Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Newyddion Wesleyaidd.
ABERGELE. Cynhaliwyd cyfarfod blaenoriaid a swy- ddogion eglwysig y Gylchdaith yn Salem, Llanddulas, nos Iau, Mawrth 10. Dyben y cyfarfod oedd i geisio cael gwybod am sef- yllfa ysbrydol yr achos trwy y Gylchdaith. Cafwyd anerchiad gan y Parch D. Morris ar y "Perygl o Ddifaterwch, a cholli awydd am adferiad pechaduriaid, y perygl o beid- 10 siarad a'r bob. ieuainc, y perygl o yrru yr Arglwydd allan o'n meddwl." Awydd mawr oedd am i ni fel Swyddogion gael ein llenwi a'r Ysbryd Glan. Siaradodd E. Ellis ar fod yspryd Crist ynom i ddangos Gogoniant y Duw Mawr a sanctaidd Siaradodd Mr Darley Davies am yr angerr o weithio gyda'r ieuengtyd. Hefyd ar y perygl o ysgafnder gyda'r cyfryw, fel y maent yn darllen llyfrau ysgafn. Siarad- Wyd ymhellach gan Mri Carty Hughes, R. Jackson, a D. Evans. Cafwyd cyfarfod gwir dda credwn y gwna les mawr. E. ABERMAW. YR EGLWYSI RHYDDION.—Cynnaliwyd cyfarfod o'r Cynghor yr Eglwysi uchod yn nghapel y Bedyddwyr nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Parch Owen Hughes (W.). Cafwyd anerchiad ar Ein dyledswydd at esgeuluswyr moddion gras" gan y Parch. Glandwr Morgan (A.). Penodwyd y Parch. Gwynfryn Jones (W.) yn gynnrych- iolydd i Gynghor yr Eglwysi Rhyddion a gynhelir yn Bethesda Ebrill y 5ed a'r 6ed. Y CYNGHOR SIR.- Yn Nghyngor Sir Melr- ion gynhaliwyd ddydd Mercher yn Nol- gellau, dewiswyd O. W. Morris, Ysw., Y.H., Glanglasfor, yn aelod ar dri phwyll- gor Sirol pwysig, sef Pwyllgorau Addysg, y Cyllidol, a'r Iechydol. Dyma safle go lew i Wesla ynte. TE'R PLANT.—Dydd Mercher diweddaf, yn ol ey harfer, rhoddodd Mr a Mrs O. W. Morris, ynghyd a Mrs Owen, Plas Canol, brvd o de da i aelodau yr Ysgol Sul a'r Gobeithlu. Daeth torf dda ynghyd. Yn yr hwyr cafwyd anerchiadau ar fywyd Crist, a hanes Daniel, gyda'r llusern led- rith. Mr John Jones, y Llyfrgellydd, a'n gweinidog fuont yn ein dyddori. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Mae'r gym- deithas ar hyd y tymhor wedi bod yn dra llwyddianus. Nos Wener, wythnos i'r di- weddaf cawsom anerchiad da gan y Parch D. Egwys Jones, Dolgellau, ar Ellis Wynne o Lasynys. Nos Iau diweddaf, yn cael ein harwain gan Capt Morris, cawsom noson addysgiadol gydag hanes cychwyn a thwf Wesleyaethyn yr Abermawa'r cylch. X.Y.Z. GORSEINION, ABERTAWE. Mawrth y 5ed, cawsom y Parch. D. Gwyn- fryn Jones yma i ddarlithio ar Daniel Owen y nofelydd," darlith ardderchog a disgwyliwn elw da, er mae ychydig oeddy cynulliad, yr oedd y tywydd wedi troi yn anffafriol. Y Sabboth pregethwyd gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, y bore a'r pryd- nawn yn Rehoboth a'r hwyr yn Libanus addoldy y M. C., cawsom oedfaon bendig- edig. Bu y cyfeillion o Libanus yn garedig iawn. trwy roi gwasanaeth eu haddoldy hardd i ni nos Sadwrn a nos Sabboth. Yr ydym yn diolch iddynt am eu caredig- rwydd. P.J. CAERWYS. Nos Sadwrn, Mawth 12fed, cynhaliwyd Cyngherdd gan y Wesleyaid yn y Neuadd Drefol. Llywyddwyd gan Mr. H. G. Edwards, Dentist, Rhyl; arweiniwyd mewn modd deheuig gan y Parch. J. Lloyd Hughes; a chyfeiliwyd gan Miss N. Jones, Treffynon. Gwnaeth yr oil o'r adroddwyr a'r datgeiniaid eu gwaith yn gampus, a