Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
GWOBRWYON. Trwy garedigrwydd dau frawd sy'n dymuno llwyddiant y GWYL- IEDYDD NEWYDD rhoddir 1. Tair gwobr 10s Oc 5s 0c 2s 6c; i'r GOHEBWYR anfonant y nifer mwyaf o newyddion lleol (cryno a dyddorol) ar Postcards yn ystod y chwarter presenol. II. Tair Gwobr 10s 0c 5s Oc 2s 6c; i'r DOSBARTHWYR sicrhant y nifer mwyaf o dderbynwyr yn ol rhif yr eglwys yn y lie, i'r GWYL- IEDYDD NEWYDD yn ystod y chwar- ter. CYSTADLEUAETH POST CARDS. Rhaid iddynt fod mewn llaw bore Iau. AT y CYSTADLEUWYR, Cedwir cyfrif manwl a gofalus o'r Post Cards. Ni bydd dim mwy dyddorol na'ch cyfroddion byr a chryno chwi. I'r golofn hon y try pawb am y cyntaf yn fuan. Gwa- hoddwn y bechgyn a'r genethod i dreio eu llaw ar Post Cards i'r Gwyliedydd New ydd. Ysgrifener ar un wyneb, ac un yr wythnos a gyfrifir yn y gystadleuaeth. GOL.
Newyddion Wes-¡ leyaidd. i
Newyddion Wes- leyaidd. POSTCARIS A GOHEBIAETHAU. GLANADDA BANGOR. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.- Trefn- wyd y cyfarfod yr wythnos ddiweddaf i I fod yn adloniadol, a chafwyd un rhagorol iawn. Llanwyd y gadair gan y Parch T. Hughes, a llywyddwyd yn fedrus gan ein llywydd, Pedr Glasgwm. Yr oedd y prog- ramme yn un dyddorol a da iawn.. DINBYCH. Bu y Parch. T. Gabriel Hughes, B.A., Didsbury, yn gwasanaethu yn Mhendref y Sul diweddaf. Mwynhawyd ei weinidog- aeth yn fawr. DIRWEST A'R M. U. S. S. Cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a'r uchod yn Ysgoldy Capel Pendref nos Lun yr 21ain cyf; caf- wyd anerchiadau gan y Parch. Hugh Evans, Corwen, a'r Parch D. E. Jenkins, gweinidog y Capel Seisnig y M.C., yn Vale Street. Methodd Mr. Francis, Cloc- aenog, a bod yn bresenol oherwvdd af- iechyd ei briod, a chvmeroddJMr. Jenkins ei le ar fyr rybudd. Nodwedd neillduol y cyfarfod oedd plant y Gobeithlu, o dan ar- weiniad y Parch D. Thomas, a Miss James, yn canu amryw o ddarnau cyfaddas, ac adrodd rhannau o'r Holwyddorvdd Dir- westol." Cvfarfod rhagorol. M. D. PENRHYNDEUDRAEIH. Yr ydym ni fel Eglwys Wesleyaidd wedi ein bylchu yn fawr yn ddiweddar, rhai wedi ein gadael am y Deheudir, eraill i'r America, ac er ein bod wedi cael croesawu rhai o ffyddloniaid yr Eglwys yn 01 mae llu mawr eto yn disgwyl am i'r wawr dori, fel y bydd masnach yn y lie yn gyfryw i'w galluogi i ddychwelyd yn ol at eu teulu ac i'w gwlad. Brysied yr amser pan y gall- wn ddweyd mae yr Arglwydd sydd yn teyrnusu. MEIRIONWEN. NODION 0 LANAU CEIRIOG. URDD MEIBION DIRWEST GLYNCEIRIOG. —Mae yn yr ardal hon ganghen o'r Gym- deithas uchod. Yr unig ganghen yn Ngogledd Cymru. Cafodd yr aelodau wledd ragorol tranoeth nos Gwyl Dewi. Wedi'r wledd treuliwyd amser difyr trwy ganu ac areithio. Cymerwyd rhan gan y Parchn. J. Conway Davies, J. Ellis Jones ac eraill. Gresyn na fuasai ychwaneg o iechgyn a genethod ein hardal yn ymuno a'r Gymdeithas hon. ROBERTUS. GWRECSAM. Y GYMDEITHAS.