Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
-GWOBRWYON. 1
GWOBRWYON. 1 Trwy garedigrwydd dau frawd sy'n dymuno llwyddiant y GWYL- < I-EDYDD NEWYDD rhoddir ( 1. Tair gwobr 10s Oc 5s Oc; 2s 6c 1, "TTT"TT"TT- r J- h -C ir uurirLovv IK amoncmi Y unci mwyaf o newyddion lleol (cryno a dyddorol) ar Postcards yn ystod y chwarter presenol. II. Tair Gwobr 10s Oc I 5s Oc 2s 6c; I rr DOSBARTHWYR sicrhant y nifer mwyaf o dderbynwyr yn ol rhif yr eglwys yn y lie, i'r GWYL- IEDYDD NEWYDD yn ystod y ehwar- ter.
CYSTADLEUAETHI
CYSTADLEUAETH I POST CARDS. I Rhaid iddynt fod mewn llaw bore lau. I AT Y CYSTADLEUWYR, Cedwir cyfrif manwl a gofalus o'r Post Cards. Ni bydd dim mwy dyddorol na'ch cyfroddion byr a chryno chwi. I'r golofn hon y try pawb am y cyntaf-yn fuan. Gwa- hoddwn y bechgyn a'r genethod i dreio eu Haw ar Post Cards i'r Gwyliedydd New- ydd." Ysgrifener ar un wyneb, ac un yr wythnos a gyfrifir yn y gystadleuaeth. GOL. I
POSTCARIS A GOUEBIAETHAU.,…
POSTCARIS A GOUEBIAETHAU., I DINBYCH. CYLCHWYL FLYNYDDOL PENDREF.—Cyn- haliwyd nos Sadwrn ac ar hyd dydd Sul y 5ed a'r 6ed cyf. Y pregethwr neillduol oedd y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Porth-dinorwic. Cafodd amser rhagorol, oedfaon gwlithog a bendithiol. Cynull- iadau ardderchog, y capel yn orlawn yn enwedig nos Sabboth. Ycasgliadau yn dra boddhaol. Yn y prydnawn cafwyd oedfa Seisnig, a dangosodd ein cyfeillion Seisnig eu gwerthfawrogiad trwy bresenoli eu hun- ain a chyfranu yn deilwng. M. D. NODION 0 BETHEL, PENRHIWCEIBIR. Cynhaliwyd Cyfarfod Cystadleuol nos Lun, Chwef. 28, dan lywvddiaeth medrus y brawd D. Pritchard. Clorianwyd y cys- tadleuwyr, y rhan amrywiaethol gan Mr. Robert Williams, a'r gerddoriaeth gan Mr. Alf Harrison. Treuliwyd noson cldifyr ac adeiladol. Yr ydym fel eglwys yn disgwyl yn hyd- erus am ddyfodiad y Parch. Ed. Jones, Treddol i'n plith, Yr oedd i fod yma dechreu mis 'Chwefror, ond fe'n siomwyd trwy iddo gael ei daraw yn wael. Hyder- wn y bydd iddo ddod yma yn ei lawn nerth, ac y cawn ni wenau Duw yn amlwg yn ein plith. Y mae yn addaw dod yma Mawrth If) hyd yr 20fed. C-yflwyna Mrs. Thomas, gweddw y di- weddar frawd William Thomas, 2 Vaughan Terrace. Penrhiwceibir, ei diolchgarwch i'r llu anfonasant lythyrau o gydymdeimlad a hi ar plant yn eu profedigaeth Iem. R. T. YSTUMTUEN. Nos Sabboth, Ged Mawrth, gwnaeth ein hanwyl Arolygwr yn hysbys enwau y blaenoriaid newydd, Mri Richard Jones, Bwlchbrynar, John Morgans, Pant y Chwarel, David Owen, Troedyrhenriw, J. Morgan Jones, Ochorfawr, David Mason, Pantyffynon, a William Howells Pont- gareglwyd. Eglurodd y drefn newydd i ethol blaenoriaid am flwyddyn, ac fod < hawl gan yr eglwys i ddewis dau trwy bleidlais ar y pryd. Enwyd Mri. D. Jones, Llain, a Ll. Griffiths, Brynheulog, ac yen- < wanegwyd y ddau yn unfrydol.. ? YR YSGOL DDYDDIOL.—Mae hon dan ofal dwy .o'n plant ni, sef Miss Mary Howells. Pontgareglwyd, yn Ysgolfeistres, a Mrs. Mills Davies, Rhosbodor, yn Assist t ant. Ni bu yr ysgol ddyddiol er y cych- wynwyd mewn dwylaw gwell. Mae'r attendance mor dda, er pob anfantais, felyr enillodd y Fanner oddiar y chwe' ysgol arall. Well done, mae clod yn ddyledus i'r i ddwy athrawes am eu hymdrech parhaus, a'u caredigrwydd mawr yn denu y plant o 1 bell ac agos. Bydd yn llawenydd i lawer r gael gwybod fod adeiladau yr ysgol wedi eu helaethu, a'u gwella oddi mewn ac oddiallan. Mae y Cynghor Sir wedi ei chymeryd ar lease, ac wedi gwario ugein- ] iau o bunoedd ar y building, y gwehydd o 7 amgylch, a'r yard. 1 MYNYDDWR. ] GLANADDA. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Nos Lun i diweddaf, cafwyd dadl ar y testynue-hod, 3 Pa un a'i mantais a'i anfantais i feithrin f cymeriad ydyw chwareuon yr oes." Agor- ] wyd yr ochr gadarnhaol gan Mr J. W. i Mummery, a'r ochr nachaol gan Mr. J. 3 James Jones. Slarachvyd yn mhellacn gan 3 lawer o'r aelodau. Cawsom gyfarfod é rhagorol, a diolchwyd yn gynes i'r ddau r frawd ieuanc am eu papurau ardderchog. RHIGQS. c GYMDEITHAS LENYDDOL. — Trefnwyd y cyfarfod y tro yma gan Mr. John Morgans. c, Y Llywydd oedd y Parch. D. C. Jones. Can wyd ac adroddwyd gan yr aelodau ac c ereill. Cafwyd cystadleuaeth unrhyw Solo, c gwobr, 2s. Pedwarawd, gwobr, 4s. Caf- e wyd cyfarfod difyr dros ben. t BIBLE CLASS.—Mae'r class wedi bod yn I I 11'" ,,(,(,1 -,ro ,1 0-"1'1->, 1-)'("itil tr"r'l' 1.- z -YLy- mhor. Athraw, Parch D. C. Jones. i 1..1). ""J..ll GI" V\, ..l .J 1 e ULANEGRYN. DIRWEST.—Nos lau, Mawrth 3ydd, yn SJghapel yr Annibynwyr, cynhaliwyd Cyf- arfod Dirwestol dan nawdd Cymdeithas y Chwiorydd. Cymerwyd y Gadair gan í. Jones, a chafwyd anerchiad rhagorol gan H. Williai-ns, School House, un sydd yn teimlo dyddordeb mawr yn yr achos Dirwestol, yn barod iawn i wneyd yr hyn sydd yn ei allu o'i blaid. SOCIAL A DARLITH.-iNOSWenerMawrth 4ydd, dan nawdd Cymdeithas Ddiwylliad- ol yr Eglwys Wesleyaid, cafwyd Social, a thraddodwyd darlith ar Abram Lock- wood, gan ein parchus weinidog, y Parch J. Smith, Towyn, a thystiolaeth pawb oedd yn bresenol yw, ei bod yn un o'r darlithiau goreu draddodwyd erioed yn yr ardal. EGRY, PENYGROES. Llawenydd oedd genynl weled un o fech- gyn yr Eglwys yma yn llanw lie pwysig ar dudalenau yr Eurgrawn mis Mawrth fel pregethwr y mis, sef y Parch. Berwyn Roberts. Coleddir syniadau uchel am dano yn y dyffryn yma nid yn unig gan Wesleyaid, ond gan bawb yn gyffredinol. Bu Cymdeithas Cymru Fydd," Peny- groes, yn dathlu Gwyl Dewi Sant nos Fawrth diweddaf yn Ysgol y Cyngor. Eisteddodd 160 i lawr i hvynhau gwledd o'r radd uchaf a roddwyd gan Gyfrandalwyr y Gymdeithas uchod. Yfwyd llwnc des- tynau y Brenhin, Dewi Sant, Addysg, a Chymdeithas Cymru Fydd, pa rai a gyn- ygiwyd gan brif foneddigion y lie. Wedi gwneyd cyfia wnder o'r danteithion ymneill- duwyd i ran arall o'r ysgol i fwynhau Cyngherdd rhagorol. Teg ydyw dweyd fod y Gymdeithas uchod yn gwneyd gwaith da drwy anog pobl ieuainc i ddef- nyddio eu oriau hamddenol i ddarllen ag i. delmlo dyddordeb yn mhynciau'r dydd. Da genym weled fod Gweinidogion a Blaenoriaid y gwahanol eglwysi y He yma yn aelodau o'r Gymdeithas. ill. J. L. 'I W. J. L. TABERNACL, RHYMNI. I Noswaith Gwyl Dewi cafwyd Tea and Coffee Supper yn yr eglwys uchod o dan nawdd pobl ieuainc yr eglwys. Ymddiried- wyd yr holl drefniadau ar gyfer y noson i'r tri swyddog a ddewiswyd, sef y Parch. D. Lewis Jones, Edmund Bevan, a Miss Anita Thomas. Cafwyd swper rhagorol. Amcan penaf y cyfarfod oedd dwyn y bobl ieuainc i undeb agosach a'u gilydd. Teimlwn fod yr amcan wedi ei gyrhaedd. Da genym fod y dosparth Beiblaidd wedi dal yn fyw, ac wedi cadw y dyddor- deb i fyny o ddechreu mis Medi diweddaf hyd yn awr. Mae Mr. William Davies pregethwr cynorthwyol ymroddgar yn y gylchdaith, wedi gwneyd gwaith da fel athraw, drwy dynu a chadw sylw a dydd- ordeb y rhai a ymgynullent yno at Faes Llafur Ysgolion Sul y Wesleyaid Cymreig. Bwriada nifer o'r dosparth yma eistedd yn Arholiad y Maes Llafur a gymer le nos Fercher y 23ain o'r mis hwn. I.lwyddiant a'u dilynol. LLE, THIAN. SOAR, NEW BROUGHTON. CYFARFOD YSGOL.