Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD.

News
Cite
Share

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD. GAK NEMO. PENNOD VIi. MEDI A CHYNULL. Wythnos brysur ym Maesneuadd oeddyr un a ddilynai y cwrdd pregethu a'r cneifio. Yr oedd fy ewythr a'r dynion oddicartref trwy y dydd yn y mynydd yn tori mawn, canys wrth ciaa mawn y mae trigolion Abrnodwydd yn rhostio eu rhost ac yn ym- dwymno hyd heddyw y mae y dywarch- en ddu wedi ei rhoi o'r neilltu ym mhob rhan arall o Gymru y gwn i am dani, ond hyd yn hyn, mawn a losgir ar bob aelwyd yn yr ardal hon. Mae'n wir y cyrchir glo er- byn diwrnod yr ingian ddyrnu," gan bob amaethwr sy'n defnyddio y peiriant, a bod y swm yn cynyddu bob blwyddyn ond yn ami iawn bydd y glo a ddygir yma o Lanhafesp yn parhau hyd o fewn ychydig wythnosau i'r adeg y cludir gyfienwad ar gyfer y diwrnod ayrnu y fiwyddyn gan- lynol. Mor fuan ag y bydd y mawn wedi sychu, fe'u cynhullir at eu gilydd yn fan deisi gerllaw y fawnog, hyd amser cyf- addas i'w ddwyn i lawr at wasanaeth y teulu. Wed' 'r cynhatia' mawn daeth ycynhauaf gwair. Yn nyddiau cyntaf Gorffenaf yr oeddynt yn brysur baratoi ar gyfer y cyn- hauaf, llifid y pladuriau ar y maen oedd yn yr ardd o flaen y ty, melid tywod-faen fras er ei wneud yn barod ar gyfer hogi, dodid danedd yn y cribiniau a gedwid trwy'r gauaf yn Uofft yr ystabal y tu cefn i'r ty, ac ai fy ewythr bob boreu am dro trwy'r gwlith ar draws y caeau, er pender- fynu pa gae oedd y cyntaf i gael i ladd. Mor fuan ag y deffroais un boreu Llun clywn swn hogi yn y cae agosaf i'r ty. Aethum allan ar ol brecwast er gweled y gwaith ym mynd ymlaen, a dyddorol i mi oedd gweled ymroddiad y dynion i'w gwaith, a'r modd yr ymddigrifent mewn tori gwana lydan a thori yn làn. Ar y blaen, yr oedd Harri yr hwsmon ac o'i ol, yr oedd Jac yn cael ei ddilyn gan wr cras- goch o Sir Fon, a gyflogasidam y cynhauaf yn unig, ac yn ddiweddaf fy ewythr. Fe'm synwyd ac fe'm swynid gan y modd y cyd- claflent eu pladuriau i'r gwair a'r modd y syrthiauy Pengaled, ac ambell i dwmpath o Gegid o flaen eu hoffer miniog fel yr elent ymmlaen. Ni siaradent fawr a'u gilvdd, heb law rhyw sylw yn awr ac yn y man am y gwair,—fod yno well cnwd nag arfer. Yn awr aceilwaith deuai eu pladuriau i wrth darawiad ag ambell i gareg oedd yn llechu ym mon y gwair, a phan adigwyddai hyn yng ngwana y dyn dieithr, dilynid yr an- ffawd a llw neu reg anystyriol. Am beth amser ni wneid sylw ohono gan neb oddi- eithr i Harri neu fy ewythr ddweyd, Hylo careg eto, rhai o'r hen weilch hen blant vna a'u taflasant yma wrth fynd a dwad o'r Ysgol mi waranta." Troai y pladurwr y min a'i gylell ac ymlaen a hvvy, hyd nes y tleuent at gareg arall. O'r cliwedd pan dclaeth y gwr crasgoch ar draws careg a thyngu yn enbydus, safodd Jac yn sydyn, a throdd i gyfeiriacl ei olynydd, a meddai wrtho Be's dod iti y fll-fran; anystyriol. faint haws-wyt ti 0 gymeryd enw'r Mawredd yn ofer fel yna, rwan gad i ni gael deall yn gilydd ar y dechra ma, dydw i ddim am gyd-weithio a neb sy'n gwaradwyddo fy Nuw i fel hyn, be sydd a wnelo'r Brenin Mawr a'r cerig yma, pe tai o wedi tafiu nhw yma i hun mi fasa na rhyw sens mewn son am dano fel tasa, ond y cwbl nath o, oedd tyfu'r gwair trwchus yrna, ac y mae yma dryraachcnwd nag arfer eleni, pe tasa fo yn cydnabod pobl am blygu iddo mor ymroddol yn ys- tod y diwygiad, pie rwyt ti wedi bod ? cheisoch chi ddim diwygiad tua Sir Fon acw? mi glywis la war gwaith ma i'r Methodistiad Calfinaidd bia Sir Fon, ond os oes acw lawer o bobol reglyd, anystyr- iol fel