Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Amodau Llwyddiant yr Eglwys.

News
Cite
Share

Amodau Llwyddiant yr Eglwys. (Gan y PARCH J. WESLEY HUGHES.) O'i barnu oddiar un safbwynt, gellir dyweyd fod yr Eglwys yn gwisgo gweddau mwy llewrychus heddyw nag erioed, a'i hymdrechion yn arddangos mwy o olion llwyddiant. Ychwanegir yn ddyddiol at rif ei hadeiladau, a cheir cystadleuaeth fywiog rhwng y gwahanol ganghenau yn- glyn a'r peth hwn. Gwelir mwy o sefyd- liadau a'u hamcan i ddyrchafu meddwl a moes yn gyssylltiol a'r Eglwys heddyw nag erioed, ac y mae ei horganyddiaeth ymhob cyssylitiad yn fwy cyflawn a chywrain heddyw nag y bu mewn unrhyw gyfnod o ddyddiau Crist. At hyn gellir dyweyd heb amheuaeth fod ei Llenyddyddiaeth yn gyf- oethoccach, a'i phwlpud yn fwy diwyllied- ig a goleu (a llefaru yn gyffredinol), a'i chendawri yn fwy ymarferol. Mae'n wir nad oes gan yr Eglwys heddyw y cewri tebyg i'r rhai a fuont yn disglaerio yn ffurfafen y mynedol, ond gall mai y ffaith fod y cyfartaledd yn llawer uwch yn awr nag a fu, sydd yncyfrif am hyn. Mentrwn ddyweyd na fu gan yr Eglwys Brotestan- aidd erioed fwy o bregethwyr galluog, dewr, hyawdl, a chydwybodol nag y sydd ganddi ar ddechreu yr Ugeinfed Ganrif. Eto i gyd, a barnu oddiar safbwynt gwahanol, nis gallwn fod yn ddall i'r ffaith nad ydyw yr Eglwys yn cynyddu mewn dylanwad, nac ychwaith yn llwyddo yn ei chenhadaeth i'r mesur y gellid dis- gwyl iddi yn wyneb ei hadnoddau a lluosogrwydd ei chyfleusterau. Ceir ar- wyddion amlwg fod dosbarth mawr o'r bobl yn anfoddlawn ar ei gwaith a'i dys- geidiaeth. Prawf o hyn ydyw prinder y dychweliadau, yr eglwysi gweigion a geir yn ein dinasoedd mawrion, phrinder gwrandawyr yr efengyl drwy y wlad yn gyffredinol; ynghyda'r ffaith fod amheu- aeth ac anystyriaeth crefyddol yn cynyddu gyda chyflymdra poenus yn y tir. Nid yn unig y mae hyn yn wirionedd am y dyrfa fawr sydd o'r tuallan i'r Eglwys, ond i raddau pell, yn yr Eglwys ei hun, fel y den- gys ei hystadegau y blynyddau diweddaf hyn. Na feddylier am foment ein bod yn cymeryd golwg ddigalon ar bethau. Yn hytrach, yr ydym yn nodi y pethau hyn er dangos ei bod yn bryd i'r Eglwys sefyll, ac ymholi yn ddifrifol ynghylchgwir AMODAU E1 LLWYDDIANT. Mae yr Eglwys i Iwyddo. Rhaid iddi lwyddo. Rhaid i'r gau roddi ffordd i'r Gwir, rhaid i'r gwan roddi ffordd i'r cryf, rhaid i'r hyn sydd dros amser roddi flordd i'r hyn sydd dragwyddol, rhaid i'r drwg roddi ffordd i'r da, rhaid i alluoedd teyrnas pechod ddiflannu o flaen byddinoedd y Deyrnas nad yw o'r byd hwn. Ni yw gor- uchafiaeth Seion Duw ar y byd ond cwest- iwn o amser.—" Canys Haw yr Arglwydd a orphwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tommen." Priodol i'r eglwys, ymlaen popeth arall, fyddai ymholi ynghylch cyflwr ei bywyd mewnol ei hun oblegyd nis gall yr un peirianwaith weithio, na manteisio i'r gradd lleiaf ar nerth yr ager, heb ei fod mewn trefn, a phob rhan ohono mewn cyf- lwr i gyd-weithio gycla'r rhanau eraill. Gellir gwybod llawer am amodau llwyddiant bywyd mewnol yr eglwys odd iwrth sylwadaeth manwl ar Nodweddion yr Eglwys yn ei chyfnodau mwy llewyrch- us. Ac ni bu erioed gyfnod mwy llew- yrchus-o ystyried yr amgylchiadau-na chyfnod Llyfr yr Actau. Un o'r desgrif- iadau cyntaf o'r Eglwys Gristionogol ydyw yr adnod gyntaf yn yr ail bennod o lyfr yr Actau,—" yr oeddynt hwy oll yn gyttun yn yr un He." Rhaid sylwi yn gyntaf mai cyfundrefn, neu gymdeithas, ydyw yr Eglwys, wedi ei sefydlu gan Grist er iach- awdwriaeth dynoliaeth, ac fod llwyddiant yn amhosibl yn ei hanes heb i aelodau y gymdeithas hon gael eu meddiannu gan ysbryd undeb, heb iddynt gael eu medd- iannu gan gydymdeimlad a'r amcan mawr a godidig hwn, a sefydlu eu hym- drechion arno. Mewn Undeb mae Nerth." Erys gwir- ionedd yr hen ddihareb yn wirionedd ym mywyd yr Eglwys