—Ar ol tymhor llwyddianus terfynwyd cymdeithas lenyddol a duwin- yddol "Jerusalem," Victoria Road, nos Wener Mawrth 18eg. Bu y tymor hwn yn nodedig oherwydd undeb y ddwy Eglwys a'u gilycld, yr hyn a fu yn fanteisiol i gael rhaglen ddeniadol, dyddorol, ac addysg- iadol. Fe allai mae prif bethau y Rhaglen ydoedd anerchiadau a phapurau gan y. Parchn. T. Jones Humphreys, D. Meurig Jones, a W. Morris Jones (B.A.) Mr. John Willmms (B.A.) a Miss Blodwen Owen, (B.A.). Cymerodd aelodau biacnllaw y ddwy Eglwys hefyd ran neillduol yn y cyfarfodydd. Peth élull nodeclg perthynol i'r symudiad ydoedd y cyfarfod amryw- iaethol a gynhaliwyd bob mis, lie cymer- odd rhan fwyaf o'r bob, ieuanc y ddwy Eglwys ran amlwg iawn mewn cerddor- iaetli, llenyddiaeth, adroddiadau &. Fel cydrhwng pobpeth rhoddwyd pob dawn a thalent cyrhaeddadwy y ddwy Eglwys n-lewn gweithrediad yn ystod y tymhor er rnantais i'r aelodau yn gyffredinol. Ac o dan arweiniaeth doeth a medrus y Parch. R. Vaughan Owen; cawsom dymhor bendithioi a llwyddianus iawn. CYFARFOD PREGETJIU.—Nos Sadwrn a Sul, Mawrth 19eg ar 2Qeg, cawsom wasanaeth y Parch. Hugh Hughes Old Colwyn. Cawsom gyfarfod ag Eneiniad arno, pregethau grymus, a chynulliadau ] 1 LlOSOg. T 7;p Y DYWEDION 0 ARDUDWY. Ceir cydymgais frwd rhwng parti Har- lech ac Ardudwy gyda performio y ddrama Rhys Lewis." Bu y cyntaf wrthi yn Llan- bedr, Meirion, nos Fercher, a'r diweddaf yn Ysgol y Cynghor y Dyffryn, nos Fawrth, er budd achos Wesleyaidd y lie. Alaw Erddyn yn gadeirydd yn y lie olaf. Cawsant hwyl difyrwch ac adloniant yn y ddau le. Penigamp, a gwaith cun a morthwyl crefftwr cyfarwydd yw y ddau lew carreg wyliant bob ochr i fynedfa Glanffwrdd palasdy gwych Mr John Morris ar Ian yr lan yr Artro. [Gwaith llaw y Cymro ar cerflunydd medrus Mr John Morris Jones, Llanbedr ydynt. Nid oedd y ffair anifeiliaid a gynhaliwyd yn Llanbedr y Sadwrn, fywioced ar dis- gwyliad na'r prisiau mor uchel ag y buont. Eto, gwerthwyd llawer o swynogydd ac heffrod gweigion. Andwyir ffeiriau Cymru gan y Jackmona gerir yn mlaen hyd y wlad. Yr Hwntws yw'r porthmyn yrr ffeiriau ein gwlad i fyn'd. Cwrdd da odiaeth oedd un diweddaf y tymor hwn o eiddo Cymdeithas Lenyddol Undebol Ardudwy. Papurau graenus gan Mri Richard Jones, Benybryn, a R. Beriah Williams, v naill ar Coleddu ein mam- iaith," a'r llall ar Hyfforddi Plentvn." Bwriadant derfynu'r tymor gyda gwledd i'r corff. Hudol eu tine yw geiriau unsillog mewn llinellau cynghaneddol. Wele enghreifft- iau:— Mi wn pwy sydd mewn pais aur," Plum yw'r hin pie mae'r haul," Dewi Wyn es cofiwn yn iawn bia y ddwy uchod, ond y mae gan yr hen fardd Will- iam Phylip, o Hendre fechan yn Ardudwy linell debyg i'r olaf ar ol y brenin Siarl yr ail. Cwynai fel hyn ar ei ol :— Plwm yw mron pie mae mhrenin." Er iddynt ffraeo unwaith llawer 'sgwrs difyr gaed rhwng y Moelfre a'r Artro o dro i dro. I gam o gam ple'r ei di," ebai'r Moelfre, Moel dy goryn waeth i ti," medd yr Artro Tyf blew ar fy mhen i Cyn syth dy gamrau ceimion di." Byth er y ffrae yna mae y mynydd Ar afon yn ffrindiau mawr. Y BRAWD CWARTUS. YSTUMTUEN. PARCH. J. M. WILLIAMS.—Ymaflodd y brawd anwyl yn ei waith o ddifrif y Sul diweddaf er llawenydd i'r holl gylchdaith, ar ol ei salwch. CYFARFOD ADLONIADOL.-Nos Sadwrn, y 16eg cyfisol, yn Ysgol y Cyngor Sir. Y Parch. E. D. Thomas oedd i lywyddu, ond gan fod ganddo apwyntiad yn Pontrhydy- groes, etholwyd yn ei; le Mr. W. Howells, ac wedi cael yr awenau yn ei law, bu yn bur ddiymdroi wrth y gwaith. Cymerwyd rhan gan nifer fawr, rhai cyfeillion o ardal- oedd eraill yn cynorthwyo. Pawb yn falch o weled a chlywed Mr Josiah Mason, a ddaeth i'n mysg fel huddugl i botes" Gan fod argoelion da y bydd galwad am lawer o weithwyr tua dechreu mis Ebrill, hyderwn yr arhosa gyda ni, Defnyddir yr elw at ychwanegu gwobrau y plant fu mor ddiwyd yn casglu at y Genhadaeth Dram- or. Dywedir yn awr mai cyngherdd mawr- (' eddog fydd yn Ystumtuen dechreu mis Awst yn He Eisteddfod, a chyfarfod pre- gethu y Sul cyntaf o'r mis, MYXYDDWR. BETHEL, PENRHIWCEIBER. YMWELIAD Y PARCH EDWARD JONES.