Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
GWOBRWYON. j Trwy garedigrwydd dau frawd sy'n dymuno llwyddiant y GWYL- IEDYDD NEWYDD rhoddir I. Tair gwobr 10s Oc 5s 0c; 2s 6c; i'r GOHEBWYR anfonant y nifer mwyaf o newyddion lleol (cryno a dyddorol) ar Postcards yn ystod y chwarter presenol. II. Tair Gwobr: 10s Oc; 5s Oc; 2s 6c i'r DOSBARTHWYR sicrhant y nifer mwyaf o dderbynwyr yn ol rhif yr eglwys yn y lie, i'r GWYL- IEDYDD NEWYDD yn ystod y chwar- ter. CYSTADLEUAETHl POST CARDS. Rhaid iddynt fod mewn Haw bore lau. AT Y CYSTADLEUWYR, Cedwir cyfrif manwl a gofalus o'r Post Cards. Ni bydd dim mwy dyddorol na'ch cyfroddion byr a chryno chwi. 1'r golofn hon y try pawb am y cyntaf yn fuan. Gwa- hoddwn y bechgyn a'r genethod i dreio eu Haw ar Post Cards i'r Gwyliedydd New- ydd." Ysgrifener ar un wyneb, ac un yr wythnos a gyfrifir yn y gystadleuaeth. GOL.
Newyddion Wesleyaidd.
Newyddion Wes- leyaidd. POSTCARES A GOHEBIAETHAU. J NODION 0 GYLCHDAITH TREORCHY. NANTYMOEL.—Mr Moses Jones, Treorchy, fu yn gwasanaethu y cyfeillion yn y lie hwn y Sul diweddaf. Yr oedd stad iechyd ein brawd yn gyfryw oedd yn ei gymell i orwedd gartref. Ond rhag i'n cyfeillion gael eu siomi ar gychwyn eu gyrfa. feym- wrolodd y brawd. Yr oedd y croesaw ar siriotdeb a gafodd yn mysg y cyfeillion wedi ei foddhau yn fawr ar ol ei hunan- aberth. Cafodd adegau dedwydd yno foreu, prydnawn a hwyr. Bydd gweinidog Treorchy, a Mr D. Lloyd Jones, yn myn'd yno y Sul nesaf. ac yn pregethu ar hyd y dydd. HOREB, YSTRAD, RHONDPA.—Y Parchn. Hugh Hughes, a D. M. Griffith, y Caerau, fu yn cynal cyfarfod pregethu yn y lie uchod y Sul a'r Llun diweddaf a chafwyd adegau gwlithog. TREHERBERT.—Crystal Queen yw y darn sydd i gael ei Berfformio yn y lie uchod dan arweiniad Mr. Hugh Hughes, G.T.S.C. Mr. Hughes yw arweinytld ein Cymanfa- oedd Undebol eleni. TREORCHY.—Enchantex Rose sydd i gael ei Berfformio yn y lie hwn dan arweiniad Mr. Lewis Edwards, arweinydd y gan yn Calfaria. GOH. BYWEDION 0 ARDUDWY. Cynygir gwobr sylweddol yn Nghyman- fa Gerddorol a Llenyddol Cylchdaith Dol- gellau ac Abermaw am Farwnad er cof am yr hen bregethwr ffraeth a ffyddion—Mr. William Owen, Abermaw. Hyderir y derbynir cynnyrchion teilwng. Yr oedd y cyfaill yn gymeriad ardderchog. Hai ati ar unwaith awenwyr mwyn. Plethwch gan geinwych goeth. Ar fedd-faen yn mynwent Llanbedr, Meirion. gellir gweled yr englyn hynod a ganlyn :— Cwynfan marw Adda'r cyn-fab-marw Marw mwyn Rufeinfab [mawr Marw mawr arw marw Mair arab, Marw mwy oedd marw'i mab. Pwy a olygir wrth y Rhufeinfab yn yr ail linell tybed ? Fel y gwelir nid yw yn englyn hollol reolaidd, heblaw fod delw Pabyddol arno. Dehongled rhywun yr englyn. Onid yw yr hen iaith Gymraeg yn gywrain a chyfoethog. Wele engralff t:- Yn fy ri d, d dan y gwydd gwelais wydd, yn gwneud gwydd gyda gwydd gwelais wydd. Dyna chwech o eiriau yn sillebu yn gyffelyb i'w gilydd, a phob un yn meddu ystyr wahanol. Pwy a eglura y frawddeg. Cwrdd plwyf heddychol a thawel gaed yn Llanddwywe-is-y-graig nos Wener. Mr. Griffith Powell, Tyddyngoronwy, ddewiswyd yn Warcheidwaid a Cynghor- ydd dosbarthol y plwyf am y tair blynedd nesaf, Mr. Henry Owen, Ty'n-y-cae