Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I

Y BLAENOR A'I WAITH.

News
Cite
Share

Y BLAENOR A'I WAITH. (GAN Y PARCH. R. W. JONES). Eddyf y di-ragfarn, gan nad beth am ein diffygion fel Cyfundeb fod genym ein rhagoriaethau amlwg a gwirioneddol. Ar pennaf o'r rhai'n ydyw yr ymgais deg a wneir i dorri gwaith ar gyfer pob aelod yn ein heglwysi. Meiddiwn ddweud, mewn ysbryd hollol ddi ymffrost, nad ydys yn ail i unrhyw gorff crefyddol, yn y wlad yn y mater hwn. Gwir fod gen- ym, ysywaeth, lawer gormod o rai diofal a diwaith ymysg ein haelodau, eithr nid prinder cyfleusterau i weithio sy'n cyfrif am hyny. Ni cheuir hyd yn oed y pulpud yn erbyn unrhyw aelod fo'n meddu'x cymwysderau angenrheidiol i wasanaethu ei Eglwys a'i Feistr. Gweddus wrth grws ydyw gwylio fanyl- ed ag y gellir rhag ymwthio o'r anghym- wys i bwysiced cyleh o wasanaeth, ac arwydd dda odiaeth ydyw yr awydd i 'goch uchod ag sydd bosibl safon myned- iad i mewn i rengoedd y gweithwyr par- chus hyn. Cyfrifir fod genym rai cann- oedd yn gwasanaethu'r Meistr'yn y cylch anrhydeddus dan sylw. Ac yn ddios o' i cymwysach fel cyfargorff ni fedd ein Cyfundeb, ddosbarth cymwysach at y gwaith a ymddiriedir iddynt, a phar- ottach i aberthu i'r amcan o'i gyflawni yn effeithiol na'r pregethwyr cynorth- wyol. Teg ydyw cydnabocl hyn. Dilys yw, eu bod ar gyfrif eu hymroddiad diball a/u hunanaberth nas gwyr neb ei faint ond y Meistr ei Hun, yn llwvr deilyngu y parch diledryw a delir idd- ynt gan oreuon ein Heglwys. Dosbarth arall o weithwyr 11a wn gan bwysiced ac anrhydeddus ar preg ethwyr cynorthwyol ydyw y blaenor- iaid. Amhosibl mesur gwerth y gwas- anaeth a gaed yn y gorffenol, ac a geir yn y presenol trwy offeryiioliaeth y corff lliosog hwn o weithwyr. Coeliwn I nad anfuddiol fydd ychydig o sylwadau ynghylch yr urddas a'r cyfrifoldeb a bertliyn i'r swydd, a'r cymwysderau angenrheidiol i'w llenwi yn effeithiol a llwyddianus. Perthyn i'r swydd hon, urddas ar- benig. Mae'n amheus genym, a ydys fel Enwad yn mawrhau'r saile megisa g y dylem. Myna rhai fod hyn i'w olrain i'r faith nad etholir y blaenor gan yr Eglwys. Dadleuir yr ychwanedig yn ddirfawr at yr anrhydedd, pe bae'r pen- nodiad yn nwylaw yr aelodau yn gyff- redinol- Credwn yn onest nad oes nemor o sail i'r dadl hon. Mae genym feddwl hollol rydd a diragfarn ar y mater. Pe'r argyhoeddid ni mai man- tais fuasai mabwysiadu'r dull hwn, ni phetrusem ei bleidio. Eithr ein profiad niydyw y dewisir fel rheol y cymwysaf yn ein heglwysi, ac nas gallai'r aelodau euhunain ethol neb cymrysach. Mae'n wiw genym dweud nas gwyddom am gymaint ag un engran' o apwyritiad blaenor i'r swydd yn groes i farn a theimladau,r mwyafrif o'r aelodau. Os ydys fel enwad yn brin o fawrhau y swydd clan sylw, barnwn yn sicr nad yr achos o hynny ydyw dull y pennodiad. Coeliwn nad ein gwendid pennaf ydyw y ffordd a feddwn. i godi blaenor, eithr moddau eyff reclin O'i gyflwyno i'w swydd. Diameu genym fod arnom fawr angen diwygiad yn y cyfeiriad hwn. Bvcldai hyny yn rhwym o ddyrchafu ein syn- iadau ynghylch y swydd o flaenor. Amhriodol i'r eithaf ydyw caniatau i'r blaenor newydd lithro ynddisylw i'r swydd. Dylid ei gyflwyno gyda phob dwysder a difrifwch posibl. Pam nad ellir neilltuo seiat arbennig i'r unig bwr- pas o sefydlu blaenor yn ei swydd ? Gosodir pwys mawr—ac nid heb res- wm-ar ordeiniad gweinidog i gyflawn waith y weinidogaeth. Hysbys i bawb fu mewn Cymanfa ar achlysur o'r fath y dwysder ar difrifweh a berthyn i'r Wasanaeth bwysig honno. Bendithiol yn ddiau, fuasai gwasanaeth o'r un natur, pan fo angen apwyntio a chyf- lwyno blaenor newydd i'w swydd. Hynny yw seiat ag y bydd yr holl ymdrafodaeth yn tueddu at argraffu yn ddwfn ar feddwl pob aelod yn ogystal ar blaenor ei hun bwysigrwydd y gwaith y gelwir arno i'w