Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
CAMBRIAN RAILWAYS. WALES: The British Riviera. THE WINTER & EARLY SPRING TEMPERATURE OF ABERYSWYTH, ABERDOVEY, BARMOUTH, BORTH, CRICCIETH, HARLECH, TOWYN, PORTMADOC, PWLLHELI, &c. is as mild as Torquay, Bournemouth, &c. Excellent Golf Links at Aberdovey, Harlech, Criccieth, Towyn, Borth, and other Seaside Resorts. Through Carriages daily from London, Birmingham, Liverpool, Manchester, &c. CHEAP FARES AT ALL SEASONS. Lantern Slides, with reading matter, lent free to persons arranging to give lantern lectures on Wales. Official Guides, Time Books, and all par- ticulars on application to :— C. S. DENNISS, General Manager. Oswestry: January, 1910. Quluiar V 0 bwys i Ysgrifenyddion, OyiWCl PwyHgorsm, &c. GWNEIR POB MATH 0 ARGRAFFWAITH, Megis HYSBYSLENI, o unrhyw faintioli, TOCYNAU DARLITH, CYNGHERDD, CYFARFOD TE, BAZAAR, RHAGLENI CYMDEITHASAU LLENYDDOL, TAFLENI SOL-FFA, &c., &c., Ar fyr rybudd, Yn y modd mwyaf destlus, Ac am brisiau rhesymol, GAN Evan Thomas, HIGH STREET, BANGOR. Telir sylw prydlon i bob Archeb dderbynir gyda'r Post. RHY dd HAD ODDIWRTH BESWCH MBWN PUM MUNYD 13 £ d. a 2/9. Gyda'r Post 3c. yn chwanegol. Ni raid i neb ofni canlyniadau Anwyd a Pheswch ond gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y ty. Bydd pob dyn yn feddyg j'w deulu at toll anhwylderau y Gwddf a'r Frest. os bydd Davies's Cough Mixture wrth law, Rhyddha y Phlegm. Cynbesa y Frest Clirla yr ADwyd gan bob Druggist, HUGH DAYIES, Chemist, MACHYNLLETH. "SARZINE" BLOOD — MIXTURE Croen Iach a Gwaed Pur. Dyna yr hyn y mae y Sarzine Blood Mixture" yn ei sicrhau, a Aim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pim- ples, toriad allan, scurvy, dolu- riau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac anrcnhur, myn- wch botelaid o Sarzine Blood Mixture," gan y Druggist nesaf atoch, 1/li a 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn chwanegol. Anffaeledij at Buroy Gwaed, a Chlirio y Croen oddi wrth bob Toriad Allan, Llygaid Clwyfus, Doluriau ar y Cymmalau, &c. Perckenogy "SARZINE" Patext.- J HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. Popular Central London Hotels. Opposite the BRITISH MUSEUM. THACKERAY HOTEL Great Russell Street, London. Near the BRITISH MUSEUM KINGSLEY HOTEL Hart St., Bloomsbury Sq., London THESE Large and Well-appointed TEMPER- ANCE HOTELS have Passenger Lifts. Bath- rooms on every Floor, Lounges and spac- ious Dining, Drawing, Writing, Reading, Billiard and Smoking Rooms. Fireproof Floors. Perfect Sanitation, Telephones, Night Porters. Room Attendance, and Table d'Hote Breakfast, Single from 5/6 to 8/ Full Tariff and Testimonials on application. Inclusive Charge for Bed- room, Attendance, Table d'Hote Breakfast and Dinner, from 8/6 to 10/6 per day. TELEGRAPHIC ADDRESSES: Kingsley Hotel: "Bookcraft, London." Thackeray