Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CAERSWS. I

NODIADAU CYFUNDEBOL.

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I

MAES LLAFUR.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

MAES LLAFUR. Actau xx. I—12. l-G. Paul yn ymweled ag eglwysi yr hen gylchdaith-Macedonia Groeg a Troas Iad. A'n cofleidio." C.D. "A'n cynghori." Yn y ffurf o gusan a chyngor y ffarweliodd Paul a'i blant ysprydol yn Ephesus. Ar- hosodd ychydig nes i dangnefedd gymeryd lie yr ystorm godwyd gan Demetrius, pryd y galwodd ynghyd ei ddisgyblion. Yna ymadawodd am Macedonia yn unol a'i fwriad nodir yn xix. 21, Gwelir oddiwrth 2 Cor. ii. 13, mai i Troas, gan ddisgwryl cyf- arfod Titus yr aeth gyntaf, ac oddi yno i Macedonia, o'r lie yr anfonodd ei ail Epis- tol at y Corinthiaid. 2. "Y parthau hyny." Yma yr oedd eg- lWYSI Philippi, Thessalonica a Berea, ym mhlith y rhai, ond odid y llafuriai Luc, ac yn ol tyb rhai yn y cyfnod hwn yr ysgrif- enoclc1 ei Efengyl. Ar y daith hon yr aeth Paul mor bell ag Illyricam, nodir yn Rhuf. xv. 19. Treuliodd dri mis yn ngwlad Groeg, Athen a Chorinth, canolbwynt dysg a masnach yn benaf. Yr oedd eisoes wedi anfon dau lythyr i Eglwys Corinth yn er- byn yr yspryd ymbleidio ffynai 'yno, a'u gwaith yn troi'r Sacrament yn wledd. 3. Gelynion i Paul ym mhlith eu gyfeill- ion, a chyfeillion ym mhlith ei elynion. "A gwnae, un O'r luddewon gynllwyn lçiçlQ," Moddion cyhoeddus; sicrhai gwas- naeth Gallio yn erbyn Paul wnaeth yr luddewon ar ei ymweliad cyntaf. Modd- ion dirgelaidd, cynllwyn i'w ladd ar y geir y tro hwn. Daeth rhai gelyniathus llongCorinth o hyd i drefniadau a chyfrin- achPaul ai eglwys. Pa fodd? Trwy rai oedd aelodau o Eglwys Corinth. Cristionogion a disgyblion i Paul ar dafod, ond gelynion a bradwyr yn y galon. Yr oedd Judas yn Eglwys Corinth Efe a arfaethodd" C.D. Penderfynodd." Daeth cynllwyn y gelyn- ion yn hysbys i rhywun oedd a'i galon yn gywir at Paul, a rhybuddiodd yr Apostol mewn pryd am hyny penderfynodd Paul ar fyrder, ddychwelyd trwy Macedonia yn lie dros y mor. 4. Cynrychiolwyr yr eglwysi yn gym- deithion Paul hyd Asia. 0 eglwys Berea, Sopator. 0 Thessalonica. Aristarcbus a Secundus. Y cyntaf oedd gydymaith i Paul ar ei fordaith i Rhufain (xxvii. 2.) cyfeirir ato yn (xix. 1? yn yr Epistolau ys- grifenwyd yn ystod carchariad Paul yn Rhufain, at Philemon (24) mae yn un o'r rhai sy'n anfon anerch. (Col. iv. 10.) geilw Paul efyn gyd-garcharor. 0 Derbe. Gaius Timotheus. Perthynai Timotheus yn deb- yg i Lystra, yr oedd y ddau fe ddichon yn gyfeillion er yn fore, ac wedi eu dychwelvd at Gristionogaeth yr un adeg. 0 dalaeth Asia eglwys Ephesus, Tichicus a Trophimus Yn Eph. vi. 21. Sonir am Tichicus fel brawd anwyl a gweinidog ffyddlon ag yr oedd Paul ar fedr ei yru i Ephesus. Yn Col. iv. 7. Paul a ysgrifena fy holl helynt i a fynega Tichicus i chwi." Yr oedd ef felly gyda Paul yn ystod ei garchariad cyn- taf yn Rhufain, hefyd ei ail garchariad. Sonir am Trophimus yn (2 Tim. iv. 20) fel un oedd lawer yn nghymcleithas Paul. Cy- merai Paul gydag ef