Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CAERSWS. I

NODIADAU CYFUNDEBOL.

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I

News
Cite
Share

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL. I Gellir nodi ymhlith anhebgorion I pregethwyr llwyddianus y tri gras canlynol :—Naturioldeb yn y pul- pud, difrifoldeb ynddo ac allan o hono, a ffyddlondeb i gyhoeddiad- au. Hwyrach mai un o'r lleoedd anhawddaf i fod yn naturiol ynddo ydvw'r pulpud, gan mor hawdd ydyw i ddyn fod ynconscious o'i safle. ac yn neillduol os heb hen arfer gyda'r gwaith, i fethu gwybod yn iawn beth na sut i wneyd. Dylid ymdrechu ymdrech deg i siarad yn naturiol. Onibai ei fod yn mer- ,,TinQ c-lust y gynulleidfa. buasai gwrando af y gwahandeLll sydd yn lleisiau rhai pregethwyr oddi- allan ac yn y pwlpud yn destyn chwerthin. Ar hyd y ffordd i'r capel, bydd y pregethwr yn ymddi- ddan a chwi fel dyn, ond unwaith y dringa risiau'r pulpud, bydd y dyn yn siarad fel pregethwr. Hwyr- ach mai tenor yw ei lais pan yn canu, ond wrth bregethu rhaid ei ddwyn i gylch y basso profundo os yn bosibl. Pan yn ymddiddan ar yr aelwyd ni fuasai neb yn breu- ddwydio ei fod yn pregethu mor bell ag yr oedd y llais yn y ewes tiwn, ond y funud y caua ddrws y pulpud, dechreua ar y sing-song ryfeddaf, nes y cyll ei genadwri lawer o'i pherffeithiolrwydd. Cyhoeddodd Cynonfardd flyn- yddau yn ol lyfr bychan ar £ Ddar- llen a siarad sydd yn cynwys aw- grymiadau gwerthfawr am y modd i ddefnyddio'r llais i'r pwrpas gor- eu. Anhebgor siarad yn dda yw anadlu yn briodol llenwi'r ys- gyfeint yn rhwydd, a gofalu peidio gollwng allan fwy o anadl nag a ofyna'r gair neu'r frawddeg. Dy- wed Dr. Hutchinson mai un cam- gymeriad mawr mewn siaradwyr yw bloeddio er mwyn i'r llais gario i eithaf yr ystafell, a thrwy hyny achosi crygni ar y llais a difetha ei naturioldeb.. Pan gynyrchir y llais yn y modd priodol, nid yw un gwahaniaeth beth yw maint yr ad- eilad, teithia yn rhwydd i bellter mawr. Hwyrach mai un o beryglon mwyaf pregethwyr ieuainc yw siarad yn rhy gyflym, a thrwy hyny lithro dros eiriau a braw- ddegau heb roddi y pwys priodol arrfynt. Pe gellid cymeryd ham- dden i agor y genau yn iawn nes rhoddi y sain dyladwy i bob sill, ychwanegai lawer at werth yr hyn a draethid. Un o'r pethau hawddaf yw syrthio i arferion gwirion-ffol wrth siarad yn gyhoeddus, ac unwaith yr eir iddynt, nid yn hawdd y diddymir neb oddiwrthvnt. Un arferiad an- naturiol yw gostwng y llais ar ddiwedd pob brawddeg, hyd yn nod pan y gofyna synwyr y geiriau am godi y llais. Adwaenwn un pregethwr o enwad arall sydd yn euog iawn o'r pechod hwn, a phan yn rhoddi rhif yr emyn allan bydd yn disgyn o'r doh i'r soh ar derfyn y ffigyrau, nes creu awydd ynof i chwerthin allan wrth ei glywed. Pan fydd y brawd yn siarad ar yr aelwyd, sieryd mar naturiol ag un- dyn, ond ceidw yr oddity yma i'r gynulleidfa gyhoeddus. Carwn awgrymu i'r pregethwyr cynothwyol vvylio siaradvvyr cy- hoeddus eraill, y gweinidogion a'i gyd-bregethwyr; ac os y teimla fod rhywbeth yn eu lleisiau yn an- naturiol, i'w hysbysu o hyny yn garedig, a gwylio rhag y tram- gwydd ei hun. Byddaf yn arfer meddwl fod gan y pregethwr cyn- orthwyol fantais ar y gweinidog yn hyn, am ei fod yn cael gwrando yn ogystal a phregethu. Cyn terfynu, goddefwch i mi eto roddi pwys arbenig ar i bob un fod yn efe ei hun a neb arall. Peth di flas iawn yw clywed pregethwr enwog yn cael ei efelychu, rhyw ail-argraffiad ohono mewn rhwym- iad salw. Yn ddigwestiwn os yw'r pulpud i fod o ddylanwad yn yr ugeinfed ganrif, rhaid bwrw ymaith bob mursendod o hono, ac i bob un lefaru ei genadwri yn ol ei allu ei hun a thrwy ei ddawn naturiol ei hun.

MAES LLAFUR.

-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…

YNGHYLCH YR EGLWYS.