Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Newyddion Wes-¡ leyaidd. i
LLANDYSUL. Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth yr hen chwaer Mrs. Ketty Jones, Penyfed- wen yn 83 mlwydd oed. Nid oedd ei hiechyd yn dda er's blwyddi lawer, ond ni fu yn gorwedd ond am rhyw bedair wyth- nos. Daeth y diwedd yn dra sydyn ond yr oedd yn gwbl barod. Yr oedd yn Gristion cywir ac yn Wesleyad selog. Bu iddi ddau o frodyr yn pregethu gyda ni, y brawd Daniel Jones yn bregethwr cyn- orthwyol, a'r Parch TimothyJones, yr hwn a fu farw yn Abertawe, a fu yn Weinidog ffyddlon ac ymroddgar yn ei ddydd. Dydd Gwener, y 18fed cyfisol, ychydig oriau cyn i'w henaid ddychwelyd at yr hwn a'i rhoes, cafodd yr ysgrifenydd y fraint o fod Wrth ei gwely. Pethau crefydd oedd ei Phethau y pryd hwnw, a phan ofynwyd iddi sut y 'teimlai wrth feddwl am wynebu ei Duw, dyna ddywedodd, Iesu Grist yw'r cwbl heddy." Do, aeth ein hen chwaer anwyl gartref a'i hymddiried yn ddiysgog yn Nghrist. Dydd Llun y 21ain daeth tyr- fa luosog i dalu y cymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn y Ty gan ei gweinid- og, y Parch W. G. Hughes, ac yn yr Eg- hvys, ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. R. Jones (Vicar), D. A. Jones (Curate.) CYNGHOR PLWYF.—Llawenydd i ni fel Eglwys yw gweled fod rhai o'n haelodau yn cael eu cyfrif yn deilwng o fod yn ael- odau o Senedd ein Plwyf. Etholwyd tri Wesla eleni, sef Mr. John Evans, Well Villa, blaenor hynaf yr Eglwys, a Mr. Elias Prothroe, Pendref. Y mae y ddau yma yn aelodau o'r Cynghor er's blynydd- au bellach. Etholwyd hefyd Mr. Samuel Jones, Glanyrafon, un arall o'n blaenor- laid. Boed iddynt eu tri dymhor hapus a defnyddiol yn y cylch y penodwyd hwy iddo. LLWYDDIANT.—Cipiodd Ysgrifenydd ein Heglwys, sef Mr. Tom Davies (Glenydd) y Hawryf am adrodd, "Araeth Llewelyn," yn Eisteddfod Ebenezer, ac enillwyd y gwobrau eraill yn myd yr adrodd gan rai fu dan ei ofal ef. CEREDIG. DYSERTH. LLAWENYDD 80AIN MLWYDD. Dydd Llun, y 14eg o'r mis hwn, cyfarfyddod nif- er o gyfeillion Miss Parry yn ei thy, i ddathlu pen ei 80ain blwydd oed. Y mae Miss Parry yn bur adnabyddus i lu o Wesleyaid y cylch, ac i'r holl weinid- ogion fu ar y tir. Y mae yn Wesleyaid selog ac yn addurn i'w henwad a'i Cheidwad. Cara y naill a'r llall a chariad dwfn ac angherddol. Nid oes bron ddarlun yn ei thy heb ryw arliw Wesleyaidd megis gweinidogion a'r cyffelyb. Ni bu ei ffyddlonach erioed. Cyfarfyddodd [a damwain pan yn lied leuanc, yr hyn a'i hunalluogodd i gerdded ond trwy gymorth maglen, ac wrth ei mag- lau y mae wedi treilio ei hoes faith. Gorchwyl llafurus ydyw teithio o Water- fall View i'r capel. Y mae gwneud hyn i hen chwaer, 80ain oed, yn waith anhawdd ond y mae gwneud hyn wrth faglan yn orchest. Yn ddiweddar y mae ei golwg i raddau helaeth wedi pallu, a theimla anhawsder i deithio i'r capel, yn enwedig felly yn yr haf, pan y mae cymaint o deithio gan wyr traed a cherbydau. Ond er hyn i gyd nid oes neb ffyddlonach na hi yn nghynull- eidfa y saint. Bu yn cadw ysgol pan yn ferch ieuanc, a dyddorol oedd clywed rhai o'r gwahodd- edigion, fu yn ddisgyblion iddi, yn dwyn tystiolaeth i'w thynherwch, ei gofal, a'i llwyddiant fel ysgolfeistres. Dymunai lawer weled pen ei 80ain blwydd, a chafodd ei dymuniad. Cafwyd amser dedwydd a dyddorol, a theimlai y cyfeillion fod caredigrwydd Miss Parry, y tro hwn fel bob amser yn rhedeg drosodd. Cafw yd anerchiadau pwrpasol gan y Parchn. Tryfan Jones a Mostyn Jones, Mri. John Williams ac eraill. Miss Parry ydyw yr aelod hynaf yn yr eglwys, a hyderwn y ca rai blynyddau eto yn ein plith i fwynhau gwenau ei Har- glwydd yr hwn a gara mor fawr. Fel hyn y canodd Tryfan ar yr aclysur. Cvflwynedig i Miss Parry, Dyserth, ar ei SOain mlwydd oed. R'ym yma heddyw'n diolch 0 galon bur dilith, I'n Tad o'r nef am gadw Miss Parry yn ein plith. Rhoes iddi bedwar ugain 0 flwyddi ar y daith, A chymorth i'w cysegru Dan ganu yn ei waith. Boed 'iddi flwyddi lawer 0 lwydd a bendith lawn, Gan dreilio mewn tawclwch Hyfrydol ei phrydnawn. A phan ddaw'r hwyr a'r noswyl, Boed iddi heddwch gwyn, A threulio tragwyddoldeb Mewn mawl ar Seion Fryn. MOSTYN. LIVERPOOL. CYMANFA GANU LWYDDIANUS.