Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
LIVERPOOL. SHAFTESBURY HOTEL. Mount Pleasant. Four Minutes' Walk from Lime Street and Central Stations. Cars from Landing Stage stop at the door. A High Class Temperance Hotel. Moderate Charges. Welsh spoken. Arran Monumental Works, DOLGELLEY. BRANCH AT TRAWSFYNYDD. J. & R. W. THOMAS, MONUMENTAL MASONS. ALL MARBLE WORK UNDERTAKEN, including Memorials in Granite and Marble. Gof-Seiri Marmor a Cheryg Beddau o'r gwaith goreu. Estimates Free. Distance no object. Anfonwch am y Prisiau. Why buy trashy Foreign made Watches, when you can obtain Reliable British Made Watches fully Guaranteed, in Gilt, Oxydized, Nickel, Silver, or Gold Filled Cases from G. E. OWEN, Watchmaker, Barmouth, at 5s., ;Cl Is., f I 17s. 6d., and £2 2s. each in Gent's size, and cl 5s., £1 9s. 6d. and £2 2s. each in Ladies' size. On receipt of Postal Order any of the above will be sent at sender's risk and cost. Money refunded if the Watch is not ap- proved of DYMUNA Mr. J. E. Morris, Arweinydd Hen Gor Meibion enwog Llangollen, yr hwn fu yn fuddugol yn rhai o brif Eisteddfodau y Gogledd, hys- bysu ei fod yn barod i wasan- aethu fel Arweinydd Cyman- faoedd ac fel Beirniad Cerdd- orol. Cyfeiriad:— Central, Oak Street, Llangollen. Mr. T. CARRINGTON (PENCERDD GWYNFRYN), Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. BEIRNIAD, CYFEILYDD, tic. Ail Argraffiad o'r Gan boblogaidd, "Cymru." Y geiriau gan Mr. T. Herbert Hughes, Llanrwst. Unrhyw lais. Drwy'r post, 7c. Anthem Goffa Canrhawdfardd, Gwyn ei fyd y gwr." Dewiswyd i Gymanfaoedd Lerpwl, Manchester, &c. am 1910. Can Ddirwestol hwyliog. 6s. y cant. Cyfeirier: Coedpoeth, Wrexham. Arweinydd a Beirniad Cerddorol. DYMUNA Mr. ROBERT GRIFFITH, Vulcan Villa, Abermaw, Wrfeyd yn hysbys ei fod yn agored i dderbyn ymrwym- iadau fel Arweinydd Cyman- faoedd a Beirniad Cerddorol. TELERAU RHESYMOL. YMOFYNER I'R CYFEIRIAD UCHOD. TELYNOR MAWDDWY. DYMUNA Mr. DAVID ROBERTS (TELYNOR MAWDDWY), Morben Villa, Abermaw, HYSBYSU ei fod am brisiau rhesymol I][ yn barod i Ddysgu PupUs ar y Delyn Gymreig (y deires neu'r bedolawg), ac hefyd eu dysgu i Ganu Penillion. At hyny y mae yn barod i Ganu Pen- illion a Chwareu'r Delyn mewn Cyng- herddau a'r cyffelyb, ynghyd a Beirniadu mewn Cyfarfodydd Cystadleuol. "John Penri," Y Merthyr Cymreig, I'w gyhoeddi yn fuan. LLYFR SWLLT AR HANES JOHN PENRI, GAN D. Gwynfryn Jones, ABERMAW. Bydd y Llyfr yn cynwys rhai ffeithiau newyddion. Archebion ac Enwau Tanys- grifwyr i'w danfon i'r Awdwr.
FY ADGOFION. !
