Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Newyddion Wes-¡ leyaidd. i

NODIADAU CYFUNDEBOL. I

-LLYTHYR LLUNDAIN.I

LLITH O'R AMERICA. -

News
Cite
Share

LLITH O'R AMERICA. Mri. Golygwyr,— Gwelaf fod pythefnos wedi pasio er pan ysgrifenais fy llith ddiweddaf, a'r rheswm am hyny yw, i mi fod dipyn yn brysur, ond yn yr adeg yna. derbyniais o'r Hen Wlad dri Gwyliadydd Newydd, y rhifynau, 3ydd, 4ydd, a'r 5ed, ac y mae yn anhawdd i chwi gredu y llawenydd a barasant i mi, yn un peth am mai ychydig o bapuron Cymreig wyf yn ei gael er's saith mis heblaw y Drych. Hefydcefais lawenycld mawr wrth ddarllen fod Gymru wedi dod o'r ornest fawr wleidyddol 1910 yn ardderchog. Perh arall' barodd lawenydd mawr i mi oedd, fod y Gwyliedydd Newydd yn cym- eryd ei le gyda phapyrau rhyddfrydig Cymru nad oes modd ei well. Bwriadwn ai y cychwyn rhoi pethau i lawr yn olynol fel yr oeddynt wedi dig- wydd yn fy hanes, ond yn awr, yr wyf am newid fy nghwrs rhof hanes fy nhaith yr wythnos ddiweddaf i'r Cyfarfod Dosbarth. Yr un yw y cyfarfod hwu yn yr America ar Cyfarfod Misol yn Nghymru. Wedi cael gwahoddiad i fyned i'r Cyfarfod Dos- barth, Chwefror 22, hwyliais fy hun am y Depot, i fyned gyda'r Tren oedd yn gadael Garvin am un o'r gloch, ac yn ddyledusyn Gudson am 4-30, pellder o 84 o filldiroedd, ond oherwydd ei bod yn ddiwrnod o storm, a'r ffyrdd wedi eu cau ag eira, yr oedd y Tren yn Garvin ddwy awr ar ol ei amser. Beth bynag wedi iddo adae1 y lie, a minau ynghyd a chyfaill yn cael ein cludo yn gyfforddus ganddo, daethom yn ddiogel a diatal hyd Station Sleepy Eye. Cafodd y llejrwn yr enw oddiwrth Indiad oedd lawer o flynyddoedd yn ol yn byw yn y gymydogaeth. Cafodd hwnw yr enw Sleepy Eye ar gyfrif ei fod yn ddyn tawel, a'i symudiadau yn arafaidd, a'i lygaid yn mhell o fod yn fywiog. Wedi i ni gyrhaedi i'r lie hwn, gorfu i ni aros yma ddwy awr a haner am fod Freight Train (Train Nwyddau) yn dod i'n cyfarfod o New Ulm Station, ac yn methu ymwthio trwy yr eira oedd ar y ffordd rhwng y ddwy Station, ac wedi i ni aros yma, yn Sleepy Eye am ddwy awr a haner, nes yr oedd yn tynu ar ddeg o'r gloch y nos, yr oedd hi wedi myned yn Sleepy Eye cyffredinol yn y cerbyd yr oeddwn i ynddo, yr hwn gan ei fod yn gynes, oedd yn dra manteisiol i gael cyntun hapus. Beth bynag wedi gadael y lie hwn cyr- haeddasom ben y daith ychydig cyn 11 o'r gloch, lie yr oedd gwr caredig wedi dis- gwyl oriau am danom wedi esgyn i'w gerbyd, ffwrdd a ni nerth traed ceffyl, trwy yr eira ac i fyny yr allt, ac o fewn chwar- ter milldir i ben yr allt cawsom dy cynes, swper a gwely, a chroesaw America gan deulu Cymreig. Boreu dranoeth wedi cael boreufwyd, yr oedd eisiau teithio saith milldir am y capel lie yr oedd y cyfarfod, ac nid peth bach oedd hyny, er fod y storm wedi tawelu, yr oedd y ffyrdd wedi eu cau gan eira, a'r gwresfesurvdd, neu yn hytrach yn oerfesurydd yn 25 islaw godd- im. Aeth fy nghyfaill i gyfarfod y boreu —pwyllgor i drin amgylchladau allanol yr achos ac aethum inau i gyfarfod y pryd- nhawn-Seiet fawr. Y mater oedd dweyd am werth y Society a'r modd o'i chadw. Dywedwyd pethau da iawn, Oedfa'r nos ynghyd a thair oedfa dranoeth i'w treulio yn y gwaith o bregethu. Cafwyd pregeth- au da, apeliadol, ac arddeliad ar y gwir- ioneddau dwyfol; a chanu, y goreu a glywais yn yr America, yn y canu, yr oedd- wn bron yn amheu mae yn ngwlad yr eira ar gyfandir America yr oeddwn, ac yn ben ar y cwbl, cafodd ysgriblwr hyn o linellau gymaint croesaw gan y gweinidogion a phawb, fel na raid i Gymro ar ymweliad a'r America gwyno onibai fod ei groesaw yn llawer llai nag a ddaeth i'm rhan i, er nad oeddwn yn un o'r defaid chwaith. Nid oes genyf ond