—Cynhal- nvyd ein Cymanfa Ganu flynyddol yn Mynydd Seion, Nos Lun 21 cyfisol, o dan anveiniad medrus Mr. Wilfred Jones, A.R. .M. Daeth cynulliad gwir deilwng yng- hyd. Yn ddoeth i'n tyb ni, gwnaed i ffwrdd a'r anerch a'r areithio a geir yn Thy fynych yn ein Cymanfaoedd Canu, trwy hyn cafwyd amser yn ymarferol, i f?ned trwy y rhaglen oil pa un a gynhwys-  Y tonau canivnol—Ouseley, Aberdar, •Saviour, Author of Life, Weimar, Pont- YjPridd, Honddu. Maude, Bodlondeb, antmel, Pricilla, Capel Newydd, Luther ?rEmyn 794), Craig yr Oesoedd, (W. H. ??), a'r anthem "Gwyn ei fyd y gwr" n. Carrington). Cafwyd canu eithriadol o (Ida ar bob ?? tonau, ond fe allai in- Y rhai y teimlwyd mwyaf o eneiniad v y^dg\ lyn a hwy oeddvnt Weimar, St. Sav- v Ur' Capel Newydd? a Luther. Yr olaf ar d'- geiriau "Duw Mawr pa beth a welaf ? ?a.\v," ac yn bendifaddeu dylid canu hon \V17 G boi'^ Gymru 0,1 mae y don hon wedi bn" ? gysylltiol ar geiriau ers canrifoedd, ? g es^n s'cr ydyw eu cadw ar wahan— ???y? yn sicr vdyw eu cadw ar wahan— d\S",a ^esuv gwreiddiol v don—" cyfaddas- iad ia? ydyw trefniant at Fesur Hir. Ni ??J ?. ?? hyn gau allan y don sydd wrth ben y crl lriau yn ein l?y? tonau—os gellir cael ear. 6m pobll w dysgu a'i chofio. VVn befyd, na ddylai casglwyr y Uyfr tonn 11 ?dyweyd y drefn o gwbl am SVfno^l■ c^ad nior ddiniwed a naturiol. Nicl „ydyw ond cyfanu yr hyn a amcanent hwy eu hunain atto, sef dwyn pob ton ac emyn i'w ffurf gwreiddiol hyd yr oed yn bosibl, ond fel pob ymgymeriad dynol, methasant y nod yn yr engraifft hon yn ogystal a chyda'r don brydferth a dihafal "Wareham" trwy osod y Cyfaddasiad i mewn ar mesur 4-11 yn lie y gwreiddiol (a'r goreu o ddigon) ar Mesur Hir, gellir cyfeirio at Abertawe a Herdelberg yr un modd. Boddhawyd ni yn fa wr yn y dat- ganiad o'r anthem, credwn y bydd hon yn dod yn boblogaidd. Cadeiriwyd yn ddoeth a hael gan Mr. Tudor Jones, gwr ag sydd yn ffafr-dyn yn y cylch er's blyn- yddau. Da oedd genym weled holl Wein- idogion Wesleyaid y cylch yn bresenol. UN AIZ El IIYNT. I
NODIADAU CYFUNDEBOL. I
NODIADAU CYFUNDEBOL. I Da iawn genym ddeall fod Llywydd y Gynhadledd yn brysur wella oddiwrth ei afiechyd diweddar a achlysurwyd drwy or- lafur. Mae'r Parch. William L. Watkinson wedi dychwelyd o'r Italy, lie y bu yn gauafu ac yn brysur gyda'u ysgrifbin. Deallwn fod galwad mawr eisoes am yr Esboniad ar yr Efengyl loan" gan y Parch. Richard Lloyd Jones. Dywedir ei fod yn un o'r esboniadau goreu. Ymddengys darlun o'r lleygwr parchus Mr William Evans yn Nharlunfa y Win- llan am fis Ebrill. Gofidus genym gofnodi am farwolaeth y Parch. J. D. Titley, yr hwn fu-farw yn ei 82 flwydd. Aeth i'r weinidogaeth yn 1853. Teithiodd ar 17eg o gylchdeithiau gyda chymeradwyaeth. Y mae 119 o flynyddoedd i'r diwrnod cyntaf o'r mis hwn er pan fu farw John Wesley. Hwyliodd y Parch. Daniel Heaton o Shoreham y dydd o'r blaen am Canada gyda pharti o fechgyn o'r Children's Home. Yn y 25ain Wyl Genhadol Dramoraidd perthynol i Efrydwyr Coleg Headingley, pryd y pregethodd y Parch T. Davies, cod- wyd 200p. Clywsom ganmoliaeth uchel am Lawlyfr ar Efengyl Matthew gan y Parch. P. Jones Roberts, yr hwn sydd wedi ei barotoi ar gyfer Dosparth II. a III. o'r Maes Llafur. Mae'n fwy na thebyg mae y Parch. Henry