Hotel: Thackeray, London." Cymro o'r Wlad ar Ymweliad a Llundaln, Gan TALFARDD. Pris Ceiniog. Anfonir dwsin am 8 geiniog (Blaendal) yn post free. Archebion i'w hanfon i MR. ELLIS PUGH, (TALFARDD), ABERDOVEY. neu MR. LEWIS DAVIES, GLYNDWR PRINTING WORKS, BLAENAU FESTINIOG. Cartref oddi Cartref" i Ymwelwyr a Glanau y Mor. Mr. J. J. EDWARDS, Gwalia Temperance, High Street, Pwllheli. TELERAU RHESYMOL. At Brynwyr Ffrwythau, o bob math (Wholesale & Retail) Anfonwch am brisiau at y firm fawr TOWNSEND, Direct Shippers QUEEN SQUARE, LIVERPOOL. Cynyrchiolydd dros Ogledd a Chanolbarth Cymru ED. GRIFFITH. Pan yn prynu Ymenyn gofynwch am y goreu- hywdynw wCLEEVEO ydyw bhb ha Bess W bi W Palethorpes. Royal Cambridge Sausages. Y mae yn bwysig Prynu y rhai Goreu. TEIFL BOVRI L INFLUENZA DRAW. LAY AGENT YN EISIAU ar Gylchdaith Llangollen, -JL i ddechreu ar ei waith y Sul cyntaf yn Ebrill. Ymofyner a'r- Parch. A. W. DAVIES, Epwortn Villa, Llangollen. AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archeb a phob taliad i'w hanfon i'r— RHEOLWR, GWYLIEDYDD NEWYDD, Aberdovey, Meirionetli. All Advertisements, P. Orders, and Cheques .to be sent to- THE MANAGER, NEW WATCHMAN, Aberdovey, Merioneth. IRON BUILDINGS OF EVERY DESCRIPTION. Skating Rinks Plans and Estimates Churches. d A I Free on Application. an erop ane Sheds Chapels. S .-t Chapels. a Speciality. Write for Illustrated Catalogue. Mission l Furniture made to Halls. any Design. Builders of the Bungalows. South end Rink. Schools. Telegrams Hospitals. "Ironarium, London. Offices. etc. Telephone 594, Stratford. F. SMITH & Co., CARPENTER'S ROAD, STRATFORD, E. PLEASE MENTION PAPER.
[No title]
'Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'r pur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar einclyw* Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw.' I TALFARDD. I
[No title]
Toe iawn ar ol y frwydr Y fawr Seneddol, daeth ys- Cynghor marmesoedd y Cynghor Sir. Sir. Anfantais i'r ethol- f iadau yma oedd eu bod yn dilyn mor glau ar ol miri y lec shiwn ymherodrol. Mae pen draw ar frwdfrydedd onid oes ? Sut by- nag, yr oedd y frwydr mewn llawer lie yn un aiddgar iawn. Un o ys- trywiau y Toriaid yng Nghymru, oedd y gri nad oes a fynno yr eth- oliad hwn o gwbl a pholitics. Ofn- wn fod y ddyfais wedi llwyddo mewn llawer ardal. Cuddiwyd egwyddorion trymaf y gyfraith mewn ami i ranbarth, gan ryw fan gwestiynau lleol, a chan ystyr- iaethau personol. Goreu po gyntaf y sylweddolwn fel gwerin, fod y Cynghor Sir yn cynyddu yn en- bydus yn ei arwyddocad o'i allu gwleidyddol. 0 ddydd i ddydd y mae yn mynd yn llai o bwyllgor i ymwneyd a man betheuach y prif- ffyrdd a'r cyffelyb, ac yn fwy o sennedd lie y dadleuir hawliau dyn a gwlad, rhagor hawliau trais a golud. Meddylier am bwnc y ddi- od, lawn am ddileu trwydded a'r cyffelyb, pwnc addysg drachefn, a phwnc y tir yn engraifft o'r olaf. nid oes ond eisieu meddwl am y peth sydd wedi ei wneyd ynghyng- j or Sir Gaernarfon, trwy offeryi-iol- iaeth brawd y Canghellydd, parth! tiroedd lladrad." Hawdd fuasai ymhelaethu. Byddwn effro. Naj oddefwn i blaid" y gwaed glas a'r breintiau tirol ein dallu. ————— —————