FY ADGOFION. LGan EGWEST.] Pennod II. I Os bydd rhywun am gael gwybod pwy ydwyf, wel gwelais oleuni dydd gyntaf yn Mhentref tawel Penegos, pryd yr oedd fy nhad yn dal y swydd agosaf at yr Offeir- iad yn hen Eglwys y plwyf, Llangadfarch, a sylfaenwyd yn ol rhai hen ysgriflyfrau gan Dywysog Cymreig o'r enw Cadfarch tua'r chwechfed ne'u'r seithfed ganrif. Rhoddaf ychydig o fy adgofion am Wesleyaid yr hen bentref tawel. Y cor cyntaf sydd genvf am danynt yw, yn cyfar- fod a'u gilydd i addoli Duw eu tadau yn yr hen gapel bach a adeiladwyd flynydd- oedd cyn i mi weled Penygos, ar gornel orllewinol tir Maes-y-llwyn, sef eiddo Mr. Lewis Evans. Ac er mai Eglwyswr selog oedd Mr. Evans, dangosodd fod ganddo feddwl mawr o ganlynwyr John Wesley, pan yn rhoi ychydig o'i dir i godi Capel mewn adeg anhawdd iawn ei gael, oblegid casineb at yr Ymneillduwyr. Y cof cyntaf sydd genyf am gapel Wes- ley Penegos ydyw pan oeddwn yn myned yn llaw nain, yr hon oedd yn un o'r ael- odau ynghyd a'i gwr. Ac er mai Eglwys wr oedd fy nhad, ni ddangosodd un gwrth- wynebiad i mi i fyned i gapel y Wesleyaid gyda fy nhaid a fy nain. Yr oedd dau ddrws i'r hen gapel, os wyf yn cofio yn iawn, un ar bob pen iddo, a'r Pwlptid yn y canol, a rhes o hoelion coed o'i amgylch, er mwyn i'r addolwyr roi eu hetiau arn- ynt. Wedi hyny torwyd drws yn y canol, a chauwyd y ddau ben. a symudwyd y Pwlpud i'r pen gorllewinol. Y teuluoedd a gynorthwvodd fwyaf a'r achos y Wes- leyaid yn Penegos, oeddynt teulu Rhiw- felen. Enwir hwy yn gyntaf am mai hwy oedd y teulu mwyaf lluosog a chyfrifol o un teulu arall a berthynai i'r Wesleyaid yn y lie. Yr oeddynt yn ddeg mewn rhif, ac oil yn eu cyflawn faintioli, acyn ddiarheb- ol am eu nerth a'u cryfder. Pan oedd teulu Rhiwfelen gyda'u gilydd, yr oeddynt yn allu cryf i'r achos yn y lie. Yn wir yr oedd teulu Rhiwfelen yn ddigon i haner lanw Capel Penegos y pryd hwnw. Yr oeddynt yn Wesleyaid i'r earn. Priododd y mab hynaf, ac aeth i fyw i'r Fedw yn mhlwyf Darawen, ond byddai ef a'i deulu yn dod i Bethesda i addoli hyd nes y sym- udasant i fferm arall yn ymyl Mathafarn plwyf Llanwrin a elwir Poesnant. Yr oedd dau o feibion Rhiwfelen yn gantorion da, sef Dafydd a Huw, ac yr oedd hyny yn gaffaeliad mawr i'r canu. Bass cryf oedd ansawdd llais y ddau, ac fel hirgainc o fol Organ yn ddigon nerthol i Gor pur fawr, ac mor dyner a swynol a thant y delyn. Nid oeddynt yn deall ond ychydig ar elfenau cerddoriaeth, am nad oedd y manteision geir heddyw i'w cael yr adeg hono. Ond yr oeddynt yn gallu darllen tonau yn yr hen Nodiant yn gywir. Ni wyddai y ddau ddim am gynghanedd a chyfansoddiant (Harmony a Counterpoint). Yn wir, ychydig y pryd hwnw a allai ddyweyd beth oedd traws- ddodiad heb son am drawsgyweiriad, ond yr oeddynt yn trawsgyweirio a hyny yn gywir hefyd. Yr aflwydd mewn tonau yr amser hwnw oedd Sharps a Flats mewn ton. Yn wir yr oedd arnom gymaint o'u hofn a seirff mewn