Haigh, Cadeirydd Talaeth New- castle-on-Tyne, a etholir i olynu y Parch. John Hornabrook yn Llywydd y Gynhad- ledd am 1911. O'r ugain mil punau sydd yn eisieu i ddechreu adeiladu yr ysgolion newyddion i enethod yn Chistlehurst, y mae pedair mil ar bymtheg wedi eu tanysgrifio. "Wrth eu Ffrwythau ydyw teitl Ad- roddiad Cenhadaeth Bradford, a dengys y Parch. H. M. Nield mor ffrwythlawn mae'r gwaith wedi bod. Mae 12,000 o bobl yn ymgynull i wahanol gyfarfodydd y Gen- hadaeth bob wythnos. Reportiodd y Parch. John Hornabrook, Ysgrifenydd Pwyllgor Cyffredinol y Capeli, fod 1,145 o achosion Trysorfa yr Ugeinfed Ganrif, wedi eu setlo gyda chost o £ 3,021*000.1 Enillodd cor perthynol i Restr Feiblaidd capel Old Market Street, Bristol, gwpan arian a'r wobr gyntaf yn y Male Voice Contest mewn cystadleuaeth perthynol i Gymdeithas y Cymrodorion. Prudd iawn genym glywed am farwol- aeth Mr David Barr, Birmingham. Am haner canrif bu yn bregethwr cvnorthwyol. Bu yn Ilywydd Cymdeithas y Pregethwyr Cynorthwyol. Adeiladodd gartrefi cym- fforddus i bregethwyr oedranus. Cawn fod y trefniadau ar gyfer Cylch- wyl Flynyddol y Genhadaeth Dramor, a gynhelir yn mis Mai yn Llundain, wedi eu cwblhau, ac mae'r cyfryw drefniadau yn ardderchog. Yn barod gwneir apeliadau am docynau i gyfarfod mawr yn yr Albert Hall. "William F. Moulton: The Methodist Scholar," ydyw teitl cyfrol wedi ei hysgrif- enu gan y Parch. George G. Findlay, D.D., yr hwn oedd yn edmygwr mawr o Dr. Moulton, ac mae'r braslinelliad o'i fywyd disglaer, llafurus, a llwyddianus wedi ei ys- grifenu yn iaith oreu Dr. Findlay. Mae y Parch. T. E. Westerdale, Bolton, wedi ei apwyntio yn olynydd y diweddar Peter Thompson, fel Arolygwr y Genhad- aeth yn Nwyrain Llunden.
-LLYTHYR LLUNDAIN.I
LLYTHYR LLUNDAIN. (Gan ein Gohebydd Arbenig). I Cyn y bydd i'r ychydig llinellau hyn ym- ddangos bydd y Senedd wedi codi am ych- ydig ddyddiau o seibiant. Ond nid yw am godi nes gwneyd cryn lawer tuag at GLIRIO'R AWYR BOLITICAIDD. Mae'r ychydig ddyddiau diweddaf yma wedi bod yn rhai hynod o ddyddorol i'r neb sydd yn ceisio dilyn symudiadau y byd y mae yn byw ynddo. Er gwell neu er gwaeth mae'r awyr yn dyfod yn gliriach ddydd ar ol dydd, a chredwn yn bersonol mai gwella y mae pethau ac nid gwaeth- ygu. Cawsom foodhad neillduol yn Araeth Mr. Asquith, yn Rhydychain diwedd yr wythnos o'r blaen. Ar wahan i'r araeth ei hun, yr oedd yr amgylchiadau yn llawn calondid a gobaith. Mae,r Toiiaid wedi chwareu eu card diweddaf, ac wedi methu ni gredwn hydyn nod yn y 'Siroedd Cartref- ol." Dyma lie y gwnaethant oreu yn yr Etholiad diweddaf a hyny trwy y moddion mwyaf gwaradwyddus — llyrwpbrwyaetn celwyd—trais. Ond mae Rhyddfrydiaeth y Siroedd yn llawn gobaith a a chyfarfydd- asant a'r Prif Weinidog mewn afiaeth. Traddododd yntau araeth a darllenasom bob gair gyda boddhaad. Esponiodd dirgel ion llwyddiant y Toriaid gan awgrymu y gwelliantau raid gael er eu curo. Ond baich ei araeth oedd egluro bwriadau y Llywodraeth. Penderfynant wneydi ffwrdd a Veto yr Arglwyddi ar unwaith ac am byth. Da iawn y gwnaeth bwysleisio meddwl y Llywodraeth ar gwestiwnyr Ail Dy oblegid gwna'r ochr arall bopeth all yn y wlad i berswadio pobl mai Plaid yr un Ty ydyw y Rhyddfrydwvr yr hyn sydd gelwydd wrth gwrs. Y cwestiwn yd- yw cael Ail Dy gwerinol, a thy-ac o dan reolaeth Ty y Bobl. AREITHIAU ERAILL. Dydd LIun ymddanghosodd toraeth t o honynt. Traddododd Haldane araeth rymus, yn yr hon y cyfeirioddat wiriondeb John Bull yn son am ei ymddiswyddiad Penderfyna aros yn Ilinell y Tan, ac ym- ladd y frwydr hon allan i'w therfyn. Bu Redmond wrthi hefyd ac ymddengys yn hollol ansigledig yn ei benderfyniad i beidio cymeryd rhan mewn ffug-frwydr. Gallem'dybio ei