- Caiv- som fel eglwys ein breintio a gwasanaeth y Parch. Edward Jones Treddol. Pregeth- odd nosweithiau Mercher hyd Sadwrn, hefvQ boreu a nos Sul. Maw. 16eg hyd yr 2 Jfed. Yr oedd rhyw eneiniad aryr holl oedfaon. Prydnawn Sul cynhaliwyd Convention" o dan lvwvddiaeth Mr. Jones, mater y seiat oedd Sicrwydd Crefydd," datganodd amryw o frodyr yr eglwys eu profiad, cododd y llanw yn uchel, credwn weithiau ein bod yn nghanol diwvgiad, ond rhaid ymatal. Nos Sul datganodd dwy chwaer ieuanc o Aber- cynon yn hynod o swynol a theimladwy. Er na welsom ond un brawd yn listio or newydd dan faner y Groes, credwn y peru dylanwad y cyfarfodydd yn hir ar aelodau yr eglwys yn gyffredinol. Dyma y tro cyntaf i,r Parch. Edward Jones fod yn ein plith, a mawr hyderwn mai nid y tro olaf. FFESTTNFAB. ABERDOVEY. WESLEY GUILD.—Cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor nos Fercher, Mawrth 22ain, yn y Central Resturant, Aberdyfi, pryd y cafwyd gwledd mewn ffurf o Coffee Sitppei, wedi ei ddarparu gan H. & M. Grffiths, mewn modd canmoladwy. Eisteddodd, tua deugain wrth y byrddau. Yn dilyn y wledd cafwyd cyfarfod dan lywyddiaeth y Parch. Rhys Jones, ac anerchiadau gan amryw o'r aelodau. Yr oedd yn gyfarfod llawen ag eithrio y don o hiraeth a deimlid wrth feddwl mai dyma gynulliad olaf y Guild gyda'r Parch. Rhys Jones fel ei lywydd, a datganwyd y teimlad gan amryw yr edrychid ymlaen at y fraint hon etto. Fel y canlyn y canodd Talfardd ar derfyn y Swper. A ddewis gael gwledd'diwall—ynfuddiol Na fyddwch yn anghall 0 fewn y cylch ni fyn call Swpera mewn Shiop arall." GOH. CAERAU, MAESTEG. EIN GWYL FLYNYDDOL.—Mawrth IP, 20, a 21, y cynhaliwyd yr uchod. Y Cenhadon fu yn gwasanaethu oeddynt y Parchn. D. Tecwyn Evans, B.A., a Richard Jones, B.A. Cafwyd odfaon rhagorol yn ystod yr wyl eieni. Cafwyd prawf diamheuol o'r dwy- fol. Yr oedd y gwlith hyfryd yn disgyn ar Fynydd Duw, nes peri fod eneidiau yn llawenhau dan ei ireidcl-dra Ef. Yn wir anghofiodd rhai eu hunain yn llesmair odfa prydnawn Sabbath. Ond, nos Lun daeth y gawod drom i lawr. Yr oedd y dylanwad yn ofnadwy o nerthol. Yr Ys- bryd Glan, "Y pregethwrmawr" chwedl Tecwyn Evans, wrth ei waith. Yr oedcl llygad, os nad calon y dorf yn glymedig wrth wefusau y ddau oedd yn traethu iddr fawrion bethau Duw. Nid ydyra yn credu. yr a yr odfa ryfedd hon byth o gof. Colhvyd llawer o ddagrau chwerw a me!- us. Diolch i'r nef fod yn mhwlpud ein gwlad yn aros eto broffwydi eneinedig i'r Goruchaf. Cymered y seraff tanllyd o'r Felinheli yn arafach neu fe losga ailan yn rhy gynar o lawer. Oblegyd y mae ar yr enwad a'r Genedl eisiau ei wasanaeth yn hir hir eto. Dyddosed y Meistr Mawr iechyd a nerth ei was anwyl. Y mae yn syndod ei fod yn dal mor hoew dan y fath galedwaith. Y pregethau a'r pregethwyr sydd ar dafod llawer yn mhwll glo y Caerau y dyddiau a'r nosweithiau hyn. Cafwyd ffrwyth i'r cyfarfodydd yn nych- weliad enaid yn rhoddi ei hun i fynu i al- wad yr Efengyl, W.D. LLANFAIRCAEREINION. Y BOBL IEUAINGC.