glaswellt, a mawr oedd ein hymdrech i'w hysgoi, neu lamu drostynt. Nid oedd ond ychydig o donau mewn argraff y pryd hwnw, yr oedd llyfrau meinion hirion i'w cael i bricio Notes, ac yr oedd bod yn medru pricio Notes yn lan a threfnus yn bluen lied dda yn nghap yr hwn a feddai y gallu. Bydd yn hyfryd- wch i mi fyned trwy ac edrych ar lawer o ganoedd o'r hen donau bendigedig a bric- iwyd gan ddegau a fuont wrth y gorchwyl ac yn swn pa rai yr aeth llawer o hen ardal hyfryd Penegos, a llawer o ardal- oedd eraill i ardal hyfryd yr aur delyn- au. Ond yr oedd ffarm Rhiwfelen yn rhy fach i gynal y teulu, a chymerodd Lewis Morgans ffarm arall a elwir Pen- rhosmawr, ac aeth rhan o'r teulu yno i fyw. Yn yr amser hwnw y bu farw eu hunig ferch, ac yr oedd colli Anne yn brof- edigaeth i hen deulu parchus Rhiwfelen a adawodd eu hoi arnynt am lawer o flyn- yddau. Ond daliasant ynffyddlon i achos y Gwaredwr tra y buont byw. Nid wyf yn cofio yn ddigon da pa le a chyda pwy yr oedd y Gweinidogion a'r Pregethwyr a ddeuant i bregethu yn y boreu i Benegos yn cael eu ciniaw cyn myned i Blaen-y- pant at ddau, os nad yn nhy John Jones, Pen-yr-Wtra. Ond ar ol symudiad rhan o deulu Rhiwfelen i Benrhosmawr, ac yno y buant yn myned am lawer o flynydd- oedd, a derbynient gymaint o barch a chroesaw, sirioldeb a lluniaeth ag oedd yn gwneyd yn anmhosibl i neb ddymuno mwy.
YNGHYLCH YR EGLWYS.
YNGHYLCH YR EGLWYS. Ymneillduwyr !I !-Cyfarfu yr Undeb Ymneiilduol i wrthwynebu Sosialaeth yn Llundain ddydd Llun. Dywedodd yr Ysgrifenydd (y Parch. G. Freeman) mai amcan ffurfiad yr undeb oedd protestio yn erbyn defnyddio y pwl- pud i amcariion gwleidyddol, a gwaredu y wlad rhag Sosialaeth twyllodrus a gwen- wynig. Rhag fod yr undeb yn cael ei hys- tyried yn un sectyddol ac enwadol yr oeddis wedi penderfynu ei galw yn Undeb yr Eglwysi i Wrthwynebu Sosialaeth. Aeth y gwr parchedig yn mlaen i ddyweyd si fod wedi derbyn llythyr oddiwrth Fed- yddiwr Toriaidd yn hysbysu fod y gwas- anaeth mewn un addoldy wedi ei droi yn gyfarfod gwleidyddol. Gwisgai y dynion su hetiau ac ysmygent. Dygpwyd en- graipht arall i'w sylw. lie y cafwyd an- srehiad etholiadol yn lie pregeth, a dilyn- vvyd ei thraddodi gyda churo dwylaw. Dywedodd Prebendari Webb Peploe, yr hwn a lywyddai, ei fod yn warth fod ati- gen ffurfio y cyfryw undeb.1 Svlwodd v Parch Arthur Mursell fod Sos- ialaeth Cristionogol yn angylaidd, ond yr 3edd Sosialaeth Downing-street yn uffern- d1, oherwydd mai hunanoldeb oedd ei -,hv,A,eirnod (cymeradwyaeth). Pwy yw y bobl yma a alwant eu hunain yn Ymneill- duwyr Dvma un arall o'r "hil hono ynghwisg angel y goleuni. Mynd i'r 'Merica.—Trefna y Parch. W. Jones, (M.C.), Brynhyfryd, Rhymni, i adael y wlad hon am America, yn gynar yn mis Mawrth a bydd i ffwrdd am dri mis. Mabon yn 'Gethu.