Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION LLENYDDOL.I

CERDDORIAETH. I

DIFFYGION A RHAGORIAETHAU…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DIFFYGION A RHAGORIAETH- AU Y GENEDL. Anerchiad Dydd Gwyl Dewi. I Y mae yn dda genyf gael y fraint a'r anrhydedd o ddweyd ychydig o eiriau ar ddydd coffadwriaeth nawdd Sant y Cymry, a hyny mi a obeithiaf wrth gyn- ulliad sydd wedi ymgynull ynghyd oher- wydd sel genedlaethol. Fel y gwyr rhai o honoch fe'm dewiswyd i ddweud gair neu ddau heno ar Ddiffygion y Genedl, testyn mi wranta, digon anodd i ddyn wneyd unrhyw chwareu teg gydag ef. Fe nod- wyd cyfaill arall, rhag i mi syrthio i'r am- ryfusedd o fod yn rhy unochrog i leisio barn ar Ragoriaethau'r Genedl, ond oher- wydd rhesymau penodol fe ymwrthyd y cyfaill hwnw a'r gwaith. Gan nad oes neb hyd y gwn yn barod i gymeryd ei le bwr- iadaf, rhag i'r diffyg o anghydbwysedd fod ar y cyfarfod ddweyd brawddeg neu ddwy ar y Rhagoriaethau berthyn ini ynghyd a'n diffygion. Oherwydd amgylchiadau anffafriol yr wythnos diweddaf ni chefais amser i fyfyrio uwchben y mater. Felly rhaid i chwi foddloni heno beth bynag ar opiniynau anelwig, mi addefaf sydd yn fy meddwl ers blynyddoedd am y genedl y perthynaf iddi. Gyda golwg ar ddiffygion y genedl, fe wel yr ystyriol ei fod yn fater pur ddelicate i'w ymdrin yn enwedig ar noson fel heno, pan mae cenedl y Cymry bron yn gyffredinol yn canmol eu hun. Hwyrach, a dweyd y gwir fod canmol ein hunain yn ormodol heb alw sylw ein gil- ydd at ein diffygion yn un o'n gwendidau ond nid wyf yn barod heno i roi fy ngair drosto. Wrth son am ein diffygion gwn yn burion na fyddaf yn porthi balchder cenedlaethol neb, gobeithio na fydd imi darfu dim ar eich ysbryd cenedlaethol na'i dramgwyddo. Cofiwch bob amser fod eithriadau i bob rheol, ac o ran dim wn i feallai mai chwi yw yr eithriadau hyny. Nid wyf yn bwriadu gosod bys ond ar nifer fechan o'n diffygion a'n rhagoriaethau rhyw ddau neu dri dan bob pen. At hyny nid wyf am gynnyg iachad oddiwrthyf y clwyfau cenedlaethol, feallai y byddai yn burion peth rywbryd yn y dyfodol i Undeb Diwylliant Machno dreulio noson i gynnyg physigwriaeth, ac i dori llwybrau o iach- awdwriaeth i'r genedl. Hawdd i Ddyn wrth geisio ymdrin a mater cenedlaethol ydyw llithro i fwnglera a son am ddiffygion a rhagor- iaethau lleol neu ddiffygion a rhagoriaeth- au y mater dynol, yn hytrach na rhai'r genedl. Dyma'r pryd y dywedaf fod diffyg neu ragoriaeth ar genedl, pan fo mwyafrif'r genedl i'w beio neu ei chanmol o'i blegid. Gadewch i ni gychwyn gyda'n diffygion. Cyn y gallwn yn iawn ddeall diffygion ein cenedl rhaid tafiu rhyw fras gip o olwg dros hanes ei gorphenol, oherwydd ei gorff- ennol sydd yn penderfynu beth ydyw hi heddyw. Bu'r genedl am bedwar can' mlynedd dan iau Rhufain. Yn ystod y cyfnod hwn, collodd ami i arweinydd oedd yn ddwfn yn ei serch, a chollodd lawer o'u rhyddid. Dyma'r amser y dechreuodd y genedl ddysgu cwyno. Yr oedd y Rhuf- einiaid yn rhy falch a phenuchel i gymvsgu dim a'r Cymro, ac nid oedd y Cymro yn'tau yn awyddus iawn i wneyd rhyw lawer o'i orchfygwr a'i elyn. Cadwodd y Cymry yn gwbl ar wahan. Gadawodd y Rhuf- einiaid Brydain heb adael odid dim o'i hoi ar anianawd y Cymro. Ymhen ychydig flynyddoedd daeth y Saeson drosodd, ac am gyfnod o wyth canrif buont wrthi oreu medrent yn lladd y Cymry