fodlyn bur foddhaus yn ar- aeth Mr Asquith a daliwn i gredu nes bydd raid i ni beidio y daw y ddau ar- weinydd hyn i gyd-ddeall a'u gilydd. Y brif araeth ymddangosodd dydd Llun oedd eiddo Mr Churchill. Unwaith eto ym- ddanghosodd yn Lancashire, ac yr oedd y brwdfrydedd yn fawr. Llanwyd y Free Trade Hall at yr ymylon, ac mae'n ddigon sicr deued Etholiad pan y del fod Lan- cashire yn iach yn y ffydd. Tystiai Churchill nad oedd arno ofn yn bersonol gwynebu y Ty ? a gwneyd i ffwrdd a'r Arglwydci yn hollol. Ond sicr yw mai teimlad un- frydol y Cabinet ydyw dros gau ddau Dy mai yn y goleu hwn yr ant i'r wlad. Ond mae Veto'r Arglwyddi wedi ei thynghedu, a gwyddant hwythau hyny. Gallant fyn'd yn mlaen os yn dewis gyda'u chwareu plant o ddiwygio eu hunain, ond gwydd- ant o'r goreu eu bod eisoes yn destyn gwawd y weriniaeth. SYMUDIAD CYFYWYSGALL Y CANGHELLYDD. Gresyn nad yw yn ei gynefinol iechyd ond y syndod yw, ei fod ar ol dirfawr lafur, ac yn wir, tra mewn dibaid lafur yn dal cystal. Hyderwn y bydd ychydig seibianr y Pasc yn ei lwyr wellhau. Ond y mae wedi gyru Chamberlain a'r Ar- glwydd Hugh bron i ffitiau. Ni welwyd dau mi dybiwn yn dangos eu syched am swydd yn gyffelyb i'r ddau hyd yn ddi- weddar. Gresyn na welent eu hunain fel y gwel eraill hwynt. Ond gofalodd y Canghellydd wrth beidio gofyn am gyflen- wad ond am chwech wythnos drefnu, pe deuent i swydd, y caent yr hyfrydwch o ofyn am supply gan y Senedd, yr honyn ol pob arwyddion allai wrthod, pemynai ac mae'n sicr y mynai. Nid oes obaith i'r Toriaid gael mwyafrif effeithiol, pe caent fwyafrif o gwbl. Yna deuent ar ofyn Sen- edd am fodd i fyn'd yn mlaen, a chaent eu gwrthod. Canlyniad hyny fyddai gorfod taflu yn awenau o'u dwylaw, a myn'd yn ol i'r hen ochr i'r Ty lie maent wedi eis- tedd mor anniddig er's mwy na phedair blynedd. Stroke ardderchog fu hon ac y maent bron mewn ffitiau er pan gawsant hi. DATGUDDIAD Y GYFRINACH. I O'r diwedd mae Mr Asquith wedi dat- guddio ei fodd o wneyd i ffwrdd a Veto yr Arglwyddi. Nid ydynt i gyffwrdd a Chy- llideb y Deyrnas o gwbl. Mae'r mater hwn yn cael ei ddeffinio yn glir a chroew, o dan y penawdau—Trethi, Cyflenwad, Benthig &c. At hyn, nid ydynt mewn deddfwriaeth gyffredin i droi unrhyw Fesur yn ol fwy na dwywaith nac i or- threchu cymaint ag un. Hefyd, apelir at y wlad fan bellaf bob pum mlynedd. Y tebygrwydd yw y deuir i lawr i bedair cyn penderfynu'r mater. Hefyd, diau y tynir yr amser i lawr i lai na dwy fiynedd mewn perthynas a gallu yr Arglwyddi i lesteirio mesurau. Dylai holl gatrodau Rhydd- frydol y wlad uno ar bolisi fel hwn a'i gario i fuddugoliaeth. DIWYGIADAU ETHOLIADOL. I Mae swn y rhai hyn eto yn yr awyr, a'r gwersyll Toriaidd yn crynu. Nis gwyddis pa un a'i dod a Mesur gerbron eu hunan ynte rhoddi gwyneb i Fesur preifat a wna'r Llywodraeth; ac nid gwaeth pa un. Os ceir Etholiadau ar un diwrnod a gwneyd i ffwrdd a'r bleidlais luosog. Golyga o 70 i 80 yn rhagor o seddau i'r Rhyddfrydwyr ar wahan i bob ystyriaeth arall. Dywedir nad yw'r Etholiad i ddyfod mor fuan ag y myn rhai, ac fod pob arwyddion y byd i'r Gyllideb 1909-10 fyned trwodd cyn i'r Ty godi am wyl y Sulgwyn. Fodd bynag am hyny, mae pleidwyr y Llywodraeth yn llawn calon, a'r ochr arall yn cymeryd arni fod, ond yn rhoddi lie i ddyn amheu. Y FASNACH Lo. I Gofidus iawn meddwl fod miloedd ar 1 filoedd o Lowyr, a miloedd mwy o rai di- bynol arnynt yn gorfod gwynebu ar Wyl y Groglith gyda mesur o brudd-der. Ofn- wn yn fynych fod gan y glowr ormod o ar- weinwyr, a thybiwn weithiau y byddai yn well iddo ddelio wyneb yn wyneb a'i feistr. Mae o un cyfyngbwynt i arall ar hyd y blynyddoedd, a'i galon yn ei wddf druan. Yr Arglwydd a gyfryngo yn yr amgylchiad hwn, ac a baro ddaioni.