—Nos Sadwrn tradd- ododd Mr W. Abraham, (Mabon), A.S., ddarlith yn nghapel Bethania, Aberafon, ar Noson yn Nhy y Cyffredin.' Y Sabbath pregethai Mabon yn y boreu a'r hwyr yn nghapel Bethel, Aberafon. "Y Nhw" welwch Chi I-Bit'r Parch Peter Price yn darlithio'r wythnos ddi- weddaf, yn Nghapel yr Annibynwyr, ar "Y Nhw." Mr W. Jones, Islwyn, Aberdyfi, oedd yn y gadair. Pwrs o Aur.—Nos Iau, rhoes Annibyn- bynwyr Llandudno, ddesc a phwrs o aur i'r Parch Tom Davies, ar ei ymadawiad i Llanddysul. Elwyn.—Mae y pregethwr poblogaidd Elwyn Thomas ar daith yn yr Aifft a Chanaan. Ni bydd yn ol cyn dechreu neu ganol Mai. Efe fel y gwyddys oedd y budds-igol ar y Nofel Gymreig yn Eistedd- fod Llangollen. Arwr y nofel honno oedd John Penri." Sancteiddio Ðifyrwch. Y n gweled y mawr dyru a dylifo sydd i chwareudai'r Brifddinas, y mae'r Parch. Thos. Phillips, B.A., Bloomsbury, wedi traethu ei farn fel y canlyn :— Pe gennyf ddigon o fodd ac o amser," meddal, i-ni a yml meddai, mi a ymgymerwn a chadw chwarendy. Fel gweinidog, fe'm dygir i gwrdd a bechgyn a merched ieuanc sy mhell o gartref; ac mae'n anodd peidio teimlo fod eubywyd yn unig a thrym- aidd iawn. A'r hyn yr hoffwn ei weld a fyddai'r eglwysi yn meddianu'r chwareti dai, gan eu troi'n foddion i hyrwyddo neges yr Efengyl. Yn awr y mae dwv farn am' hyn. Nid ariangar.—Y mae'r Parch Thomas Waugh, efengylydd hysbys iawn gyda'r Wesleaid yn Southport, wedi cael cynyg lle'n ben cenhadwr tan Eglwys Fethodist- aidd Episcopalaidd yr America, ar gyflog o c2,000 yn y flwyddyn a'i dreuliau. Ond cafodd ras i'w wrthod, ac i aros man y mae. lie nad oes neb yn fwy cymeradwy nac yn gwneud amgenach gwaith. Bugail y Bowydd.-Llawen iawn oedd- wn hefyd o glywed fod y Parch Enoch Ellis Jones, Porthmadog, wedi ei ddewis i ddilyn y Parch John Owen fel bugail Eglwys Bowydd, Ffestiniog. Ac eto.-Mae y Parch Edwin Burgess, Six Bells, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys y Forward Movement yn, Porth, Cwm Rhondda. Athrawiaeth iach.—Dr. Cynddylan Jones- a'r Parch Daniel Hughes (B.), Pontypool, oedd yn cynal cyfarfod pregethu Gwyl Dewi yn y City Temple. Oherwydd rhyw aflerwch gyda chyhoeddiad yr amser, teneu oedd y cynulliad. Canmol.-Hysbysa gohebydd fod Dr. Llewelyn Bevan, yr hwn sydd wedi ei ben- odi yn ddiweddar yn brif-athraw, vn awyddus iawn am i'r Parch J. M. Gibbon, Llundain, fyned allan i fod yn olynydd iddo ef. Geilw yr ysgrifenydd Mr. Gibbon the most brilliant Welshman in an Eng- lish pulpit.' Dichon na fyddai pawb yr un farn yn nghylch hyny, ond cydnebydd pawb fawredd athrylith Mr. Gibbon, a'r lie uchel sydd iddo ymysg gweinidogion Ymneillduol y deyrnas. Y Goleuad ac Undeb.—Fel hyn y sier yd y Goleuad am bregeth gwr Eglwys- yd y. 'Digrif iawn yw gweled a chlywed offeiriad Eglwys Loegr yn anog undeb, brawdgarwch, a thangnefedd. Dyma faich pregeth Dr. Grimaldi Davies yn St. Paul, Llundain, wrth ddathlu Gwyl Dewi. Mewn hwyl dywedai- Darfydded son am bob ymryson mwy, Partiol farn a rhagfarn lawr a hwy Doed ysbryd hedd, tangnefedd, yn eu lie, A chariad pur o'r cariad'sydd yn y ne'. Parod yw pob Ymneillduwr bid sicr i ddweyd Amen ond purion peth fyddai i'r Eglwyswyr gofio nad yw yr "ildio" i gyd ddim i fod o un ochr. Mordaf a Meirion.