llwyddo yn ei chenhadaeth i'r mesur y gellid dis- gwyl iddi yn wyneb ei hadnoddau a lluosogrwydd ei chyfleusterau. Ceir ar- wyddion amlwg fod dosbarth mawr o'r bobl yn anfoddlawn ar ei gwaith a'i dys- geidiaeth. Prawf o hyn ydyw prinder y dychweliadau, yr eglwysi gweigion a geir yn ein dinasoedd mawrion, phrinder gwrandawyr yr efengyl drwy y wlad yn gyffredinol; ynghyda'r ffaith fod amheu- aeth ac anystyriaeth crefyddol yn cynyddu gyda chyflymdra poenus yn y tir. Nid yn unig y mae hyn yn wirionedd am y dyrfa fawr sydd o'r tuallan i'r Eglwys, ond i raddau pell, yn yr Eglwys ei hun, fel y den- gys ei hystadegau y blynyddau diweddaf hyn. Na feddylier am foment ein bod yn cymeryd golwg ddigalon ar bethau. Yn hytrach, yr ydym yn nodi y pethau hyn er dangos ei bod yn bryd i'r Eglwys sefyll, ac ymholi yn ddifrifol ynghylchgwir AMODAU E1 LLWYDDIANT. Mae yr Eglwys i Iwyddo. Rhaid iddi lwyddo. Rhaid i'r gau roddi ffordd i'r Gwir, rhaid i'r gwan roddi ffordd i'r cryf, rhaid i'r hyn sydd dros amser roddi flordd i'r hyn sydd dragwyddol, rhaid i'r drwg roddi ffordd i'r da, rhaid i alluoedd teyrnas pechod ddiflannu o flaen byddinoedd y Deyrnas nad yw o'r byd hwn. Ni yw gor- uchafiaeth Seion Duw ar y byd ond cwest- iwn o amser.—" Canys Haw yr Arglwydd a orphwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tommen." Priodol i'r eglwys, ymlaen popeth arall, fyddai ymholi ynghylch cyflwr ei bywyd mewnol ei hun oblegyd nis gall yr un peirianwaith weithio, na manteisio i'r gradd lleiaf ar nerth yr ager, heb ei fod mewn trefn, a phob rhan ohono mewn cyf- lwr i gyd-weithio gycla'r rhanau eraill. Gellir gwybod llawer am amodau llwyddiant bywyd mewnol yr eglwys odd iwrth sylwadaeth manwl ar Nodweddion yr Eglwys yn ei chyfnodau mwy llewyrch- us. Ac ni bu erioed gyfnod mwy llew- yrchus-o ystyried yr amgylchiadau-na chyfnod Llyfr yr Actau. Un o'r desgrif- iadau cyntaf o'r Eglwys Gristionogol ydyw yr adnod gyntaf yn yr ail bennod o lyfr yr Actau,—" yr oeddynt hwy oll yn gyttun yn yr un He." Rhaid sylwi yn gyntaf mai cyfundrefn, neu gymdeithas, ydyw yr Eglwys, wedi ei sefydlu gan Grist er iach- awdwriaeth dynoliaeth, ac fod llwyddiant yn amhosibl yn ei hanes heb i aelodau y gymdeithas hon gael eu meddiannu gan ysbryd undeb, heb iddynt gael eu medd- iannu gan gydymdeimlad a'r amcan mawr a godidig hwn, a sefydlu eu hym- drechion arno. Mewn Undeb mae Nerth." Erys gwir- ionedd yr hen ddihareb yn wirionedd ym mywyd yr Eglwys Gristionogol fel ym mywyd pob sefydliad. Nis gall yr un eglwys lwydclo tra y ceir o fewn ei therfynau ysbryd ymrafaelu ym- hlith ei haelodau neu ei swyddogion, a thra yr aberthir yr amcanion cyntaf ac hanfodol i uchelgais personol. Y mae ysbryd hunanymwadol mor angenrheidiol oddimewn i'r eglwys ag ydyw fel cym- hwyster i aelodaeth ynddi. Nid lie i opiniynau hunanol a damcan- iaethau gwylltion ydyw yr Eglwys Grist- ionogol, ond lie a chyfleustra i gario allan feddyliau a chynlluniau ei Sylfaenydd Mawr er iachawdwriaeth y byd. Nid ydym oil yn darllen nac yn deall y medd- yliau hyny yn hollol yr un fath, a dengys y Testament Newydd fod Ile i wahaniaeth barn ynglyn