Gristionogol fel ym mywyd pob sefydliad. Nis gall yr un eglwys lwydclo tra y ceir o fewn ei therfynau ysbryd ymrafaelu ym- hlith ei haelodau neu ei swyddogion, a thra yr aberthir yr amcanion cyntaf ac hanfodol i uchelgais personol. Y mae ysbryd hunanymwadol mor angenrheidiol oddimewn i'r eglwys ag ydyw fel cym- hwyster i aelodaeth ynddi. Nid lie i opiniynau hunanol a damcan- iaethau gwylltion ydyw yr Eglwys Grist- ionogol, ond lie a chyfleustra i gario allan feddyliau a chynlluniau ei Sylfaenydd Mawr er iachawdwriaeth y byd. Nid ydym oil yn darllen nac yn deall y medd- yliau hyny yn hollol yr un fath, a dengys y Testament Newydd fod Ile i wahaniaeth barn ynglyn ag athrawiaetliau yr Eglwys, ond y mae geiriau Crist i fod yn derfynol ar waith a diben bodolaeth yr Eglwys. Nid oes dim yn llesteirio mwy ar ddefn- yddioldeb eglwys na gwahaniaethau per- sonol parhaus rhwng ei haelodau, a'i swyddogion; ac nid oes yr un eglwys yn llwyddo yn debyg i'r eglwys hono lley ceir heddwch a thangnefedd yn llywodraethu ei holl waith, a symlrwydd ac unplygi'wydd amcanion yn nodweddu bywyd ei deiliaid. Byddwch yn unfryd a'ch. gilydd, heb roi eich meddwl ar uchel bethau eithr yn gydostyngedig a'r rhai isel-radd. Na fydd- wch ddoethion yn eich tyb eich hunain." Unig foddion meithriniad yr ansoddau a enwydydyw Cariad. Nis gall calon wedi ei llenwi a Chariad Duw, ffrwyth yr hwn ydyw cariad at y brodyr, wthio ei barn a'i hamcanion ei hun ar draws eiddo eraill, ar draul gwenwyno meddyliau a rhwystro praidd Crist. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'ch gilydd yn rhoddi parch yn blaenori eich gilydd." Ac mewn, neu trwy, gariad brawdol yn unig y mae hyn yn bosibl. Nodwedd amlwg arall yn mywyd yr Eglwys gyntefig ydoedd ei ffydd yn rhag- oroldeb ac effeithiolrwydd y Cynllun Dwy- 01, ac yn yr adnoddau dwyfol oedd at eu gWasanaeth i'w gario i weithrediad. Nid c-ynal pwyllgorau i ystyried cynlluniau er ano r gwaith ymlaen a wnai yr Apostol- !on, ond ymgynghori o berthynas i'r modd- ion effeithiolaf i gario i weithrediad Gyn- llun y Meistr Mawr yn fwyaf uniongyrchol a di-ynadroi. Y mae lie i ofni fod Eglwys Crist yn y dyddiau hyn yn gwastraffu Lawer o nerth ac amser mewn dyfeisio ac ystyried cynlluniau newyddion, yn hytrach 11(1 chanol-sefydlu nerth ac adnoddau ar gynllun syml ac effeithiol y Testament Newydd i arwain dynion at Groes y Meistr Mawr. Nid ydym yn anghofio fod am- gylchiadau ac amodau bywyd y byd wedi newid yn fawr er dyddiau yr Apostolion, ac fod angen am gymhwyso gwirioneddau yr Efengyl yn ol y ffaith hon. Ond yr un ydyw yr Efengyl ar hyd y canrifau, yr un ydyw cenadwri fawr y Groes, a'r un ydyw cyflwr ac angenion y ddynoliaeth, ac nis gall y gwirioneddau bendigedig am y Marw ar ben y bryn, a'r adgyfodi gogon- eddus foreu'r trydydd dydd yr esgyniad yr eiriolaeth ar Ddeheulaw y Mawr- edd yn y goruwch-leoedd, byth fyned allan o,r ffasi wn tra yr erys pechod yn elfen ym mywyd y ddynoliaeth. Gwirionedd arall a ganfyddir ym mywyd y Cristionogion cyntefig ydyw y ffaith fod eu cymeriad gerbron y byd mewn cynghan- edd perffaith a'u proffes o Enw'r Gwr oedd- ent yn Ei ddilyn a'i garu. "Darperwch bethau onest y'ngolwgpob dyn." Gofalent am ymddwyn gerbron dynion yn y fath fodd fel ag i argyhoeddi'r byd o reality yr egwyddorion oeddynt yn eu proffesu a'u pregethu. Dywedodd un pregethwr amlwg yn y pwlpudau Saesneg dro yn ol, fod anghys- ondeb crefyddol wedi cynyrchu mwy o an- ffyddwyr yn y byd, na dim gallu gwrth grefyddol y gwyddai efe am dano. Ar y llaw arall," meddai, nis gwn am ddim sydd wedi ennill mwy i garu Crist a chof- leidio Cristionogaeth, na bywyd cyson saint yr Arglwydd." Cymeriad glan, cyson a diargyhoedd yr aelodau yn ategiad i egwyddorion ein cre- fydd a wna ein heglwysi yn allu grymus yn y tir. (I barhau).

FY ADGOFION.

Advertising