chdi, raid iddi nhw ddim ymffrostio yn y peth fel tasa," os ydi rhaid i ti gael tyngu, dos i fynny i'r mynydd heno ar ol cadw noswyl, am awr ne ddwy i dyngu yn unigrwydd' y mynydd lie na chlyw neb mohonot ond y Brenin Mawr i hun." Effeithiodd geiriau plaen Jac ynghyd a'i ddifrifoldeb yn fawrar y gwr o Fon, gwel- wodd ei wedd, a bu yn bur dawedog am y gweddill o'r dydd. Nid oedd fawr o osgo gweithio ar y dyn- ion dranoeth, gan eu bod oil yn dioddef yn dost oddiwrth y pla anaele a elwir yn glwy pladur," math o anystwythdra poenusjtrwy yr holl gorff, yn arbenig mein- der y cefn, mewn canlyniad i ewynau a chyhyrau gael eu trethu a gwaith dieithr ac anghyneftn trwy blygu a lluchio y bladur trwy y dydd. Ar rai cyfrifon ym- debyga i glefyd y mor, poenir pob pladur- wr o'r ciwy yn nechreu y cynhauaf pa mor ami bynag y buwyd trwy yr oruchwyliaeth yn flaenorol. Yr unig feddyginiaeth mynd trwy yr un driniaeth yr ail ddiwr- nod. I Nid oedd y dynion yn symud mor heinyf dydd Mawrth, a sylwn eu bod yn hogi yn amlach, er mwyn cael esgus i gymeryd ychydig seibiant ac eisteddent i lawr yn lied ami yn nghysgod gwrych i roddi grud ar eu hog-brennau. Tua banner awr wedi deg, pan oeddynt yn mynd trwy y gwaith o rudio, clywem rhywun yn llefain yn uchel oddiar ben bryn a safai tua chwarter mill- dir oddiwrthym, trodd pob llygad i gyfeir- iad y llais, a gwrandawsoni yn astud, a chlywem lais merchedaidd yn galw ar fy ewythr frysio i'r Hendre fod y ceffyl wedi rhedeg oddiwrth y das yn vmyl y ty a bod William Jones wedi brifo yn arw. Doclodd fy ewythr ei got lian am dano a chychwynodd gynta gallai i gyfeiriad yr Hendre ar draws y caeau, ac aethum innau IW ganlvn. Cyrhaeddasom y buarth yn ymyl y ty ac mewn adwv gul gorweddai William Jones, yn hollol farw ac uwch ei ben plygai ei briod druan mewn trallod blin wedi ei syfrdanu gan y brofedigaeth ddisymwyrth a'i goddiweddodd, tremiai yn Wyllt i wyneb gwelw ei gwr, gan ei ysgwyd a glw arno erbyn ei enw, ond yr oedd ei Phriod hynaws wedi croesi dros y ffiniau 1 r ochr gyfrin a thywyll y tu hwynt i'r lien ° gyrhaedd llais y ddaear am byth. a ? oedd y ceffyl fu'n achlysur o'i farwol- aeti, y? sefyll yn ymyl, gyda golwg gyn-  arno, gan edrych fel pe bai yn syl- eddoh ei fod wedi achosi rhvw drallod anahyff d. T -Lrlghyffredi n berclie nogioii.- Tra v iygai y wraig ofidus uwchben ei phriod Yr oedd Tango y ci yn ymstwyran o'i fe.Wl11pas gan lyfu ei Haw a wyneb ei feistr caredig bob yn ail, ac ymddanghosai fei pe yn methu deall paham na wnai sylw ohono fel arfer, ac yn ei ffordd ei hun ym- drechai ddangos ei gydymdeimlad a'r weddw drallodus yn ei galar alaethus. Gwelsom ar unwaith pa fodd y bu yr anffawd am rhyw reswm neu gilydd, rhedodd yr anifail o'r gadlas a rhuthrodd William Jones i geisio ei ddal, ac wrth geisio cael y blaen arno gwasgwyd ef rhwng y drol a phost y llidiart yn yr adwy gul oedd yn arwain i'r cae. Gwnaeth fy ewythr a minnau yr oil a allem er ceisio cysuro y wraig helbulus yn ei thrallod, ac aethum a chorff ei phriod i'r ty. Daeth Lowri Huws, Pen y bryn yno yn y man i ddiweddu y corff, yr oedd hi yn un o'r cymeriadau cymwynas- gar hynny a geir ymron bob ardal yng Nghymru. fydd yn sicr o fod yn chwareu rhan amlwg ym mywyd pob teulu yn y gymydogaethvpryd bynnag y digwydda rhyw amgylchiad neilltuol yn ei hanes. Ni enid odid neb yn y plwyf na fyddai Lowri Huws yno i ofalu beth a gai pawb ei wneud; ni fu gwledd briodasol yn yr ar- dal o fewn cof ers dros ddeugain mlynedd nad oedd Lowri yn gwasanaethu yno a phan ymwelai angau, chwalwr teuluoedd