—Yn ddiau Sul i'w hir gofio fydd Sabbath y 15eg cyf., gan aelodan hen ac ieuaingc yr Eglwys Wes- leyaidd yn y lie hwn.—Sul ydoedd wedi ei benodi i dderbyn i gyflawn aelodaeth saith o bobl ieuaingc, sef pump o ferched a dau o feibion. Er's rhai wythnosau yn flaen- orol yr oedd cyfrifoldeb a phwysigrwydd y mater wedi cael ei ddwyn i ystyriaeth yr ieuengctid ac i'r amcan o geisio argraffu yn fwy dwfn ar ei meddyliau maint y cyf- rifoldeb a ymgymerwyd a phroffesu ardd- eliad llawn o fod yn ganlynwyr y Gwar- edwr pregethwyd gan ein parchus weinid- og, W.J. Jones, bregeth neillduol o amser- ol. Ynacyfranwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yn sicrnidtydys yn cofio gweld aelodau ieuaingc yn cael eu derbyn o dan fwy o arwyddion eu bod yn fyw i'r hyn oedd yn cymmeryd lie. Ac nid oedd dylanwad y moddion yn cael ei gyfyngu i'r aelodau ieueingc yn unig, gan mai tyst iolaeth gyffredinol ar ol hyny ydoedd "mai da i ni oedd bod yno." Hyderwn mae ffrwyth yr holl ymdrechion fydd gweled, mewn amser i ddod, y bobl ieuaingc hyn a'i hysgwyddau yn dyn o dan achos yr Arglwydd. Y PLANT.—Da genym allu hysbysu fod plant y Band of Hope hefyd wedi gallu profi, ni a gredwn, nad ydynt ail i unrhyw blant Band of Hope y dalaeth. Y brodyr sydd yn ystod misoedd y gaeaf, wedi ym- gymmeryd a'r gwaith o'u haddysgu ydyw y meistri E. LJ. Edwards, C. H. Humph- reys ac E. A. Evans. Prydnawn Mercher yr 16eg cyf., trwy garedigrwydd mamau a chwiorydd yr eg- lwys, rhoddwyd treat i'r plant'a deallir fod oddeutu deugain o honynt wedi cael 'te' teilwng iawn a'i bod wedi ei fwynhau yn fawr. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol yn y capel. Yr oedd y cyf- arfod yn agored i bawb. Wrth gwrs y y plant yn unig oedd yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau.—Cafwyd adroddiadau, unawdau, deuawdau, &c., a sicr na chly- wyd plant oeddynt at eu gilydd mor ieuaingc, yn gwneud eu. rhan yn well. Mae yn amlwg fod ffyddloniaid yr achos yn credu fod hyfforddi plentvn yn mhen ei ffordd yn gyfrifoldeb sydd a chanlymad au pwysig yn nglyn a hi. Gofidio yr oeddym na fuasai mwy o'r cyfeillion wedi manteisio ar y cyfle i glywed ac hefyd fwynhau cyf- arfod mor ragorol. UN OEDD YNO. LLANRHAIADR. MARWOLAETH SYDYN.—Drwg iawn ger- yrn orfod cofnodi marwolaeth Mr. Edward Williams, Henfache Mill, yr hyn a gymer- odd le yn hynod ddisymwth nos Sabboth, Mawrth 6ed, yn yr oedran o 39 mlynedd. Gadawodd afiechid v dioddefodd oddi- wrtho ryw flwyddyn yn ol ei effaith arno, ond dilynai ei oruchwylion hyd y Sadwrn cyn ei farwolaeth. Cododd y Sabboth yrr ei iechid arferol, ond ar ol ei foreufwyd dywedodd nad oedd yn teimlo yn dda ac aeth i'w wely. Teimlai yn well yn y prydnawn, ond tua naw yn yr hwyr gwel- wyd ei fod mewn cyflwr difrifol, a chyrchwyd y meddyg, ond bu farw gyda'i fod yn cyrhaedd y ty. Yr oedd y diweddar frawd yn aelod ffyddlon a defnyddiol o'n heglwys yma. Yr oedd ei wybodaeth o'r Ysgrythyr yn eang a llawn, a bu yn Athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd, hefyd, yn nodedig o ffyddlon yn ei restr, lie y teimlir colled fawr ar ei 61. Yr oedd yn datgan ei brofiad o werth crefydd yn v rhestr y nos Fawrth olaf cyn ei farwolaeth. ac efe a derfynodd y Seiat trwy weddi, a hyny mewn modd hynod o darawiadol a gafaelgar. Y nos Sabboth cyn ei farwolaeth yr oedd gyda thri eraill o Lanrhaiadryn cynal Cyfarfod Gweddio