ag athrawiaetliau yr Eglwys, ond y mae geiriau Crist i fod yn derfynol ar waith a diben bodolaeth yr Eglwys. Nid oes dim yn llesteirio mwy ar ddefn- yddioldeb eglwys na gwahaniaethau per- sonol parhaus rhwng ei haelodau, a'i swyddogion; ac nid oes yr un eglwys yn llwyddo yn debyg i'r eglwys hono lley ceir heddwch a thangnefedd yn llywodraethu ei holl waith, a symlrwydd ac unplygi'wydd amcanion yn nodweddu bywyd ei deiliaid. Byddwch yn unfryd a'ch. gilydd, heb roi eich meddwl ar uchel bethau eithr yn gydostyngedig a'r rhai isel-radd. Na fydd- wch ddoethion yn eich tyb eich hunain." Unig foddion meithriniad yr ansoddau a enwydydyw Cariad. Nis gall calon wedi ei llenwi a Chariad Duw, ffrwyth yr hwn ydyw cariad at y brodyr, wthio ei barn a'i hamcanion ei hun ar draws eiddo eraill, ar draul gwenwyno meddyliau a rhwystro praidd Crist. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'ch gilydd yn rhoddi parch yn blaenori eich gilydd." Ac mewn, neu trwy, gariad brawdol yn unig y mae hyn yn bosibl. Nodwedd amlwg arall yn mywyd yr Eglwys gyntefig ydoedd ei ffydd yn rhag- oroldeb ac effeithiolrwydd y Cynllun Dwy- 01, ac yn yr adnoddau dwyfol oedd at eu gWasanaeth i'w gario i weithrediad. Nid c-ynal pwyllgorau i ystyried cynlluniau er ano r gwaith ymlaen a wnai yr Apostol- !on, ond ymgynghori o berthynas i'r modd- ion effeithiolaf i gario i weithrediad Gyn- llun y Meistr Mawr yn fwyaf uniongyrchol a di-ynadroi. Y mae lie i ofni fod Eglwys Crist yn y dyddiau hyn yn gwastraffu Lawer o nerth ac amser mewn dyfeisio ac ystyried cynlluniau newyddion, yn hytrach 11(1 chanol-sefydlu nerth ac adnoddau ar gynllun syml ac effeithiol y Testament Newydd i arwain dynion at Groes y Meistr Mawr. Nid ydym yn anghofio fod am- gylchiadau ac amodau bywyd y byd wedi newid yn fawr er dyddiau yr Apostolion, ac fod angen am gymhwyso gwirioneddau yr Efengyl yn ol y ffaith hon. Ond yr un ydyw yr Efengyl ar hyd y canrifau, yr un ydyw cenadwri fawr y Groes, a'r un ydyw cyflwr ac angenion y ddynoliaeth, ac nis gall y gwirioneddau bendigedig am y Marw ar ben y bryn, a'r adgyfodi gogon- eddus foreu'r trydydd dydd yr esgyniad yr eiriolaeth ar Ddeheulaw y Mawr- edd yn y goruwch-leoedd, byth fyned allan o,r ffasi wn tra yr erys pechod yn elfen ym mywyd y ddynoliaeth. Gwirionedd arall a ganfyddir ym mywyd y Cristionogion cyntefig ydyw y ffaith fod eu cymeriad gerbron y byd mewn cynghan- edd perffaith a'u proffes o Enw'r Gwr oedd- ent yn Ei ddilyn a'i garu. "Darperwch bethau onest y'ngolwgpob dyn." Gofalent am ymddwyn gerbron dynion yn y fath fodd fel ag i argyhoeddi'r byd o reality yr egwyddorion oeddynt yn eu proffesu a'u pregethu. Dywedodd un pregethwr amlwg yn y pwlpudau Saesneg dro yn ol, fod anghys- ondeb crefyddol wedi cynyrchu mwy o an- ffyddwyr yn y byd, na dim gallu gwrth grefyddol y gwyddai efe am dano. Ar y llaw arall," meddai, nis gwn am ddim sydd wedi ennill mwy i garu Crist a chof- leidio Cristionogaeth, na bywyd cyson saint yr Arglwydd." Cymeriad glan, cyson a diargyhoedd yr aelodau yn ategiad i egwyddorion ein cre- fydd a wna ein heglwysi yn allu grymus yn y tir. (I barhau).
