Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I

Y BLAENOR A'I WAITH.

Advertising

ADOLYGIAD Y WINLLAN. I

I YR ARGYFWNG.

News
Cite
Share

angen am dani. Mae tine hiraeth am dani yn llais Austen Chamber- lain fe wel ynawr y dryblith arianol y mae'r wladwedi ei harwain iddi. Ni choeliai y rhybuddion a gafodd, ni choel- iai fod llew yn gallu brathu hyd nes rhoi ei ben yn ei safn, ond wedi ei roi carai ei dynnu oddiyno, ond nid yw y llew Rhyddfrydol mewn tymer i'w arbed ef.; Oes, mae gan Austen a'i gyfeill ion eisieu y Gyllideb ond er iddo fel Esau, a dagrau ei thaergeisio, ni cha efe mohoni hyd nes i ni dado yr Arglwyddi. Mae'r Weinyddiaeth wedi symud yn gall iawn yn hyn, darpar ym mlaen llaw, am chwech wythnos yn unig buasai yn dda gan y blaid wrthwynebol gael y Gyllideb, er diogelu cyllid iddynt hwy, gan y disgwylient etholiad; buasai y Gyllideb yn diogelu gwely plu iddynt orphwyso arno; ond rhaid iddynt dderbyn y taliadau yn ddog- nau. Ie, yn sicr, cyfnod cymysglyd ansicr yw hwn, ond o'r ochr arall y mae yn 11awn arwyddion dyddiau gwell. Buom am flynyddau heb deimlo y sefyllfa, heb sylweddoli angen y wlad, ac felly heb deimlo gormes a thraha yr arglwyddi; ond mae'r wlad heddyw o gwsg difraw yn deffro; mae swynhudol deitl- au a mentyll ar y gorlwm gwyn yn colli eu dylanwad, fe ofyn y wlad pa fath ben sydd o dan y coronau, a pha fath galonau sydd o dan y mentyll; ydyw, mae teitlau ac achau yn argoeli mynd, maent yn isel eu pris y mae yma yspryd dynol, iach, cryf, hoew, yn deffro ym mynwes y werin ac ym mlaen yr a er gwaetha pob peth nes gorchfygu yr olion olaf o draha ffeudelaidd. Cyfiawnder a lwydda.