Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

HYNODION A HELYNTIONI ABERNODWYDD.

PORTHI'R PRAIDD.I

News
Cite
Share

PORTHI'R PRAIDD. I (Gan y Parch O. Hughes, A rthog) I Tangnefedd Duw. "Tangnefedd Duw" yw uchel- nod y bywyd crefyddol—gwobr a choron ymarweddiad sanctaidd, tiriogaeth hyfrvtaf crefydd, y por- feydd gwelltog a'r dyfroedd tawel," gerllaw y rhai y mae y Bugail Mawr yn arwain ei braidd ar ad- egau nodedig nefoedd ar y ddaear yw y tangnefedd hwn, grawnsypiau addfetaf Canaan yn yr anialwch y teimlad puraf, tawelaf, mwyaf nefol a all creadur ei fwynhau ie, yr un o ran natur a gwynfydedig- rwydd Duw ei Hun, a thangnefedd y Cyfryngwr, yr Hwn a ddywedodd Fy nghangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi." Pan y mae y sant yn ei brofi, mae Duw ar y pryd yn ei ddiodi ag afon ei hyfrydwch ei Hun ac mae ychydig ddefnynau o hono yn gwneyd dyfroedd per- eiddiaf ffynonau, y creadur yn ddi- flas iddo. Pwy sydd genyf yn y nefoedd fel' Tydi ? &c. Mae y tangnefedd hwn mor uchel ei ryw fel nad pawb o'r saint sydd yn ei dderbyn, am nad ydynt yn deilwng; ac mae y Beibl yn ei gysylltu yn arbenig a llafur a ffyddlondeb yn yr yrfa grefyddol. Ofer ydyw i'r crefyddwr ysgaprwth, esgeulus, di- ofal, feddwl am dano: "Sefwch yn yr Arglwydd Anwylyd llaw- enhewch yn yr Arglwydd yn was- tadol. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Na ofelwch am ddim, ond gwnewch eich deis- yfiadau yn hysbys gerbron Duw ac yna, fel canlyniad y cwbl Tang- nefedd Duw, yrhwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonau yn Nghrist Iesu." Coron, hufen, gwobr bywyd o sancteiddrwydd ydyw. Digon o dal i ti, Gristion, heb son am nefoedd yn y diwedd—digon o dal i ti am flynyddoedd o wylio yn ddiesgeulus—o weddio yn ddyfal heb ddiffygio—o godi y groes beu- nydd—ydyw awr o brofi y tang- nefedd hwn. Goreu Duw iw bobl ydyw DR. JOHN HUGHES. Peidiwch Anobeithio am y byd. Peidiwch anobeithio am y byd, er ei holl dwrf a'i derfysg, ei dyw- yllwch a'i gymysgedd. Yr Ar- glwydd yn yr uchder sydd gadarn- ach na thwrf dyfroedd lawer, ac na chedyrn donau y mor," ac er fod y diafol a'i lu yn cynllwyn ac yn cynllwyno, a phlant diafol yn bar od i weithio allan gynlluniau eu tad, y mae yr Anfeidrol yn cyhoeddi uwchben y cyfan, Fy nghyngor i a saif, a'm holl ewyllus a wnaf," ac y mae y cynghor hwnw yn gyng- hor o heddwch, a'r ewyllys yn llwythog o ddaioni a gras ar gyfer dynolryw. Golygfa anhawddgar ddigon sydd ar y gwastadedd di- ffaeth. Ond peidiwch a'i ddiofrydu i felldith a than wrth edrych tua'r deml, mi a welaf ddyfroedd yn dyf- od allan odditan riniog y ty, ac yn cynyddu wrth redeg yn mlaen nes myned yn afon nofiadwy, ac yna yn myned tua bro y dwy"rain, ac yn llifo i'r gwastad, ac yn dwyn byw- yd a ffrwythlondeb i r lie yr elo, ac o'r diwedd yn ymarllwys i'r mor marw, ac yn iachau y dyfroedd. Iachawdwriaeth Duw ydyw gob- aith y byd, a hanes yr iachawdwr- iaeth yn y Beibl sydd yn taflu gol- euni gobaith ar hanes