Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Ofn a dyrhryn sydd Y yn teyrnasu yn y byd Llywodraeth. gwleidyddol y dydd- iau hyn. Pa le yr ydym ? Beth wneir ? Beth ddaV o honom ? Dyma'r cwestiynau jglywir ar bob llaw. Weithiau teimlwn ein bod yn ymyl colli ein ffydd yn y rhai y rhoisom ein hvm- ddiried yn nydd y Frwydr. Dafiwn i obeithio a chredu y goreu vng nghanol ein hofnau. Tybed y gall dallineb ac anfydrwydd ddal a d3^mchwel rhengau div^ygiad a chynydd ? Na, credwn y daw cyd- ddeall a chydweithrediad trwy bwyll ac amynedd. Nid yw Mr Asquith mor ddewr a disigl ag y carem ei weled. Ar yr un pryd dy- lid cofio nas gall gymerydy safle a feddianai ychydig amser yn ol. Nid yw ei nerth a'i fwyafrif yn Nhy y Cyffredin yr hyn ydoedd ac nis gall yntau oherwydd hyny weithredu gyda chymaiut o awdur- dod a chynt. Siaradodd yn Rhyd- ychen nos Wener, a phar ei eiriau i'n hofnau gilio i fesur helaeth. Dywedodd y rhaid i Veto yr Ar- glwyddi fyn'd. Yr oedd yn ben- dant a chryf ar hyn. Datganodd mai ar hyn y trodd y frwydr yn yr Etholiad Cyffredinol. Gwthir y Gyllideb ymlaen. Y mae'r Llyw- odraeth trwy basio Supply fel y barnont oreu yn cadw yr arf miniog hwn yn ei llaw. Dyl- ai hyn foddloni y Gwyddel a'i ddwyn i dderbyn y Gyllideb. Cyd- n'ebydd pawb y dymunoldeb o sicr- hau y Gyllideb oblegid ceir ynddi sail diwygiadau lawer. Nid yw Mr. Asquith am ddatguddio pa beth a wna dan amgylchiadau posibl. Pa gadfridog gofynai gyhoedda ei blaniau ymlaen llaw? Nid wyf meddai, yn meddu oyddin fel oedd genym y tro diweddaf, ond credaf yn ddibetrus fod y nerthoedd di- wygiadol eraill yn y Ty mor aw- yddus a ninnau i yru y mater hwn drwodd. 0 dan y fath amgylchiad- au y mae angen amlwg am gryn- hoi ein galluoedd a dod i gyd- ddeall llawn a'n gilydd. Da iawn. Gall y Prif-Weinidog wneud mwy na neb i sicrhau hyn. Eiddunwn i Mr. Lloyd George adferiad cyflawn a chyflym o'r anhwyldeb trwy or- lafur sydd wedi ei oddiweddyd, oblegid mai ein gobaith ynddo ef yn fwy nac yn neb arall i gyfuno ac arwain yr adranau. Gwarad- wydd oesol i Ryddfiydiaeth fyddai pallu yn yr argyfwng aruthrol hwn yn hanes ein gwlad.

Pin. y GoL a'n Siswrn.

Ymgelswyr am y Weinidogaeth.

AR Y FUNUD OLAF.