yn Gadeirydd y Cwrdd Plwyf am 1910, a Mri. Salmon Lewis, Rowen a William Owen, Caetani, yn oruchwylwyr y tlodion am y flwyddyn. Mr. Robert Jones, Eithinfyn- ydd i gynrychioli y plwyf ar Bwvllgor Addysg Dosbarth Abermaw am dair blyn- edd. Oherwydd y clymbleidio gwyllt a dir- gelaidd a ddygid yn mlaen yn nglyn ag etholiad Cynghor Plwyf Llanenadwyn, cadwodd holl Ryddfrydwyr mwyaf blaen- llaw yr etholaeth allan o'r Cwrdd Plwyf, acmewn canlyniad dewiswyd ary Cynghor chwech o'r Blaid Lafur, tri Cheidwadwr a dau Ryddfrydwr. Rhaid i'r plwyf mewn canlyniad ddioddefam dair blynedd. Caed hwyl ac adloniant yn Vestri y Wesleyaid, nos Fawrth. Mr J. H. Lewis, Tyreicldiw, yn Ilywydd. Papur ar "Paul gan R. Lloyd Griffith. Can gan John Hughes. Stori fer wreiddiol gan Ithel Lewis, Deheongli enwau lleoedd, gan James Richards. Adroddiad, Richard Beriah Williams. Pawb a doniau da yn Be-i h ?m- s. P;-Lw?, a doplau da yi-i Braidd yn siomedig y trodd etholiad y Cynghor Sir allan yn yr ardalhon. Natur myn'd i Pentre mawr," (chwedly diweddar Cynfaen) oedd bryd y Rhyddfrydwyr a ] phobl oreu y fro, ond ar aden Toriaith y ^ludwyd y mwyafrif i'r pol. Clais i Rydd- ] frydwyr fu hyn. Ni welwyd erioed ddai- ] oni o'r termau ymgeisydd Annibynol." Palasdy gwemp ei lwysder yw Glan ffrwdd sydd bron a'i gwblhau ar fin yr Artro fad ger Llanbedr, gan Mr John Morris, Lerpwl. Dyma yr ail balasdy a godwyd yn y lie yn ystod y ddwy flynedd diweddaf gan y boneddwr a nodwyd. Ar yr Artro ychydig yn uwchadeiledirneuadd hardd arall ar dir y Gwynfryn gan Mr W. E. Griffith, Lemington. Rhwng y ddau cafodd ugeiniau o bersonau waith yn ys- tod y misoedd a basiodd. Swn ymfudo a glywir yn y cwmwd yma yr wythnosau hyn. Amryw o bobl ieuainc yn rhianod a llanciau ar droi eu wynebau i'r Unol Dalaethau a manau eraill. Gresyn hefyd fod y boblogaeth yn teneuo. Piti garw oherwydd deddf y tair blyn- edd," fod cynifer o'n gweinidogion heb bleidlais. Oni bae hyn buasai y Parch. D. Gwynfryn Jones yn gynghorwr Sirol dros blwyf Llanaber. Enwyd ef yn unfrydol gan etholwyr y rhanbarth, ond gan nad oedd yn etholwr dewiswyd Mr William Evans, Aelybryn, Bontddu, yn ddiwrthwynebiad yn ei Ie. Gwna aelod rhagorol. Medda brofiad helaeth, gwelediad pell a barn aeddfed. Cynhaiiodd Methodistiaid Horeb, Dyff- ryn, eu cwrdd llenyddol blynyddol, yn yr Addoldy hwnw nos Fawrth a Mercher di- weddaf. Lleol oedd y beirniaid,y datgan- wyr ar oil, ar testynau bron yn gwbl yn gyfyngedig i'r enwad. Pethau i'r Plant oedd toraeth y cystadleuon, a chafwydym- geisiaeth dda ar bobpeth. Perfformir y ddrama Rhys Lewis," gan gwmni Ardudwy er budd yr achos Wesle- aidd Dyffryn yma yr 22ain cyf. Dysgwylir ty llawn. Y BRAWD CWARTUS. TAISARNAU. MORGAN LLWYD 0 WYNEDD."—Dyna oedd testyn y Parch Daniel Wllllams,(W), Harlech, i Gymdeithas Lenyddol Soar nos Wener diweddaf. ABERDYFI. Y WESLEY GUILD.—Nos Fercher, Mawrth 2fed, cynhaliwyd Cyfarfod Amrywiaethol dan drefniad a llvwvddiaeth Mr. D. C. Dav- ies, Tafolgraig. Cafwyd adroddiadau gan Miss L. Thomas a Talfardd, am gystadlu mewn 'ail adrodd englyn,' dyfarnwyd y Parch. Rhys Jones yn oreu, am chwibianu ton,' Mri J. E. Jones a E. E. Owen yn gyd- radd oreu, cafwyd cyfarfod hwyliog. DIRWEST.