dynolryw. YR UN. Adnabyddiaeth o Dduw. Y cam cyntaf mewn crefydd yd- yw adnabyddiaeth o Dduvv, ac nid yw perffeithrwydd mewn crefydd yn ddim ond perffeithrwydd) yn yr adnabyddiaeth o hono. Yno yr adnabyddaf megis y'm hadwaenir." A hyn yw y bywyd tragwyddol iddynt dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a an- fonaist ti, Iesu Grist." Yn y fan yna y mae crefydd yn dechreu mewn adnabyddiaeth o Dduw yn ngwyneb Iesu Grist. Ac ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl fel yr adnabydd- om yr hwn sydd gywir, ac yr ydym ni yn y cywir hwnw, sef yn ei Fab ef, Iesu Grist. Derbyn y meddwl i adnabod "y cywir hwnw" yw dechreuad gwir grefydd. Ac mae y lleiaf yn y cyfamod newydd wedi dyfod i'r fan yna, ac nid yw y mwyaf yn gwneyd dim ond cyn- yddu mewn gras a gwybodaeth o Dduw." Ysgrifenu yr wyf atoch chwi blant bychain, ar i chwi ad- nabod y Tad." Ysgrifenu yr wyf atoch chwi dadau, am adnabod yr hwn sydd o'r dechreuad. Adnabod Duw a gymhellir ar y lleiaf a'r mwyaf, ond fod y plant bychain i'w adnabod fel tad, a'r tadau i'w adnabod fel "yr hwn sydd o'r dechreuad." Maent yn yr un sef- yllfa, ond fod i'r sefyllfa hono wahanol raddau, N is gellir medd- wl am neb llai na'r Samariaid, y rhai ni chlywsant ond gair y wraig am Grist, ac un cyfle ganddo ef ei hun ond y maent yn myned o'r oedfa gan ddywedyd, Ni a wydd- om riiai hwn yn ddiau yw y Crist Iachawdwr y byd." Er lleied oedcl- ynt, yr oedd y berthynas newydd yr oeddynt wedi eu dwyn iddi fel deiliaid y cyfamod gras, wedi eu codi i'r stad uchel yma. Dichon yn mysg y rhai mwyaf, na welodd y byd erioed neb mwy na Phaul, ac nid oedd ganddo yntau yn ei fan uchaf ar ei oreu, ond ymestyn am y wybodaeth yma. Fel yr adnabyddwyf ef." Ac nid canwyll yn llewyrchu mewn lie tywyll yw y wybodaeth yma, ond y seren ddydd yn codi yn ein calonau. Canys Duw yr hwn a orchymyn odd i'r goleuni lewyrchu o dywyll- wch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi goleuni gwyb- odaethgogoniant Duw yn ngwyneb Iesu Grist." DR. JOHN THOMAS. Amcan wrth wrando yr efengyl. Y maeffolineb dyeithr mewn llu- aws o honom, nad ydYln yn gosod yr un nod o'n blaen, yr un dyben i gyrchu ato, wrth wrando yr efen- gyl. Nid yw y marsiandwr yn hwylio yn unig er mwyn hwylio, ond er mwyn masnach, ac y mae yn masnachu i fyned yn gyfoethog. Y mae yr amaethwr yn aredig nid yn unig er mwyn cadw ei hun yn brysur, heb yr un nod pellach yn ei olwg ond y mae yn aredig fel y gall hau, a hau fel y gall fedi gyda mantais. Ac a gawn ni wneyd y gwaith mwyaf rhagorol a ffrwyth- lawn-yn ddiffrwyth—gwrando, yn unig i wrando, heb edrych ddim pellach. Y mae hyn yn wir yn wagecid mawr, ac yn drueni mawr, colli y llafur hwnw heb enill dim trwyddo, yr hwn ond ei arfer yn iawn a fuasai o bob un arall Y mwyaf manteisiol ac enillfawr ac eto mae pob cyfarfod yn llawn o hyn. LEIGHTON.

IYr Hen Gorff a'r Bala.

IFfei a'r Llywarch Hen.

ISyrthio'n Farw.

IFFEIRIAU CYMRU.

MARCHNADOEDD.

AMSER GOLEU LAMPAU.