—Cafwyd Cyfarfod Ys- gol da yma, Sabboth, Chwefror 27ain. Holwyd y gwahanol ddosparthiadau yn y Maes Llafur. Adroddwyd amryw emynau gan y plant y rhai a genid gan y gynull- eidfa. Canwyd deuawdau a chwareuon cysegredig, ac adroddwyd rhanau o'r ys- grythyrau. Heblaw y Maes Llafur holwyd pennodau yn Llyfr y Parch. R. Pritchard. Llywyddwyd trwyy dydd gan einArolygwlj Mr. Josuah Whitley. Treuliasom un o'r Sabbothau mwyaf difyr, ac adeiladol. Y mae y'mhlith ein pobl ieuanc dalentau all fod o wasanaeth amhrisiadwy i'r eglwys yn y dyfodol, ond bod yn ofalus i'w har- wain i'r llinell iawn. Gon. CENHADAETH GYMRAEG BRADFORD. Yn ol arfer, cynhaliodd Cymry Bradford wyl flynyddol Dewi Sant. Daeth nifer lu- osog ynghyd i fwynhau y te a barato- wyd yn ardderchog gan chwiorydd caredig a gweithgar y Genhadaeth. Heb os hwynt- hwy yw grym a bywyd y ddeadell Gymreig yn Bradford. Mewn ffvddlondeb a gwaith maent yn ddiguro. Wedi i bawb gael eu gwala, treuliwyd ychydig oriau mewn cyngherdd. Arweiniwyd gan y Parch. J. Rhys Davies—Cymro sy'n bugeilio Eglwys Leeds Road. Ltywyddwyd gan D. Astley Esq., Llywydd y Gymdeithas. Gwasan- aethwvd gan Gymry a Saeson, hen ac ieu- anc. Caed anerchiad da gan y Llywydd yn Saesneg hwyrach mai hyn oedd oreu o ilan yr amgylchiadau gan fod y mwyafrif D'r gynulleidfa yn Saeson. Teimlwn fod m yr anerchiad gyffyrddiadau byw ac ar- wyddion o gydymdeimlad dwfn a hanes Cymru, coffadwriaeth eu gwroniaid a del- Tydau ei phobl. Talwyd diolchiadau cyn- ;s i bawb gan Weinidog y Genhadaeth, y Jarch. Lewis Edwards.- Gwyr ef yn dda )eth vw ddweyd ar adeg fel hyn. Ymhlith lu o bethau amserol eraill dywedodd fod ;wladgarwch a chrefydd Cymry yn un— od y naill yn amhosibl heb y Hall, ac ar HVYS hyn apeliai yn gryf at y lliaws Cym- y, am iddynt ddangos eu gwladgarwch newn ffyddlondeb i Genhadaeth safai iros Gymry, dros yr Efengyl a thros Dduw. fn sicr ddigon, wedi'r fath arddangosiad o vladgarwch ag a gafwyd ddydd Gwyl )ewi, naturiol yw disgwyl gweled yn han- 's Cenhadaeth Gymraeg Bradford arwydd- on amser gwell. R. W. D. .LANDEBIE. .LANDEBIE. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.-Mae yn dda awn genyf allu dweyd fod ein heglwys 'n y lie hwn yn gwisgo gwedd hynod o lodeuog. Cynhelir yma Gymdeithas 3diwylliadol bob wythnos o dan lywydd- aeth Joseph Jenkins, Lay Agent, ac yr I rdym yn cael cyrddau rhagorol iawn. Yr rdym eisoes wedi cael papurau ardderchog tr wahanol destynau, ac yr ydym yn ed- ych yn mlaen am ragor eto. CYFARFOD ADLONIADOL.—Cynhaliwyd y yfarfod hwn nos Fawrth, Chwef. 