—Yn y neuadd drefol nos Sul, Ilywydd, Mr. D. Jones, 4 Bodfor Terrace, siaradwyr, Mr. Robert Richards, Nantiesyn a'r Parch. J. Lloyd Hughes. SEIAT UNDEBOL.—Cynhaliwyd yr uchod yng nghapel y Wesleyaid nos Fercher Mawrth 9fed o dan nawdd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion, daeth cynulliad rhag- orol ynghyd. YR YSGOL Wnio." --Daeth tymor yr uch- od i ben p'nawn Mercher, dirwynwyd ef i fyny uwch ben cwpanaid o de, yn ychwan- egol at yr aelodau daeth amryw gyfeillion eraill ynghyd. Gwnaed llawer o waith gan y chwiorydd yn ystod y tymor. GOH. TABERNACL, HIRWAEN. Dydd Llun Gwyl Dewi cynhaliwyd gwyl de a chyngerdd dan nawdd Cymdeithas Merched y De. Te da iawn a chyngerdd da hefyd. Cadeirydd oedd Parch. D. C. Jones. Nos Wener (Nebo) Hirwain rhoddwyd darlith gan Mr. John A. Jenkins ar Mendel- ssohn. Y cadeirydd oedd Mr. David Jones, ysgol-feistr. SOAR, HIRWIN. WESLEY GUILD.—Nos Fawrth cafwyd dadl rhwng Mrs D. C. Jones a Howell Williams, y testyn oedd Pa un ai addysg ai cyfoeth oedd oreu i les dyn." Yr oedd vn ddadl dda iawn. H. D. D. TOWYN. SOCIAL.-Nos Fercher, ynYsgoIdy'r Wes- leyaid, llywyddai'r Parch. Robert Jones ar social. Cafwyd caneuon yn ystod y cyfarfod gan Misses Jane Laura Davies, Aberdyfi; Cissie Arthur, Dilys Hughes, a Mri. J. Lloyd a D. O. Jones. Bu parti o blant, dan Mr. J. Lloyd, yn canu hefyd. Caed adroddiadau gan Misses Ruth Davies, Gwladus Williams, a Lydia Evans. Llawenydd genym fod Mrs Robert Jones Gwynfa, wedi cael ei ethol yn y Vestry gynhaliwyd yn Nhowyn, Mawrth llth, yn Lady Guardian dros rhanbarth Towyn o'r plwyf. Cafwyd Darlith gan y Parch. R. Jones, Gwynfa, ar yr "Anfarwol Eglwysfach" nos Fawrth, Mawrth lofed, darlith ardderchog. RUTH. YSTUMTUEN. Cydymdeimlir yn fawr gyda'r Parch. J. Meirion Williams, Pontrhydygroes, yn ei afiechyd presenol. Mae wedi methu er ys tair wythnos, ac wedi myned adref. Dy- munwn am ei adferiad buan, a'u ddych- weliad yn ol i faes ei lafur. Cymerwyd ei le Mawrth 13eg gan Mr. R. Jones, Ystum- tuen. CYNGOR PLWYF.—Caed cyfarfod Iluosog i ethol aelodau ar y Cyngor hwn nos Fawrth, y 15fed cyf. O'r un-ar-ddeg, dew- iswyd Mri. J. Morgans, R. H. Jones, a J. Williams, o'r ardal hon. Y peth mwyaf arwyddocaol yn yr etholiad oedd gwrthod- iad Vicar y plwyf, cadeirydd yr hen Gyng- or!! Dyma arwydd sicr, Mri. Gol., fod y bobl wedi cael agoriad llygaid yn ystod yr Etholiad Sirol a Seneddol. Credwn hefyd fod a fyno dysgeidiaeth iachus y Gwyl- ieclydd Newydd" a hyn, a diolchwn o galon am y cyfarwvddiadau amserol a geir o wythnos i wythnos. Gwir bob gair am Wesleyaid Cwmrheidol, mae eu nifer yn wan, ond mae ein sel a'n huchelgais yn wanach na hyny," fel dywedir yn y G." N. yr wythnos hon. Mae ymdrech galed wedi ei vvneyd i'n dysgu nad oes dim pwys pwy fydd ar y Cyngor Sirol, a Dosparth, ac ar y Cyngor Plwyf. Credwn fod y farn yn newid, a bod Wesleyaid yn deffro i'w cyfrifoldeb a'u gwaith, ac yn gweled fod y gwahaniaeth o'r pwys mwyaf pwy fydd arnynt. MYNYDDWR. PENRHYNDEUDRAETH. Y noson o'r blaen darllenwyd i'r holl eg- lwys fantolen y Fantolen y Nodachfa gyn- haliwyd yma yn ddiweddar. Trodd yr ymdrech allan yn llwyddiant tuhvmt