gasgliad Eglwysi Macedonia i'r Saint tlodion yn Jerusalem, ac ar gais yr Apostol anfonodd yr eglwysi y cynrychiolwyr uchod gyd ag ef. 5-6. Luc, cofnodydd 3T hanes, yn ail uno a Paul yn ei deithiau. Am danom." Mae Luc yr hanesydd ei hun yn dyfod i mewn i'r hanes yn awr. Oherwvdd hyny ysgri- fena yn y person cyntaf ac nid yn y tryd- ydd person fel y rhanau diweddaf. Cym- deithion Paul oedd wedi eu rhagflaenu dros y mor i Troas. Yr Apostol a drodd i Philippi i alw am Luc. Ar ol dyddiau y bara croyw," Saith diwrnod y Pasg, yn y rhai y bwytaent fara croyw. Treuliodd Paul y Pasg yn Philippi gyda'i gydgenedl. 7-8. Sabboth yn Troas. '? ?? gyd gei-iedl. taf o'r wythnos." Dydd yr Arglwydd, y Sabboth Cristionogol, ar yr hwn y coffeir am adgyfodiad Crist ym mhlith yr holl Cristionogion, ac a gymerodd le y Sabboth Iuddewig. Ceir yma drem ar y modd y cedwid y Sabboth gan y Cristionogion cyntefig. Terfynai y Sabboth Iuddewig am chwech yr hwyr. Yn bellach ym mlaen ar y nos, gwelwn Gristionogion Troas yn ymgasglu at eu gilydd i Oruwch-ystafell- lie cyfleus, wedi ei goleuo gan lampau lawer ac wedi ei gorlenwi y noson yma, 'roedd y newydd am ddyfodiad Paul wedi eu tynu. Er agor y ffenestri dellt, oher- wydd y dorf, a gwres y lampau, aeth y lie yn fuan yn boeth a mwll. Gwneid y gwas- anaeth i fyny mewn canu a gweddio, pre- gethu, gweinyddu y cymun sanctaidd, ac yn ddiweddaf, yr Agape-cariad-wledd, pryd o fwyd yr arferai y Cristionogion boreuol gyfranogi o hono gyda'u gilydd ar ol y cymun. Pregethai ac eglurai Paul athrawiaethau dyfnion y grefydd newydd, a'r bobl yn gofyn cwestiynau, cododd y brwdfrydedd nes anghofiwyd yr amser. Parhaodd felly hyd hanes nos. 9—11. Damwain a gwyrth. "Mewn ffenestr." Agoriacl yn y mur i ollwng awyr a goleuni i mewn, nid oedd gwydr mewn arferiad y pryd hwn. Bachgen ieuanc o'r enw Eutychus, ddringodd, ac eisteddai yn yr agoriad, lie cai yfed o'r awyr, a chyf-. ranogi o'r addoliad oherwydd yr awr yn hwyr, y gwasanaeth yn hir, a'r awyr yn drymaidd, goddiweddwyd a gorchfygwyd ei natur ieuanc gan gwsg, ac er dychryn i bawb, syrthiodd yn ngwisg ei gefn, trwy'r agoriad, o'r drydedd loft i'r cyntedd islaw. Trwy ddamwain gyffelyb y cyfarfyddcdd Ahaziah y Brenin a'i ddiwedd, 2 Bren. i. 9. Syrthiodd trwy ddellt o'i loft." Ar hyd grisiau tu allan i'r ystafell yr eid i lawr o'r cyntedd, ffordd yma y rhuthrodd y gyn- ulleidfa, pan gyrhaeddwyd y gwaelod, er siom gwelwyd y bachgen yn cael ei godi yn farw, a godwyd i fyny yn farw," 9. a ddygasant y llanc yn fyw 12. a brawf mae nid ystyr "y mae ei enaid ynddo." 10. ydyw mai mewn llesmair yr oedd, ac mat camgymeriad oedd synio ei farw. Yr es- boniad naturiol 3rw, collodd ei fywyd tnvy y codwm, a chafodd ei fywyd trwv weddi Paul. "A syrthiodd arno ef." megys Elias hefo mab y weddw o Sareptah 1 Bren. xvii 21, ac Elisieus hefo mab y Sunamees. gyd- ag ystumy corff esgynai llef enaid" yr Apostol at Dduw. Wedi'r wyrth parha- wyd y gwasanaeth hyd doriad v dydd. D. M. JOXES.

-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…

YNGHYLCH YR EGLWYS.