yn Moriah, lie y teimlwyd fod y nefoedd yn agos, ac fod maes gweddi yn oleu. Yr oedd yn frawd nodedig am ei ufudd-dod a'i barodrwydd i wneud pobpeth yn ei allu yn ngwinllan ei Arglwydd, a theimlir yn dra sicr mai Sudden death, sudden glory" fu yn ei. hanes ef. Daeth tyrfa lluosog iawn i weinyddu y gymwynas olaf iddo y dydd Iau canlynol. Cymerwyd y gwasanaeth wrth y ty gan y Parch. Isfryn Hughes, yn y capel gan y Parch. Isfryn Hughes, Deiniol Jones (A.), Mri. J. Lloyd Jones, a Edward Jones, ac ar lan y becld gan y Parch. Isfryn Hughes. Yr Arglwydd a fyddo yn llond ei addewidion i'w Aveddw a'i bump plentyn yn eu profedigaeth chwerw. GOI-I. LLUNDAIN. CYFARFOD CYMDEITHASOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r natur uchod yn Brynswic, Mawrth 10, dan lywyddiaeth Mr. Edward Jones, Roman Road. Un o gyfres o gyfar fodydd cyffelyb ydoedd, er rhoddi cyfleus- tra i aelodau yr eglwys gydgyfarfod Par- otowyd te gogyfer a'r ymwelwyr gan wragedd goruchwylwyr yr eglwys- Mrs W7. E. Morris a Mrs W. D. Jones. Canwyd ynddo gan Miss Fairnay,Miss Nancy Parry, Miss Gippy Jones, Mri J. B. Cowley, W. D. Jones, a D. S. Jones adroddwyd gan Mri Huw Watkin a Rhys Arthur. Hefyd caf- wyd anerchiadau gan Mr. David Owen a Mr. E. J. Evans. Yr oedd yno gynulliad rhagorol a hwyl dda. Y CYFARFOD PWYTHO.—Parha y rhain yn llewyrchus, a rhoddwyd te yr wythnos o'r blaen, yn City Road, gan Mrs Arthur Evans. CYMDEITHAS LENYDDOL BRYNSWIC. —NOS Sadwrn, Mawrth 12, bu y Parch. Ddoctor Dan Bryant (o'r Eglwys Sefydledig) yn darllen papur gerbron ein Cymdeithas ar Genedlaetholdeb Cymreig." Hyd yn ddiweddar cydmarol anhysbys oedd y boneddwr parchedig ym mhlith Cymry Llundain ond y mae ei ymdaith" ddi- weddar yn ein plith, ac yn neillduol ei bapur yn Brynswic, yn ei .arbenigoli fel cenedlaetholwr Cymreig o'r fath oreu, er ei fod yn gweinidogaethu yn un o'r plwyfi Seisnig. Cymerodd gipdrem foreuol ac eang ar ei destyn, a llwyddodd i roddi di- weddglo rhagorol i gyfres 1909—10 o gyf- arfodydd y Gymdeithas Lenyddol. Yr oedd y cynulliad yn deneu, ond, fel Cymro twymgalon, dywedodd y buasai'n bleser ganddo ddarllen ei bapur pe bai yno ond pedwar neu bump, a gwnaeth hyny mewn modd campus—yn llawn yni Cymreig —i ddwsin o honom. Gan mai yn Saesneg y darllenwyd y papur, Saesneg fu iaith y noswaith, a llwyddodd y beirniad" i ddywed cryn la wer-rhwng canmol ac adolygu -ar yr hyn osodwyd o'u blaenau. Cyflwynwyd diolchgarwch cynes i'r Doc- tor am ei bapur, a chariwyd y bleicliais gyda brwdfrydedd mawr. M. F. G. NODION 0 LANGOLLEN. Nos Fercher, Mawrth IGeg 1910 yn y Gymdeithas Lenyddol, cafwyd dadl gref a da, a llawer iavv'n o ol chwilio a chwalu am ffeithiau mewn ffigyrau ynglyn a hi, ar destyn pwysig sef, "A ddylai y Rheilffyrdd fod yn eiddo y Llywodraeth." Safodd Mr. R. A. Jones yr Is-lywydd yn selog dros y cadarnhaol, a'r un mor selog y safodd Mr. P. Lloyd Humphreys, yr Ysgrifenydd, dros y nacaol. Mae y ddau yn ffyddloniaid yn y Gymdeithas. Bu dadl frwd, a chryn dipyn o gyflymdra, ond cadwodd y Llyw- ydd y gerbydres rhag myn'd oddiar y rheiliau. Goleuwyd y Gymdeithas gryn lawer ganddynt, ond terfynodd yr oil yn heddychlon trwy i'r cadarnhaol enill o un bleidlais. Felly y Llywodraeth fydd yn rheoli y Rheilffyrdd o hyn allan. Atteg wyd y gwahanol ochrau gan amryw frod- yr, a diolchwyd yn galonog iddynt am eu trafferth. Mae tymor y Gymdeithas yn dirwyn i derfyn, dim ond un Social eto. Rhaid cael gwledd go dda yn ben i'r holl bynciau. CORRIS. MARWOLAETH.