[No title]
Ar y cyfan mae canlyn- Y frwydr iadau'r frwydr yng yn Nghymru yn foddhaol. Nghymru. Benbwygilydd, y mae y mwyafrif Rhyddfrydol hwyrach yn drymach na'r tro o'r blaen, yn engraifft meddylier am Gaerfyrddin a Chaernarfon ond ar wedd arall y mae pethau yn waeth. O'r tair-Sir-ar-ddeg, gellir cyfrif tair o'n Siroedd yn ysmotiau duon, sef Maesyfed, Fflint, a Brych- einiog. Ym Maesyfed mae'r pleid- iau yn gyfartal, ym Mrycheiniog, ac yn Fflint mae gan blaid yr off- eiriad, y pendefig, a'r dafarn fwy- afrif. Paham ? Yr aflwydd yn Fflint, o leiaf yr aflwydd penaf, ydyw yr offeiriad. Mae yno fwy o Ysgolion Eglwysig nag o Ysgolion Cyhoeddus, ac mae'r bobl yn ofni y dreth ? felly yn wir a yw y dreth yn llai, ac yn ysgafnach tybed, pan y gwerir hi ar ysgolion y person- 1 iaid, ac nid ar ysgolion y bobl ? Felly y bydd hi yn Ffiint bellach, -y personiaid yn pluo y bobl i waelodi eu nhyth. Proffwydwn na bydd y dreth ddimeu goch" yn is, os rhywbeth uwch a fydd. Y gwahaniaeth yw, y bydd pobl Fflint o hyn allan o dan y gor- fod i dalu am ddysgu 'y catechism yn yr hofelau Eglwysig, yn lie talu am godi Ysgolion syber a chyfleus, byddent iddynt yn gymysgaeth wych am ugeiniau o flynydd- oedd. Beth oedd yr achos ym Maesyfed a Brycheiniog ? Y tir hwyrach. Ofnwn fod canoedd o amaethwyr yn cashau Deddf y Man-ddaliadau ac yn Doriaid am yr ofnent golli llain allan o'u ffermydd mawrion. Mae'r amaeth- wyr, ofnwn, lawned o drais a chas at y llafurwyr, ag ydyw y land- lordiaid tuag atynt hwy. Y number one ynte
[No title]
Gwelwn fod amrai Y Wesleyaid, draw ac Wesleyaid yma wedi eu hethol. a'r Rhai a adwaenwn yn frwydr. dda; ac. yn eu plith, Mri T. W. Griffith, Y.H., a W. O. Williams, o Landud- no, ar Gynghor Carnarfon; Mri Jonathan Davies, Corwen, ac O. W. Morris, Abermaw, ar gyngor Meirion; Dr. Williams, ar gyngor Flint, a Mr. Parry, Llangollen ar gyngor Dinbych. Buom yn gwylio eraill yn ymladd, megis Mr. E. A. Hughes, Flint; a Joseph Edwards, Bagillt. Carem gael o bob parth, De a Gogledd, enwau y rhai a eth- olwyd, ac enwau y rhai fuont yn ymgeiswyr. Ofnwn nad ym ni y Wesleyaid effroed i'n rhwymedig- aethau dinesig a chymdeithasol ag y dylem. Heblaw a fyno teyrnas Duw a'r byd hwn obledid ein hes geulustra, dioddefwn yn enbyd mewn llawer ffordd. Nid yw'r byd hwn yn berffaith eto, ac ni bydd felly yn rhawg feddyliwn, waeth addef na pheidio, y mae ffafriaeth, a phan fo'm ni tan angen chareuteg i'n plant, oblegid ein hesgeulustra, nid oes genym fan i droi. Mae ein nifer yn wan addefaf, ond y mae ein sel a'n huchelgais yn wanach na hynny. Deffrown..