i'n disgwyliadau. Y nod osodem o'n blaen oedd £ 300, y swm oedd yn ofynol i ddod i afael y Loan and Grant. Ond oherwydd amgylchiadau gwasgedig yr ardal ar sym- udiadau mynych sydd wedi bod o'n plith ofnem yn fawr na chaem fwy na c200. Daliwyd fodd bynag i weithio yn egniol, ni arbedwyd nac amser na llafur; ac er- byn hyn y mae yn llawenydd genym i ni gael f 307 19s. 4c. o elw clir. Bellach yr y'm yn barod i gael y Loan a'r Grant gan Bwyllgor Trysorfa Capeli y Dalaeth. Dymunwn ddiolch yn galonog i bawb yn mhell ac agos sydd wedi ein cynorth- wyy gyda'r Bazaar. Ni anghofiwn byth y cynorthwy ar cyd- ymdeimlad a dderbyniasom. HYWEL. PENNAL. MARWOLAETH.—Wedi misoedd o oedi yn nychlyd yn swn "y tonog genlli," diang- odd ysbryd caredig Mr. John Pugh, Ysgub- or Fawr, hyd y llwybr annychwel, Chwef- ror 26, 1910. Brodor o Abercegir ydoedd yr ymadawedig. Yno y treuliodd ddyddiau ei fachgendod. Ond pan aeth yn wr cod- odd ei babell yn yr ardal hon, gyda yr hon sydd heddyw yn weddw drallodus ar ei ol. Nid ydym am ddweyd fod ein cyfaill hoff heb ei ddiffygion a phwy sydd felly ? Perthyna iddo rinweddau na ysbeilir ei gymeriad o honynt gan dranc na bedd. Pwy a'i clywodd yn traethu geiriau an- heilwng am neb yn ei gefn ? A phwy na chlywodd ei ymadroddion edmygol o gym- eriadau pur a gonest ? Ac ni allai oddef i amharch ollwng ei ergydion at weinidog- ion a phregethwyr yr efengyl. Yr oedd yn Wesleyad teyrngarol. Ni chymerai ran gy- hoeddus yn allanolion crefydd, er hyn ni fynem er dim a dweyd nad oedd gan gref- ydd ddyladwad arno, a bod gobeithion ei dragwyddoldeb yn y Ceidwad Mawr. Bydd yn chwith gan lawer am dano. Ond i'w briod a'i blant y mae cwynfan a cholled. Yn yr angladd gwasanaethwyd gan y Parchn. Evan Isaac a J. H. Williams. DANIEL OWEN Y NOFELYDD CYMREIG, Nos lau Mawrth 10, traddododd y Parch. Evan Isaac ei ddarlith boblogaidd ar y testyn uchod, yn y lie hwn. Mewn ardal mor deneu ei phoblogaeth daeth cynulliad dda ynghyd, a chafodd y darlithydd hwyl i draethu ar ein prif Nofelydd. Swn can- moliaeth wresog glywid trwy'r gymdog- aeth. Gwyddom fod calon fawr Mr. Isaac yn curo yn gynes at y ddiadell fechan yma, ac yn ystod y saith mlynedd sydd ar ddirwyn i fyny y mae wedi ei harwain drwy leoedd geirwon enbyd iawn. Deall- wn i Mr. Isaac roddi y ddarlith yn rhad i'r amcan o godi cyllid yr eglwys a chael y cwch fel y dywedir i ddyfroedd nofiad- wy," cyn iddo adael y Gylchdaith yn Awst nesaf. Teimlai yr ychydig ffyddloniaid sydd yn aros yn y Capel bach, ac una y rhai sydd ar wasgar mewn diolchgarwch diffuant iddo am ragofalu fel hyn am gysur a ffyniant yr achos yn y lie. Cadeirydd—Dr. W. R. Williams, Mach- vnlleth. W. D. CORRIS. MARW.-BoreLi dydd lau bu farw Mr Evan Edwards, ty agosaf at Gapel y Wes- leyaid, lie yr oedd yn flaenor parchus a defnyddiol. Yr oedd yn gerddor gwych, a bu o wasanaeth mawr i gerddoriaeth y cysegr. Gedy briod ac amryw o blant, rhai ohonynt yn hynod ddisglaer ac mewn saf- leoedd pwysig. Claddwyd ef ddydd Sad- wrn yn Mynwent Rehoboth. LLANBRYNMAIR. "YTAFOD."—Nos Lun, yn Ysgoldy'r Cynghor, bLi Mr W. O. Jones, Bangor, yn darlithio ar y "Tafod." Llywvddwyd yn absenoldeb y Parch. S. Roberts gan Mr John Davies, Dolgoch. Bu Mr Jones yn pregethu'r Sul yn yr Hen Gapel, dan nawdd eglwys y Wesleyaid. LLANFROTHEN. TY'R ARGLWYDDI.