—Dymuna Mrs Evan Ed- wards, Meirion House, Corris, ddiolch yn y modd mwyaf llwyr i bawb am y cydym- deimlad gwirioneddol a ddangoswyd tuag attynt fel teulu yn y trallod sydyn o golli ei phriod, oherwydd lluosogrwydd cydym- deimlad, dymuna ddiolch i bawb trwy gyfrwng y Gwyliedydd.' Maent wedi bod yn ffynhonell cysur mawr i'r teulu oil. Dros y teulu Yr eiddoch yn bur, J. H. WILLIAMS. LLANGYBL. CYNGHOR SIR ABERTEIFI.- Y mae yn bleser mawr genyf ddweyd fod Mr. John Davies, Forest Hall.Llangybi wedi ei ethol yn aelod o'r Cynghor Sirol uchod. Y mae Mr. Davies yn ddyn rhagorol ac yn wir deilwng o'r anrhydedd. Perchir ef gan bawb a adwaenai fel dyn galluog a chyd- wybodol. Bu am 12 mlynedd yn gadeirydd Bwrdd Ysgol Llangybi, ac am fiynyddoedd yr aelod o Gynghor Plwyfol yr un lie. Ond er cael ei anrhydeddu ynglyn a safleoedd cyhoeddus anenwadol ni ddarfu hyny ei arwain i esgeuluso ei enwad ei hun a'i ddyledsyddau crefyddol. Yn wir efe sydd wedi bod am flynyddoedd yn asgwrn cefn ein hachos yn Llangybi.JY mae ForestHall wedi bod yn gartref drwy y blynvddoedd i bregethwyr Wesleyaid a holl waith y teulu ydyw eu croesawu a'ulletya. Pri.n fod eisiau dweyd fod Mr. Davies yn Rhydd- fydwr selog ac argyhoeddedig. Hyderwn fod iddo lawer o fiynyddoedd i wasanaethu yr enwad sydd mor anwyl ganddo ac i fod yn wr o gynghor yn y cylch pwysig y gal- wyd ef iddo. H. P. A. LLANDEGLA. MARWOLAETH.—Dydd Gwener diweddaf ym mynwent y Llan claddwyd gweddillion y brawd hynaws William Jones y Wernol, wedi ychydig ddyddiau o gystudd. Gwel- som yn y dorf luosog amryw Weinidogion a Phregthwyr o'r cylchdeithiau cyfagos. Nos Fercher traddodwyd pregeth angladd- ol gan y Parch-R. Garrett Roberts, Ruthin. Yr oedd Mr. Jones yn Weslead o'r iawn ryw. Bu'n ffyddlon a gweithgar i gadw achos Wesleaidd yn yr ardal. Gwyr Gweinidogion y Gair am garedigriwydd teulu'r Wernol, a theimlir chwithdod pan cofier fod mab teilwng i'r blaenor duwiol- frydig o'r Wernol wedi'n gadael. Taened y Nef ei haden gysgodol dros y weddw a'r plant bach yn y ddrycin anisgwyliadwy a chysured ei hun a phrofiad gwely angau ei phriod tyner, 0 wlad well a Christ byw." R. 1. P. SHILOH, CORRIS. Marwolaeth sydyn un o Gewri y ffydd, Mr. Evan Edwards.—Am 8 o'r gloch, boreu dydd lau, y 10fed o Fawrth, heb ddim ond pedwar diwrnod o gystudd, ehedodd yspryd y blaenor ffyddlon Mr. Evan Edwards, Meirion House, o wlad y gofidiau i wlad y gwynfyd. Gan mai ychydig yw y gofod at ein gwasanaeth nis gellir rhoddi ond ychydig ffeithiau. o'i hanes. Gan wyd ein gwrthrych yn Doly- rach, pentref 2 filltir o Machynllech, yn y flwyddyn 185(1 Yr oedd yn un o wyth o blant, 5 mab a 3 merch, Bu yn byw yn ffactri Ceinws, hyd nes y cyrhaedd- odd 12 oed, yna symudodd i Corris lie y bu yn llafurio gyda'r achos yn Shiloh ar hyd y blynyddau. Yr oedd yn un o gol- ofnau yr achos, ac yn meddu ar alluoedd cryfion. Yr oedd Evan Edwards yn ddyn anghyffredin ar lawer cyfrif. Yr oedd yn gerddor gwych a dywedir iddo wneyd llawer er gwneyd canu Shiloh yn llwydd- iant. Gallasem enwi llu o gantorion en- wog fu yn dechreu dan Evan Edwards. Yr oedd yn ddiwynydd, hanesydd, dir westwr. protestant, a gwleidyddwr. Yr oedd ef yn glir ar brif