LLITH O'R AMERICA. -
LLITH O'R AMERICA. Mri. Golygwyr,— Gwelaf fod pythefnos wedi pasio er pan ysgrifenais fy llith ddiweddaf, a'r rheswm am hyny yw, i mi fod dipyn yn brysur, ond yn yr adeg yna. derbyniais o'r Hen Wlad dri Gwyliadydd Newydd, y rhifynau, 3ydd, 4ydd, a'r 5ed, ac y mae yn anhawdd i chwi gredu y llawenydd a barasant i mi, yn un peth am mai ychydig o bapuron Cymreig wyf yn ei gael er's saith mis heblaw y Drych. Hefydcefais lawenycld mawr wrth ddarllen fod Gymru wedi dod o'r ornest fawr wleidyddol 1910 yn ardderchog. Perh arall' barodd lawenydd mawr i mi oedd, fod y Gwyliedydd Newydd yn cym- eryd ei le gyda phapyrau rhyddfrydig Cymru nad oes modd ei well. Bwriadwn ai y cychwyn rhoi pethau i lawr yn olynol fel yr oeddynt wedi dig- wydd yn fy hanes, ond yn awr, yr wyf am newid fy nghwrs rhof hanes fy nhaith yr wythnos ddiweddaf i'r Cyfarfod Dosbarth. Yr un yw y cyfarfod hwu yn yr America ar Cyfarfod Misol yn Nghymru. Wedi cael gwahoddiad i fyned i'r Cyfarfod Dos- barth, Chwefror 22, hwyliais fy hun am y Depot, i fyned gyda'r Tren oedd yn gadael Garvin am un o'r gloch, ac yn ddyledusyn Gudson am 4-30, pellder o 84 o filldiroedd, ond oherwydd ei bod yn ddiwrnod o storm, a'r ffyrdd wedi eu cau ag eira, yr oedd y Tren yn Garvin ddwy awr ar ol ei amser. Beth bynag wedi iddo adae1 y lie, a minau ynghyd a chyfaill yn cael ein cludo yn gyfforddus ganddo, daethom yn ddiogel a diatal hyd Station Sleepy Eye. Cafodd y llejrwn yr enw oddiwrth Indiad oedd lawer o flynyddoedd yn ol yn byw yn y gymydogaeth. Cafodd hwnw yr enw Sleepy Eye ar gyfrif ei fod yn ddyn tawel, a'i symudiadau yn arafaidd, a'i lygaid yn mhell o fod yn fywiog. Wedi i ni gyrhaedi i'r lie hwn, gorfu i ni aros yma ddwy awr a haner am fod Freight Train (Train Nwyddau) yn dod i'n cyfarfod o New Ulm Station, ac yn methu ymwthio trwy yr eira oedd ar y ffordd rhwng y ddwy Station, ac wedi i ni aros yma, yn Sleepy Eye am ddwy awr a haner, nes yr oedd yn tynu ar ddeg o'r gloch y nos, yr oedd hi wedi myned yn Sleepy Eye cyffredinol yn y cerbyd yr oeddwn i ynddo, yr hwn gan ei fod yn gynes, oedd yn dra manteisiol i gael cyntun hapus. Beth bynag wedi gadael y lie hwn cyr- haeddasom ben y daith ychydig cyn 11 o'r gloch, lie yr oedd gwr caredig wedi dis- gwyl oriau am danom wedi esgyn i'w gerbyd, ffwrdd a ni nerth traed ceffyl, trwy yr eira ac i fyny yr allt, ac o fewn chwar- ter milldir i ben yr allt cawsom dy cynes, swper a gwely, a chroesaw America gan deulu Cymreig. Boreu dranoeth wedi cael boreufwyd, yr oedd eisiau teithio saith milldir am y capel lie yr oedd y cyfarfod, ac nid peth bach oedd hyny, er fod y storm wedi tawelu, yr oedd y ffyrdd wedi eu cau gan eira, a'r gwresfesurvdd, neu yn hytrach yn oerfesurydd yn 25 islaw godd- im. Aeth fy nghyfaill i gyfarfod y boreu —pwyllgor i drin amgylchladau allanol yr achos ac aethum inau i gyfarfod y pryd- nhawn-Seiet fawr. Y mater oedd dweyd am werth y Society a'r modd o'i chadw. Dywedwyd pethau da iawn, Oedfa'r nos ynghyd a thair oedfa dranoeth i'w treulio yn y gwaith o bregethu. Cafwyd pregeth- au da, apeliadol, ac arddeliad ar y gwir- ioneddau dwyfol; a chanu, y goreu a glywais yn yr America, yn y canu, yr oedd- wn bron yn amheu mae yn ngwlad yr eira ar gyfandir America yr oeddwn, ac yn ben ar y cwbl, cafodd ysgriblwr hyn o linellau gymaint croesaw gan y gweinidogion a phawb, fel na raid i Gymro ar ymweliad a'r America gwyno onibai fod ei groesaw yn llawer llai nag a ddaeth i'm rhan i, er nad oeddwn yn un o'r defaid chwaith. Nid oes genyf ond y da i'w ddweyd am Fethodistiaid