Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Newyddion Wes-¡ leyaidd. i

NODIADAU CYFUNDEBOL. I

-LLYTHYR LLUNDAIN.I

LLITH O'R AMERICA. -

--I Teilyga'r Gweithiwr ei…

I Y -BYD A'I BETHAU.

News
Cite
Share

I Y BYD A'I BETHAU. Chwarelwyr ac Yswiriaeth. Yn Nhy'r Cyffredin, dydd Iau, gofynodd Mr Ellis Davies i Lywydd Bwrdd Masnach a dder- byniodd gais oddiwrth Undeb y Chwarel- wyr, Caernarfon, i gynnwys chwarelwyr llechi yn narpariaeth y mesur cynnygiedig at orfodi yswiriaeth rhag diffvg gwaith ac yn ngwyneb y ffaith fod y fasnach lechi yn dibynu ar gyfnewidiadau y fasnach adeil- adu, a wnaethai roddi ystyriaeth ffafriol i'r awgrymiad ? Mr Buxton Ni dderbyniais i unrhyw benderfyniad o'r natur y cyfeiriwyd ato. John Rowland.—Y mae Mr John Row- land, ysgrifenydd Canghellydd y Trysor- lys, wedi cael ei ddewis gyda plileidais un- frydol a brwdfrydig yn aelod o Bwyllgor Addysg Ceredigion—ei hen sir enedigol. Ffeiriau Llafur.Er nad oes ond pum' wythnos a hanner er pan agonvyd y Ffair Lafur gyntaf yn Mhrydain y mae'r sefyd- liad eisoes wedi bod yn fendith i filoedd o weithwyr yn yr ardaloedd gweithfaol pob- log. Yn y Senedd ddydd Gwener hysbys- odd Mr Buxton, Llywydd newydd Bwrdd Masnach, fod cant o ffeiriau yn agored er- byn hyn a bod 104,000 o enwau ar restr y diwaith. Yn ystod y pum' wythnos diw- eddaf hysbyswyd fod 32,500 o weitlroyr yn eisiau a bod 19,907 wedi eu cyfiogi. Gof- elir rhag cymeradwyo gweithwyr anghym- wys, ac yn ddiameu hyn sydd yn cyfrif'am anallu y Ffeiriau i lenwi pob un o'r 32,500 lleoedd gweigion. Er hyny y mae cael gwaith i 19,907 o weithwyr mewn pum' wythnos o amser yn glod i'r symudiad can- moladwy hwn ac i'r Weinyddiaeth a'i sef- ydlodd. "Y Ddraig Goch." Yr Anrhydeddus Mrs Bulkeley-Owen a'r Anrhydeddus Mrs Herbert, Llanofer, ydyw llywyddion Un. deb y Ddraig Goch, ac un o brif amcanion y Gymdeithas ydyw perswadio boneddig- ion Cymru 1 arfer yr iaith. Yn hyn v mae Herbertiaid Llanofer bob amser wedi rhoddi esiampl dda, er mai yn Sir Fynwy y mae'r teulu'n byw. Y mae'r Cadfridog Syr Ivor Herbert yn Gymro rhagorol, a medr wneyd araeth Gymraeg cystal ag un Saesneg. Stiniog a Ffair Llafur.—Yn Ngh3 ngor Sir Meirion, ar gynnygiad Mr H. Haydn Jones A.S., pasiwyd i wneyd cais am i un o'r sefydliadau hyn gael ei agor yn y sir. Dy- wedai am Ffestiniog fod mawr angen yno am un, llawer yn methu cael gwaith. Pasiwyd, a diolchwyd i Mr Jones am ei ymdrech gyda hyn eisoes yn Llundain. Cais am Gymraeg.