bynciau yr oes, pan y cofiwn mae Self-made man ydoedd, nis gallwn lai na synu at ei wybodaeih. Trwy hunan ddiwylliant llwyddodd i gasglu gwybodaeth eang, a rhoddodd y goleu oedd ganddo i eglwys Dduw. Yn sicr eg- lwys Dduw gafodd oreu y cristion gloew hwn. Hefyd yr oedd yn ddyn hawddgar, boneddigaidd. Nid gwylio symudiadau y gweinidog, ond ei gyfarwyddo yn wastad y byddai efe, at hyny yr oedd ganddo barch mawr i grefydd, yr oedd ganddo air da i bawb, a phawb a gair da iddo yntau. Yr oedd yn gryf dros egwyddor fel y dur. Yr oedd yn hawddach symud Cadair Idris na symu'd Evan Edwards. Bu yn Llvwydd Undeb Dirwest Eglwysi Rhyddion Corns. Yn goron ar y cwbl yr oedd' yn grefyddwr disglaer o gymeriad moesol prydferth a diamheuol, arogl peraidd oedd ei fywyd ef." Bu yn fiaenor am flynyddau, yn ath- raw ac nis gall neb fesur ei lafur yn y swydd hon. Yr oedd yn wr cadarn yn yr ysgrythyr, yn meddu yr holl gyfrol ar ei gof, ac o ganlyniad disgynai ei weddiau fel gwlith y nefoedd ar y gynulleidfa. Cafodd angladd barchus. Cafwyd 'wires' oddiwrth amrai weinidogion. Y Parch. R. W. Jones, John Humphreys, E. Isaac, hen weinidogion fu ar y tir. Cymerwyd rhan yn yr angladd gan y Parch. R. Davies (A.), Mr. James Griffiths, cyd-flaenor, Mr. W. Lewis, Pregethwr, Machynlleth, a gwnaeth y Parch. J. H. Williams, sylwad- au ar ei gymeriad yn y Seiat cynt, sef Phil. iv., ii, "Myfi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag y byddwyf i, fod yn foddlawn iddo." Siaradodd y Parch. Jacob Pritch- ard, Ty Cerrig, a gweddiodd y Parch. R. T. Owen. Yr oedd yn bresenol hefyd Mr. David Owen, Goruchwyliwr Cydchdaith City Road, Llundam, brawd Mrs. Edwards a chwaer Mr. Edwards. Mae'r unig ddwy chwaej arall yn yr America; Gadawodd wraig a ddwy ferch a pump o feibion i alaru ar ei ol, un mab wedi cael ei B.Sc., ac un arall bron gorphen graddio yn Aber- ystwyth, un arall yn Ysgolfeistr llwydd- ianus yn Llundain, a'r plant oil wedi cyr- haedd safleoodd anrhydeddus. Llafuriodd y Tad yn galed er rhoddi addysg i'r plant ac yn awr mae ei lafur wedi ei wobrwyo. Dylasem nodi mae brawd 1 Mrs. Edwards, a Mr. David Owen, Llundain, oedd yr ath- rylithgar Barchedig R. T. Owen, fu farw mor gynnar yn ei oes. Nawdd y Goruch- uchaf fyddo dros ei wraig a'r plant oil yn ei cyfyngder. Pregethodd y Parch. J. H. Williams ei bregeth angladdol y Sabboth canlynol ar Rhuf v. i. ar gais y teulu chwar- euodd Mrs. J. H. Williams, Brynawel 0 Rest in the Lord a'r Dead March." a r Sabboth, Marwolaeth y Cristion," a Wyliwn, Wyliwn" (Dr. Joseph Parry). Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn. marw yn yr Arglwydd." CAERWYS. GROGLITH A'R PASG.-Cynhaliod Wes- leyaid y dref hon eu Gwyl Blynyddol Bregethu, a gwasanaethwyd gan Parchn. Ed. Davies, Liverpool, W. Lloyd Davies, Penmachno, a J. Lloyd Hughes, Caerwys. Teimlwyd fod yr Arglwydd yn agos atom ar hyd yr wyl. GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL WESLEY- AIDD.