chynorthwywyd hwy gan Gor Meibion Caerwys a Mr T. Bartley a'i barti, Bodfari. Yn garedig, er help i'r achos, rhoddodd yr 011 eu gwasanaeth am ddim. GOH. IEUAXC. DEWI SANT MANCEINION. Nos Sadwrn, ar Sul diweddaf, cynhal- iwyd cylchwyl flynyddol yr eglwys uchod y pregethwr dewisedig eleni ydoedd y Parch Evan Isaac, Machynlleth, nos Sad- wrn traddododd Mr Isaac ei ddarlith ar Daniel Owen y Nofelydd," darlith] gam- pus, buasai yn fendith i ben a chalon bob Cymro ei chlywed. Y Sabboth pregeth- wyd gan Mr Isaac, cawsom dair o bregeth- au rhagorol iawn. Nid oedd y cynulliad- au i fyny a'n disgwyliadau, o flaen pregeth yr hwyr, canwyd anthem gan gor yr eg- lwys, Duw mawr y Rhyfeddodau maith," o dan arweiniad Mr A. LI. Arter. DEWI. CYMRODORION ABERDARE. AR DDYDD GWYL DDWI.-Cymerodd Wes- leyaid y cylch ran helaeth ynghyfarfod y y gymdeithas uchod. Cynygiwyd y llwnc- destyn, Ein sefydliadau Gwladol a Chre- fyddol," gan Dr..Arthur Jones, Mountain Ash. Bu "Ap Hevin," a "Hvwel Hedd," hefyd yn offrymu ar allor urddas yn wych odiaeth. GOH. PENMACHNO. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. -Sad- wrn olaf yn Chwefror, bu Mr. J. R. Gethin Jones, yn egluro deddfau'r tywydd. Dang- osodd charts dyddorol y llywodraeth, ac eglurodd fel yr oedd storm yn casglu ac yn emll nerth :Geill un anghyfarwydd a manylion, bellach o gofio rhai pwyntiau, ddeall ansawdd tywydd ychydig yn mlaen llaw.—Diolchwydd yn gynes iddo am ei fawr lafnr. Yr oeddem yn meddwl wrth wrando arno, fod llawer o rywbeth gwreiddiol yn nghynghor hen brethwr i bregethwr ieuanc oedd wedi ysgrifenu Ilyfr chwcch, ar ddyfodiad pechod i'r byd. Gwna un gwell eto ebe yr hen wr, a sut 1 w gael oddiyma. Cael ymadael ar tyw- ydd blin a drycinog fuasai oreu i ninau. GWYL DEW!Cwrdd poblog yn y Pub- lic Hall. Dr. Wilii ams yn Llywyddu, a ?erthog yn arwain. Cynrychiolwyr yr en- ^'ad ynddo yn llenyddol oedd Mr. Harri ?awards, Ysgol y Cynghor. Diffygion ? ?"agoriaethau y Genedl Gymreig" oedd ei destyn, a gwnaeth yn deilwng o ^_°no ei hun fel meddyliwr clir a beirniad ?atf. Cafodd yr adran gerddorol gyn- ^B'DD teilwng yn MJ. D. Prvce Davies, 'l°^ nes swyno byddariad. y ^YMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Sadwrn d weddaf, cwrdd amrywiaethol. Amrvw p-adlu a myn'd ar vr oil. Daeth Mr. ? cystadlu a myn'd ar yr oil. Daeth Mr. iJha,Ed\ards o'r Cwm attom fel beirn- iad ??dorol, ac mae yn werth cerdded yn bpIl i 'Alrai-idc) arno—medr wnevd ei waith 0 Idog. J. W. FESTINIOG. Mewn cyfarfod amrywiaethol yn Shiloh Mawrth 10fed o dan lywyddiaeth y Parch. J. Maelir Hughes anrhegwyd Mr. Richard Roberts. Cyflwynodd dosbarth Mr. Rich- ard Roberts iddo fasged arian i ddal cacen- au, a rhoddodd yr eglwys iddo awrlais hardd. Teimlid fod Mr. Roberts yn teil- yngu y cwbl. Ni fu neb ffyddlonach nag ef gyda gwaith yr Arglwydd. Siaradodd am- ryw frodyr yn uchel iawn am ei wasanaeth a'i sel. Yr oedd anerchiadau y beirdd yn ddyddorol a da, ar ei ran ei hun a'i briod. Cydnabyddodd yr anrhegion hael a char edig. Trwyddo oil yr oedd y cyfarfod yn un gwir dda. Hir oes i Mr. a Mrs Roberts. PORTMADOG. Yn Ebenezer y Sabboth diweddaf fe'n breintiwyd a gwasanaeth y Parch. Daniel Williams, Harlech. Teimlem i ni gael sylweddoliad