Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. Nos LUN, MAWRTH 14eg. I Trwsio hen beth.-Cafodd Ar- glwydd Rosebery gynulliad neill- duol pan yn tiaddodi ei araeth fawr yn Nhy'r Arglwyddi nos Lun, I ac yn dadlenu ei gynllun i ddiwygio y Ty hwnwJ I ddechreu sylwodd Arglwydd Rosebery fod Ty'r Arglwyddi yn rhy luosog i wneyd gwaith effeith- iol, ei fod yn cynrychioli un budd- iantynormodol, ac fod yr egwyddor etifeddol ar ba un y seilid y Ty 3 n agored i ormod o feirniadaeth a gwrthwynebiad. Yr oedd Ty'r Arglwyddi wedi gwneyd gwasan- aeth rnawr i'r wlad. Yr oedd y Gwyddelod eisiau difodi y Veto er mwyn cael Ym- reolaeth, ac ymgais y Blaid Lafur oedd cael clirio y frordd er mwyn cenedlaetholi y peth yma a'r peth arall. Yr oedd yna wrthwynebiad i gynllun etifeddol Ty'r Arglwyddi. Cynllun y Llywodraeth oedd an- alluogi Ty'r Arglwyddi, yn lie ei ddiwygio. Credai ef (Arglwydd Rosebery) na chlywid mwy am ail- drefnu Ty'r Arglwyddi os unwaith y pesid y penderfyniadynnglyn a'r Veto. Unwaith y gwneid i ffwrdd a Veto yr Arglwyddi nid oedd dim i rwystro i Dy'r Cyffredin basio a rhoddi mewn grym benderfyniad 1619 yn datgan Ty'r Arglwyddi yn ddiwerth, peryglus, ac y clylid ei ddiddymu. Buasai cynllun y Lly- wodraeth yn gadael Ty'r Arglwyddi yn ddrychioiaeth cldiwerth, a gof- ynodd ei arglwyddiaeth yn nghan- ol cymeradwyaeth y Toriaid pa berson a pharch iddo ei hun fuasai yn eistedd yn y fath Dy. Yn ei gynllun ef, gofynai iddynt wneyd i ffwrdd a'r hawl etifeddol i edc( yn Nhy'r Arglwyddi, ac c^wsnegai fod y farn hon wedi sael cefnogaeth unfrydol yn y Pwyllgor fu yn vmchwilio i'r mater. Ei ail gynygiad oedd fod "ddynt dderbyn yr egwyddor o rhai o'r tu allan. Ni fynai -h  i Dy'r Arglwyddi fod yn rhyw ail- argraphiad gwan o Dy'r Cyffredin. Ni ddymunai ychwaith luosogi helyntion etholiad gyffredinol. Avv- grymai fod yr Ail Dy newydd i gael ei ethol gan GynghorauSirol a Chorphoraethau ereill ffurfid I drwy etholiad. Credai ef na wnai dim ond yr egwyddor etholiadol roddi bvwyd newvdd a nerth new- ydd i'r Ail Dy. Y cynllun arall oedd glynu a gafaeliad gwan mewn breintiau oeddynt yn anmhoblogaidd, gallu- oedd oeddynt bron yn ddiwerth, gwanhau hyd nes y daw yr alwad am eu difodiad. Diau yr adgofir hwy am y noson fythgofiadwy yn rnis Awst, 1789, amser Chwildroad Ffrainc, pan mewn tonau o frwd- frydedd y rhoddodd pendefigion Ffrainc freintiau ar ol breintiau, hyd nes yr aeth y rhai ddaethant i mewn fel pendefigion balch, hen- afol, allan fel dinasyddion syml. Yr oedd y wers o fod yn rhy hwyr wedi ei hysgrifenu ar draws wyb ren hanesyddiaeth pob cenedl. Yr oedd ganddo ef ffydcl yn noethineb a chenedlgarwch y Ty. Credai y cyfodent i lawn ofynion yr am- gylchiad ac y gwnaent bleidio iawn bwysedd y cyfansoddiad. Os gwnant, achubent y cyfansodd- iad, achubent ddyfodol eu gwlêd, ac enillent anrhydedd a diolchgar- wch anllygradwy nid yn unig gan y genedl ond oddiwrrth genedlaeth- au y dyfodol can belled ag y bycld- ai hanes y wlad hon yn bodoli (cymeradwyaeth uchel yr Wrth- blaid).

TY'R CYFFREDIN.I

FFEIRIAU CYMRU. I

MARCHNADOEDD. I

Advertising

AMSER .GOLEU LAMPAU. --, I