FY ADGOFION.
FY ADGOFION. (Gan EGWEST.) III. Pan oeddwn o gylch deuddeg oed, aeth- um i hen factory Ty'nymaes, i ddysgu yr alwedigaeth o ffactrwr. Fy nghyflog oedd grot y dydd y flwyddyn gyntaf, a phump ceiniog y dydd yr ail flwyddyn. Yr oedd pris y gwenith yr adeg hono oddeutu tair punt y pwn, 252 pwys a'r haidd o gylch dwy bunt. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er gweled yr amser gymerai i mi yr adeg hono i enill pwn o wenith. Yr oeddwn dan oed pan aethum i enill grot yn ngwyneb Factory Act, a byddai yr Inspec- tor yn dyfod heibio yn "yr awr ni thyb- ioch." Sais oedd hwnw, gellir penderfynu, a byddai raid iddo wrth gyfieithydd, a hwnw yn gwybod pa le yr oedd y Factor- ies. Die Morris o Fachynlleth fyddai yn dod gyda'r Insbector yn fy hanes I. Un cas iawn oedd Die, er y gwyddai pa awr y byddai yn ymweled a'r gwahanol factri- oedd. Ni roddai unrhyw hysbysiad, na munud o rybudd. Fe ddigwyddodd i'r ddau ddod i Factri Tynymaes ar foreu ddydd Llun unwaith a ddaethant i ymyl y Factory cyn eu gweled. Ychydig cyn hyny yr oeddym wedi bod yn defnyddio d—1 y Factory i chwalu y gwlan, a chan fod yno gryn lawer o honorn, fe'm gyrwyd i'r llofft lie yr oedd y diafol, ac aethum dros fy mhen i'r gwlan, ac yno yr oeddwn yn llechu. Rhoddodd yr Insbector amryw I o gwestiynau i'r ffactrwr o berthynas i'r plant, a phan oeddwn yn meddwl eu bod yn ymadael, daethant i'r llofft ar gais Dic Morris, a dechreuodd yr Insbector a phroc- io y gwlan a'i ffon, a chan y teimlai ryw beth caled, aeth i brocio yn waeth, a gorfu i mi ddod allan. Nid allent wneyd dim i mi, ond cafodd y ffactrwr ei ddirwyo yn drwm. Daeth yno drachefn yn lied fuan, ac aethum y pryd hwnw i ystafell yr olwyn- ion, a bu'm yn llechu yn ymyl y drwm, hyd nes yr aethant yn ddigon pell. Ond wrth son am Dy'nymaes, credaf y bydd yn ddyddorol i rai i mi wneyd crybwylliad byr am y lie o herwydd ei gysylltiad agos a'r amser y sylfaenwyd Wesievaetli yn Penegos. Os edrychir i'r Drysorfa Wes- leyaidd am fis Mehefln 1822, tudalen 222- 223, ceir hanes gan Edward Jones, Nant-y- filldir, mai yn Ty'nymaes y cychwynwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf mewn cysytlt- iad a Wesleyaeth yn yr ardal a hyny ar y 4ydcl o fis Mehefln, 1820, pryd y daeth 32 iddi, Ar y 2Gain o Dachwedd canlynol, etholwyd Lewis Evans, Maesyllwyni yn Arolygwr am chwech mis, ac Edward Jones am yr un tymor. Glywais mai yn Tynymaes yr oedd Wes- leyaid cyntaf ardal Penegos yn cyfarfod i addoli cyn sefydlu yr ysgol pryd nad oedd capel i addoli ynddo. Ond ar ol i mi fyn- ed i enill grot y dydd yn yr hen Factory aethum i eglwys y plwyf lie yr oedd fy nhad yn glochydd, tae fater am hyny fel tase ar rheswm oedd hwn. Yr oedd y Parch Morgan Davies, Offeiriad y pi ftryf wedi prynu Sawdofyn Bassoon yn nghyda Clarinett, a Fife, at wasanaeth y cantorion yr hyn oedd yn beth newydd iawn yr adeg hono ymgymerodd Loly Wood a dysgu chwareu ar y Bassoona, ac Evan, Maesy- llwyni. ar Clarionett; a Lewis y Dafarn ar y Fife. Meistrolodd y tri yr offerynau, yn enwedig Lewis y Dafarn, nes yr enillodd yr enw o good Fifer, ac yr oedd yn falch iawn