ac yn lladrata eu meddianau nes o'r diwedd iddynt ddwyn ein hannibyn- niaeth oddiarnom. Gwthiwyd y Cymro i gilfachau'r mynyddoedd, ac oddiyno am flynyddoedd edrychai ar y Sais fel estron a gelyn. Nid yw y Celt felly wedi ymgymysgu a na Rhufeiniwr na. Thenton. Y mae yn genedl sydd wedi byw yn gyfangwbl ar ei hadnoddau ei hun. Gan fod y wlad y gwthiwyd ni iddi yn llaAvn o fynyddoedd nid oedd fawr o gyfathrach cydrhwng trigolion y dyffryn yma a'r cwm acw. Y canlyniad ydyw ein bod wedi bod ar hyd y canrifoedd ac yn heddyw fel cenedl o ddim rheswm yn rhy deuluol. Y mae yn perthyn ini fel cenedl holl ragoriaethau a holl ddiffygion y dyn unig. Edrychwch ar lenyddiaeth y gorffenol. Beth yw'n mabinogion ?-chwedlau teulu- aidd. Adroddid hirnos y gauaf i gylch y teulu. Ni fu genym am genedlaethau feirdd cenedlaethol dim ond beirdd teulu. Beirdd teulu y gelwid hwynt. Amhosibl hollol i genedl yn byw gymaint arni ei hun ac wrtho ei hun feddu dylanwad mawr ar y byd. Fe wyr pawb, wyr ryw- beth. mai ail-raddol iawn ydyw dylanwad Cymru wedi bod yn y gorffenol ar y gwedd- ill o'r byd. Y duedd deuluol hon sydd eto mor gryf ynom barodd i ni golli'n hanib- yniaeth. Enw'r Sais arno ydyw Provinc- ial Feeling. Ceid gwahanol gad-lywydd- ion a gwahanol dywysogion dros wahan- ol rannau o Gymru. Ymladdai y rhai'n yn ami yn erbyn eu gilydd yn hytrach nag yn erbyn y gelyn gyffredin. Y mae yr un peth fel y sylwais o'r blaen yn fyw yn ein plith ni eto. Nid oes fawr o gyfeillgarwch rhwng Hwntw a Gog- leddwr. Y mae y naill yn ddrwgdybus iawn o'r llall. Nid yw pobl Sir Fon yn caru ond ychydig ar Gymro os na fydd yn un o Sir Fon, ac y mae hyny'n wir am Siroedd eraill Cymru. Brawd o waed coch cyfa i hwn ydyw enwadaeth, ac y mae hwn yn ddiffyg mawr ar ein cenedl, nad wyf heno ond am ei henwi. Gresyn nad ellid ar fyrder ei alltudio o'r wlad, gwnai hyn fawr les i dwf y genedl. Bai amlwg arall arnom fel cenedl ydyw, ein bod yn genedl bruddglwyfus iawn. Chwiliwch y beirdd o'r chweched ganrif i lawr; dyna sydd ganddynt gan mwya o lawer cwyn coll, ac odlau hiraeth am yr enwogion fuont feirw ar feusydd y brwyd- I rau rhwng y Cymry a'r Saesoii. Ystyriwch ein halawon cenedlaethol, y mae argraff ein pruddglwy arnynt. Dyma rydd fwyaf o foddbad i gynulleidfa o Gymry heddyw clywed canu ton neu alaw leddf. Pwy yw y pregethwr mwyaf pob- logaidd gyda'r werin—hwnw fedr ganu'n lleddf oreu pan ddelo'r hwyl. Y mae hyn oll l'-vi, T)rlodoll i'r profedig- aethau yr adfyd a'r cynni yr aeth y genedl drwyddynt yn y gorffenol. Y mae'r genedl wedi ei siomi mewn bywyd. Y mae bywyd y Cymro yn fwy o tragedy na dim arall. Nid yw yn ymdrechu rhyw lawer enwogi ei hun gan fod bywyd a phethau'r byd hwn mor ansicr. Y dydd o'r blaen gofynnais i wr o Sais deallus iawn am ei farn am danom fel cen- edl. Yr oedd hwnw wedi byw yn ein plith am hir amser, ac wedi bod yn byw mewn gwahanol ardaloedd, ei farn oedd, ein bod yn genedl alluog, ac oherwydd hyny ein bod yn dueddol at fod yn ddifraw a diog. Y mae hyn fel y gwyddoch yn wirionedd drwydd4, os y bydd dyn yn meddu ar dal- entau tuhwnt i'r cyffredin, fodynddo hefyd ysbryd marw, diwaith. Y rheswm am hyn ydyw y cenfydd ei fod yn alluog i ddadrys pynciau dyrus gyda graddau o rwyddineb. Nid ydyw hynny fel y gwyddoch yn svin- byliad i waith. Dywedodd Dr. Arnold, o Rugby, prifathraw hyglod ysgol