America. Dylaswn ddweyd fod y cynyJliadau yn tbob peth ellid ei ddisgwyl, y capel yn orlawn, a hyny mewn gwlad lie yr oedd Ilawer wedi teithio ped- air, pump, a chwech o filldiroedd. Dylwn hefyd ddweyd er mwyn y Cymro sydd yn ddieithr i arferion yr Americaniaid, fod y capeli oil yn cael eu twymo, naill a'i gan ffwrnes odditan y capel, neu yntau gan ddwy stove yn y capel, a gwaith cyntaf pawb wedi dod i fewn ydyw diosg y wisg uchaf, ac yn ami ddwy, a'r gwaith cyntaf ar derfyn yr oedfa ydyw gwisgo i gyfarfod gerwinder yr hin; a dyna dyrfa, bron yr oil o'r dynion mewn crwyn anifeiliaid, crwyn pob math o anifeiliaid, dohon a gwylltion, ac er fod y merched yn eu gwisg uchaf yn edrych yn fwy hynaws na'r meibion, eto os yw eu gwisg hwy oddiallan yn frethin, y mae oddifewn yn grwyn defaid, wenciod, a wiwerod; y gwir am dani nid yw yn ddiogel myned allan pan y bydd hi yn 20 neu 30 islaw Zero heb fod genych groen rhyw anifail rhyngoch a min yr awel, ac nid oes neb yn America yn meddwl mynd allan yn y gaeaf heb ddau bar o esgidiau. Wedi dod o'r Capel, dyna olygfa ddieithr yn Nghymru. Dywedaf ar amcan am y cyfarfod wyf yn cyfeirio ato yn awr, fod yno 70 o gerbydau i gario yr addolwyr yno ac adref rhai cerbydau yn gutter i gario dau neu bedwar, ond y rhan fwyaf yn sledi lie y bydd 9 a 10 yn eistedd yn fflat ar ei gwaelod. Pethau diaddurn iawn yw y sledi hyn, yn cael eu tynu gan ddau geffyl, ac ar hyd yr wythnos yn ddefnyddiol i fynd ag yd i'r farchnad, a'r llaetn i'r ffactri fenyn, ond ar y Sabbath i fynd ar teulu i'r addoliad. Cyn gadael hanes y cyfarfod, dylwn ddweyd mai y trefnydd oedd y Parch. David Edwards, Lake Crystal—dyn nad yw yn gwneyd ymdrech o gwbl i ddangos ei hun, nac i enill cymeradwyaeth, eto y mae yn rhudd- in i gyd'trwyddo, a pha fwyaf y byddwch chwi ei gymdeithas, mwyaf y byddwch yn meddwl o hono, ac y mae ei gysylltiadau a Chymru i fesur yn ddyddorol i mi, gan ei fod yn frawd i wraig y Parch T. C. Roberls, Llanrwst, wedi bod yn byw yn Nghroesoswallt, ac wedi pregethu yn Llanrhaiadr, Llangynog, Llansantffraid, Llanfechain a Llanfyllin. Dydd Gwener oedd tranoeth y cyfarfod, ac erbyn codi yr oedd yn storm fawr, ond nid y fwyaf a welwyd yn yr America ych- waith, ac yr oedd genyf bedair milltir o ffordd i'w theithio er cyrhaedd y Depot i ddychwelyd yn ol, hwyrach y dylaswn fod wedi dweyd fy mod yn arhosol, yn preg- ethu i eglwys Gymreig yn y wlad rhwng Garvin a Tracy, ac na bydd fy arhosiad yn y lie hwn ddim llai na chwarter blwydd- yn. Bcreu Gwener wedi ymwisgo yn bri- odol i wynebu y storm, cychwynais mewn cutter, cerbyd ysgafn yn llithro ar yr eira, ac o. dan ofal gyrwr medrus, ar haner y ffordd o Gudson trodd y cerbyd ar ei ochr, a thaflodd ei Iwyth i ganol yr eira, ond wedi cael fy sedd yn ol, chwerthais yn gal- onog, ond er chwerthin, mewn ofn a dych- ryn y gorphenwyd y daith wedi cael y profiad o fod mewn gwely nad oeddwn yn caru bod yn hir yncido. Cefais ar ddeall fod damweiniau cyffelyb wedi digwydd yn yr ardal, fel nad oedd hi yn waeth ar yr hen bregethwr Wesley nag oedd hi ar er- aill. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er eich gosod yn y goleu priodol i feddu rhyw fath o syniad beth all bywyd yr Yankee fod. Terfynaf yn awr gan addaw os caf hamdden i ysgrifenu ychydig om hanes yn nhalaeth Winconsin yr wythnos nesaf. Y mae y lleoedd a nodwyd yn y llith oil yn Minnesota. New Ulm.—Y mae i'r dref hon ei hanes. Posibl y ( af eu nodi mewn liithoedd dy- fodol. Y mae yn auaf yma er Tachwedd 16, a heddyw Mawrth, y ddaear dan gnwd o eira. CYMRO AR GRWYDR.
