Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

CAERSWS. I

News
Cite
Share

CAERSWS. I Dathlu Dydd Gwyl Dewi. I (Gan MEURIG MALDWYN). I Pan glywsom gyntaf y cynhelid Eistedd- fod Dalaethol Powys yn Caersws y Llun- gwyn nesaf, llonwyd ni yn ddirfawr wrth feddwl y gallai dyfodiad yr hen sefydliad i'r ardal hon fod yn foddion i ddeffro yr ys- bryd Cymreig sydd yn fwy na haner marw yma er's hir amser bellach. Llawenydd mawr i ni ydyw gallu hysbysu fod rhyw sail i obeithio mai felly y bydd. Hyd eleni ychydig o sylw a delid i goffadwr- iaeth Dewi Sant gan breswylwyr y rhan- barth yma o lanau yr Hafren. Yn wir prin y gwyddai y naill haner ohonynt pwy na beth oedd Dewi Sant. Diolch i bwyllgor Eisteddfod Powys am drefnu cyfarfod i ddathlu dydd gwyl Nawdd Sant Cenedlaethol y Cymry. A mi yn ymdeithydd yn Caersws y dyddiau hyn cefais yr anrhydedd a'r pleser o fod yn bresenol yn y cyfarfod. Ar ol cael ein gwala a'n gweddill o de a choffi gyda danteithion o amrywiol flas, cynhaliwyd cyfarfod difyr, adloniadol a buddiol dros ben dan arweiniad yr hyawdl Ap Gwydd- eri, neu yn fwy hysbys mewn rhai eylch- oedd wrth yr enw Dr. Rees. Ni raid iddo ef wrth lythyrau canmoliaeth, mwy nag y rhaid i ArthLir wrth ffyn baglau. Cafwyd anerchiadau byrion, pwrpasol, yn dwyn perthynas a phwnc y dydd, sef Dydd Gwyl Dewi gan amryw o wyr lleyg a lien, yn gymysg a chaneuon ac adroddiadau o nodwedd wladgarol. Yr oedd Telynor Mawddwy yn bresenol a r delyn deires, a chanwyd penillion gyda'r tanau yn ol dull yr hen Gymry gynt. Nod- weddid y cyfarfod drwyddo draw gan ysbryd gwir Gymreig, a hyny yn Caersws coner Gwlad sydd wedi enill iddi ei jiunan yn eitha cyfiawn o ran hyny yr enw wIad yn clifa ei phreswylwyr CymraeF" nd yr oesau dan sylw eithriad ydoedd clywed gair o Saesneg. Os ceidw yr ysbryd Wn yn fyw hyd y Llungwyn, bydd yma Ie -ynnes i groesawu Eisteddfod Powys. Priodol iawn y dywedwyd gan un wrth anerch y cyfarfod, Nid oedd ganddo chwi yn Caersws ddim busnesanghofio eich Cymraeg. Yma y treuliodd Ceiriog flynvddoedd olaf ei fywyd Fe dabarnac- lodd prif fardd telynegol ein cenedl yn eich plith chwi, ond welodd naw o bob deg ohonoch chwi mo'i ogoniant o, am nad oeddych yn gallu deall ei iaith! Cawsoch yr anrhydedd o letya angel o fardd yn ddiarwybod. Er iddo fyned i mewn ac allan yn eich plith am flynyddau y gwirionedd am dani hi welsoch chi er- ioecl mo Ceiriog. Gwelsoch y mae'n wir y Rhywun oedd yn byw yn y ty priddfeini sydd ar ochr y ffordd i Trefeglwys, ac yn myn'd a dod yn y tren bach oedd yn rhed- eg i'r Van Mines dyna i gyd. Ond wel- soch chi mo awdwr Myfanwy Fychan' a'r Bardd ganodd mor brydferth i Rosyn yr Haf Hyderwn y cynhelir lliaws o gyf- arfodydd o'r natur yma yn Caersws yn y dyfodol. Nis gwyddwn am well cynllun i 4 gocii yr lien iaith yn ei hoi!,—Iaith Gor- onwy Fawr o Fon a Chywydcl y Farn, Iaith Ellis Wyn o Lasynys a'r Bardd Cwsg, Iaith Morgan Lhvyd o Wynedd a Llyfr y Tri Aderyn, ac Iaith Daniel Owen a Rhys Lewis. Byddwn yn disgwyl gweled yn y dvfodoi agos fwy o lenyddiaeth Gymraeg ar fwrdd y ddarllenfa, ar llu ieuenctyd sydd yn crwydro yn ddiamcan ar hyd yr heolydd yn ystod nosweithiau y gauaf yn troi i mewn. Bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda,' Fy mrodyr yr wyf yn atolwg i chwi goddefwch air y cynghor."

NODIADAU CYFUNDEBOL.

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I

MAES LLAFUR.

-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…

YNGHYLCH YR EGLWYS.