clir, o bresenoldeb agos yr Arglwydd. Yr oedd y Weinidogaeth yn gryf a melus. Brysied yma eto yn sicr fu gan y pulpud Wesleyaidd erioed gryfed gweinidogaeth ag sydd ganddo yn awr, mawr yw ein braint." Yn lie gofaled yn ein gair diweddaf, dylasid darllen gofala y rhieni anfon eu plant.' Maent yn hynod am eu gofal yn y mater. AFALLON. LLANELWY. Cafwyd Te a Chyngherdd yma nos lau, Mawrth lOfed. Gwnaed paratoadau hel- aeth, a bu amrai o'r chwiorydd ymhell ac yn agos, yn ceisio gwerthu'r tocynau. Daeth nifer fawr ynghyd i fwynhau yr ymborth rhagorol oedd wedi ei baratoi ar eu cyfer. Tystiolaeth rwydd pob rhai oedd fod yr ymborth yn dda. Dechreu- wyd y Cyngherdd am 7.30. Yr oeddym wedi sicrhau gwasanaeth nifer o Wesley- aid Abergele, Mr. William Jones a'i gor, i ddod i'n cynorthwyo gyda'r rhan yma. Canwyd yn felus i gychwyn gan Miss Jones, The Cottage. Llanelwy. Yna cym- erwyd y cyfarfod mewn llaw gan Mr. W. Jones a'i barti, a datganwyd alawgan hynod o swynol a thlos-Rhoda, The Gip- sy Girl. Gwnaeth y rhai hyn eu gwaith yn rhagorol. Yr oedd yn arweinydd a'i barti yn deall eu gilydd yn iawn. Gwas- anaethwyd wrtti yr offeryn gan Miss E. Jones, Rhuallt, a Miss G. Hughes, Aber- gele. Darllenwyd y gwahanol adranau gan Miss Jones, Abergele, a gwnaeth hyny yn dda y swynol. Bu'r cyfarfod i gyd, y te a'r cyngherdd yn llwyddiant perffaith. Dywed y brodyr yma mai dyma'r oreu gawsom eto. Yr oedd y capel yn orlawn a'r gynulleidfa yn astud a distaw. Cyf- Iwynwyd diolchgarwch cynes ar y erfyn i bawb am eu cynorthwy gan Mr. J. H. Roberts, ac eiliwyd gan Mr. J. Thomas. Y dydd o'r blaen talodd Esgob Llanelwy ymweliad ag aelod hynaf ein heglwys ni -yr hen dad anwyl a duwiol, Mr. John Daniels. Bu yn ei wasanaeth yn hir, ac mae gan yr Esgob syniadau uchel am dano Drwg genym ddweyd ei fod yn wael iawn. TON PENTRE. ANRHEGU.—Cynhaliwyd cyfarfod i'r am- can o anrhegu yr Organydd, Mr. John E. Morgan, yn Ysgoldy Capel Wesleyaidd y Ton, y nos o'r blaen, pan y cyfiwynwyd Marble Clock a Vases hardd i'r brawd yn anrheg briodasol am ei wasanaeth werth- fawr i'r achos am amrai flynyddau. Yn ystod y cyfarfod datganwyd amrai ganeu- on swynol. Cafwyd anerchiadau pwrpasol. Wedi hyny cyflwynwyd yr anrheg i'r brawd gan Mr. Richard Lewis, blaenor hynaf yr eglwys. Dymunwn i'r brawd a'i briod ieu- angc fywyd priodasol hapus. GOl-I. ASHTON-IN-MAKERFILLD. Diau fod pob Wesla yn Nhymry yn gwybod y cynhelir Bazaar fawreddog yn Ashton y mis nesaf, os na, y maent yn sicr o glywed yn ystod yr wythnosau nesaf. "Parotowch" er mwyn codi tipyn at y swm o {100°, y bwriedir ei godi. Cynhaliwyd Arwest Y Bobl Briod nos Sadwrn ddiweddaf. Oedd gofal y Te wedi ei rhoddi i Mrs. Winifred Davies a Mrs. Margaret Twist. Casglasant ddan- teithion lawer a swm da o arian. Y brodyr William Roberts a John Lloyd oedd yn gofalu am y Cyngherdd. Yr oedd y Te a'r cyngherdd yn benigamp. Wrth ganu Unwaith eto yng Nghymru anwyl," cod- odd Mr. W. Roberts hiraeth ar bawb ohonom am yr hen Wlad. DINAS MAWDDWY. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Er pan ys- grifenwyd o'r blaen darllenwyd papurau yn y cyfarfod uchod ar "John Wesley," gan Mr. J. Ellis Williams, Dyled merch i Gristionogaeth," gan Miss A. L. Davies, "Buddioldeb yr Ysgol Sul," gan Miss Maggie Jones, Ffydd," gan Mr. Owen Roberts, Cymeriad," gan Mr. J. Breese Davies, Hanes Chwareli Plwyf Mallwyd," gan Tegwyn. Caed dadl hefyd ar Pa un ai yr Aelwyd ynte yr ysgolion fedd y dyl- anwad cryfaf yn ffurfiad cymeriad cenedl." Agorwyd o blaid yr ysgolion gan Mr. J. Ellis Williams, ac o blaid yr aelwyd gan Mri. Robert Davies, a Morris Davies. Caed amser difyr mewn adrodd a chanu hefyd ac mewn areithio oyr-fyfyr. Dirwynwyd y tymor i ben Mawrth 9fed, fel arfer gyda swper ardderchog. Haedda'r chwiorydd glod mawr am eu gwaith yn darparu mor ragorol, a diolchwyd iddynt yn gynes a doniol ar y terfyn. Adolygwyd y gwaith am y tymor, a diolchwyd yn gynes i bawb gymerodd ran, ac i'r Llywydd y Parch E. Arthur Morris. Mae'n debyg mai dyma y tymor olaf iddo ef gan ei fod yma ar ei drydedd flwyddyn, a dymunwyd pob bendith a llwyddiant iddo yn y dyfod- ol. Dymunwyd rhwydd hynt a phob llwyddiant i Mr. J. Ellis Williams hefyd yn ei arholiadau agoshaol fel ymgeisydd am y Wreinidogaeth. GOH. PENMAENMAWR. MARWOLAETH.—Yr y'm wedi colli ein cyfaill ieuanc W. Jones, Min-y-coed. Bu farw yn hynod dawel ac esmwyth, wedi maith gystudd o ddau ns ar bymtheg, pan ar dorthwy 27ain oed. Bu'r brawd yn bregethwr cynorthwyol (ar brawf) am ys- baid o dri mis, ond torrodd ei iechvd i lawr, cyn iddo sefyll arholiad gwedi blwy- ddyn o wasanaeth. Brawd tawel a hoffus ac yn wir, ni chwrddais a neb, a ddadblyg- odd mor gyfiym mewn meddwl a barn. Fel y sylwodd y Parch. Evan Jones, nid oedd nemawr lyfr Cymreig diweddar na chafodd ei sylw, a'i astudiaeth. Bydd colled fawr i'n hysgol Sul, oblegid meddai a'r allu i egluro ac i ddysgu. Daeth torf liosog ynghyd ar ddydd ei gladdedigoeth, yn dystiolaeth o'r edmygedd oedd gan- ddynt tuagato. Gwasanaethwyd yn y Capel ac wrth y Bedd gan y Parchn. Evan Jones, Thomas Hughes, a John Rowlands, A.C. Nid yw y cyfarfodydd diwylliadol mor lewyrchus yn bresenol rhagor yr hyn fuont. Gofidiwn oherwydd hyn. Difat- erwch yw'r achos yn ddiau. ONESIMUS. OAKFIELD, LERPWL. Erbyn hyn, mae yn rhaid ini gofrestru ein Cymanfa Bregethu yn mhlith y pethau a fu, buom yn edrych yn mlaen gyda pryd- er at yr Wyl, gan ddisgwyl cael gwledd i'n henaid anfarwol, a chawsom ni mo'n siomi fe glywsom lawer o bethau yn y Pregethau a'r Seiat Fawr, fuasai yn nerthu ac yn gloewi ein bywyd Ysbrydol, ac yn harddu ein rhodiad ger bron y byd, pe byddai i ni ymdrechu dal arnynt rhag ei gollwng i golli a cheisio meithrin er ein lies ar am- can uchaf, yna fe deimlem fod y Gymanfa wedi bod yn llwyddiant. Duw a'n cyn orthwyo i wneud hyny. Y rhai canlynol fu yn gwasanaethu yn y lie uchod, Parchn. Hugh Hughes, W. R. Roberts, D. Gwyn- fryn Jones, a T. Isfryn Hughes. Da oedd eu gweled a'i clywed. Mawrth lOfed, cyngherdd. Fel mae'n hys- bys i bawb sydd yn derbyn y Gwyliedydd, fod genym Nodachfa (Bazaar) Gylchdeith- iol i gymerydd lie yr wythnos gyntaf yn Mis Mai. Mae llawer o weithio wedi bod ar hyd y gauaf tuag at ei gwneud yn llwyddiant. Mae amryw o gyfeillion wedi rhoddi Socials ac yn y blaen, yr wythnos o'r blaen fe ddaeth aelodau y Cor i deim- lo eu bod hwythau o dan rwymau i wneud rhywbeth, a rhoisant eu pennau ynghyd i godi cyngherdd, a throdd