-Nos Fawrth, ynSiloam, traddododd y Parch. D. Gwynfryn Jones ei ddarlitn ragorol ar y testyn uchod. Elai yr elw er cynnorthwyo brodor trallodus. PWLLHELI. AMRYWIOL.-Nos Lun, yn Nghapel Seion (W.) y Parch. Robert Lewis yn y gadair, caed anerchiadau ar Gynnildeb gan Miss Rebecca Evans, Llynffynnon Cad- wraeth y Sabbath," Miss Annie Jones, Lleyn-Street a Diwydrwydd" Miss Nellie Jones. TALYSARN. UN O'R GEN'OD.—Llawen genym hysbysu fod y gantores boblogaidd, Miss M. King Sarah, yn cael hwyl ardderchog yn y Gor- llewin, ar ei thaith gyda Cor Meibion y Moelwyn. Dywed gohebwr y Drycla am dani: "Gwir eos, gwlad y gan" a thra yn canmol y cor dywed un fod Miss Sarah yn brif ogoniant y cwbl." EGLWYSBACH. DIRWEST.- Cynhaliwyd cyfarfod dir- westol nos lau diweddaf o dan nawdd Undeb Dirwestol y Chwiorydd. Caed te a chyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mrs. Gwilym Roberts. Anerchwyd gan Mrs. Rowlands a Mrs. T. C. Roberts, Llan- rwst. Cymerodd eraill ran mewn adrodd a chanu. RHODD.—C3Tflwynwyd Beibl a Llyfr Hymnau hardd yn rhodd at wasanaeth y pulpud gan ddosbarth Mrs. Gwilym Rob- erts. PRIODAS.-Dydcl Mercher diweddaf, un- wyd mewn glan briodas Mr. Evan Jones, Meddiant Ucha (Penthryn gynt) a Miss Jennie Davies, Gyffylog. Gweinyddwyd gan y Parch T. Gwilym Roberts. Unir dau deulu Wesleyaidd Iluosogyn y briodas hon. ETHOLIAD Y CYNGHOR SIROL.—Bu brwvdr ffyrnig yma cyd-rhwng Col Sandbach a Mr John Williams, Ffrith, Ucha. Y di- weddaf a orfu gyda 48 o fwyafrif. Budd- ugoliasth ardderchog i Rhyddfrydiaeth. ETHOLIAD Y CYNGHOR PLWY'.—Cynhal- iwyd nos Lun diweddaf y cwrdd plwy' blynyddol. Cadeiriwyd gan y Parch. Gwilym Roberts. Caed cynhulliad eith- riadol luosog. Etholwyd un ar ddeg o gynghorwyr o ba rai y ceir naw Rhydd- frydwr. Cymer etholiad y Cynghor Dosbarth le Ebrill 4ydd. Ymgeisia chwech am ddwy sedd, ac yn eu plith Mr Edward Jones, Ty Gwyn. Rhyddfrydwr a Wesleyad selog. Yn ddiweddar caed dau Social yma o dan nawdd Cymdeithas ddarllen y Chwi- orydd. Rhoddwyd y cyntaf gan Mrs. Davies, Clwt Cottage, Mrs. Williams, Croesonen, a Mrs. Roberts, Villa a'r ail gan Mrs. Evans, Cumberland House, Miss Jones, Rose Cottage, a Mrs. Jones, Medd- iant Isa. Yr elw at drysorfa yr Eglwys. Etholwyd fel cynrychiolwyr yr Eglwys y cyfarfod swyddogion, Mri Enoc Evans, Cumberland House, J. W. Lloyd, London House, a Thos Roberts, Penthryn. Goh. BETHEL DEGANWY, LLANDUDNO. LLAWENYDD PPIODASOL.-Dydd Mercher, Mawrth yr eilfed unwyd mewn glan briod- as Mr. J. E. Davies, Landsdowne, a Miss Emily Lunt Tywyn, Deganwy. Cymerodd y seremoni le yng nghapel Bethel, gwein- yddwyd gan y Parch. W. R. Roberts, Llan- dudno. Gwas y priodasfab oedd ei frawd o Fanceinion, a'r forwyn oedd chwaer y briodasferch. Wedi'r priodi aeth y cwmni i gartref y briodasferch am frecwast. Y mae Mr. a Mrs Davies yn Wesleyad selog ac eiddunwn iddynt lawer o lwydd a ben- dith i derfyn eu hoes. CYFAILL. LLANIDLOES. Mae yna rhai pethau wedi digwydd yn y Gylchdaith er pan beidiodd yr Hen Wyliedydd a dechreuad y Gwyliedydd Newydd, sef