Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

HYNODION A HELYNTIONI ABERNODWYDD.

News
Cite
Share

HYNODION A HELYNTION I ABERNODWYDD. GAN NEMO. I I PEN NOD VIII. I I ABftJLADD DIWRNOD CYNHAUAF. I Rhaid i'r beddrod gael ei ddiwrnod, Yn wythnosau'r byd Fe geir awr gyfleus i drallod, Unrhyw bryd." Yn unol ag arferiad ardal Abernodwydd ers cyn cof, ymwelwyd a'r Hendre gan rhywun o bob ty yn y plwyf, ac ni feddyl- iai neb am alw yn wag-law. Nid oedd sefyllfa fydol y galarwyr, yn peri fod yr arferiad yn cael ei dori o gwbl, deuai rhai a bwydydd o wahanol fathau nen rhyw ddilledyn buddiol i rai o'r plant, os dig- wyddai fod rhai yn perthyn i'r teulu trall- odus. Pan glywais am yr arferiad gyntaf methwn a deall pa synwyr oedd dwyn rhoddion i bobl da eu byd, ond eglurodd fy modryb y byddai gneud gwahaniaeth rhwng cyfoethog a thiawd yn debyg o beri trallod i'r anghenus ac ychwanegu gofid at ofid. Tybiwn fod y cynllun yn un rhag- orol i estyn cymwynas i dlodion yr ardal mewn adeg ag y mae yn-dda wrthychydig o gynorthwywyr, a thybiwn ei fod yn llawer gwell na'r arferiad ffol sydd mewn bri mewn rhai parthau o Gymru, o fwyta yn nhy y trancedig cyn cychwyn tua'r fyn- went. Yn ol a glywais cyrchu pobl i'r angladd o bell ac agos, a throir ty galar yn dy gwledd, ac ystyrir ei fod yn anfri ar y teulu os na fydd i bobl y drws nesa' a phob drws arall yn yr ardal gymeryd eu gwala a'u gweddill o'r danteithion fydd wedi eu hulio ar eu cyfer. Mewn ambell i achos ni cha y siopwr fydd wedi pobi y teisenau a berwi y bacwn ddima byth am danynt, a phryd arall bydd gwraig weddw fu'n porthi'r plwyfolion dydd claddedig- aeth ei gwr yn gorfod mynd at y Gwarch- eidwaid i ymofyn ymborth iddi hi a'i phlant cyn pen y pythefnos. Gresyn na cheid diwygiad yn arferion claddu y Cymry. Er fod pobl Abernod- wydd yn rhagori ar ambell i ardal yng Nghymru eto sylwais fod yno lawer i ddef od wastraffus a dialw am dani. A waeth imi nodi rhai ohonynt yn y fan hon. Rhenid cardiau coffa i bawb ddelai i'r angladd, nis gwn o bethau'r ddaear pa ystyr sydd iddynt. Y mae pawb sy'n caru a pharchu'r marw yn sicr o'i gofio heb yr un cerdyn, ac ni bydd i'r lleill a'u derbyn- iant feddwl dim ohonynt, ond odid na luchir hwy i'r tan y cyfle cyntaf a geir, neu gwaeth na hynny,-lluchir hwynt o gwm- pas y ty o gongl i gongl nes y byddant yn dduach na chynt, a hawdd fyddai barnu oddiwrth y modd eu diystyrir, nad oedd gan y bobl gafodd gardiau feddwl o gwbl o'r marw a fwriedir ei barchu trwy eu rhanu ac hyd yn oed pan y meddylir llawer ohonynt beth sydd mor wrthun a'u dodi mewn ffram fel pictiwr a gosod uwchben y cerdyn watworlun anaturiol o lun dan rywbeth yn eistedd dan helygen blygedig, fel pe yn arwyddocau fod marw yn terfynu pob peth. Y mae gorfod aros noson mewn ystafell wely gyda rhyw hanner dwsin o'r cyfryw yn crogi ar y par- ed yn waeth na threulio noson mewn 11 Chamber of horrors." Nid oedd pobl Abernodwydd, mor bell ag y sylwais yn rhyw eithafol iawn gyda'u galar wisgoedd. Nid oeddynt mor ynfyd a phrynu cadachau poced gyda thua modfedd a hanner o ymyl ddu iddynt, a choleri gyda rhimyn du igam-ogam yn rhedeg ar hyd eu hymylau. Yr unig eithriad a welais, oedd Shion Rhys, Tyntwll, yr hen bagan y soniais am dano o'r blaen. Yr oedd ef mewn mourn- ing dros ei ben, yr oedd bron yr oil o'i het wedi ei gwisgo a chrape a phlygion o'r un defnydd am ei fraich, ond nid oedd hynny yn beth i'w ryfeddu ato