Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN. I

News
Cite
Share

LLYTHYR LLUNDAIN. I (Gan ein Gohebydd Arbenig). I I Er pan anfonasom o'r blaen mae llawer iawn o bethau wedi digwydd, ond nis gellir dyweyd fod yr awyr wedi clirio ail i ddim. Yn wir, bron na thybiwn heddyw ,fod pethau yn fwy anaddawol nag y buont. Ond rhaid wrth feiddganvch mawr i bro- phwydo. Mae amryw bethau fodd bynag wedi tynu ein sylw, ac yn wir temtir ni i gyfeirio atynt yn y llith hon. YMWELIAD Y TYWYSOG A DEHEUDIE I AFFRIG. Nid ydym hollol sicr pa bryd y mae yn myned, nac yn hidio ond gwelsom y dyddiad, ac enw y llong sydd i gael yr an- rhydedd o gario ei fawrhydi. Mae'n debyg y rhydd ei bresenoldeb ryw fath o urddas arwynebol ar amgylchiad agoriad y Sen- edd Undebol yn Affrig, yr hwn amgylch- iad yn benaf a'i geilw i gymeryd yfordaith. Ond yr hyn a dynodd ein sylw yn benaf oedd Rhaglen ei weithrediadau tra yno Pe buasai yn ymweliad rhyw hen dywys- og paganaidd buasai rhywbeth i'w ddy- weyd dros ei raglen ond fel math o gyn rychiolydd o wlad Gristionogol, tybiem ei bod yn un fydcl iawn a thra milwrol. Oni ellir mewn difrif anfon i ymenydd ein har weinwyr mewn materion fel hyn, fod go- goniant mewn rhywbeth heblaw milwr- iaeth ac arfau dinystr ? A ydyw wedi dy- fod i hyn-mai unig ogoniant a nerth gwlad Gristionogol ydyw arfau rhyfel. Un o'r pethau cyntaf a wneir wrth gwrs ydyw adolygu y lluoedd. Rhan helaethaf y rhag,en ydyw ymweliadau a'r lleoedd y tywylltwyd gwaed gwirion yn amser y rhyfel. Mae wedi penderfynu cymeryd ei Suliau yn dawel, a chrefyddol. Un prawf o hyny ydyw mai ar y Sul y bwriada ym- wefed a bedd Cecil Rhodes, yr ymgorph- oriad rhyfedd hwnw o feddyliau materol. Yna daw agoriad y Senedd, ac wrth gwrs, lawer o wledda, a dawnsio, lie yr ymdden- gys ein Tywysog i fantais yn ddiau. Nid ots air o son am ddim crefyddol yn y rhaglen. Ac ar rai cyfrifon efallai mai diolch ddylem am hyny. I ETHOLIAD CYNGHOR SIROL LLUNDAIN. I Daeth, yn well na'n hofnau, gan mai tawel iawn yr ymddanghosai pethau. Ar wahan i anffawd yn Central Finsbury, buasai y pleidiau yn gyfartal. Colli wnaeth y Diwygwyr yn mhob cyfeiriad, lie mae Mammon yn teyrnasu. Gresyn mawr na fuasid wedi gallu gwneyd yn well, ond rhaid peidio grwgnach. Di- gwyddodd rhai pethau rhagorol. Mae lloedd tylottaf Llundain-y lleoedd gwer- inol, bron i gyd yn nwylaw y Rhyddfryd- wyr. Curwyd Shirley Benn, yr hwn a geisiodd droi John Burns o Battersea yn yr Etholiad Cyffredinol.1 Cauwyd hefyd Sim- mons, yr hwn fu ddigon digywilydd i achosi y drafferth i Mr Benn ymladd eil- waith yn St. George's in the East. Ni choll- wryd ond Deptford, ac enillwyd 21 o sedd- au. Mae'r modd y defnyddiodd y Moder- ater eu mwyafrif o ddau yn Etholiad yr Aldermen yn arddanghosiad o'r hyn awna Toriaeth pan ga gyfle. Am ddigywilydd- dra ac anfoesgarwch, hi pia hi. Cymeras- ant feddiant o'r deg lie gwag a chawsant araeth ar y mater gan Sir John Benn, o dan yr hon y dylent wrido. Ond pan wrido y math yma, bydd y mil-flwyddiant yn y golwg. Mae Rhyddfrydwyr ar y Cynghor yn ddigon cryfion i gadw'r lleill rhag gwneyd llawer o niwed, os na ellir eu tywys i ddaioni. Ty YR ARGLWYDDI. I Nid oes genym lawer o duedd i gyfeirio at hwn ond am dano ef y sonir heddyw, ac ychydig iawn am ddim arall. Credwn fod ei ddiwedd gerllaw, er efallai nad yn y dyfodol agos iawn. Mae gwerin Lloegr mor ddi-dal, yn enwedig yn y cylch oddeutu Llundain, lie mae arglwyddi mor ami a rhad a dim yn y farchnad. Mae'r cwrs gymerir yn un dyddorol iawn. Flyn- yddau yn ol, pan oedd y Parnell Commiss- ion yn eistedd, un o'r prif weithredyddion oedd Richard Pigott, awdwr y forged letters. Pan welodd yr hen frawd hwnw fod pethau yn troi yn ei erbyn, diangodd ar frys, a rhag i neb arall gael y fraint o roddi plwm yn ei fenydd, gwnaeth hyny ei hun. Dyma agweddiad meddwl Ty yr