allan yn dra llwyddianus. Cawsom ganu da gan nifer o ddieithriaid, ynghyd ar Cor Ileol o dan arweiniad Mr. W. J. Parry, Miss Blodwen Jones oedd gyda'r offeryn. Llanwyd y gadair yn anrhydeddus gan Mr. W. Coet- mor Jones. Disgwylir elw sylweddol. Mawrth 14. Cyfarfod neillduol i wobr- wyo'r Plant am gasglu at y Genhadaeth Dramor. Llyfrau oedd y gwobrwyon, a beth yn well allesid ei roddi i blentyn ar ddechre ei yrfa mewn bywyd. Cyflwyn- wyd hwy iddynt gan ein Parchus Weinid- og gan eu cynghori i ddarllen cynnwys y Llyfrau. Yr oeddnifer o'r plant wedi ei gwisgo mewn dillad brodorol ac wedi dysgu darnau pert a phwrpasol fel yr oeddem yn meddwl mai yn China yr oeddem. Cymerodd yr oil o'r Plant ran gyda'r canu, hefyd unawdau gan Miss A. Hooson. Mae Miss Polly Roberts yn hae- ddu canmoliaeth am ei llafur gyda'r plant. CAPEL-Y-GROES, LLANASA. Cynhaliwyd Social a Cake Fair yn ys- goldy y capel uchod. Cafwyd caneuon gan Miss H. Hughes a'i chwaer, Miss F. Hughes, Ashton, a Mr. Joseph Parry, Gwaenysgor, a chanwyd yn swynol iawn gan Barti unedig o Gronant a Gwaenys- gor, dan arweiniad Mr. Ed. Hughes, Gron- ant. Hefyd cafwyd adroddiadau effeithiol iawn gan Mr. J. H. Jones, 'Ffynon-groew, a Maggie Williams Glanrafon. Hefyd cafwyd gwasanaeth y Clariophone. gan Mr. Thomas Parry, un o'n Blaenoriad, pryd y cafodd y Gynulleidfa y fraint o glywed llais peraidd Mr. Ben Davies, ac eraill o brif gantorion y byd. Un peth arall a gynyrchodd dyddordeb mawr yn y cyfarfod oedd arddangosfa ysblenydd o Ddarluniau Byw (Living Pictures) y darluniau eraill trwy offerynoliaeth a Lantern, gan ein parchus Weinidog. Ond y peth mwyaf newydd yn yr ardal hon oedd y seibiant a gafwyd a'r ganol y cyfarfod i bawb brynu (os y dewis) deisen (cake) a chwpsnaid o de, a mawr oedd y prysurdeb yn y rhan hon o'r wasanaeth. Cafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf llwyddianus a gafwyd erioed yn yr ardal a gwnaed [17 o elw clir oddiwrtho. Yr ydym yn ddy- ledus yn benaf i. Mrs. Hopwood, gwraig ein gweinidog, am lwyddiant yr ymdrech hon. "Llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a-ragoraist arnynt oil BRYN ISAF. COED LLAI. DANIEL OWEN. Bywyd a Gwaith Daniel Owen y Wyddgrug ydoedd testyn darlith ddyddorol Mr. A. Lettsome, Llan- gollen, yn addoldy'r Wesleaid, nos Fercher diweddaf, tan nawdd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. I RHOSLLANERCHRUGOG. DIRWEST.—Nos Fercher, Mawrth9fed, yn nghapel vWresleyaid, bu yr enwog Plen- ydd yn anerch cyfarfod dirwestol (dan nawdd Gymdeithas ragorol yr Alliance), ac yr oedd mor rymus a nerthol (ar ei hoff bwnc) ac erioed. Y Llywydd ydoedd Mr. Isaac Smith (A.), Brynawelon, gan yr hwn hefyd y cafwyd sylwadau gwcrthfawr iawn. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. Robert Jones. LLANDYSSUL. AFIECHYD.—Y mae yma amrai o ftydd- loniaid Seion wedi eu rhwymo gan gys- tudd. Rhai mewu gwth o oedran, eraill yn ieuengach y mae rhai o honynt wedi eu caethiwo yn hir, ond amlwg yw fod eu hysbrydoedd yn rhyddion ac yn cyfeillachu yn ami a'r ysbrydol. Ein dymuniad ydyw ar iddynt oil gael adferiad buan a llwyr. CYNGHORYDD.