22ain. 3adeiriwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch V. J. Arter, Tir-y-dail yr hwn sydd bob imser yn barod i wneyd unrhyw beth er :in cynorthwyo. Cafwyd cyfarfod hynod ) lwyddianus. Paratoir er cael cyfarfod yffelyb yn fuan eto. Yr ydym yn dechreu :drych yn mlaen am ein cyfarfod banner ] )lynyddol, pa un gynhelir yr ail Sul yn Lbrill. Disgwylir i'n gwasanaethu y tro nvn, Dr. Hugh Jones, Bangor. GOH. NODION 0 LANGOLLEN. ) Nos Fercher, Mawrth ""Sil, 1910, cafwyd papurau o nodwedd Genedlaethol yn y Gymdeithas Lenyddol, gan dair o chwior- vdd-Miss Maggie Hughes, Ty-Ucha, ar Fy laith," papur da. Yr ail bapur gan Mrs. A. W. Davies, Epworth, ar Fy Ngwlad," papur da eto, ac yn dangos dyl- anwad y wlad ar y bobl. Y trydydd bapur gan Miss Roberts, Ty-du, ar Fy Nghen- edl," ymdriniodd yn fedrus a'i thestyn a dangosodd rinweddau a diffvgion ein cen- edl. Diolchwyd yn gynes iawn i'r dair chwaer. Ceisiai Mr. Foulkes ddangos fod gan anifeiliaid ac ehediad yr awyr iaith, ond a hvn ni chytunai y Parch. E. A. Morris. Tybed fod iaith deiiwng o'r enw gan neb na dim ond dyn. Cryn dipyn o gyffro a brwdfrydedd sydd yn y dref yr wythnos hon ynglyn a'r Eth- oliad Sirol. Mae yr hen aelod, sef Mr. E. R. Parry wedi cael yr oruchafiaeth ar ei wrth- wynebydd cryf, Capt. W Best, Ysw,, Vivod, oedd vr Ymgeisydd Ceidv/adol. R. E. BANGOR. HOREB.Y mae yr eglwys hen wedi sy- mud mewn cyfeiriad newydd elerii trwy ddewis dwy chwaer yn oruchwylwyr y ty- lodion, sef, Mrs T. J. Jones, Friars Road, a Mrs J. E. Lewis, (merch y Parch. Robert Lewis). Credwn fod y symudiad yn un doeth. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Yr wythnos ddiweddaf, cafwyd papurau da ar Talhaiarn gan Miss Evans, Cambrian House ac ar Sankey gan Mrs Jones Williams, ac yn ystod y papur hwn can- wyd yn swynol ac effeithiol iawn rai o Em- ynau Sankey, megis,—" There were ninety and nine" ac "Almost Perswaded Yr oedd y papurau a'r canu yn wir dda. Lly- wyddwyd gan Mr Wm. Penny. Yr wythnos hon cafwyd dadl, A ddylai pawb uwchlaw Slain oed gael pleidlais." Agorwyd dros y cadarnhaol gan Mrs Jones Williams, ar nachaol gan Mri Penri Davies ac Abi Williams, (Students). Ar ol dadi frwd ac amrai o'r aelodau yrt cymeryd rhan, enillodd yr ochr gadarnhaol. Llywydd- wyd gan Mr J. D. Jones (Student). UN ARALL. BLAENAU FFESTINIOG.— Cafwyd Swper diwedd tymor Cymdeith- as Ebenezer, nos lau. Haedda'r chwior- ydd glod am eu gwaith. Yr oedd y pro- gram yn un blasus. Diolchwyd i'r rhai gymerasant ran yng ngwaith y tymor-yn 'arbenig i'r Is-lywydd Mr Thomas Jones am ei ymroddiad parhaus. Mr. White Phillips etholwyd i'r Cyngor Sirol wedi brwydr galed. Adroddiadau ffafriol geir yn y Drych Americanaidd am Gor y Moelwyn. Can- molir canu Mr. Prodger, arweinydd ein canu yn y Llan, yr hwn sydd yn aelod o'r cor. Dyma fel y cana Y Drych am GOR Y MOELWYN. Gweision doniol bro Ffestiniog, Cartref hen gerddorion enwog, Moli wnawn am eu hymweliad Dan arweiniad eu Cadwalad. Rhoddwn groesaw yn ddiwenwyn, A molianwn Gor y Moelwyn, Wedi dod ar dir Amerig, Boed eu taith yn fendigedig. Canu ydyw eu cenadaeth, Ac fe ganant i ni'n berffaith, Fel angelion gwlad goleuni, Rhoddant i ni swynol gerddi. Dod a Chymru dros y Werydd, Yn ei chan a'i hiaith-leferydd, Dod a'r delyn a'i phenillion Wnaeth Cadwalad a'i gor meibion. Nid oes dim ar dir Amerig, A wna'r Cymro yn fwy diddig— Na chael gwrando mor o ganu Fel a glywodd gynt yn Nghymru. Fechgyn anwyl bro Ffestiniog Wedi'ch taith o ganu enwog Boed i'r nef i'ch diogelu Nes cyraeddoch 'nol i Gymru. Wedi'ch canu'n ngwlad y codwm, Gan roi help i leddfu gorthrwm, Cenwch eto yn y nefoedd 0 fiaen Brenin y breninoedd. DYSERTH. GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.'