Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BATHODAU YR YSGOL SUL. I

Oddiar Y Mur.

Advertising

YN Y SENEDD.

News
Cite
Share

YN Y SENEDD. Parhad o tudalen 5. DYDD MERCHER. Datguddiwyd ffeithiau rhyfedd yng nglyn a r Iwerddoh heddyw. Yn ol Mr. Lloyd George y swm roddir ar yr Iwerddon drwy y Gyll- ideb ydyw [438,000. Derbyniai yr Iwerddon drwy y Gyllideb at Ben- siwn i Hen Bobl yn unig [2,460,000 yn ychwanegol. At hyn, derbynia i gyfeiriadau eraill, yn gwneud y cyfan dderbynia yn ychwanegol yn [2,800,000. Yr oedd gan un Gwydd- el ddigon o wyneb i ofyn a roddid sicrwydd na ychwanegid o'r un cyf- rif at y gyfran osodwyd ar yr Iwer- ddon Diau y clywir ychwaneg am hyn eto. Blinir yr Wrthblaid gan beth fwriada y Llywodraeth wneud gyda'r Gyllideb. Buont yn holi llawer ar y Prif-Weinidog ond nid oeddynt nemor goleuach er holi. Siaradodd Mr. Churchill yn hyawdl yn ffafr Mr. Haldane gan ei dra- dyrchafu fel Swyddog Rhyfel. Dy- wedai rhai fod gan rai merched ormod o ddylanwad ar benodiadau yn y Fyddin, gwadai Mr. Haldane hyny yn bendant, Pasiwyd y swm ofynwyd at y fyddin. DYDD IAL. Y mae'r Wrthblaid wedi ffromi yn enbyd wrth weled mai am chwech wythnos y darpara y Lly- wodraeth i gyfarfod galwadau y Wladwriaeth. Digofus tu hwnt oedd Mr. Austen Chamberlain ac Arglwydd Hugh Cecil ar gyfrif ys- tryw y Llywodraeth yn gwrthod darparu ar gyfer tymor hwy. Dad- leuai Mr. Lloyd George nad oedd- ynt ond yn gweithredu fel y gwnaed yn flaenorol i 1896 fod yn pwysig i Dy y Cyffredin feddu cwbl-lywodraeth ar y cyllid ac na ddylai goddef i'r Weinyddiaeth fod yn annibynol ar y Ty. Dyma hen arf—arf y pwrs, allan o'i waen un- waith eto a diau y gwna waith megis cynt. Ceisiodd Mr. F. E. Smith droi min y cledd hwn draw trwy gynyg—' to report progress.' Hawliau Arglwydd Hugh Cecil eglurhad gan y Llywodraeth. Caf- odd eglurhad gan y Cynghellydd yr hwn a ddynvedodd y dymunai y Ceidwadwyr fyned ymlaen heb reolaeth Ty y Cyffredin, ond y dym- unai Llywodraeth fyn'd ymlaenheb reolaeth Ty yr Arglwyddi. Dyma'r gwahaniaeth rhyngom, meddai. Dywedai Mr. T. P. O'Connor fod y Llywodraeth yn gweithredu ar_ y llinell briodol. Gwrthodwyd cyn- ygiad Mr. F. E. Smith trwy bleid- lais o 225 yn erbyn 154, mwyafrif i'r Llywodraeth o 71. Dadleuai Mr. F. E. Smith fod Bwrdd Addysg yn gweithredu yn anheg a gorthrymus yng nglyn a'r Colegau Addysgawl, a chynygiodd [100 o ostyngiad er dangos angh- ymeradw} aeth i'r Bwrdd. Dy- wedodd Mr. Tudor Walters fod hawlio (fel y gwneid gan Enwad au) lywodraethiad llawn y Coleg- au tra na chyfranent chwarter y draul yn anheg ac anghyfiawn. Wrth ateb, gwadai Mr Runciman y Llywydd, fod arhryw elyniaeth i'r Enwadau, ond eu bod yn estyn i Anghydffurfwyr yr hawl ataliwyd oddiwrthynt gyhyd i fyned i'r Col- egau cynhelid gan y Wladwriaeth. Gwrthodwyd cynygiad Mr Smith trwy bleidlais o 145 yn erbyn 101, mwyafrif o 44. Codwyd mater y Congo gan Sir George White. Siaradwyd yn gon- demniol gan Sir G. Parker a Mr. Silvester Home. Atebodd Sir Edward Grey, a chydnabyddodd fod y condemniad yn un gyfiawn- helcf-ond fod terfyn i allu Prydain ar wahan i alluoedd eraill Ewrop- eaidd yn y mater. Dywedai na chydnaoyddai y LlywodJaeth un- iad y Congo a Belgium nes gwelid cyfnewidiad hollol yn ngweinydd- iad y Congo. Lleddfodd hyn ychydig ar deimladau rhai—ond y y mae gryn anfoddlonrwydd na bai y Llywodraeth yn symud yn gryf- ach i hawlio Reforms yn y mater hwn. Pasiwyd yr CS,000,000 gofynol ar gyfrif y Civil Services. DYDD GWENER. Ni bu dim o bwys gerbron heddyw. Ildiodd Mr Haldane mor bell ag i basio Supply y Fyddin ar unwaith. Ond nid oes gwyro i fod oddiwrth gadw rheolaeth gaeth y Cyffredin ar y Pwrs ac y mae yr Wrthblaid yn gynddeiriog. Mr Asquith drefnodd hyn fe ddywedir a Mr Lloyd George sy'n ei gario allan.