uwc.h- raddol Rugby, nad y bechgyn mwyaf dis- glaer ddeuai i'w ysgol oedd yr ysgolorion mwyaf llwyddianus, ond y rhai clyfal o alluoedd canolig, a rhain hefyd oedd yn sicrhau y swyddi uchaf mewn bywyd wed'yn. Y mae hyn yn wir am ein cenedl ni, nid yw yn genedl ddyfal oherwydd ei thalent. Os ydwyf drwy nodi hyna o ddiffygion wedi agor briwiau cenedlaethol, gadewch i mi'n awr am funud neu ddau eu heneinio ag olew ein Rhagoriaethau. Yr wyf eisoes wedi cyffwrdd ag un ragoriaeth neilltuol berthyn ini, sef ein bod yn genedl feddyl- gar. Peidied neb ohonom ymchwyddo neu redeg i ffwrdd yn ben uchel oherwydd yr eithriadau posibl. Sut bynag, y mae'r genedl yn hynod am ei meddyigarweh vmhlith cenhedloedd y dda'ear. Y mae ceisio cyfrif am feddylgarwch y Cymro y tuhwnt i gyfeiriad yr anerchiad hwn, ond gallaf ddweyd fod ei duedd neilltuedig en- ciliol wedi bod o fantais iddo ddatblygu meddwlgarwch wrth weled trechu ei w, lad a chwympo y cedyrn aeth i chwilio am rywbeth digyfnewid, croesodd foroedd amser i'r byd a ddaw i chwilio am foddion- rwydd. Yn vr ymdrech datblygodd ddychymyg gref. Yn ei ymgais i broil. sail i'w ddychmyg- ion meithrinodd duedd i athronyddu. Credaf yn gryf nad oes genedl o dan haul heddyw mor athronyddol a chenedl y Cymry. Pe dilynech hanes y ganrif ddi- weddaf yn ei Heisteddfodau, Cyfarfodydd Llenyddol, yr Ysgol Sul, a phe aech I mewn i efail y gof, gweithdy'r saer, a siop y crydd. chwi gaech faint a fynnech o brofion o'n tueddion meddylgar ac athronyddol. t Rhain oedd y sefydliadau ag ydynt eto o ran hyny, y sefydliadau mwyaf poblog- aidd yn ardaloedd ein gwlad. Cynwysent -ymdrin trafod a thraethu ar bynciau annodd ac astrus byd y meddwl. Y mae meddylgarwch y Cymro yn ein harwain at yr ail ragoriaeth enwaf heno, sef ei grefyddolder. Nid oes dim fel cref- ydd all gyflenwi mesur deheuadau calon y Celt. Y mae crefyddolder y Cymro yn ddihareb, ond ni fynaswn er dim ddweud fod popeth a berthyn i'w grefyddolder yn berffaith. Fe dyfodd llaAver o bethau o'i grefydd ddylsent ar bob cyfri gael eu llosgi Ond er hynny y mae y naws grefyddol draidd drwy ei ysbryd yn rhagoriaeth werthfawr. Rhed fel gwythien aur drwy ei fywyd. Cred ei fod yn gyfrifol am ei weithredoedd i rywun mwy nag ef. Credaf onibai am ein teimladau crefyddol cryfion y buasem fel cenedl y ddihira, waetha dan haul. Dywedaf hyn am fod talentau y Cymro mor ddisglair, ac onibai am wrth- glawdd ei grefydd y buasai'n pechu mwy na mwy. Fel y mae pethau rhaid gosod cenedl y Cymry mewn rhin a moes yn un o genhedloedd glana'r byd. Yn olaf yr ydym fel cenedl yn un gym- wynasgar dosturiol a charedig. Yr ydym wedi bod Tel y sylwyd eisoes mewn treial- od-collasom ein tir, ein teuluoedd, ein harweinwyr, ein hanibyniaeth. Gwyddom beth ydyw trallod ac adfyd, gwyddom werth nawdd a thrugaredd, cymwynas a charedigrwydd, ac o wybod eu gwerth dysgasom eu cyfrannu i eraill. Dyma'r diffygion. 1. Ein bod fel cenedl yn rhy deuluaidd. 2. Ein bod yn rhy brudd glwyfus a di- fater ynghylch bywyd. 3. Ein bod braidd yn ddioglyd oherwydd ein talent. Dyma'r Rhagoriaethau. 1. Ein bod yn genedl feddylgar. 2. Ein naws grefyddol. 3. Ein caredigrwydd. Meithrinwn ein rhagoriaethau, a gwnawn bob un yn unigol ymgais i ymysgwyd o fachau y beiau sy'n ein dal yn ol. HARRI EDWARDS.

Advertising

YN Y SENEDD.

Advertising

I 'M? bC"m. Y Pethau nid…