— Cynhal- iodd ei Chyfarfod Cystadleuol, nos Fawrth, Chwefror 23, 1910, o dan lywyddiaeth Mr. Robert Williams, Clwyd Villa. Dyma y y rhaglen. Cystadleuaeth i enethod dan 15 oed, adrodd yr emyn 903, y don Baveria' i fechgyn, adrodd yr emyn 220, araeth byr- fyrur, testyn, Yr Apostol Paul," v don Longton' dan 9 oed, darllen darn heb atalnodi y don a roddir ar y pryd. Caf- wyd cyfarfod rhagorol. ac elw sylweddol i'r Gymdeithas. Beirniad y cerddoriaeth, Parch E. M. Jones, yr adroddiadau, Mr. T. C. Rogers. DARLITH TRWY GYFRWNG Y LLUSERN —Nos lau, Chwefror 24ain, traddododd y Parch Ben Williams, ei ddarlith ddyddorol ar ei daith i Rufain,pryd y daeth cynulliad da ynghyd i wrandaw, ac i weled y darlun- iau o'r lleoedd y bu trwyddynt. Hyderaf iddo wneyd elw da at glwb y plant. Di olehwyd yn gynes i'r Parch Ben Williams CORONATION HALL DYSERTH.—Cynhal- iodd y Rhyddfrydwyr eu cyfarfod nos Lun, Chwefror 28, 1910, i egluro gweithrediadau y Cynghor Sirol am y tair blynedd di- weddaf, ac hefyd i gynorthwyo ein haelod i wynebu brwydr arall. Cadeiriwyd gan Mr. Millward, Prestatyn, cafwyd araeth hyawdl gan y cadeirydd, a dilynwyd gan y personau canlynol,—Parch. J. T. Wynne, Mr Rallia, Mr. Thomas Williams. Cynyg- iw-yd diolchgarwch i'r siaradw3'r gan Mr. Charles Thomas, ac eiliwyd gan Mr John Williams. Cynhaliwyd cyfres o Ddarlithiau yn ys- tod y mis, gan y Proffesor Hopkins Jones, Bangor, ar y modd -oreu i drin llaeth a menyn, ac hefyd un noson ar y modd goreu i ddelio gyda y dofednod. Hyderaf y bydd y darlithiau yn llesol. Cadeiriwyd gan y Parch. J. E. Jones, Vicar, a Mr Richard Lewis, Brongwyn, a Mr Alfred Denson, Trecastell. J. H. MODION 0 RHYL. Nos Gwyl Dewi, cynhaliwyd Eisteddfod Plant a Phobl Ieuanc. dan nawdd eglwysi Wesleyaid Rhyl, a Rhuddlan. C- nhallwyd y gyntaf flwyddyn yn ol a phrofodd yn llwyddiant mawr a phenderfynwyd cael un eto eleni. Yr oedd y gwaith wedi ei ymddiried i bwyllgor o'r tair eglwys a nodwyd. Llywydd y pwyllgor ydyw y Parch. T. 0; Jones, Tryfan; Trysorydd, Mr. H. Williafes, Soar; Ysgrifenydd, Thos Roberts, Brunswick. Daeth cynulliad da ynghyd i'r Neuadd Drefol. Y Cacleirydd vdoedd, Mr. John Hughes, Elwy House, a chafwyd gair pwrpasol ganddo, a chyflwyn- odd rodd sylweddol at y treuliau. Arwein- iwyd gan Tryfan. Clorianwyd yr ym- geiswyr gan Glas Alaw, a Huwco Pen- maen, y naill a'r llall yn rhoi ei gwasan- aeth yn rhad, hefyd Mrs T. O. Jones, Mrs E. Jones, Mrs Foulkes, a Mrs W. H. Davies. Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Miss Gertrude Jones. Gyda'r canu y cafwyd yr hwyl yn fwyaf arbenig. Bu Soar eto yn llwyddianus yn yr adran yma, ond i Gallt- melyd yr aeth y prif wobrwyon. Yno yr aeth v wobr am y pedwarawd parti o ddeg. Daeth tri Cor Plant yn mlaen, sef Cor I Brunswick, arweinydd Mr T. J, Williams, Cor Soar, arweinyddes, MlSS Jones, a Chor Galltmelyd, dan ary^finiad Mr, Hug;>\|5, Y I ciernyn i'w ganu ydoed¿, GwahÜ<;tâmaé r Iesu o hyd" o lyfr y Gymanfa. Caed dat- ganiad gwir dda gan y tri Cor, and y goreu ydoedd Galltmelyd. Y goru ar yr Her Unawd-vdoedd, Miss Jones, Soar. Cynyg- iwyd pleidlais o ddiolchgarwch. gan Mr W. M. Williams, a chefnogwyd gan Inspector Jones, Soar. Cyhoeddwyd Eisteddfod eto y flwyddyn nesaf, a chredwn mai da yw hynv am fod yna waith rhagorol yn cael ei wneyd gyda'r plant trwy barotoi ar gyfer yr Eisteddfod. G o i-i. CAPEL GARMON. Claddwyd Mrs Ellen Roberts, Pantypwll, ym mynwent y Plwyf, Chwef. 