adnewyddu Capel y Cefn. Mae yn gapel bach hardd a chysurus yn awr. Cymerwyd rhan yn ei agoriad gan y parchedigion Thomas Rowlands, R. W. Jones, Caersws. J. R. Evans (C.M.), B. T. Davies (B.), Rees Jones (A.) Cafwyd cyf- arfodydd da. Mae Mr. Langford Broaker, y gwr ieuanc sydd wedi dod i'r Cylchdaith i lenwi lie y diweddar Barch J. D. Jones, yn hynod o gymeradwy trwy'r Gylchdaith. Clywsom fod Mr. W. O. Jones, Bangor, wedi cael amser hapus iawn yn Tref- eglwys yn Darlithio ar Y Tafod." Y CYMRODoRION.-Mae y Gymdeithas hon wedi bod yn llwyddianus iawn ar hyd y tymhor. Cafwyd rhai papurau ardderch- og. Nid yw y Wesleyaid wedi bod yn ol i eraill yn eu ffyddlondeb tuag ati. Ym mysg era ill bu y Parch Thomas Rowlands, Dr. Rees, Caersws, a David Jones y Van yn helpu a chyfroddiadau. GOH. CAERAU MAESTEG. Y GOBEITHLU.-Y mae y cyfarfodydd hyn wedi ac yn parhau yn flodeuog. Y mae y dyrfa o blant geir yn eu mynychu yn wir galonogol. Dyma flagur addewidion am pethau gwell yn Bethel. Y mae medr a serchogrwydd eu harolygydd yn sicr o fod yn fantais i'w llwyddiant. Gwyr y Parch. D. M. Griffith am y pyrth perlog sydd yn arwain i gynteddoedd calonau ieuainc a hen, a dysg i'r cyfryw athrawiaethau iach, ar unig wirionedd sydd yn codi ac yn cadw yn fyw eneidiau. NATUR. Yr hwyr o'r blaen bu y Parch E. Tegryd Davies, Tredegar, yma gyda ei hudlusern yn dangos trai a llanw bywyd mewn Natur. Yr oedd y darluniau yn rhagorol, a'r gwersi a ddeilliai oddiwrth- ynt yn werth meddwl am danynt. Y tro nesaf y daw Mr. Davies yma, disgwyliwn gael ganddo y slides sydd yn ei feddiant o wahanol barthau o Ogledd Cymru. Gwyddom fod yr oil yn gysegredig' i gal- onau lawer yn y cylchoedd hyn. Llawen- ydd i ni oedd gweld ein cyn-weinidog a'n cyfaill hoff Mr. Davies, a golwg mor raenus arno, ac yn parhau i gario heulwen y gwanwvn ar ei wyneb. W. D. SOAR, NEW BROUGHTON. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd cyfarfod Ysgol yn y lie uchod. Cyfarfod y boreu. Cafwyd adroddiadau o emynau, a rhanau o'r Ysgrythyrau. Prif waith cyfarfod y bor- eu ydoedd arholi y iv dosbarth oddiar Actau xx benod. Yr holi yn syml a'r ateb- ion yn gyflym a meistrolgar. Danghoswyd fod ein pobl wedi astudio y maes yn drwy- adl. Cyfarfod y Prydnawn. Cawsom eto adroddiadau o emynau a rhanau o'r Ys- grythyr. Adroddwyd penodau gan dclos- barthiadau gyda'i gilydd, ac hefyd pawb ei ran. Arholwyd dosbarth laf yn hanes Iesu Grist. Prif waith cyfarfod y prydnawn oedd arholi dosbarth II-III yn Actau XVIII. Yr holwr mewn hwyl. Cafwyd atebion parod. Buasai yn well pe buasai dosbarth n yn arddangos chwaneg o yni. Cyfarfod yr hwyr. Treuliwyd cyfarfod dyddorol ac adeiladol. Cafwyd unawdau, pennodau ac adroddiadau ardderchog. Arolygwyd ar hyd y dydd gan ein harolygwr sef Mr. Joshua Whitley. Y mae yn New Brough- ton dalentau all fod o wasanaeth ang- hyffredin i gymdeithas, ond bod yn ofalus i'w harwain yn y llinell iawn. GOBEITHLU.—Nos Lun, Mawrth ifed 1910, cynhaliwyd cyngherdd gan aelodau y Go- beithlu (Band of Hope). Cafwyd caneuon ac adroddiadau dyddorol, ac adeiladol gan y to ieuanc. Ein cadeirydd oedd Thomas Whittley. Y mae enwi y cyfaill hwn yn dweyd pa fodd y llywyddwyd y cyfarfod, sef yn ddeheuig a medrus. Bydd elw y cyngherdd yn cael ei dros- glwyddo i aelodau y Gobeithlu. Gorr. SOAR, RHYL. CYFARFOD PREGETHU.