—Er mai Gylchdaith fawr o ran ei harwynebeddyw Cylchdaith Llan- bedr yma, nid yw ein rhif y peth ag a fu- asem yn ei ddymuno. Cyfeirir ati fel Cylchdaith wan yn anil, ond atolwg, y mae yma ddynion cryfion yn dal cysylltiad a hi. Un o feibion hon yw y newydd- etholedig Gynghorwr J. W. Davies, Llan- gybi. Dygwyd ef i fynu yn Eglwys fechan y Cilgwyn, ac erbyn heddyw gorphwys baich trymaf yr achos ar ei ysgwydd ef. Hyderwn y caiff dymhor llwyddianus fel Cynghorydd, yn sicr ni allasai Rhyddfryd- wyr Llangybi gael ei well. REHEARSAL.—Cynhaliwyd Rehearsal' ganu y nos Sul diweddaf yn Nghapel Bethel gogyfer a'r Gymanfa Ganu Cylch- deithiol a gynhelir yn nechreu Mehefin. Daeth tyrfa dda ynghyd, a chafwyd blaen- brawf y bydd canu y Gymanfa eleni lawn mor uchel ag erioed. Arweiniwyd gan Mr J. Williams (Alawydd Derw), a chyfeil- iwyd gan Miss Evans, Clettur Vie\v. CEREDIG. BLAENAU A'R CYLCH. Mr L. Humphrey Williams sydd wedi ei enwi i'r Cyngor Dosbarth, a Mr R. Roberts, Llan, vn Warcheidwaid. Gwrthodai Mr W. W. Jones sefyll. Y mae Mr R. Roberts yn hen aelod ar Gyngor Dosbarth y Llan, ac yn debyg o fyned i mewn eto.-Rhodd- wyd derbyniad cynes i Mr Edward Jones, Cyfreithiwr, a'i briod (merch y Parch Ed. Jones), y Sul diweddaf, ar eu gwaith yn sefydlu yn y Biaenau, a dymunir eu llwyddiant helaethaf.—Cwyno sydd ar ol Mr D. O. Jones, aelod selog a phregethwr cymeradwy. Symudodd oddi yma i Ler- pwl. Da genym fyddai ei weled wedi dod yn ol.—Parhau yn wael y mae Mr Alun Griffith, ond pan gynhesa yr hin, disgwylir ei weled yn adferedig eto.-Gadawodd Mr Griffith Jones, Trawsfynydd, yr Ysbytty am ci gartref yr wythnos ddiweddaf. Y mae wedi adfer yn rhyfeddol, a llawenha y Gylchdaith yn y waredigaeth fawr a gaf- odd.-Cynhelir Seiat Undebol y pedair eglwys yn y Blaenau-Ebenezer, Tany- grisiau, Disgwylfa a Soar, yr wythnos nesaf yn Ebenezer. Edrychir yn mlaen am Seiat Fawr. GOH.
I BARDDONIAETH. I
I BARDDONIAETH. I I DAN OLYGIAETH CADVAN. I ER COFFA Am y diweddar Mrs. Williams priod Mr. David Williams, Minafon Terrace, Llanberris. Eto gorfydd imi rodio Glanau profedigaeth lem Dagrau drosfy ngrudd yn treiglo, Caddug siom atalia'm trem Chwith yw gorfod sylweddoli Yn yr anial ar y llawr, Ddyrnod angau—hwn sy'n taenu Nos o hyd dros wen y wawr. Colli un mor lawn o gariad, Dyma golled fawr ei mhaint, A dolurus friw i brofiad Ei chydnabod oil, a'r saint; Prin i'w rhan, a dweyd y lleiaf, Ddaeth o berlau gwledydd pell, Ond o'i phrofiad per canfyddaf Iddi feddu'r golud gwell. Rhodio wnaeth y chwaer amvylaf I 0 dan gysgod glwys y Groes, I Ac yn swyn yr lesu gwelaf Leddfu iddi lawer loes I Byw mewn myfyr ar Galfaria, Hoffi lesu Grist a'i waith, Ddygodd iddi goron gyrfa Hardd addfedrwydd bywyd maith. Os mai araf iawn y cerddodd. Roedd cadernid yn ei cham Ffydd yn lesu a'i cymhwysodd Oil yn dyner, anwyl fam; Mam mewn cyngor yn yr eglwys. Mam mewn cariad yn y ty. Mam esgynodd i Baradwys— Dyma fraint cymeriad cu. E, iddigeddu-na! ni fynwn Fod y nefoedd wedi'i chael, Yn yr anial, 0 na fedrwn Yfed mwy o'i hysbryd hael: Hyn fo'n braint, berth'nasau anwyl. Rhodio fel y rhodiodd hi, Troi'r treialon oil yn egwyl, Ceisio hardd anfarwol fri. T. CHAS. TnorAs, LlanBeris. DANEDD GOSOD. Eu gorchwyl ydyw gwarchod—y waglom Gegle gron a'r tafod Er yn nice rhai oerion od I gusan yw daint