--I Teilyga'r Gweithiwr ei…
Teilyga'r Gweithiwr ei fwyd. Ysgrifenydd yn y Goleuad "—genau'r Corff—a gwyna'n groch oblegid crintach- rwydd eglwysi'r wlad i dalu'n deilwng i'w bugeiliaid. Gwyr, ebai ef, am liaws o weinidogion nad yw eu cyflog yn cyfartalu mwy na 15s yn yr wythnos, a ,s vn ?Tr wythngs, a rhydd fanylion am un bugail sy a'i eg- lvvys yn gant o gymuimyr, a chan mwyaf yn ffermwyr cefnog, ond sy'n gywilyddus o fychan ei gydnabyddiaeth. Er engraifft Bu'r bugail flynyddau yn addasu ei hun i'r alwedigaeth ac mewn coleg ac er mwyn cadw ei gyhoeddiad am y Saboth bu oddicartref dri diwrnod; Saboth, pregethai dair pregeth, gan gerdded milltiroedd i bob oedfa; bedyddiodd blant mewn pedwar ffermdy cerddodd 11 milltir; talodd Os yn glud tren a chadd 20s am ei holl boen-yn gadael 14s i wynebu ei deulu a'i gwpwrdd.
I Y -BYD A'I BETHAU.
I Y BYD A'I BETHAU. Chwarelwyr ac Yswiriaeth. Yn Nhy'r Cyffredin, dydd Iau, gofynodd Mr Ellis Davies i Lywydd Bwrdd Masnach a dder- byniodd gais oddiwrth Undeb y Chwarel- wyr, Caernarfon, i gynnwys chwarelwyr llechi yn narpariaeth y mesur cynnygiedig at orfodi yswiriaeth rhag diffvg gwaith ac yn ngwyneb y ffaith fod y fasnach lechi yn dibynu ar gyfnewidiadau y fasnach adeil- adu, a wnaethai roddi ystyriaeth ffafriol i'r awgrymiad ? Mr Buxton Ni dderbyniais i unrhyw benderfyniad o'r natur y cyfeiriwyd ato. John Rowland.—Y mae Mr John Row- land, ysgrifenydd Canghellydd y Trysor- lys, wedi cael ei ddewis gyda plileidais un- frydol a brwdfrydig yn aelod o Bwyllgor Addysg Ceredigion—ei hen sir enedigol. Ffeiriau Llafur.Er nad oes ond pum' wythnos a hanner er pan agonvyd y Ffair Lafur gyntaf yn Mhrydain y mae'r sefyd- liad eisoes wedi bod yn fendith i filoedd o weithwyr yn yr ardaloedd gweithfaol pob- log. Yn y Senedd ddydd Gwener hysbys- odd Mr Buxton, Llywydd newydd Bwrdd Masnach, fod cant o ffeiriau yn agored er- byn hyn a bod 104,000 o enwau ar restr y diwaith. Yn ystod y pum' wythnos diw- eddaf hysbyswyd fod 32,500 o weitlroyr yn eisiau a bod 19,907 wedi eu cyfiogi. Gof- elir rhag cymeradwyo gweithwyr anghym- wys, ac yn ddiameu hyn sydd yn cyfrif'am anallu y Ffeiriau i lenwi pob un o'r 32,500 lleoedd gweigion. Er hyny y mae cael gwaith i 19,907 o weithwyr mewn pum' wythnos o amser yn glod i'r symudiad can- moladwy hwn ac i'r Weinyddiaeth a'i sef- ydlodd. "Y Ddraig Goch." Yr Anrhydeddus Mrs Bulkeley-Owen a'r Anrhydeddus Mrs Herbert, Llanofer, ydyw llywyddion Un. deb y Ddraig Goch, ac un o brif amcanion y Gymdeithas ydyw perswadio boneddig- ion Cymru 1 arfer yr iaith. Yn hyn v mae Herbertiaid Llanofer bob amser wedi rhoddi esiampl dda, er mai yn Sir Fynwy y mae'r teulu'n byw. Y mae'r Cadfridog Syr Ivor Herbert yn Gymro rhagorol, a medr wneyd araeth Gymraeg cystal ag un Saesneg. Stiniog a Ffair Llafur.—Yn Ngh3 ngor Sir Meirion, ar gynnygiad Mr H. Haydn Jones A.S., pasiwyd i wneyd cais am i un o'r sefydliadau hyn gael ei agor yn y sir. Dy- wedai am Ffestiniog fod mawr angen yno am un, llawer yn methu cael gwaith. Pasiwyd, a diolchwyd i Mr Jones am ei ymdrech gyda hyn eisoes yn Llundain. Cais am Gymraeg.