— Fe welir fod Mr R. C. Anwyl,Lligwy, wedi perswadio Cynghor Sir Meirion fod medru Cymraeg yn beth angenrheidiol i swyddog Bwrdd Amaeth- yddiaeth yn Nghymru. Y mae Mr Anwyl bob amser yn gweithredu yn ol ei gredo. Pan ddaeth i fyw i Feirion, rai blynydd- oedd yn ol bellach, ni fedrai Gymraeg. Gwnaed ef yn ustus heddwch, ond gwrth- ododd eistedd ar y fainc nes dysgu C-, m- raeg, gan na thybiai ei fod yn gymhwys i weinyddu cyfiawnder mewn gwlad heb fedru ei hiaith. Gresyn na buasai rhagor o rai tebyg iddo. Asquith o ddifrif! -Bu y Prif Weinidog yn siarad mewn cynhadledd Rhyddfrydol yn Rhydychain nos Wener, a dywedodd nad oedd gan y Rhyddfrydwyr wrthwyn- ebiad i Ail Dy, na fyddai yn gwbl bartiol. Ni chredai ef mewn unrhyw ymgais i wyn- galchu, ond credai y dylai yr Ail Dy gael ei ail-adeiladu ar sylfeini gwerinol. Rhaid oedd i veto llwyr yr Arglwyddi ddiflanu, ond gwrthodai ateb y cwestiwn a pha un yr ymosodid arno beth fwriadai wneyd ar ol anfon y penderfyniad o Dy'r Cyffredin i Dy'r Arglwyddi. Darostyngid pob peth er cyrhaedd yr amcan a grybwyllwyd. Addef- ai yn onest y dymunasai fod ganddo ych- waneg o fwyafrif, ond yr oedd y nerthoedd ereill yn y Senedd yn cydweled a'r Rhydd- fiydwyr yn eu prif amcanion, a buasent yn eu cynorthwyo. Yr oedd y Llywodraeth o ddifrif, ac felly y Rhvddfrydwyr trwy y wlad, ac apeliai .at y rhai hyn i fagu hyder yn mhenderfyniad eu harweinwyr i glirio ymaith y rhwystrau oedd ar ffordd nid y Weinyddiaeth yn unig, ond ffawd y blaid, dyfodol llywodraeth boblogaidd a diAAyg- iad gwerinol. Silyn alr tlawd.-Yn Bl. Festiniog, yn y festri flynyddol, nos Sadwrn, bu y Parch. Silyn Roberts yn beirniadu yn llym waith Gwarcheidwaid Undeb Festiniog yn symud hen wraig 80 mlwydd oed i'r tlotty. Yr oedd yn gywilydd i Undebau Tlodion y wlad uno a'u gilydd i wrthwynebu y gwell- iantau a gynnygid gan y Ddirprwyaetk fu yn cynnal ymchwiliad i'r mater. Beth flinailr Canghellydd? Bu llawer o ddyfalu yn nghylch ystyr neuritis, afiechyd Mr. Lloyd George. Math o neuralgia poen- us ydyw. Ymosododd ar fraich ac ysg- wydd dde y Canghellor, dioddefa gryn boen. Fel rheol effaith gorlafur a dirywiad iechyd ydyw. Tybir y gwna yclij-dig ddyddiau o orpliwvs ddirfawr les i'r Cang hellor. Lie mae'r Wesla?—Yn nglyn ag Ys- byttai Lerpwl, wrele rai ffeithiau allan o adroddiad y Pwyllgor Cymreig am 1909. Gwelwyd yn yr ysbyttai, gan y Parch. John Evans, gleifion o'r siroedd canlvnol Sir Fon. 46 Sir Gaernarfon, 133 Sir Ddin- bych, 95 Fflint, 36 Meirionydd, 60 Tref- laldwyn, 15. Cyfan 385. Nid yw y rhai hyn ond y cleifion ddigwyddasant fod i fewn pan wnawd yr ymweliadau. Cyfranwyd at yr ysbyttai, gan enwadau ac ereill o Ogledd Cymru, rhai trwy y rnvy- llgor, ereill yn uniongyrchol fel yea,nlyn JNIethodistiaid Calfinaidd, 260p 12s 7c An- nibynwyr, 104p 10s 3c; Bedyddwyr, 19p IGs C, c; TVesleyaid, Sp 4s (id Eglwys Loegr, 8p 2s; Eglwysi Rhyddion, 5p 2s; Byrddau Gwarcheidwaid, etcl7p 17s chwareli, etc., 1 lop 10s 2c cyfan, 349p 16c. Wele hefyd gasgliad yr enwadau Cym- reig yn Lerpwl Methodistiaid Calfinaidd, 241p 10s 5c Annibynwyr 2Gp 3s Wesley- aid, 18p 4s 7c; Bedyddwyr, 9p 7s 4c Eglwys Loegr, JOp 9s 10c Eglwys Rydd y Cymry, 6p 15:0 1c cyfan, 312p 10s 3c.

! Y Ddiwinyddiaeth Newydd.