—Cynhaliwyd ein cyfarfod pregethu biynyddol, yn dechreu nos Sadwrn, Mawrth 5ed. ac yn diweddu nos Fawrth, Mawrth Sfeel. Y gweinidogion eleni, oeddynt y Parch Edward Jones (A.), Rhyl, Parch. Charles Jones, a'r Parch O. Madoc Roberts. Yr oedd yr eglwys wedi bod am wythnos yn cynal cyfarfodydd gweddio i erfyn am lwyddiant ar y genacl- wri, a da genym allu tystio fod y gweddiau wedi eu hateb. Cafwyd cynulliadau da. Swn canmol a glywir yn mhob cyfeiriad. J. L. H. HOREB, BANGOR. "ADDYLAI'R TIR FOD YN EIDDO'R GOR- ON ?"Dyma oedd testyn dadl ddyddorol yn Nghymdeithas Lenyddol Horeb, nos Lun, pryd y cymerid rhan gan Mri. A. LJ. Jones aR. C. Williams, St. Paul's, (Cad- arnhaol). a Mri. S. Hughes a Owen Owen, o Horeb (nacaol). Yn ddilynol, bu ymgom- west LLANBEDROG. Y DIWEDDAR MR. JOHN JONES.—Bu farw y gwrda uchod Mawrth 9fed, yn 82 mlwydd oed, wedi gwasanaethu ei Arglwydd a'i genhedlaeth gyda chymeradwyaeth mawr. Claddwyd ef yn Cemetry Llanbedrog, Mawrth ]4eg. Gweinyddwyd yn y ty, ac wrth y bedd gan y Parchn. Dr. H. Jones, Bangor, R. Lewis, Pwllheli, R. Jones, B.A., Criccieth, a Mr. J. Pughe Jones, Rhiw. Bydd bwlch mawr ar ei ol mewn llawer cylch, heblaw y teuiu, a'r eglwys, a'r plwyf, a'r gymdogaeth yn gyffredinol. Yr oedd yn frawd cymwynasgar iawn, a bu yn noddwr i'r amddifad a'r tlawd, a diau y teimlant golled ar ei ol fel Gwarcheid- wad, ac mewn cysylltiadau eraill. Yr oedd yn ddyn o farn aeddfed, yn foneddwr Cristionogol, ac yn fab tangnefedd. Bu yn Oruchwyliwr y Gylchdaith am rai blyn yddau, ac yn flaenor ffyddion am gyfnod maith. Cafodd ei achub yn drwyadl pan yn ieuanc. a bu fyw yn gyson a dichlyri- aidd am oes faith. Yr oedd ei fywyd yn ategu ei broffes. Diau y teimlir chwithdod a hiraeth am dano am hir amser. Dydd ei angladd traddodwyd pregeth angladdol ar ei ol i gynulleidfa barchus gan yr ys- grifenydd. Bedyddied Duw dros y meirw. R. LEWIS. TREGELE. Bu y Parch. J. E. Roberts yn Llanrhudd- lan a Llanfechell yr wythnos diweddaf gyda'i ddarluniau byw. Er fod yr hin yn ystormus daeth nifer da ynghyd a chafwycI amser difyr. MEGAN GELE. ABERDOVEY. Cynhaliwyd y cyfarfod cystadleuol blyn- yddol dan nawdd y Wesley Guild, nos Fercher, Mawrth IGeg. Llywydd, y Parch. Rhys Jones. Pryd y gwobrwywyd ym- geiswyr mewn can, areithio, adrodd, a llenyddiaeth, a chrefft. Agwedd neillduol ar y cyfarfod oedd gwobrwyo y Plant ar Ieuenctyd am eu llafur da a dyfal yn y Maes Llafur. Cafwyd cyfarfod neillduol o dda a dyddorol. GLYNCEIRIOG. Da genym gofnodi fod golwg addawol ar ein hachos yn y lie, derbyniasom wyth o had yr eglwys yn gyflawn aelodau yn deli weddar. Hefyd y mae Miss Blodwen Jones, B.A., o Gorwen wedi dod yma yn Ysgol- feistress i Ysgol y Cynghor, ac yn ymuno gyda'n heglwys. Da genym ddweyd ei bod yn hynod selog a gweithgar, ac yr yd- ym yn falch o honni. ROBERTUS. MYNYDD SEION, TANYFRON. Mae genym y tro hwn, y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth sydyn i raddau, un o'n dyniou ieuaingc, sef y brawd John Edward Williams, ac unig Fab y brawd a'r chwaer Robert