ohono. Aeth llawer i'r eglwys y pryd hwnw, nid i wrando y Efengyl; ond i wrando yr offerynau. Ac aethum inau i'w canlyn, hyd nes y symudais i Abercegir, lie y dechfeuwyd gwneyd Wesla o honof, ac yn y lie hefyd yr ehangwyd fy syniadau am athrawiaethau sylfaenol crefydd, na fu, ac nad oes arnaf eisiau eu newid byth. Ond chwi welwch fy mod wedi myned i Abercegir dros Frynwg, ond deuwn yn ol i ardal Penegos ar hyd ffordd arall. Cawn hyd i ben hono yn mhen uchaf y Pentref lie safai yr hen Doll-borth. Yr oedd ffordd groes, neu wtra fel ei galwem hi yn ein harwain heibio i FactoryCwmllywy, aTy'n ywern, a Careg-y-fuddau, ac yn mlaen hyd nes cyraedd yr hen wtra dywyll, cartref y bwganod ar ysbrydion fel yr oeddynt yn credu yr adeg hono. Pa wedi bynag yr oedd cyraedd ffordd y Brenin o dan am- aethdy Brynclygo, yn rhoi gollyngdod mawr i ni wedi dod allan o hen wtra y bwganod, teg yw dyweyd fod y bwganod yr adeg hono yn fwy mewn dychymyg na dim arall, ond bid y fyno ni welais i wrth ei thramwy ar ade gau trymllyd y nos ddim byd gwaeth na mi fy hun. Wedi dod yn ol fel hyn i'r hen ardal, rhaid i deulu Nantyfilldir gael rhan yn fy I adgc)fion.' Yr oedd y teulu yma 1 yn cael eu gwneyd i fynu o chwech. Yr oedd y tad yn un o'r dynion mwyaf tal a chorphol o holl ddynion plwyf Penegos, a chanddo ddigon o lais fel cantwr i foddi cynnulleid- fa. Yn wir yr oedd Edward Jones a'i deulu yn ddiharebol am eu ffyddlondeb i'r achos yn Bethesda, er fod y fford 1 "n bell. Bydd- ai raid iddynt fyned heibio Coed Rhyd-y- porthmyn,oeddyn ddiarhebol y pryd hwnw fel mangre y bwganod ac ysbrydion. Ond ni bu i neb gael ei baeddu gan y bwganod hyn mwy nag y cefais i fy maeddu gan fwganod yr hen wtra dywyll Ond yr wyf yn cofio teulu arall hefyd oedd yn dwyn mawr sel i Wesleyaeth, sef teulu Bronsell, gyda'r teulu yma yr aethum i gyntaf er- ioed i gapel Wesle. Byddai fy Nain yn wastad yn dod i alw am danaf. Ymfud- odd y teulu hyn i'r America tua'r flwyddyn J848, er nad oeddynt ond tri yn y teulu. Cafodd y WTesleyaid gryn golled am eu bod mor ffyddlon. Ond un o deulu Bronsell oedd Evan Ellis, Crydd oedd ef. Yr oedd ganddo dri o blant, ac yr oedd y ddwy ferch yn gantoresau gwych. Yr oedd Evan Ellis yn flaenor yn ystyr uchaf y gair, hyd nes y symudodd y teulu i Eglwys fach Ceredigion, ac yn ymadawiad Evan Ellis, a Phenegos. cafodd y Wesleyaid golled fawr, ond yr oedd y golled i Benegos, yn enill i Eglwys fach. Fel dyn, un tawel oedd, fel Cristion, gloew oedd, fel un pur- nodedig oedd, fel blaenor enillodd radd dda yn eu swydd uchel a phwysig. Ond dyna un arall hefyd o hen deulu Bronsell sydd yn hawlio rhan yn fy Ad- gofion." Edward Lewis y codwr canu. Meddai ef lais da i gyflawni y gorchwyl, a daliodd i wneyd tra y gallodd. Efe oedd y dyn mwyaf pur yn y rhan hon o wasan- aeth y cysegr a welais yn ystod fy mywyd. Ni ddysgai yr un don, os gwyddai mai cerddor annuwiol a'i cyfansoddodd Beth sydd i ti a fynegych a'u deddfau." ond y mae y syniadau erbyn hyn wedi newid. Ni chymerir bywyd moesol, nac anfoesol y cyfansoddwr i ystytiaeth, ond ei allu fel Cerddor. Y mae lie i ofni fod enill clod ac arian yn