yn ei aohoa er, canyc yr ucclci yn llawer mwy cyd-naws a'i ymddygiad na phe y buasai yn Gristion ac yn credu mewn Adgyfodiad a bywyd gwell y tu liwnt i'r lien. Cynhaliwyd trengholiad ar William Jones ond nid oedd y cwbl ond ffurf. Nid oedd dedfryd i'w chvyn ond marwolaeth trwy ddamwain." Er nad oedd y pellder o'r Hendre i Eglwys St. Cuthbert yn llawn filldir a han- ner, yr oedd mewn plwyf gwahanol, ac er i fy ewythr ymdrechu yn deg, methodd a llwyddo i berswadio y person i roddi can- iatad i'r Gweinidog gladdu, safodd ar ei hawl honedig yn ol y gyfraith a mynnai wasanaethu ynyr Eglwys ac ar lan y bedd ei hun. Nid oedd ond ychydig fisoecld er pan gafodd y fywoliaeth ac y mae yn am- heus gennyf a adnabyddai William Jones o gwbl. Beth tybed ydyw y rheswm fod offeiriadon Cymru mor hoff o gladdu Ym- neillduwyr? Nis gallaf feddwl am yr un rheswm os nad ydynt yn meddwl y cant y fraintonel dal ati hi o gladdu yr olaf yn y man. Parodd ystyfnigrwydd y Parch. Joseph Jenkins, yn gornedd i'w phriod gael ei gladdu gan ei Weinidog gryn ofid i Mali Jones a ffromodd yr ardalwyr yn aruthr, oblegid nid oeddyn-t hwy yn perthyn i'r epil anachaidd hynny o Ymneilltuwyr a geir mewn rhai parthau o Gymru, a war- adwyddant eu Heglwys a'u proffes, trwy gael rhyw berson neu giwrad, i fragawth- ian ffurf o wasanaeth ddienaid mewn rnodd peirianyddol uwchben bobl dduw- iol, a ystyrient hwy yn hereticiad anob- eithiol. Credai Ymneilltuwyr Abernod- wydd mai y Gweinidog a wnai y tro i bregethu i'r byw oedd y nnvyaf cymwys i ddodi ei gorff i'r ddaear ar ol i'r enaid a frashawyd trwy ei Weinidogaeth fynd i ogoniant. Ni ddychmygent am fynd at y Person i ofyn iddo gladdu eu hanwyliaid fel pe byddai allwedd Paradwys yn crogi wrth ei wregys ac nad oedd mynedfa yno ond trwyddo ef. Fel protest yn erbyn yspryd trahaus a ffroenuchel y Person, penderfynwyd cynal gwasanaeth yn y capel cyn myn'd a'r corph i'r fynwent. Canwyd, gweddiwyd a darllenwyd y gwasanaeth gladdu a thraddodwyd anerchiadau pwrpasol yno ac yna, wedi cerdded mor bell a'r llidiart oedd ymhen y llwybr arweiniai tua'r Eg- lwys trodd bron yr holl dyrfa eu cefnau ar y person oecld yn disgwyl am y corph ac aethant adref Nis gwn i, am odid un olygfa mwy tar- awiadol nag angladd yn y wlad ar ddiwr- nod cynhauaf. Diwrnod angladd Wlliam Jones yr Hendre, yr oedd pawb yn lied brysur, canys yr oedd y gwair ar lawr yn barod i'w gario ym mhob fferm yn yr ardal, ac nid oedd golwg gadarn iawn ar y tywydd, yr oedd y wybr wedi cochi gryn dipyn yn y boreu a phob argoel y byddai yn debyg o wlawio cyn nos ond er y cyf- an ni fu i hyn luddias y plwyfolion i ddod at eu gilydd yn llu i ddangos eu parch i'w cymydog cymwynasgar, corff yr hwn oedd i gael ei hebrwng i'w orffwysfa y diwrnod hwn. Wrth y ty wedi darllen y ddegfed Salm a phedwar ugain, a chanu yr hen emyn adnabyddus Fe adgyfododd Iesu Yn ogoneddus iawn," &c. Arweiniwyd mewn gweddi dyner a theim- ladwy gan y Parch. O. Festin Williams, Gweinidog yr Anibynwyr yn Abernod- wydd. Yna cychwynwyd tua'r fynwent. Yr oedd yn rhaid i'r elorgerbyd, wrth adael y ty, fyned i ddechreu, trwy y llid- iart, wrth ba un y cyfarfyddodd a'i angau, gan adael y das wair a ddechreuodd ei gosod ar ei gilydd i rhywun arall ei gor- ffen. Yna aethpwyd ar draws cae oedd ef wedi ei dori ychydig ddyddiau yn flaen- orol, ac awgrymiadol dros ben oedd gwel'd yr adladd eisoes yn dechreu tyfu, ymwth- iai llafnau o'r gwellt i