[No title]
LLAWER o gofio Dewi Y a fu eleni. Yn sicr, Tri Rhaid. y mae eisieu diwyg- iad mawr yn y dull o gofio. Rhaid cofio mwy yn Gyrnraeg. Rhaid cael Cymru, Cymro, a Chymraeg yn bethau i siarad arnynt, yn lie clebran am The King, The Navy, and His Majesty's forces," a ryw philist iaeth felly. Eto, rhaid cael llai o wyliau cig a chwrw, a mwy o wyl- iau lien a chrefydd. Tybed, wedi'r cwbl, mai dyn y biff a'r champagne oedd yr hen Sant ? Tybed mai Sais, a snob oedd e' ? 'Rwy'n ofni mai e'. Os nad e', paham yr holl bregawthian alltud, gwlyb, a blon- egog yma ? 1 ■ 1 ■■ —
[No title]
DYWEDWYD wrthym A oes gwir nad oedd ysgrech y mewn Toriaid ynghylch Politics. gwendidy Llyngesyn ddim ond un o'u scares arferol. Dywedai y penaeth- iaid hyn, tyngent hyn. Goddef- wyd ni, ie, anogwyd ni i ailadrodd hyn ar bob 1-lwyfan groes ymgroes Pryden, eto yn awr, gyda'r peth cyntaf, cyn i ni gael ein gwynt atom, dywedir wrthym mai y Tor- iaid oedd yn iawn. Cymerir pum' miliwn yn ychwaneg eleni ar y llynges na'r llynedd, ac yr oedd y codiad y llynedd yn irad heblaw ein twyllo ar bwnc y gwarantai a'r Veto, mae Asquith neu rywun wedi ein twyllo hefyd yn y peth yma. Os oedd eisieu gwario yr arian yma, paham 'na chyffesid hyny ? Os nad oes eisieu eu gwario, paham y plygir pen i scare waligo'. Tybed nad dyweyd y gwir, a bod yn ddihoced, ydyw y peth goreu hyd yn oed mewn parti politics. I Ond a oes eisieu gwario y golud enfawr hyn ar beth fel yna ? Da genym weled protest iach Ramsay, Macdonald, Arglwydd Roseberry, dro yn ol yn son am rattling into barbarism'' ynte ? Wel, dyma fe
[No title]
i Cyngrhair DARLLENED pawb eir- yr iau y Llywydd new Sglwysi ydd ar "bregethu. Rhyddian Bendigedig. I
[No title]
MAE Ty yr Arglwyddi "Rhaid wrthi yn ei oreu glas cael yn ceisiomendio tipyn Doctor." arno ei hun ond yn siwr pan fydd dyn yn sal iawn mae yn beryglus ei adael i godlo ei hun rhaid cael doctor eto.
I AR Y FUNUD OLAF.--
I AR Y FUNUD OLAF. Rhoddodd Mr. Lever (y Sunlight Soap) yr arian gafodd yn iawn am Athrod oddiar Newyddiaduron [102,000 at amcanion yn nglyn a Phrif Ysgol Lerpwl. Rhyddhawyd y rhai gymerwyd i fvny ym derfysg adeg etholiad Caernarfon ar yr amod eu bod yn addaw cadw'r heddwch am chwe mis. Ymddengys Pennod VII.—Stori gan Nemo yn ein rhifyn nesaf. Torodd argae mewn level hen waith glo ger Clydach Vale yn y Rhondda dvdd Gwener, a boddwyd 4 o blant. Collodd gwraig a'i baban hefyd eu bywyd ac ofnir fod ychwaneg o fywydauwedi eu colli. Chwalwyd dau dy a rhan o Gapel. Onibae am ddewrder nifer o lowyr buasai nifer mawr o'r 900 plant oedd mewn ysgol lan- wyd gan y genlli wedi boddi. Cludwyd tua 200 o'r plant bellder mawr gyda'r lli end gwaredwyd hwy. Cynhelir Arholiad y Maes Llafur yn y Tair Talaeth nos Fercher, Mawrth 23ain, a'r Arholiad Duwinyddol nos Wener, Mawrth 25ain. Dychwelwyd Mr. Rufus Isaacs y Cyfreith- iwr Cyffredinol newydd yn ddiwrthwyneb- iad dros Reading y Sadwrn.
Pin y Gol. a'u Siswrn.