Arglwyddi heddyw. Gwelant fod eu dydd yn darfod a gwell ganddynt farw trwy eu l'iaw eu hunain na thrwy law neb arall. Pan nad oedd pethau yn myn'd yn hollol ffafriol i Doriaeth yn yr etholiad, dechreu- wyd gwaeddi bod eisiau diwygio'r Ty dafiodd allan y Gyllideb. Yn ddiweddar iawn, pan welwyd fod y Llywodraeth o ddifrif am wneyd i ffwrdd a'r Veto, wele Arglwydd Roseberry yn rhagflaenu Ty y Cyffredin gyda nifer o gynygion y mwyaf eithafol o ba rai ydyw yr hwn sydd am roddi ergyd farwol i ettfeddiadaeth fel cymhwysder i sedd yn y Ty. Nid oes dim arall wedi cael sylw y Ty hwn yr wythnos hon. Mae areithiau rneithion a gwagsaw wedi eu traddodi, y rhai y byddai yn wastraff ar amser eu dar- llen. Mae'n rhy ddiweddar am gabolfa o'r lath. Gallwn dybio fod Viscount Morley wedi dyweyd mewn ychydig frawddegau, yr oil oedd eisieu. sef mewn effaith fod Ty I ac y cydnabyddir fod cymaint o angen diwygio arno yn hollol anghyfaddas i wneyd yr hyn a wnaed yn nhafliad allan y Gyllideb. Os oes eisiau condemniad ychtvanegol ac effeithiol ar yweithted hon, darllener araeth Arglwydd Rosebery. OND BETH A WNEIR? Er i ronyn o gysur gael ei roddi i galon- au Rhyddfrydwyr yn ddiweddar rhaid dyweyd nad yw pethau yn edrych ar hyn o bryd yn dda o gwbl. Cydnabyddwn ein bod mewn anwybodaeth am fanylion cyn- lluniau v Llywodraeth. Ond mae rhyw deimlad yn mhob cylch nad ydynt o dclifrifag eithrio George a Harcourt. A dyma mewn gwirionedd ydyw y felldith o hyd gyda Gweinyddiaethau Rhyddfrydol. Mae'r wlad o ddifrif, ac yn gwneyd aberth- au lawer er mwyn rhoddi Rhyddfrydwyr mewn swyddau. Ond wedi cael y swydd- au, teimlir eu bod yn gorphwys ar eu Tnwyfauyn cyfaddawdu, ac yn ceisio plesio Pawb. Gresyn oedd j'r blaid Ryddfrydol sorl arn" ddiwyo-io" Tv yr Arglwyddi o gwbl ar hyn o bryd. Nid ydym yn amheu P, ?, d I ?Iii, gwneyd hyny, ac nis gwelwn fod ?nghysondeb o gwbl rhwng hyny a i ffwrdd a'r Veto. Ond yn awr yr Olaf Ydd eisiau ac nid dim arall. Ceir ???i ?beth fydd Penderfyniadau y Lly- wAn rf-e^h un o'r dvddiau nesaf yma. Os T ??? ?? ?'? dyddiau nesaf yma. Os Vc!v  grynon a beiddgar, popeth yn dr)'? ? na, bydd Aelodau Llafur a'r C??yQaelodmewnarfau, a dvna ben. Ie, dyna ben ar gyfleustra Rhyddfrydwyr am I amser i ddyfod. APEL AT Y BRENIN. Amheuir yn awr a fwriedir gwneyd hyn. Ac amheuir hefyd pe y gwnelid a yw efe yn ffafriol. Os nad yw iddo ef ac i'w had ar ei ol y bydd y gwaethaf o'r helynt. Bu bywyd rhagorol a synwyr cyffredin cryf ein Buddug da yn ddigon i ddystewi y son am Werin-lywodraeth, pan oedd dyn fel Chamberlain yn ffafriol iddi. Mae lor- werth VII. wedi gwneyd yn dda hyd yma ac wedi sefydlu ei hun yn ffafr y bobl, ond rhaid iddo wylio. Nid oes neb yn meddwl fawr o'i olynydd mor bell, a chredwn nad yw yn codi yn ffafr y wlad. Mae mwy o son am Werin-lywodraeth nag a fu er's clegau o flynvddoedd, ac mewn difrif mae yn ymddangos fel pe na fyddai obaith am danom ond trwy gael Plaid Llafur yn ddigon cryf i lywodraethu, beth bynag am ffurf Llywodraeth y wlad, brenhiniaeth neu fel arall. TTEULIAU LLETHOL Y LLYWODRAETH. I Tra y mae'r Arglwyddi a'u bryd ar hunanladdiad, ymddengys Ty y Cyffredin a'i fryd ar ladd y wlad trwy feichiau ych- wanegol yn nghyfeiriad milwriaeth fwr- iedir tua c6,000,000 yn fwy ar longau rhyf el na'r flwyddyn o'r blaen ac y mae peth fel hyn yn hollol anheilwng o'r Blaid Ryddfrydol sydd a'i harwyddair yn nghyf- eiriad Cynildeb. Rhoddir ffordd er mwyn cyfarfod ar anesmwythder a gynyrchwyd gan Charles Beresford a'i gyffelyb. Iechyd i galon oedd gweled agweddiad Llafur yn y mater hwn. Waeth y naill Weinydd- iaeth na'r Hall os yw gwlad Gristionogol am wario [40,000,000 ar longau rhyfel a pethau o'r fath. Nid yw peth fel hyn ond dechreu y diwedd i'n gwlad.

Cymanfa Bregethu Lerpwl.

Advertising

Advertising

COLOFN Y MERCHED. I

Y SEIAT FAWR.i

Advertising

[No title]