fynny trwy fon y gwellt a dorasid. Gwyn oedd eu lliw gan nad oeddynt wedi bod yn ddigon hir yn y goleuni, i droi eu lliw fel ag i gydasio a'r gwerddlesni swynol oedd i'w ganfod ar bob llaw. Wedi myned trwQcld i'r cae nesaf sylwn fod ei bladur wedi ei gadael ar lawr, yn y cau y dodwyd hi, boreu y diwrnod y bu farw mor ddisymwyth, gellid meddwl iddo gael ei alw at ei frecwest pan ar ganol ei wanaf ac iddo yntau wthio llafn ei bladur i'r ystod o wair a dorasai a thaflu ei got lian ac ychydig wair dros yr hogbren a gariai ar goes ei bladurrhag wres yr haul doddi y bloneg a gydiai y grud wrtho. Ar bob llaw gwelid ei ol, mewn un maes siglid cauad o wenith anaeddfed gan awel dyner a chwythiai ar y pryd, a newidiai ei liw yn barhaus gan fodcymyl- an a heulwen fel pe yn erlid eu gilydd yn barhaus ar hyd ei wyneb. Er fod llaw y gweithiwr fu'n hau y gwenith ar hadau eraill a dyfent yn y caeau cyfagos, "Yn yr amdo'n gaeth." Dwed y d'wysen dan ei bendith, Beth a wnaeth." Er fod y gweithiwr diwyd wedi marw, tystia pob erw o'r tir a driniodd mor dda, a phob gwyrch a gwal ar ei ffarm wrth y byd gerbron y nef fod gweddillion gwlad- wr gonest yn cael ei hebrwng i dy ei hir gartref. Distaw a thrist oedd yr osgordd- lu a ddilynent y gorff tua'r bedd ond yn y glas uwch eu penau canai. dau nen dri ehedydd yn swynol dros ben ond y mae yn haws iddynt hwy ganu nag yw i ni gan eu bod yn nes at fyd y pethau gwynion na ni. Aeth llawer o bethau trwy fy meddwl ar y ffordd tua'r bedd ac wrth ddychwelyd yn ol i Faesneuadd. Yr oedd popeth yn ddameg i mi, a chredaf y gwelais ym- hellach a chliriach i gyfrinach bywyd a marwolaeth y diwrnod hwnw nag erioed. Yn yr adladd eiddil a gwelw, a sathrwn gynt yn ddigon diystyr gallwn ddirnad am nerth y bywyd anherfynol sydd yn di- lyn pob lladd, a marw, a mwy o bryd- ferthwch a thynerwch na'r bywyd a fu, gwelwn hefyd nad yw gwaith byth yn mynd yn ofer, os galwyd William Jones, adref ar ganol tori ei wana' wair, ar draws y cae, ac iddo adael ei bladus yn gegur yng nghysgod yr ystod, byddai rhywun yn sicr o'i ddilyn a thynnu y wanaf i ben, ac y byddai i gryman rhywun arall gael ei osod yn y gwenith a hauodd efe pan fyddai yn aeddfed a chludo pob ysgub i ddiddos- rwydd. Sylweddolais yn llawn, mai gwaith ydyw yr unig beth mewn gwirion- edd, nad yw byth yn mynd yn ofer. Y Sabbath dilynol i'r angladd yn unol a chyhoeddiad a wnaed yn y wasanaeth a gynhaliwyd yn y capel cyn myn'd a'r corff i'r fynwent, cynhaliwyd gwasanaeth goff- fldwriacthiul yn yr hwyr ac yr oedd yr addoldy yn rhwydd lawn. Canwyd emynau cyfaddas dan deimlad- au dwys, a thraddodwyd pregeth bwrpasol gan y Gweinidog seiliedig ar y seithfed adnod o'r drydedd bennod ar ddeg o'r Ep- istol at yr Hebreaid, Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffycld y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Ymdriniodd er testyn mewn modd deheuig a chymhwysodd y geiriau at y blaenor dan sylw mewn dull meistrolgar a dyddorol, a chymhwysodd y gennadwri at gydwybod- au y gynulleidfa gyda grym neilltuol. Nid oedd wyneb sych yn gan neb o'r gwrandawyr, ac yr wyf yn dra sicr i ami un benderfynu dilyn ffydd y gwr hynaws a duwiol a gipiwyd adref mor sydyn, o ferw a phrysurdeb y cynhauaf y tu hwnt i'r lien i ardal dawel yr aur delynau. (I barhau.)

PORTHI'R PRAIDD.I

IYr Hen Gorff a'r Bala.

IFfei a'r Llywarch Hen.

ISyrthio'n Farw.

IFFEIRIAU CYMRU.

MARCHNADOEDD.

AMSER GOLEU LAMPAU.