Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CAERSWS. I

NODIADAU CYFUNDEBOL.

News
Cite
Share

NODIADAU CYFUNDEBOL. Pregethir pregeth flynyddol Cylchwyl y Genhadaeth Drain or Talaeth Man- chester, yn y Central Hall, gan y Parch Dr. Campbell Morgan, Ebrill 12fed. Gwelwn fod cyfarfod eglwysig Capel Mynydd Seion, Lerpwl, wedi ethot tair o chwiorydd. teilwng fel cynrychiolwyi; i'r Cyfarfod Blaenonaid. Yn marwolaeth y Parch. Surmaii Cooke, ymae'r Eglwys Wesleyaidd wedi colli un o'i gweinidogion parchusaf a defnyddiolaf. Carwyd ef yn gyffredinol. Rhoddodd pedair merch y Parch. H H. McCullah gyngherdd rhagorol yn Victoria Hall, Sheffield. Yr oedd un yn Soloist, a'r tair arall gyda'r berdoneg, y crwth a'r Picello. Yn Newcaistle-on-Tyne y cynhelir cyfarfod mawr blynyddol y Pregethwyr Cynorthwyol, pryd y disgwylir tua 940 o gynrychiolwyr i fod yn bresenol. Mae'r Arglwydd Faer yn bregethwr cynorthwyol. Gyda gofid y cofnodwn am farwolaeth y Parch. Robert Culley, un o'r brodyr ffyddlonaf a mwyaf caruaidd yn y wein- idogaeth. Efe ydoedd y Book Steward Seisnig. Y mae Golygydd Y Winllan i'w longyfarch am y modd y mae wedi ar- Iwyo y ford i'w ddarllenwyr. I'n tyb ni y mae'r misolyn yn gwella yn fisol. Hyderwn y parha felly. Llawen genym weled y newydd fod Mr J. J. Le Suenr un o Wesleyaid mwy- af adnabyddus y Channel Islands wedi ei appwyntio yn Vice-Consul dros Ynys Jersey. Gwelwn fod Esgob Bashford i gym- eryd lie y diweddar Esgob Goodsill fel cynrychiolydd yr Eglwys Fethodistaidd Esgobyddol i'r Gynhadledd a gynhelir yn Bradford. Allan o boblogaeth o 6,000,000 yn Canada, y mae 1,000,000 yn Fethodis- tiaid. Y mae pob nawfed person yn Australia yn perthyn i'r Wesleyaid. Darfu i'r Eglwys Fethodistaidd yn yr Unol Dalaethau godi fel ymgyrch Gan- mlwyddol 4,000,000p. Y swm mwyaf a godwyd erioed yn hanes yr Eglwys Gristionogol gan enwad unigol gydag un ymdrech. Carem ninau gyflwyno ein teyrnged uchel i ragoroldeb cynwysiad rhifyn Mawrth o'r hybarch EURGRA WN. Mae yn rhifyn cyfoethog o ran amrywiaeth a mater. Ceir ynddo ffrwyth meddwl nifer o brif lenorion yr enwad. Fel cy- hoeddiad misol enwadol gellir yn ddi- betrus ei restru fel prif fisolyn y dywys- ogaeth. Mae genym achos fel enwad fod yn falch o feddu cyhoeddiad o'i safle lenyddol ac iddo gyfroddwyr sydd yn cleilwng o gael eu henwau yn mhlith oreugwyr y Wasg Gymreig. Llongyf- archwn y Golygydd Cynorthwyol—y Parch. Thomas Hughes ar ei lwyddiant. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyll- gor Cyfundebol ar y cwestiwn o Aelod- aeth Eglwysig yn y Centenary Hall, Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Llywydd ac Ysgrifenydd y Gyn- adledd yn bresenol. Mae'r dyddordeb a gymerir yn y cwestiwn i'w wel'd yn amlwg oddiwrth y ffaith nad oedd dim ond chwech allan o'r deg-a'r-hugain yd- oedd yn ffurfio y pwyllgor yn absenol. Yr oedd yn amlwg oddiwrth yr ymdra- fodaeth a gymerodd le fod y gweinidog- ion a'r lleygwyr wedi rhoddi yr ystyr- iaethoreu i'r pwnc, a chyflwynwyd nifer o gynlluniau gerbron y cyfarfod. Wedi ymddiddan ac ystyriaeth faith penderfynwyd apwyntio pwyllgor cryf i ystyried adroddiad y Gynhadledd yng nghyda'r awgrymiadau a fu gerbron y pwyllgor, ac i'r cyfryw barotoi cynllun. Yn y JOYFUL NEWS am yr wythnos ddiweddaf ymddangosedd ysgrif gan y Golygydd—y Parch. Samuel Chadwick yn dwyn y penawd Is Preaching Played Out? Diwedda ei ysgrif gyd- a'r geiriau canlynol:— Dywedir fod dydd pregethu trosodd. Rhaid crynhoi y lluoedd mewn ffyrdd eraill. Rhaglaw miwsig, chwareuon a'r cyffelyb, fyddent y pethau pennaf yn Eg- lwys Dduw. Ni allaf gredu y fath beth. Mae Duw wedi ordeinio pregethu. Gall ei fod ynghyfrif dynion yn ffolineb, ond nid yw Duw byth yn cyfeiliorni. Pregethu hyd heddyw ydyw prif arf Teyrnas Dduw. Yr Efengyl yn cael ei chyhoeddi, j'dyw Gallu Duw." Ac os syrthia yn fyr ar y pregethu y mae'r bai. Ni all Colegau wneycl dim. Mae rhai pregethwyr heb wybod sut i bregethu. Y mae'r gallu cyfi- redin i siarad yngholl ganddynt. Ni odd- efid hwynt yn yr un cylch arall. Mae pregethu yn gelf, a dylid disgyblu dynion i bregethu. Ond mae y pwnc yn un dyfnach. Daw y pregethu effeithiol nid o ddyn, ond o Dduw. Anhepgor y pregeth- wr ydyw yr Ysbryd Glan. O'r nef y daw y tafod tan, trwy ei ysbrydoliaeth Ef y daw goleuni, a nerth, ac argyhoeddiad ac edifeirwch. Pan y byddo y pwlpud ar I dan y llenwir y seti."

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I

MAES LLAFUR.

-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…

YNGHYLCH YR EGLWYS.