Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CAERSWS. I

NODIADAU CYFUNDEBOL.

COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I

MAES LLAFUR.

-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…

YNGHYLCH YR EGLWYS.

News
Cite
Share

LLUNDAIN. CYMDEITHAS LENYDDOL BRI--Nswic.-Nos Sadwrn, Chwefror 2(3, clan lywyddiaeth y Gweinidog, breintiwyd aelodau y Gym- Deithas uchod a darlith gan Mr. Daniel Rees (o'r Bwrdd Masnach) ar "Y Bardd Cristionogol Cyntaf." Dante oedd y bardd a chafodd yr aelodau wledd fras gan wr hyddysg yn ei destyn. Clywsom fod y dar- lithydd wedi cyhoeddi cyfieithiad i'r Gym- raeg o'r Ddwyfol Gan," ond ni bu son am y gwaith hwnvv y noswaith hon, er iddo son llawer ar weithiau pobl eraill. Ychydig o gan Dante gawsom gan y dar- lithydd. ond dywedwyd llawer am yr aw- dwr, ei oes a'i arferion. Wedi diolch yn gynes am y darlithydd uchelryw, ac i am- ryw o'r aelodau fynegu eu barn, terfynwyd cyfarfod rhagorol drwy i'r darlithydd gyf- hvyno copi o'r gyfrol Gymraeg i Mr. R. W. Parry fel arwydd o'i barch a'i edmygedd ohono. Gwnaed hyn yn nghanol banllefau cymeradwyol y gwyddfodolion. Y NODACHFA.-Mewn cysylltiad a'r nod- achfa sydd yn agoshau, cynhaliwyd cyf- arfod pwytho y chwiorydd yn Brunswic ar y 3ydd o Fawrth, pryd y rhoddwyd te i'r ymwelwyr a'r gweithwyr gan Mrs, Gor- don. GOH. DYLED CITY ROAD.-Gan i mi yn yr hen Wyliedydd draethu fy lien yn bur lwyr ar y mater uchod. Nid wyf am drethu llawer ar ofod y Gwyliedydd Newydd." Ond earwn yn fawr gael cyfle i ddeisyf yn daer unwaith eto ar ran y cyfeillion yn yr ym- drech i ddileu y ddyled uchod. Yr ydym wedi apelio at Gymru oil. Nid am nad yw wedi cynorthwyo o'r blaen, nac am nad oes ganddi ddigon o feichiau. Ond yn ol ein gallu yr ydym yn cynorthwyo eraill, ac yn barod i wneyd hyny ar ol yr ymdrech hon. Diolchwn yn fawr i lu o bersonau unigol ydynt wedi atep i'r apel. Eto y mae llawer o le. Oni allai y chwiorydd caredig anfon tipyn o Nwyddau. Mae chvy o eghvysi bychain Cymru wedi anfon 10s. yr un, sef Cnwch Coch yn y De, Q. Thanyfron yn y Go-locid, 1 JOHN HUMPHRFYS. ABERTYSSWe, CYLCHDAITH TREDEGAR Achos newydd sydd yma, ac y mae yn enill tir yn gyflym. Cawsom wasanaeth ein parchus weinidog E. Tegryd Davies, Tredegar yma nos Sul diweddaf. Cafwyd oedfa a hir gofir gan bawb. Rhanwyd y Sacrament i'r eglwys newydd am y tro cyntaf. Mae Cylchdaith Tredegar yn ed- rych yn llewyrchus iawn trwyddi oil ar hyn o bryd. Y mae yma Bregethwr Cyn orthwyol ga!luog a da hefyd yn y Gylch- daith, ac mae ein heglwys ni yn ddyledus iawn iddynt am eu help. Y mae un o honynt yn paratoi ar gyfer y Weinidog- aeth, sef Mr Morgan James Evans. Y mae yn fachgen a rhagolygon addawol iawn iddo. Hyderwn y llwydda yn yr Arhol- iadau. Bu Mr Prichard, Cenadwr, Bargoed, yma i-in Sabboth. Canmolir ef yn fawr. Mae llawer o ddisgwyl ei weled yma eto. Da fydd gan lawer glywed fod y Parch T. Manuel, Ysgrifenydd y Dalaeth ynghyd a Mr Powell, Caerdydd, wedi bod yma yn dewis darn o dir i godi capel newydd. Y mae pob peth yn edrych yn ffafriol iawn. Hyderwn na cheir streic. PENNAL. MARW.—Prydpawn dydd Iau, yn Mhen- nal. claddwyd y diweddar Mr. John Pugh. Yr oedd yn wael er's tro, a bu farw dydd .Sadwrn. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Evan Isaac a J. H. Williams. TOWYN. Cymdeithas Ddirwestol y Merched.—Yn Nghapel y Wesleyaid, nos Wener, cynhal- iwyd cyfarfod o'r gymdeithas uchod, pryd y llywyddai Mrs. Lewys Lloyd. .CEMMAES. MARW.'—Prydnawn Llun, bu farw Mr. John Jones, Dolfonddu, yn 71 oed. Er ei fod yn ;Cwyno. daeth y diwedd yn bur sydyn. Claddwyd ef yn mynwent Ymneilltuol Machynlleth, ddydd Gwener, a chafodd gynhebrwng parchus. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Evan Isaac,[Jacob Pritchard, a J. H. Williams PENEGOES. CARIAD A PHRIODAS "— Yn Ysgol y .Cyngor, nos Wener, bu Mr. W. O. Jones, Bangor, yn darlithio ar Gariad a Phriod- as." Llywyddai Mr, D. E. D. Griffith, L. ,and P. Bank, Machynlleth.