23ain. Gwasanaethwyd gan y Parchn P. Jones Roberts, a T. Charles Roberts. Yr oedd yn fam i Mr Robert Roberts, blaenor yn awr yn LIanrwsr. Bu ei phriod yn flaenor am gyfnod maith yn Nghapel Garmon. Cafodd ddiwedd gorfoleddus mewn oedran teg, yn 80 mlwydd oed. DINBYCH. CENHADAETH MISS ROSINA DAviES. Yr wythnos ddiweddaf, talodd Miss Rosina Davies, Treherbert, yr Efengyles adnab- yddus, ymweliad a'r dref hon. Cynhal- iwyd y gyfres cyfarfodydd o dan nawdd Cynghor yr Eglwysi Rhyddion. Nos Lun, cynhaliwyd Cyfarfod Gweddio Undebol yn Mhendref. Nos Fawrth a nos Fercher, pregethodd Miss Davies yn Nghapel Lon Swan; a'r ddwy noson ganlynol yn y Capel Mawr. ETHOLIAD Y CYNGHOR SIROL.—Prysurdeb neillduol a amlygir ynglyn a'r uchod yn y dref a'r cwmpasoedd, ac erbyn y daw y rhifyn nesaf o'r GWYLIEDYDD NEWYDD allan bydd y frwydr wedi ei henill a'i choll.i. Dydd Llun, y 7fed cyfisol.yw dydd y polio. Gwneir ymosodiad cryf gan y Toriaid i ennill y seddau hyny a ddaliwyd gan y Rdyddfrydwyr. Yr ymgeiswyr dros y dosbarth Ddwyreiniol o'r dref ydynt Dr. D. Lloyd (R.), a Major Swayne (C.); y dos- barth Gorllewinol, Mr. Aneurin O. Evans (R.), Cadeirydd y Cynghor Sir, a Mr. Pryce Story (C.); Henllan, Mr. J. H. Roberts, Foxhall (R.), a Colonel Heaton (C.). 1\1, D. BODFARI, DIN-Bycii.Nos lau, yr wyth- nos ddiweddaf, cynhaliwyd Cyngherdd Mawreddog yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, i'r diben o ddilen ychydig o ddyled sydd arnom i'r Bwrdd Chwarter. Llywyddwyd gan ein Harolygwr, ac arweiniwyd y cyfar- fod gan y Parch. D. R. Thomas, Llanelwy, ac aed trwy raglen nodedig o ddyddorol. Canwyd hefyd amryw weithiau gan Mr. T. Bartley a'i barti enwog, gan ddifyru y gynulleidfa fawr. Cafwyd noson ddifyr iawn. Yr oedd yn gyngherdd rhagorol yn mhob ystyr. Talwyd y diolchiadau arfer- ol, a dymunem ar ran yr achos yn y Forge, gyflwyno diolchgarwch neillduol i Miss Lucy Roberts a'i Brawd, ac i Mr. Bartley a'i barti am eu parodrwydd bob amser i gynorthwyo yr achos ar gais Mr. W. R. Evans, Forge Farm. CYFARFOD YSGOL.-Y Sabbath diweddaf, cynhaliwyd ein Cyfarfod Ysgol Blynyddol, pryd y daeth amryw o gynrychiolwyr yma o'r gwahanol ysgolion,, a chafwyd cyfar- fodydd da trwy y dydd. Treuliwyd Cyf- arfod y Boreu gyda rhyddymddyddan ar y mater penodedig, sef, "Pa fodd i wneyd yr Ysgol Sul yn fwy o addoliad. Agor- wyd y mater gan Ltywvdd yr Undeb, a siaradwyd gan amryw ereill. Yn y Pryd- nawn, holwyd y Plant yn yr Hyfforddydd a'r Maes Llafur, a dywedai yrholwr, Mr. D. Jackson, mae plant Bodfari oedd wedi ateb oreu trwy y Gylchdaith, ac os aent yn mlaen, hwy fyddent oreu yn yr Arhol- iad. Yn yr hwyr holwyd Actau xxvi, gan Lywydd yr Undeb. Cafwyd cyfarfoclydd da trwy y dydd, a theilynga Llywydd yr Ysgol, a'r Athraw a'r Athrawes fu yn dysgu y plant ganmoliaeth uchel. Cafwyd amryw adroddiadau gan y plant a'r bobl ieuanc. W. R. E. GORE ST., MANCHESTER. Y GYNIDEITI-IAS.