y da i'w ddweyd am Fethodistiaid America. Dylaswn ddweyd fod y cynyJliadau yn tbob peth ellid ei ddisgwyl, y capel yn orlawn, a hyny mewn gwlad lie yr oedd Ilawer wedi teithio ped- air, pump, a chwech o filldiroedd. Dylwn hefyd ddweyd er mwyn y Cymro sydd yn ddieithr i arferion yr Americaniaid, fod y capeli oil yn cael eu twymo, naill a'i gan ffwrnes odditan y capel, neu yntau gan ddwy stove yn y capel, a gwaith cyntaf pawb wedi dod i fewn ydyw diosg y wisg uchaf, ac yn ami ddwy, a'r gwaith cyntaf ar derfyn yr oedfa ydyw gwisgo i gyfarfod gerwinder yr hin; a dyna dyrfa, bron yr oil o'r dynion mewn crwyn anifeiliaid, crwyn pob math o anifeiliaid, dohon a gwylltion, ac er fod y merched yn eu gwisg uchaf yn edrych yn fwy hynaws na'r meibion, eto os yw eu gwisg hwy oddiallan yn frethin, y mae oddifewn yn grwyn defaid, wenciod, a wiwerod; y gwir am dani nid yw yn ddiogel myned allan pan y bydd hi yn 20 neu 30 islaw Zero heb fod genych groen rhyw anifail rhyngoch a min yr awel, ac nid oes neb yn America yn meddwl mynd allan yn y gaeaf heb ddau bar o esgidiau. Wedi dod o'r Capel, dyna olygfa ddieithr yn Nghymru. Dywedaf ar amcan am y cyfarfod wyf yn cyfeirio ato yn awr, fod yno 70 o gerbydau i gario yr addolwyr yno ac adref rhai cerbydau yn gutter i gario dau neu bedwar, ond y rhan fwyaf yn sledi lie y bydd 9 a 10 yn eistedd yn fflat ar ei gwaelod. Pethau diaddurn iawn yw y sledi hyn, yn cael eu tynu gan ddau geffyl, ac ar hyd yr wythnos yn ddefnyddiol i fynd ag yd i'r farchnad, a'r llaetn i'r ffactri fenyn, ond ar y Sabbath i fynd ar teulu i'r addoliad. Cyn gadael hanes y cyfarfod, dylwn ddweyd mai y trefnydd oedd y Parch. David Edwards, Lake Crystal—dyn nad yw yn gwneyd ymdrech o gwbl i ddangos ei hun, nac i enill cymeradwyaeth, eto y mae yn rhudd- in i gyd'trwyddo, a pha fwyaf y byddwch chwi ei gymdeithas, mwyaf y byddwch yn meddwl o hono, ac y mae ei gysylltiadau a Chymru i fesur yn ddyddorol i mi, gan ei fod yn frawd i wraig y Parch T. C. Roberls, Llanrwst, wedi bod yn byw yn Nghroesoswallt, ac wedi pregethu yn Llanrhaiadr, Llangynog, Llansantffraid, Llanfechain a Llanfyllin. Dydd Gwener oedd tranoeth y cyfarfod, ac erbyn codi yr oedd yn storm fawr, ond nid y fwyaf a welwyd yn yr America ych- waith, ac yr oedd genyf bedair milltir o ffordd i'w theithio er cyrhaedd y Depot i ddychwelyd yn ol, hwyrach y dylaswn fod wedi dweyd fy mod yn arhosol, yn preg- ethu i eglwys Gymreig yn y wlad rhwng Garvin a Tracy, ac na bydd fy arhosiad yn y lie hwn ddim llai na chwarter blwydd- yn. Bcreu Gwener wedi ymwisgo yn bri- odol i wynebu y storm, cychwynais mewn cutter, cerbyd ysgafn yn llithro ar yr eira, ac o. dan ofal gyrwr medrus, ar haner y ffordd o Gudson trodd y cerbyd ar ei ochr, a thaflodd ei Iwyth i ganol yr eira, ond wedi cael fy sedd yn ol, chwerthais yn gal- onog, ond er chwerthin, mewn ofn a dych- ryn y gorphenwyd y daith wedi cael y profiad o fod mewn gwely nad oeddwn yn caru bod yn hir yncido. Cefais ar ddeall fod damweiniau cyffelyb wedi digwydd yn yr ardal, fel nad oedd hi yn waeth ar yr hen bregethwr Wesley nag oedd hi ar er- aill. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er eich gosod yn y goleu priodol i feddu rhyw fath o syniad beth all bywyd yr Yankee fod. Terfynaf yn awr gan addaw os caf hamdden i ysgrifenu ychydig om hanes yn nhalaeth Winconsin yr wythnos nesaf. Y mae y lleoedd a nodwyd yn y llith oil yn Minnesota. New Ulm.—Y mae i'r dref hon ei hanes. Posibl y ( af eu nodi mewn liithoedd dy- fodol. Y mae yn auaf yma er Tachwedd 16, a heddyw Mawrth, y ddaear dan gnwd o eira. CYMRO AR GRWYDR.

--I Teilyga'r Gweithiwr ei…

I Y -BYD A'I BETHAU.

! Y Ddiwinyddiaeth Newydd.