gosod. Dyffryn Ardudwy. ITHEL LEWIS, CWRW. I'r coryn, drwg yw'r cwrw,—Wyra dyn Ar ei daith yn arw Mae'n finiog gledd i'r meddw, A myn ei ladd mi wna lw. Eos BRYIMBO. BLODYN Y GLASWELLTYN FLL DYDDIAU DYN. Gwelais flodyn y glaswelltyn, Agor wnaeth yn hardd. Gwywodd yr un dydd, yn sydyn Yn yr ardd. Felly'r plentyn, fel glaswelltyn Yw ei ddyddiau ef. Heddyw'n chwareu, foru'n cychwyn Tua thref. Tithau'r canol oed, 0 brysia, Gad bleserau'r byd Ac ar bethau Duw, o cofia Rho dy fryd. Ah henafgwr, meddwl dithau Fod rhaid croesi'r glyn. Bydd yn barod, boed dy ddyddiau Oil yn wyn. Capel Dewi. GWYN ANT. LLINELLAU COFFA Ar ol y diweddar Mr. Lewis Roberts, Crychnant, Aberdyfi, yr hwn oedd yn flaenor ffyddlon, a gweithgar yn Eglwys y Wesleyaid, yn y lie uchod. 0 pwy a warafun i'm blanu blodeuyn Ar fedd Lewis Roberts yffyddiog anwyl- ddyn, Yr ardal a'i magodd ar lan yr hoff Ddyfi, Yr ardal sydd heddyw yn wylo o'i golli Gwaith anhawdd yw atal y dagrau o'r fynwes Pan egyr llaw hiraeth, ddalenau llyfr hanes Y Cristion ymdrechgar, y cywir, a'r ffydd- lon, O'i febyd a gariodd air Duw yn ei galon. Y blaenor dirodres, fu neb a'i gerddediad Yn llawnach o nodau, dynoliaeth. hardd, wastad, Na chalon dynerach, nag Ef 'roedd ei fywyd Yn brydferth i'w ddilyn, drwy'r anial i'r gweryd, Os cafodd ef deimlo ia gwywol cysgodirai Y glyn yn ymdaenu a'r draws ei obeithion Fe welodd ami flodyn, a'i ddai! mewn gwyrddlesni Ynghanol unigedd y nos arno'n gwenu. Y mae aelwyd gynes, Crychnant. A'i hadgofion mewn mawrhad, Pan yn troi dalenau hanes Pennod wen yr hoffus dad, Gwelwn galon fawr yn curo, Hono'n dyner fel y dydd, Ei gynghorion beraroglant Ar ei ol, fel awel rydd. Pan dywynai haul canol-dydd Haf ei oes dros ben y bryn, Y mae'r pren cadarngryf deiliog Yn troi'n wyn yn nos y glyn. Nes mae'n syrthio cyn i Hydref Henaint gyffwrdd gyda'i ddail. Ac wrth edrych ar i fyny. Aeth ei wen 'run fath a'r haul. Y mae'r llwybrau rhwng yr eithin Man a'r grug yn ol ei droed, Heddyw'n glasu ar lechweddau Serth y bryniau—ni bu 'rioed t Neb yn corii gwir brydferthwch I Yn fwy 11awn, nag ydoedd ef, Yr oedd anian yn ei godi I wel'd blodau gardd y Nef. o fy mrawd-ar athraw ffyddlon Y mae'r Ysgol Sul oth ol, Heddyw'n wlyb gan ddagrau hiraeth Fel y gwlvcha'r gwith y ddol: Ymhyfrydaist yn natblygiad Gwaith yr eglwys yn mhob rhan, Gwledd dy yspryd, oedd gwneud pob- peth A allasat dros y gwan. 0 fy mrawd—dy hun fo'n dawel Yn unigedd nos y bedd, Ni bydd marw'r gwaith gyfiawnaist Erys hwn o'th ol mewn hedd I flodeuo'n Aberdyfi Eto'n hir yngoleu'r Nen, Y mae'r breichiau a'th gjmhaliodd Yn y bedd o dan dy ben. To wyn. ILAR.
"Gwlad y Menyg Gwynion."
"Gwlad y Menyg Gwynion." Dylai y Cymry fod yn dra diolchgar am y gair da a gant mor ami gan ynad cyfiog- edig dinas Lerpwl. Ni flinir Mr Little yn fynych gan droseddwyr Cymreig, a phan ddaw un ger ei fron, syna nid vchydig. "I ba wlad," gofynodd y dydd o'r blaen. y perthynweh chwi ?" Cymro wyf." atebai y carcharor. Tybed," ebai yr Ynad. nid yw eich acen yn un Gymreig." Hwyrach. sut bynag ganwyd ft yn Mhwllheli." "Vel. da chwi, peidiwch dyweud hyny wrth neb." oedd yr ateb. Dyma deyrnged bach dlos. un dclylai beri i bob Cymro feddwl ddwy- waith cyn dwyn anfri ar ei wlad.