gyflaWni. At hynny, buddiol fa'i trefnu fod mwy o fri yn cael ei osod ar dderbyniad y blaenor neWydd i mewn i'r Cyfarfod Chwarterol Anfoddhaol dros ben y dull sV/ta sydd mewn arferiad yn bresenol en wi a chroesawu y newyddion yn y swydd, os digwydd iddo fod yn y Cyfarfocl- dynnu'r oil. Carem wel'd y Cvfundeb! yn deddfu ar fod i bob un a godir i'r sWydd yn presenpli ei hun yn y Cyfar-1 fod Chwarterol, i fynd drwy fath o ar- holiad, nid yn gymmaint er mwyn mesur ei wybodaeth ar gwestiynau ath- rawiaethol, eithr i'r amcan o roddi cyfle iddo amlygu ei vvyboclaeth brofiadol o Grist, a'r drefn o achub a santeiddio; dynion ac hefyd i dderbyn stars bwr- pasol i'r amgylchiad gan yr ArolygWr. Diben yr oil, fyddai mawrhau'r sWydd. a gogoneddu Crist, Pen yr Eglwys. GWaeth nac oler f'ai trefniant o'r fath pe ymollyngid i ddweud rhywbeth a phobeth. Na, rhaid ymogelyd rhag popeth digwyddiadol a difyfyr ynghlyn ar wasanaeth dan sylw. Nid oes arnom; eisiau rhyw fath o drefniant," ond dadleuwn dros sefydlu yn ein plith drefniant fydd yn gynorthwy i argraffu j ar feddwl y blaenor a phawb arall, mai "nid Ilenwi bwlch" yn unig ydyweij benodiad. Dylai pob un a apwyntir sylweddoli fod y sWydd y gelwir hwy | iddi, yn hanfodol fawr a phwysig.! Mantais i argraffu hyn ar eu meddyliau fydd eu cyfarwyddo a'u dysgu yn gy- -L dvsgu -vii gy hoeddus o barthed i'r cymeriad moesol a'r arferion Ysbrydol sy'n anhebgorol i ymgymeryd ar ymddiriedaeth a osodir arnynt, ac i roddi cyfleustra iddynt hwythau yn y modd dwysaf a difrifolaf i gysegru eu hunain i'r swydc1 gerbroll DuW a dynion. Nid defod diystyr ydyw; hyn, eithr cydnabyddiaeth gyhoeddus o fawredd ac urddasolrwydd swyddogaeth y blaenor. Barnwn yn sicr y byddai i drefniant o'r fath a nodwyd, ddylan- wadu yn ffafriol a bendithiol ar yr Eg- hvys, y blaenor eihun, a'r aelodau, heb- law rhoddi. i'r swydd ei safle dyladwy, a'r anrhydedd a berthyn iddi. Ofnwn ein bod wecli ymdroi yn ormodol gyda'r. agwedd hon i'r pwnc. Ond coelier ni, taw eiddigeddus yr ydys dros anrhyd- edd y bwysicaf yn ein barn ni o holl swyddi yr eglwys. Bydd genym air y tro nesaf gyda chaniatad y Golygwyr ar gyfrifoldeb y blaenor. Gadawodd Mr. William Jones, Birken- head, £ ^000 i sefydlu Ysgoloriaeth mewn Hanes i Brifysgol Lerpwl. Hefyd [1000 at Gapel M.C., Parkfield, Birkenhead, a [GOO at Drysorfa Gweinidogaeth 'y Capel. Gormod Cyfoeth.—Mewn anerchiad o'i eiddo yn Los Angeles dydd lau. dvwedodd y Miliwnvdd Mr. Carnegie y dvlai pawb berchenogai dros filiwn o ddoleri adael haner ei gvfoeth i'r Vvdadwriaeth. Gallesid meddai yn y ffordd hon osgoi codi Incwm Tax. Hefyd dywedodd y dylai pob un mewn gwaith gael dod yn bartner yn y gwaith os dewisai. Dyma athrawiaeth iach. Pe delai pob miliwnydd a phob perchen gwaith i'w choledd byddai Sosiat- aeih o'r iawnryw mewn ymarferiad. Y mae Ffrainc i gael Pensiwn i'w Hen Bobl, yr hwn a roddir pan gyrhaeddir 05. Syrthiodd dyn (Llundeiniwr) o'r enw Robertson wrth ddringo ger Cegin y Gwr Drwg, Nant Ffrancon dydd Gwener. Ofnir am dano. Yn oIyniaeti1 Samson. T\Iewn gwesty, nosweithiau yn oj, yr cedd bachgen ieuanc, heb fod yn llawn mor ddoeth a Solomon, yn bwyta caws Caer, llawn o greaduriaid by w. "Yn awr," meddai, yr wyf wedi gwneyd cymaint gorchest a Samson, o l'i e r- d d yr wyf wedi lladd fy miloedd. a'm degau o ftloedd." Do," meddai un o'r cwmni, a c,i-cial., un erfyn hefvd, asgwn gen asyn." Archdiacon Newydd. Y mae Esgob Llanelwy wedi penodi'r Parch. Thos. Lloyd, B.A., ficer Rhj-I, yn archddeon Llan Elwy, yn lie y diweddar Archddiacon Evans. Yfodd yr archddeon ei ddysg yn Ysgol Ystrad Meurig a Choleg Llanbedr. Curadodd yn Ninbych bu'n rheithor Bala a Deon Gwledig Penllyn bu bum mlynedd yn Aber Gele, ac yn 11*00 y'i gwnaed yn ficer RhyL

Advertising

ADOLYGIAD Y WINLLAN. I

I YR ARGYFWNG.