fwy mewn golwg, na rhoi y Mawl i Dduw sydd yn ddyledus iddo. Cyf- arwyddyd y Parch John Wesley i'w gyn- ulleidfa oedd hwn. Bydded genych olwg ar Dduw yn yr hyn oil a genwch. Sylwch yn fanwl ar feddwl ar hyn a genwch a gof- olwch rhag i'r galon gael ei chario gyda'r swn." Da iawn ynte. Ond y cwestiwn pwysig yw hwn. Aell- ir cyflwyno mawl i Dduw, a gymeraclwyir ganddo trwy fydryddiaeth a chan a gyfan- soddwyd gan feirdd a cherddorion heb eu haileni trwy ras, ac heb ddim mewn golwg ond hunan glod, ac hunan elw. Hyd y gwelaf, y mae yn rhaid i'r aberth fod yn ddianaf o dan yr oruchwyliaeth newydd, fel yr oedd dan yr hen. Ni dderbynia Duw aberth cloff. (I r h a u).
Advertising
Eurgrawn Canmlwyddiant. Mae y Gyfrol hon yn aros wrthi ei hun-yn gyfrol unique. Bob can' mlyn- edd y gall cyfrol o'r fath ymddangos. Nid oes modd ei gorbrisio yn ei Gwasanaeth Hanesydd- ol. Mae ei Darluniau yn derbyn cymeradwy- aeth gyffredinol. Ceir ynddi Gynyrchion ein Llenorion goreu. Ond yn fwy na/r oil y mae Yn Gofgolofn i Athrylith, Ymgysegriad a Llwydd- iant y Tadau Wesleyaidd. Mae llawer o'n prif gy- fei-lion yn awyddus i ni ei Rhwymo, modd y gall Rhieni gyflwyno y Gyfrol i bob un o'u Plant fel trysor o werth parhaol; Athrawon i'w Hysgolor- ion Blaenoriaid i Ael odau eu Rhestrau; a phobl glyd arnynt i rai tlodion. Mae y Pwyllgor wedi penderfynu cydsyn- io a'r cais; ond mae yn bwysig ini gael syniad pa nifer i'w Rhwymo. Erfyniwn am Archebion yn fuan. Gwneir hyn er cyfleustra i'n pobl, ac nid er mwyn elw. Pris mewn Llian, 4s. 6c Haner Rhwymiad, 5s. 6c. Archebion i'w hanfon i'r- WESLEYAN BOOKROOM, BANGOR. ? Gobaith "Y Gobal'th Crown 8vo., mewn Llian hardd, Llythyrenau Aur. Wedi ei argraffu mewn llythyren fras, ar "An- tique Paper." Pris 3s. 6c. Cyrfol o Bregethau GAN Y PARCH. HUGH JONES, D.D., Bangor. Gofyniadau y Maes Llafur am 1910-11. Pris Ceiniog yr un. Rhoddir cant am 5s., a haner cant am 3s., ond anfon Blaendal. Nis gall Dos- barthwyr, na neb arall, eu cael ond ar y telerau uchod. D.S.—O'r Bookroom yn unig y gellir cael adgyflenwad i'r tair Talaeth. Dyma i 'chi! (Gair i gall). A oes arnoch EISIAU RHYWBETH ? Lie, Gwas, Hysbysebir Morwyn, hyny ond i Clerk, 1 chwi anfon Draper, Postal Order Grocer, Chwecheiniog Baker, I A ddymunech Werthu Ty, Anifeiliaid, I- Postal Order ?? Sw!St Nw ddau Swlit Y wna hyny yn Pethau A?= hysbys. law ? J A garech sicrhau TY AR OSOD, neu OSOD TY AR RENT? Cewch gyfle rhagorol yn y GWYLIEDYDD NEWYDD am Swllt y tro i hysbysebu. Gall- wch ofyn am i'r attebion ddod yn syth i chwi neu trwy Swyddfa y G W Y LIE D Y D D NEWYDD, Aberdovey. Dywedodd masnachwr wrthym y dydd o'r blaen, Cefais golled fawr na fuasai y Gwyliedydd New- ydd" allan yn gynt. Nid oedd ffrindiau fy nhad yn gwybod am yr Auction oedd gennyf; 'nawn i byth Auction arall heb roi Adver- tisment yn y 'Gwyliedydd New- ydd': Rhaghysbysir Darlithoedd, Cyf- arfodydd Pregethu, a Chyngherdd- au, am 6 cheiniog y tro Eistedd- fodau a Bazaars, am swllt y tro. Hysbysir Genedigaeth a Phriod- asau am Chwecheiniog. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Advertisement i'r MANAGER, Gwyliedydd Newydd," Aberdovey. Programme OF EISTEDDFOD To celebrate the Csniersary of the Manchester Unity of Odd-felf,ows by the Ystrad Rhondda District, on YSTRADFECHAN FIELD, TREORCHY, TUESDAY, MAY 17th, 1910. Conductor- Alderman E. H. Davies, J.P., Pentre Adjudicators— Music-E. T. Davies, Esq., Merthyr, and J. Price, Esq., Rhymney. Poetry-Rev. J. J. Williams, Pentre Literature, &c.—W. P. Thomas, Esq., D.C. Treorchy, and D. James, Esq., Dyfynog, Treherhert. Accompanists—Prof. J. T. Jones, Treorchy, and W. J. Davies, Esq., Treorchy. MUSIC. 1. Chief Choral-To the choir of not less than 80 that will render, "We never will bow down." £ 25, and a silver cup to the Conductor, value f;4 4s. If 5 choirs will compete, a Second Prize of P.5 will be given, and a gold medal to the Conductor. 2. Children's Choir-To the choir of not less than 40 in number, nor over 16 years of age, that will best render a piece of their own selection. C5 5s., and a Baton to conductor. 3. Children's Clioir-To the choir of not less than 25 in number, nor over 12 years of age, that will best render Y dryw bach." £ 1 Is., and a Baton to the conductor. Copies to be had of Mr H. Howells, Schools, Treorchy. 4. Soprano Solo-" With vendure clad." -0 1 Is. Contralto Solo—" Within the gates of light." -01 Is. Published by Mr. S. Jones, Newport, at Is. 6d. 6. Tenor Solo-" Y Llong a'r Goleu- dy (M. O. Jones).. Is. 7. Bass Solo-" Bannerman (W. Davies). £ 1 Is. 8. Boys' Solo-" Yr hogyn drwg.' 5s., and a silver medal. 9. Girls' Solo—"Guiding Star," for girls under 16 years. 5s., and a silver medal. Published by Mr. S. Jones, Newport. 10. Duett—"Excelsior." Cl 10s. 11. Novice Solo—"What I love" (T. D. Edwards), for females that have not previously won £ 1 Is. 10s. 6d. 12. Novice Solo Lead, kindly light (Pughe Evans), for males that have not previously won.Cl Is. 10s. 6d. 13. Violin Solo-Carnival (Devince). 14. Pianoforte "Danse Valague" (Leonard Ganteer) for children under 16. 1st prize, Music value 10s. 2nd do., 5s. 15. Pianoforte-" Danse des Fakirs (Leonard Ganteer). 1st prize, value 7s. 6d. 2nd do., 3s. 6d. 14 and 15 prizes are given by the Publisher, Mr S. Jones, Newport. 16. Pianoforte—'Moorland Rambles' (Newell), for children under 13. Prize, Volume of Music, bound in cloth, gold lettering, given by the Publisher, Mi E. Donajowski, 26 Castle Street, Berners Street, London, W. LITERATURE. 1. Essay-" Odd Fellowship. £ 2 2s. 2. Poetry—Pennillion coffadwriaeth- ol i'r diweddar William Evans, C.L.D., yr hwn fu yn Ymddiriedolwr y Dos- barth am dros 18 mlynedd, ac hefyd yn Ysg. Rhosyn Rhondda a Neuadd Baglan am lawer iawn o flynyddau Manylion gan yr Ysgrifenydd. £ 2 2s. 3. Adroddiad—I rai dros 15 mlwydd oed The Women of Mumbles Head' 10s. 6c. 4. Adroddiad—I blant dan 15 mlwydd oed Saif i fyny dros dy Wlad' (Dyfed). 7s. 6c, a medal arian. 5. Adroddiad—I rai na enillasant 7s. 6c. o'r blaen, Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd.' 5s. MUSICAL SECRETARY: E. Lewis, 4, Windsor St., Pentre. GENERAL SECRETARY: W. Powell, C.S., Cemetery Lodge, Treorchy. Programme for the day will be ready later on.