GOHEBIAETHAU.I
GOHEBIAETHAU. Nid ydym gyfrifol am jam ein Gohebwyr. I ADOLYGIAD Y "WINLLAN." Mri. Golygwyr,— Diolchaf am ofod fechan genych i wneud sylw neu ddau ar feirniadaeth eich adolygydd ar Winllan Mawrth. Nid oes genyf air iw ddweyd yn erbyn ei Adolygiad fel y cyfryw ond a'i gyfeiriad at y gwallau y mae a fynwyf. Mae i unrhyw un eistedd fel oracl anffaeledig ar orgraff y Gymraeg, pan y mae y fath am- rywiaeth farn yn ei chylch yn mhlith llen- orion ein cenedl, yn ymddangos i mi yn chwerthinllyd i'r eithaf. Cymerer y geir-! iau y cyfeiria yr adolygydd atynt, hwnw, hono. Am bob un sydd yn dyblu y cyd- seiniaid yn y rhai hyn, y mae deg o leiaf, yn peidio. A thybed fod y mwyafrif yn ddwl, neu yn ddiog? Dyra "cerrig" wedyn. Ar ba awdurdod y dwedir mor bendant fod hwn yn wall ? Yn Nghan- iadau yr Athro J. Morris Jones, ar tud. 9, darllenwn, "Y cerrig gwynion man," a gwn na ddiolchai yr Athro i'ch adolyg- ydd am ei alw yn ddwl nac yn ddiog. Yn wir, mewn difrif, onid doethineb ydyw bod yn ddistaw ynghylch geiriau fel y rhai hyn, nes y ceir orgraff gydnabyddedig ac awdurdodedig i'n hiaith ? Credaf y dylai fod gan bob swyddfa argraffu ei horgraff ei hun, ac nid gadael i bob awdwr sillebu fel y myno. Dyma un o brif ddiffygion rhai o'n cyhoeddiadau pwysicaf yn Nghymru heddyw. Ceir yr un gair yn cael ei sillebu ddwy a thairffordd wahanol yn yr un cyhoeddiad. Ni ddigwyddai hyn pe bai gan y swyddfa ei horgraff sefydlog, ond ceid unffurnaeth. Teg ag awdwr athrylithgar yr ysgrif yn y Winllan ydyw dweyd nad yw efe yn gyfrifol ond am un o'r gwallau y cyfeir- ir atynt, a hawdd gweled mai slip yw hwnw. Nid oes ond tri yn hyll iawn," ac yn wallau nas gall dadl fod yn eu cylch, sef d yn lie a unwaith, mae yn lie mai ddwywaith, a gwaun yn lie gwain unwaith. 0 fewn y "Winllan i gyd, an- fynych iawn, iawn, y digwydd y gwallau hyn. Dyma erthygl o'm blaen, mewn Cylchgrawn a gyhoeddir o bwrpas "i ym- wneud a llenyddiaeth Cymru," ac i godi'r hen wlad yn ei hoi," ac a yn lie a chwe gwaith ynddi Heb betrusder dwedaf fod y "Winllan" yn fwy clir oddiwrth y gwallau hyn na llawer o'n cyhoeddiadau pwysicaf. Ond fy mhrif gwyn yn erbyn eich adol- ygydd ydyw annhegwch. Drwg iawn genyf orfod dwyn y cyhuddiad hwn yn ei erbyn, on.d nid oes modd ei osgoi yn wyneb ffeithiau. Yn niwedd ei adolygiad ar yr Eurgrawn," dywed, "Clod sy'n ddyledus i iaith ac orgraff yr Eurgrawn." Ond, attolwg, a yw yr Eurgrawn" yn glir oddiwrth y gwallau y cyfeirir atynt yn y "Winllan." Cymerer y rhai nad oes am- heuaeth yn eu cylch. Ar tudalenau 82, 89, 102, ceir a yn lie â ar tudaleu J7, a yn lie a; ar tudalen 107, mae yn lie mai (-4 gwall hyll iawn," medd eich adolygydd); ac ar tudalen 103, gwaen yn lie gwain! Nid wyf yn codi y rhai hyn. cofier, i feio yr ar- graffydd, ond i ddangos anghysondeb eich adolygydd. Gwn am anhawsderau ar- graffwyr yn well na llawer. Ond os yw y gwallau crybwylledig yn brawf o ddylni neu ddiogi" un, onid ydynt yn brawf o ddylni neu ddiogi y llall hefyd ? Os nad ydynt. carwn wybod pa le mae y gwahaniaeth ? Eto clodforir un, a chon- demnir y llall gan eich adolygydd. Geilw tegwch am wrthdystiad yn erbyn hyn ac yn sicr ni thuedda adolygydd fel yma i gynyrchu ymddiried y darllenwyr yn marn na chysondeb yr adolygiad. Teimtir fi i ddifynu brawddeg o eiddo Syr Marchant Williams, yn ei adolygiad yn y Nationalist flwyddyn yn ol, ar lyfr arbenig, ond ym- ataliwn. I GOLYGYDD Y WINLLAN." I