- Tymor y Gymdeithas hon sydd wedi dod i derfyniad, er nad i'w Gwylied- ?er n?id 1'w Gwylied- ydd ddim wedi cael gwybod ond ychydig am ei symudiadau. Da genyf ddweyd ein bod wedi cael tymor lied llwyddianus ar y cyfan, gyda'r papurau gan y llywydd ar aelodau ynghyd a gwasanaeth gwerthfawr Mr. E. Price Helgain a'r Parch. E. Berwyn Roberts, Wyddgrug. GOH IEUANC. LLANSANRFFRAIDD. JOHN RHYS A'R TYWYSOG.Nid John. Rhys, Rhydychen cofier, ond ein John Rhys ni. Ar ei ffordd at waith dwr Llan- wyddyn cafodd Tywysog Cymru y fraint o adnabod John Rhys un o'n blaenoriaid ni yma. Sut y gallodd Tywysog ymostwng i dderbyn yr Henadur John Rhys Llansan- ffraidd, cigydd cyffredin,—Ymneillduwr o'r Ymneillduwyr, ac un o wyr y Werin? Dyma broblem fawr y corachod Toriaidd nid yn unig ymhlith yr Eglwyswyr ond ymhlith yr enwadau Ymneillduol. Pe bae John Rhys yn cludo synwyr mewn llogell, ac nid yn y pen, yn arfer gwisgo Silk Hat ac yn rnynychu'r Eglwys yn lie capel Wes- ley, byddai rhyw synwyr iddo gael ei in- troducio' i Dywysog ei wlad felly ond nid oes un o'r cymhwysderau hyn yn John Rhys, un o bleidwyr y bobl, ac un o wrth wynebwyr y Squire a'r person ydyw. Pa reswm sydd dros beth fel hyn ? I ble yn v byd y mae'r byd yn mynd ? Bydded hys"- bys i holl Doriaid Cymru nad yw y byd fymryn gwaeth,—fod" Mr. Rhys un o flaen- oriaid yr achos yn Llansanffraidd yn un o'r rhai cyntaf i'r Seiat nos dranoeth—nos Iau. Faint bynag gwell ydi o o siglo Haw a'r Tywysog a ydi o fymryn gwaeth beth bynag. Llefared y frawddeg hon—" dydy o ddim gwaeth drosto ei hun yng nghal- onau un o'r edrychwyr dydd Mercher di- weddaf. Chware teg i'r Prince," ebe un hen wr sydd yn derbyn ei bensiwn bob wythnos—"chware teg i'r Prince, fe welodd hen wr dros 1 ddeg a thri ugain oed fel ft," dyma be dw i yn ei alw yn fawredd. Rown i yn erbyn y Royal Family, ebe un arall, hyd nes 1 mi weld y Prince, roedd o'n edrych yn un a'i lond o o ddyn." Ac mi gwelsoch o medd- wn ? "I weld o do, ac mi welodd yn- tau finnau." Rhyfedd wedi'r cwbl y gyf- aredd sydd gan bobl gwir fawr ynte ANERCHIAD MR. REES.—" Bvdded fodd- lawn gan eich Mawrhydi Bremnol ganiat au imi yn ostyngedig gynyg i chwi ar ran y plwyfolion groesaw mwyaf unol a chal- onog i bentref henafol Llansantffraidd, a'r diolchgarwch cywiraf am i chwi yn raslawn gytuno i dderbyn cadeirydd y Cynghor Plwyfol ar eich taith trwy'r pen- tref i Lyn y Fyrnwy. Yr ym yn ddifrifol ddymuno y ca eich Mawrhydi Breninol ei arbed i gael bywyd hir a dedwydd, sicr- hawn i chwi nad oes trwy holl dir- iogaethau ei Fawrhydi Brenliin Edward VII. bobl fwy teyrngarol nac a geir ym mhlith y Genedl Gymreig." Yn garedig rhoddodd Mr. David Davies, M.P., Llandinam fenthyg ei motor 1 Mr. Rees fel ag i'w alluogi i dderbyn gwa- hoddiad Arglwydd F3,er Liverpool a mynd i Llanwddyn. Nid pobl dlodion mo holl Ryddfrydwyr Sir Drefaldwyn fel y mynir ein dysgu weithiau. Na mae yma fel ym mharthau eraill o'r wlad rai mawrion mewn clysg, gallu a chyfoeth. Un o'r cyfryw yw Mr. Davies, Llandinam. Heddyw dydd Gwener, etbohvyd ML Rees yn henadur Cynghor y Sir. Dyma'r ail waith i'r Cyngor ei ethol, ac y mae hyn yn llefaru drosto ei hun i farn y Cynghor o werth a theilyngdod Mr. Rees ar y cyng- hor. G WERIN WR. BLAENAU FFESTINIOG. Cafwyd Seiat Unedig o Eglwysi Ebell- ezer, Tanygrisiau, Soar, a Disgwylfa yn Ebenezer nos Fercher. Yr oedd yno le da, profiadau melus rhai mewn tir uchel yn peri llawenydd ac yn ail-enyn dawn Duw yn righalonnau y rhai oedd yno. Gwyn- fyd na fuasai modd cael credinwyr yn gyffredinol i'r un tir. Profi gryfil gras yn unig dry yn adfywiad i'r Eglwys ac yn iachawdwriaeth i'r byd. Gwledda yr oedd y Saint yn Ebenezer yn y Seiat hon. Druan o'r bobl sy'n byw ar bleserau gwag y byd.