— Fe welir fod Mr R. C. Anwyl,Lligwy, wedi perswadio Cynghor Sir Meirion fod medru Cymraeg yn beth angenrheidiol i swyddog Bwrdd Amaeth- yddiaeth yn Nghymru. Y mae Mr Anwyl bob amser yn gweithredu yn ol ei gredo. Pan ddaeth i fyw i Feirion, rai blynydd- oedd yn ol bellach, ni fedrai Gymraeg. Gwnaed ef yn ustus heddwch, ond gwrth- ododd eistedd ar y fainc nes dysgu C-, m- raeg, gan na thybiai ei fod yn gymhwys i weinyddu cyfiawnder mewn gwlad heb fedru ei hiaith. Gresyn na buasai rhagor o rai tebyg iddo. Asquith o ddifrif! -Bu y Prif Weinidog yn siarad mewn cynhadledd Rhyddfrydol yn Rhydychain nos Wener, a dywedodd nad oedd gan y Rhyddfrydwyr wrthwyn- ebiad i Ail Dy, na fyddai yn gwbl bartiol. Ni chredai ef mewn unrhyw ymgais i wyn- galchu, ond credai y dylai yr Ail Dy gael ei ail-adeiladu ar sylfeini gwerinol. Rhaid oedd i veto llwyr yr Arglwyddi ddiflanu, ond gwrthodai ateb y cwestiwn a pha un yr ymosodid arno beth fwriadai wneyd ar ol anfon y penderfyniad o Dy'r Cyffredin i Dy'r Arglwyddi. Darostyngid pob peth er cyrhaedd yr amcan a grybwyllwyd. Addef- ai yn onest y dymunasai fod ganddo ych- waneg o fwyafrif, ond yr oedd y nerthoedd ereill yn y Senedd yn cydweled a'r Rhydd- fiydwyr yn eu prif amcanion, a buasent yn eu cynorthwyo. Yr oedd y Llywodraeth o ddifrif, ac felly y Rhvddfrydwyr trwy y wlad, ac apeliai .at y rhai hyn i fagu hyder yn mhenderfyniad eu harweinwyr i glirio ymaith y rhwystrau oedd ar ffordd nid y Weinyddiaeth yn unig, ond ffawd y blaid, dyfodol llywodraeth boblogaidd a diAAyg- iad gwerinol. Silyn alr tlawd.-Yn Bl. Festiniog, yn y festri flynyddol, nos Sadwrn, bu y Parch. Silyn Roberts yn beirniadu yn llym waith Gwarcheidwaid Undeb Festiniog yn symud hen wraig 80 mlwydd oed i'r tlotty. Yr oedd yn gywilydd i Undebau Tlodion y wlad uno a'u gilydd i wrthwynebu y gwell- iantau a gynnygid gan y Ddirprwyaetk fu yn cynnal ymchwiliad i'r mater. Beth flinailr Canghellydd? Bu llawer o ddyfalu yn nghylch ystyr neuritis, afiechyd Mr. Lloyd George. Math o neuralgia poen- us ydyw. Ymosododd ar fraich ac ysg- wydd dde y Canghellor, dioddefa gryn boen. Fel rheol effaith gorlafur a dirywiad iechyd ydyw. Tybir y gwna yclij-dig ddyddiau o orpliwvs ddirfawr les i'r Cang hellor. Lie mae'r Wesla?—Yn nglyn ag Ys- byttai Lerpwl, wrele rai ffeithiau allan o adroddiad y Pwyllgor Cymreig am 1909. Gwelwyd yn yr ysbyttai, gan y Parch. John Evans, gleifion o'r siroedd canlvnol Sir Fon. 46 Sir Gaernarfon, 133 Sir Ddin- bych, 95 Fflint, 36 Meirionydd, 60 Tref- laldwyn, 15. Cyfan 385. Nid yw y rhai hyn ond y cleifion ddigwyddasant fod i fewn pan wnawd yr ymweliadau. Cyfranwyd at yr ysbyttai, gan enwadau ac ereill o Ogledd Cymru, rhai trwy y rnvy- llgor, ereill yn uniongyrchol fel yea,nlyn JNIethodistiaid Calfinaidd, 260p 12s 7c An- nibynwyr, 104p 10s 3c; Bedyddwyr, 19p IGs C, c; TVesleyaid, Sp 4s (id Eglwys Loegr, 8p 2s; Eglwysi Rhyddion, 5p 2s; Byrddau Gwarcheidwaid, etcl7p 17s chwareli, etc., 1 lop 10s 2c cyfan, 349p 16c. Wele hefyd gasgliad yr enwadau Cym- reig yn Lerpwl Methodistiaid Calfinaidd, 241p 10s 5c Annibynwyr 2Gp 3s Wesley- aid, 18p 4s 7c; Bedyddwyr, 9p 7s 4c Eglwys Loegr, JOp 9s 10c Eglwys Rydd y Cymry, 6p 15:0 1c cyfan, 312p 10s 3c.
! Y Ddiwinyddiaeth Newydd.
Y Ddiwinyddiaeth Newydd. Y Parch. T. Rhondda Williams a breg- ethai ac a ddarhtniai ynghapel Anibynol Johnstown dd\^dd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf, sef y bregeth yn y prydhawn a'r ddarlith yn yr hwyr ac ar Sosialaeth Gristnogol." Y Cynghorydd W. J. Will- iams yn y gadair y capel yn orlawn a'r Rhondda yn ei afiaeth efo'i destyn. Un o apostolion y Ddiwinyddiaerh Newydd fel y gwyddys yw Rhondda, a chludydd arfau Mr. Campbell.