-ATae y tymhor eleni wedi bod yn un llwyddianus iawn. Caw- som Anerchiadau, Papurau, a Dadleuon, ar faterion pwysig byd ac eglwys, a'r oil ohonynt yn dangos llafur mawr. Llywydd y Gymdeithas yw y Parch. J. Felix. Yn nglyn a'r Gymdeithas cafwyd ymgomwest nos Fercher, Chwefror Uieg. Rhoddwyd y danteithion yn garedig gan Mr. a Mrs. David Rees, Longsight. Yr oedd hon yn noson penblwydd Mr. Rees. Mae Mr. Rees wedi cyrhaecld oed yr addewid, ond dym- uniad yr oil ohonom yw am iddo gael ei arbed am flynyddoedd lawer eto. Gwyr pawb sydd wedi dal cysylltiad a Gore Street, am ffyddlondeb Mr. Rees, ei ofal a'i bryder am Bobl Ieuainc yr Eglwys. Datganwyd a chafwyd adroddiadau yn ystod y cyfarfod. Llongyfarchwyd Mr. Rees gan amryw o'r brodyr, a'r oil ohon- ynt yn datgan clodydd a dymuniadau da iddo yn y dyfodol. Treuliwyd noson hynod o ddyddorol, B.AKD OF HOPE.—Cynhaliwyd Cyfarfod y Band of Hope nos Lun, Chwefror 21 ain, a dan lywyddiaeth v Parch J. Felix. Mae y noson hon yn cael edrych ami fel un o nosweithiau mwyaf pwysig y tymhor, sef pan y mae plant y Band of Hope yn gwas- anaethu y Gymdeithas. Cafwyd Adrodd- iadau, Caneuon, a Dadleuon gan y Plant, a'r oil yn dangos fod llafur mawr wedi bod sr gwneyd y cyfarfod yn ddyddorol a llwyddianus. Teilynga y plant, a'r rhai sydd yn eu cyfarfod, sef, Airs. Felix, Mri. R < Jenkins, a Bernard Roberts, y diolchgarwch cynhes a roddwyd iddynt gan y cyfarfod. Cafodd y cyfarfod dipyn o ffrwyth awen y beirdd, Mri. W, G. Jones a T. Thomas (Glanrheidiol.) Y CYFARFOD PREGETHU.—Cynhaliwyd y Cyfarfod Pregethu Blynyddol nos Sadwrn a'r Sabboth, Chwefror 19eg a'r 20fed. Gwasanaethwyd gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Porthdinorwic. Cafwyd cyf- res o bregethau coeth a dylanwadol, a daeth cynulliadau lluosog ynghyd. AFIECHYa.-Nid yw Mr. W. Williams, Crondall Street, wedi bod yn alluog i ddyfod i'r capel er's rhai misoedd bellach oherwydd afiechyd. Hyderwn y caiff ad- feriad buan. ac y cawn ei weled eto yn ei le yn yr eglwys. UN O'R LLK, GLYNPY-FKDWY, Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yn y lie uchod dydd Sul, Mawrth Oed. Llywydd- wyd gan Mr Benson Evans, Glyndyfrdwy, ac yr oedd cynrychiolwyr o bob Eglwys yn bresenol. Cafwyd tri chyfarfod. Holwyd y bennod Am ryddid ewyllys dyn allan o lyfr Pritchard. Hohvyd dosbarth Robert Davies yn yr r lyfforddydd i—iv. Holwyd yr ysgol yn gyffredinol oddiar Actau xxv, gan Mr E. D. Jones, Llangollen. Yr oedd yr atebion yn barod a ctyffredinol. Ad- roddwyd y drydedd bennod o Colosiaid gan Mr D. S. Roberts, ac hefyd adroddwyd y bennod Am y Greadigaeth gan ddos- barth Mr. Evan Owen. Adroddwyd Hanes Iesu Grist, pennod i—iii gan ddosbarthiad- au Hugh Jones a Henry Roberts, ac hefyd Luc y, gan yr Athrawon. Yna holwyd dosbarth Mr. "David Owen yn y bennod "Am -Dduw a'i Briodolaethau" allan o Lyfr Pritchard. Adroddwyd pen- nodau Am weddi yr Arglwydd" gan ddosbarth John Jones Lloyd, ac hefvd Am Ffydd gan ddosbarth Mr. J. Jones, Ty Cerrig. Cafwyd pedwarawd gan barti Mr W. Lloyd Roberts. Yna tradd- odwyd anerchiad dyddorol ac amserol gan Mr J. Watkin Roberts, Llangollen, ar Rhag-olygiad ar y Maes Llafur 19i0- L" ac yn ddilynol cafwyd ymdrafodaeth hel- aeth at yraater gan aror^w frodyr, YA y tri chyfarfod adroddwyd rhanau o'r gair sanctaidd, ynghyd a darnau cysegredig eraill gan y Flant a'r bobl ieuainc. Caf- wyd caneuon cysegredig hefyd ganddynt. Da genym dystio fod y cyfarfod drwy- ddo yn wir dda, rhai adranau yn rhagorol (yn arbenig felly, y plant a'r chwiorycld ieuangc). YSGRIFENYDD. COLWYN BAY. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd Cyfar- fod Ysgol, Sul Mawrth 6ed, ac amlwg yw fod yr Ysgol Sul, yn cael argraff ddaionus ar ei deiliaid. Cafwyd amrywiol adrodd- iadau, datganiadau, yn gynnyrch amlwg o'rllafurrha-barotowal. Llywyddwya gan Mri. E. W. Roberts, T. M. Griffith ac Enoch Jones. Cafwyd yn y naill gyfarfod a'r llall adroddiadau o emynau a phenod- au gan y plant. Canwyd amryw Ganeu- on Cysegredig hefyd ganddynt. Holwyd penod o'r "Egwyddorydd" gan Thos. Ellis; holwyd y plant gan Enoch Jones, ac ar yr Ephesiaid gan Mr. Jonathan Rob- erts. Cafwyd papyr gwych gan Miss Winifred Price ar Jawn ymddygiad yn Nhy Dduw." Canodd y 'Cor- Plant a'r Cor Mawr amryw donau dan arweiniad Mri Shadrach Evans a John Jones. Caf- wyd hwyl neillduol wrth ymdrin ar Eph- esiad, gan Jonathan Roberts, bu ymdraf- odaeth helaeth a chafwyd atebion byw ar y mater dan sylw, sef yn arbenig ethol- edigaeth." Terfynwyd Cyfarfod Ysgol neillduol o dda trwy ddatganu amryw donau adnabyddus gan y gvnulleidfa dan arweiniad arweinydd y gan, John Price Jones. GOIl. COUNDON GOGLEDD LLOEGR. GWYL DEWI YNGHAPEL WESLA—Dydd Sadwrn y 5ed cyf. daeth nifer dda ynghycl i ddathlu Gwyl Dewi i Capel y Wesleyaid yn Coundon, lie yr oedd gwledd gorphorol wedi ei pharatoi gan foneddigesau o'r eg- lwys. Wedi i bawb wneuthur cyfiawnder a'r danteithion naturiol. Cafwyd gwledd o fath arall. Cymerwyd y gadair gan Mr J. S. Rees, Bishop Auckland. Cafwyd an- erchiad penigamp gan y LIywydd, pwysai arnom fel Cymry i gadw ein Sant yn ein meddyliau, a byw fel yntau o dan nawdd a chysgod y pur, y prydferth a'r dyrchafol. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod mewn canu ac adrodd gan amryw. Credwn fod agos bob sir yn wghymru yn cael ei cynrychioli yn y Te a'r Cyfarfod. Clywsom yn y c-vf- arfod Mr Owens ein gweinidog ynghyd a Mr Jones Bishop, Auckland, yn y cymeriad o datganwyr a siaradwyr. Cafwyd hefyd anerchiad barddonol gan Moses Jones, Bl. Ffestiniog. Cyfarfod gwych trwyddo. Cod- wyd ein hysbrydoedd, taniwyd ein sel, ac ymadawsom gan addaw y naill i'r llall fod yn well Cymry, yn fwy selog i'n hen iaith, a chadw Dewi ein Sant, a'r llu seintiau a'i dilynodd yn Ngwalia fel delfryd o flaen ein lfygaid. T. J. G. NODION 0 DOLGELLAU. Y GYMDEITHAS.—Mae hon wedi bod vn hynod o lwyddianus eleni dan lywyddiaeth y Parch Egwys Jones. Mai ef a'r dosbarth ieuanc wedi bod yn hynod ffyddlon ac wedi cael eyfarfodvdd rhagorol, hefyd wedi cael anerchiadau campus gan y Parch Gwynfryn Jones a'r Parch W. Pari Hmvs (A.), yr hwn sydd bob amser yn barod i roddi ei wasanaeth i ni fel enwad. A gaf fi yn y pen hwn ei longyfarch ar ei lwydd- iant yn eniil sedd i'r Cynghor Sir. Credwn i ni fel enwad fod yn ffyddlon i Mr Hughes yn yr etholiad hon. Llawenydd i mi oedd clywed fod amryw o aelodau y Gymdeithas uchod wedi bod yn cynal cynghrdd yn Tlotty Dolgellau. Cafwyd cyfarfod nodedig o dda, pawh oedd yno wedi eu boddhau yn ddirfav/r. Yr oedd y cyfarfod dan ofal y Parch. Egwys Jones. CYMRO. ABERMAW. PRIODAS.—Yn nghapel y Wesleyaid, Dolgellau. ddydd Llun, priodwycl Mr. Owen Parry, eillydd, Abermaw, a Miss. Mabel Geddes, Lerpwl. MACHYNLLETH. Yr oeddy Parch. Evan Isaac yn pregethu gyda'r Parch. W. Morris, D.D., yn Nghaer- dydd, yn nghwyl flynyddol yr enwadat1 Cymreig nos Gwyl Dewi.