a dinystrydd cynlluniau ag unrhyw dy yn yr ardal dawel yr oedd Lowri Huws yno yn wastad o flaen yr arwylydd under-taker yn cysuro y byw ac yn paratoi y marw ar gyfer ei am do. Daeth nifer lawr o'r cymydogion at y ty ymhen ychydig oriau, ac wedi i bethau dawelu dipyn dychwelodd fy ewythr a minnau i Faesneuadd. Parodd y newydd am farwolaerh Wil- liam Jones, yr Hendre, drallod trwy'r ar- dal i gyd, canys yr oedd yn ddyn caredig a chymwynasgar dros ben, mawr hoffid ef ,gan bawb, a bu i'w fuchedd santaidd gario dylanwad pell-gyrhaeddol ar fywyd ugeiniau yn y gymydogaeth, ond nid wyf yn meddwl i neb ar wahan i'w. deulu deimlo yr ergyd yn fwy na Jac Bronfoel, wyIai yn hidl bob tro y sonid am dano, a'r noson y bn farw digwyddwn fod wedi mynd am dro yn ngwyll y nos i geunant heb fod nepell oddiwrth y ty. Yn fuan wedi i mi eistedd i lawr yn nghysgod der- wen frigog, clywn swn rhywun yn ymlwy- bro i gyfeiriad yr aber a chwynrellai trwy'r ceunant, gan sathru y mieri ar brysg-lwyn dan ei droed, cilwthiais fy ngwyneb i gyf- eiriad y swn, a gwelwn ar unwaith er ei bod yn rhyw lwyd dywyll mai Jac oedd y gwr trwm-droediog a barai y fathdrwst. Deliais fy anadl, ymguddiais oreu gall- wn yng nghysgod y goeden a dyfalwn beth tybed oedd neges Jac. Toc peidiodd swn y sathru, ac yn y man clywn lais yn dechreu trydar mewn cyd- gord a miwsig y nant furmurai gerllaw. Deallais ar unwaith mai gweddio yr oedd Jac. ar y cyntaf ni ellwn ond clywed swn yn unig, ond yn y man dechreuais ddeall y geiriau a hawdd oedd dirnad oddiwrth ei lais crynedig ei fod dan deim- lad dwys. Anmhosibl ydyw adrodd yr oil a glyw ais ond marw sydyn William Jones oedd uchaf ar feddwl y gweddiwr Diolch iti Arglwydd da," meddai am nad eist ti a mono fo atat dy hun cyn iddo fy ngweld i yn dod at dy bobl Di, achos vr ychv i yn siwr fod o wedi, gweddio lJawar drosta i, ac am i mi gael ty achub diolch i ti hefyd am i helpu o fyw y grefydd a broffesodd mor gyson a di-lol, a bendith arnat ti Ar- glwydd mawr, gna bawb fedri di yn debyg iddo fo, mi wn i fod yn hanodd iawn i ti neud fawr o rai o honom ni, achos mae gen ti ddeuddyn mor sal, ond mae'n syn- dod gymint all dy ras di neud ar rai fel y fi; coda flaenoriad tebyg iddo fo yn y cap- elau ma, mi faswn ni yn gofyn i ti fy ngwneud i yn deilwng i'w ddillyn o taswn i yn gwbod mwy o fy Meibl, ond mi ella i ddilyn o yn i fywyd cyson os pwysa i ar dy rasdi Cofta am i wraig o druan, ac am y plant i gyd, yn enwedig cofia am hwnw sydd wedi dengid i'r Sowth, all o ddim mynd i nunlle o dy afael di, achub o Arglwydd, fel yr achubaist ti fi. Achub bawb. Achub y dyn diarth yma, rhag ofn iddo fod yn anfantais i mi a cholli i enaid i hun hefyd, trwy Iesu Grist Amen." Toe clywn ef yn dringo yn ol, ac yn gwneud ei ffordd tuag adref. Dilynais ef yn y man a theimlwn fod rhyw agosrwydd rhyfedd rhwng y ddau fyd y noson honno yng nghymdogaeth Maesneuadd, a dech- reuais ameu a oes clau fyd, ynte a lithra y naill i'i llall fel nas gellir eu gwahanu oddiwrth eu gilydd a dweyd ymha le y dechreua y naill ac y diwedda y llall—i'r sawl fydd wedi eu huno a Duw. Meddianid fi a theimladau dieithr, rhy- feddwn yr cynydd a wnaeth Jac Bronfoel mewn profiad o grefydd, canys argyhoedd- id fi trwy ei fywyd a'i weddi ei fod wedi gallu gwthio ymhellach i'r Deyrnas na degau o hen broffeswyr a adwaewn oedd- ynt wedi bodrhedeg yr yrfa er's llawer I blwyddyn, erimygwn yr hyn all gras Duw ei wneud ar dclymion pan ga chwareu teg i'w troi a'u trin, fel y mynno ei hun. (I barhau).

- - ____n__ -LLITH LEFI JONES…

Advertising