Pin y Gol. a'u Siswrn. I.-Pob Gohebiaeth i'w chyfeirio- GOLYGWYR, GWYLIEDYDD NEWYDD," EPWORTH VILLA, BARMOUTH. Soar, New Broughton.—Ysgrifenner ar un tu i'r ddalen. Ni allwn gyhoeddi ond a fyddo ar un tu i'r papur. Cynghorau Sir a Gwyl Dewi.—Maddeued ein Gohebwyr i ni am adael yr holl gyfeiriadau at yr uchod allan, ond pan y byddent o ddyddordeb i'r byd Wes- leyaidd. Pe gosodid yr oil i mewn buasai yn rhaid eangu y Gwyliedydd yn anferth. Minclwyd.—Rhy faith. Ni allwn oddigerth ar amgylchiadau eithriadol roddi uwchlaw haner colofn i bwrpas fel hyn. Drwg gennym. Yn aros eu tro.—Amodau llwyddiarit yr Eglwys. Can mlwyddiant Pont ar dulas. Ar Daith yn yr America.—I ymddangos, ond rhaid talfyru llawer ar y daith. Ni allwn o dan unrhyw amgylchiadau roddi un cholofn bob tro am dair wythnos i deithiau o'r cyffelyb. Gwaenysgor.—Ni allwn yn ein byw weled pwrpas i'r gan. Diolcn am y pamff- led. Bwrdd Gwarcheidwaid Gwreesam.—Diolch ond prin y mae o ddyddordeb. Parch. Richard Roberts.—Gwnaethpwyd sylw eisoes. Cynghorwr.—Ie yn ddiau, ond meindied pawb ei fusnes ei hun." Pa fodd y gallaf fod yn Gristion."—I ym- ddangos yn ei dro. ADRODDIADAU BYRION.-Unwaith eto. Da chwi gyfeillion hoff. Peidiwch a'n blino a thoraeth o enwau. Mae ein gofod yn fach, ac nid yw rhestr o en- wau yn ddyddorol. Danfonwch gnewyllyn yr hanes a dyna'r oil. TOWYN.—Yr enw priodol. PONT DYSYNNI.-Heb fod i'r pwynt. Dim enw priodol vchwaith. BRON-Y-NANT.—Hanes y prynu wedi ym- ddangos amser yn ol. Nid Peter Rowland Hughes, Gallt Mel"vd, Ysgrifenodd dan y ilythyrenau P. R. H. yn Rhifyn Chwef.Vieg o'r "Gwyl- iedydd Newydd. Adolygiad y Winllan."—Gan Olygydd y Winllan-yn ein nesaf.
FFEIRIAU CYMRU.
FFEIRIAU CYMRU. Y RHAI A GYNHELIR YR WYTHNOS HON. Y GOGLEDD. Mawrth 15.—Corwen, Pwllheli. 16.—Bala, Bettws, Fest- iniog, Abergele, Penmorfa. „ 17.—Llanuwchllyn,Traws- fynydd. 18.—Dinasmawddwy, Dol- gelly, Llandegla, „ 19.-Llanbedr. Y DEHEUDIR. } Mawrth 15.-Hwlffordd, 1C.—Tal-y-Bont. 17.—Llandysul. IS.-Brynhyfryd, Pen-y- bont. „ 19.—Brynhyfryd.
AMSER GOLEU LAMFAU.
AMSER GOLEU LAMFAU. Mawrth 13eg hyd y 19eg. jrrydnawn. 9—Mercher 7.3 10—Iau 7.;) I I G n, e r 7.6 12—Sadwrn 7.8
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caerfyrddin, Mawrth 5ed—Ym- enyn Is 2c y pwys. Wyau o 8s (5c i 9s y 120. Dinbych, Mawrth 9fed.—Wyau o 14eg i 16eg am' swllt. Ymenyn ffres, Is 4c i Is 5c y pwys. Gwlan Seisnig, 10c i lIe y pwys. Gwlan Cymreig o 7c i 8c y pwys. Llandeilo, Mawrth 5ed.—Ymen- yn Is 2c y pwys. Wyau 15eg ac 16eg am Is. Llanrwst, Mawrth 8fed.—Ymen- yn ffres, o Is. 4c. i Is. 5c. y bwys wyau, 14eg a 15eg am Is. Llanymddyfri, Mawrth 4ydd.— Ymynyn ffres, Is. Ie. y pwvs Wyau, 14eg a 15eg am Is.