a Cathrine Williams, Tanyfron. Hunodd yn yr Iesu Mawrth y lOfed, yn yr oed cynar o 17eg. A dydd Mawrth diweddaf ymgynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei weddillion mar- wol i dy ei hir gartref. Yr oedd y brawd ieuangc yn dilyn ei alwedigaeth fel Eg- wyddorwas o Ddraper hyd o fewn bythef- nos yn ol, a bron ar derfyn ei bedair blyn- edd o brentisiaeth, fel ag y i-nae ,r brofedig- aeth yn un chwerw iawn i'w rieni. Yr oeddynt yn edrych yn mlaen am ddyfodo[ llwyddianus i'w mab, ac fel y dywedodd Tad ein brawd ieuangc, "Mae yna ami i gastell wedi clod i lawr, ond ymdrechaf wneud y gore o dan y brofedigaeth." Yr ydym fel eglwysi wedi cael colled o fach- gen ieuangc tawel glan ei fuchedd. A chydymdeimlwn yn fawr a'n brawd a'n chwaer yn eu trailod. A'n gweddi ydyw am i'r Arglwydd roi nerth iddyjnt ym- gynal o dan y brofedigaeth. Gwasanaetn- wyd wrth y ty ac ar !an y bedd gan y Parch. D. isieurig Jones. GOH. BETHESDA. PRIODAS.Dydd Mawrth yr Sfed cyf. trwy drwydded yn Nghapel Wesleyaidd Siloam, Bethesda, gan y Parch. R. W.Jones, gwein- idog, unwyd mewn glan briodas, Captain Robert Jones, S.S. Harbart' mab hynaf Mr a Mrs Jones, Shop Farm, Bont Caer- gybi, a Miss Elizabeth Lewis, unig ferch Mrs Lewis, Arvonia Llanllechid. Rhodd- wyd y briodasferch ymaith gan Mr George Williams, Wylfa, Caergybi. Y morwyn- ion oeddynt Miss A. Jones, chwaer y priod- fab, a Miss Roberts, Menai House, Bryn- siencyn. Y gwas ydoedd Mr Edward Jones, The Pioneer, Caergybi, yn cael ei cynorth- wyo gan gan Mr Archibald Williams, cefn- der. Wedi y gwasanaeth aed i gartref y briodasferch i fwynhau'r danteithion a ddarparwyd ar ei cyfer. Eisteddodd nifer o wahoddedigion i fwvnhau y wledd. Yn dilyn caed anerchiadau a llongyfarchiad- au, a diolchwyd 3m gynes gan Capt. a Mrs Jones am y teimladan da ddanghoswyd tuag atynt. Yn y prydnawn ymadawodd y par dedwydd am Lundain ar Cyfandir, i dreulio ei mis mel. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog a gwerthfawr. Hir oes a phob llwyddiant iddynt. Gon. GAIR 0 DREFFYNON. Da genym hysbysu fod y rhagolygon ar ar gyfer Cyfarfod Talaethol Iai yn siriol a chalonogol. Llettyai cyrnfforddus wedi eu sicrhau i dros 140 o gymychiohvyr. Dyma fydd pwnc y dydd yn ein plith am rai wythnosau bellach. Bydded i'r Wyl fawr fod yn llawn o fendithion goreu. Breint- iwyd aelodau Cymdeithas Lenyddol Pen- dref a darlith ddarluniadol ar" Hanes v Beibl," gan Dr C. E. Morris, Bodawen. Yr oedd y ddarlith yn un wir ddyddorol ac yn llawn o wybodaeth ddiweddaraf am y Beibl. Nid rhyfedd, oherwydd mae Dr Morris yn wr o allu a dysg yn ngwahanol gyfeiriadau. Diolchwyd yn gynes iddo am ei ddarlith benigamp. CWILSYN. SOAR, LLANRWST. Cynhaliwyd cyfarfod ysgol yn y lie uchod y Sabboth diweddaf. Llywyddwyd cyfarfod y bore a'r prydnawn gan y Parch. T. GwiJym Roberts; a'r hwyr gan Mr. William Roberts, Nebo. Canodd y Plant yn ystod y cyfarfod, a holwyd hwy a'r dosbarth hynaf yn y Maes Llafur, &c. Anerchwyd yn nghyfarfod y prydnawn gan Dr. Owen a Mr. Evan Williams. Llanrwst; a'r hwyr gan Mri. Jesse \Villiams a David Jones, Eglwysbach; Idwal Davies a Caradoc Mills, Llanrwst. Caed Cyfar- fodycld Llewyrchus. COHo