—Da iawn genyf ddeall fod y Parch T. Mordaf Pierce, Llanidloes, wedi derbyn yr alwad unfrydol roddwyd iddo i Ddolgellau i fugeilio yr eglwysi Cymraeg-Salem, Bethel a'r Penmaen. Y Sabbath diweddaf, hysbysodd Mr. Pierce ei eglwys yn China Street, ei fod wedi pen- derfynu derbyn yr alwad, ac y byddai ei gysylltiad a'r eglwys yn terfynu ymhen tri mis. Adar y Nefoedd.—1 Adar y Nefoedd' oedd testyn darlith y Parch. J. Puleston Jones, M.A., yn Salem, Aberystwyth, y noson o'r blaen. Llywyddld gan Syr John Williams. "Canwyll y Cymry" oedd testyn dar- lith y Proffcswr T. Powel, M.A., Caerdydd, o flaen Cymdeithas Cymmrodorion y Barry, yr wythnos ddiweddaf. "Y deugain mlynedd hyn."—Gwneir trefniadau gan aelodau Capel Als, Llan- elli, i gyflwyno tysteb i'r Parch Dr. Jones, ar ei 40ain flwydd o'i weinidogaeth yn eu plith. "I dre'r Bala 'raeth y Bardd. Deall wn fod H. Eryri Jones wedi cael galwad unfrydol eglwysi Bala a Llanuwchllyn i'w bugeilio. Aberllefenni.—Deallwn fod y Parch. H. W. Parry (A.), wedi derbyn galwad i was- anaethu eglwys yn yr America. Mae eis- oes wedi rhoddi rhybudd i'w eglwys, ac, maent wedi gofyn iddo ail-ystyried. Cig, a Chwrw, a Dewi Sant.—Ynghwrs pregeth ym monachlog Bangor, gofidiai y Parch W. E. Jones, Llanllyfni, am yr arfef o ddathlu cof y Sant Cymreig trwy fwyta brasder ac yfed gwin. Nid oes un math o gysondeb cydrhwng y pethau hyn a chymeriad ein nawdd sant. Campus yn wir. Y Gweision yn Gwella.—Llawen oeddwn o glywed fod y Parch. Wm. Rowlands, Acrfair, yn graddol hybu o'i afiechyd ac y calff ail afael yn ei waith ac esgvn i bulpud yn y man. Ac ar ol ei anhwyldeb maith a thrwm, dyma'r Parch, Griffith Owen-sy'n fab y Parch. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen, ac yn perthyn i hil y seraff 0 Dal-y Sarn—yntau wedi ymadfer o'i af* iechyd hir, ac yn llanw'i bulpud yn y Rhos Ddu y Sabboth drweddaf. Boed i'r ddau hir adeg cyn y delo angau nac afiechyd i'w nol mwy. Talu dyled Pantycelyn.—Gadawodd y cil- weddar Henadur J. R. James, U. H., LlaIl- ddyfri, diacon yn nghapel Coffadwriaeth: • 01 Williams, Pant-y-Celyn, swm digonol 1 symud y ddyled ar y capel. Gadawodd i hefyd, renti eiddo neillduol i fyned at gyf- log y gweinidog. Dechreu Gwaith.—Cynnaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch. D. Marlais Davies y[1 I weinidog eglwys Soar (A), Blaenogwy' Gweinyddwyd gan y Parch. Gwylfa RO erts, Llanelli; E. Keri Evans, M.A., a fj Elias Williams. Eto.-Deallaf fod y Parch. W. G. \V¡ iams, (M.C.), Penllwyn, Llangollen. we?' I ei alw i fugeilio eglwys Cwmyglo yn ?' fon, a'i fod yntau wedi derbyn vr al"ad. !? Bydd colled nid bychan ar ei ol vn N bY 11 1| arfod Misol Dwyrain Dinbych, ac efe Y ? Ysgrifenydd y Pwyllgor Arianol. D vies 1 Hen Fethodist.-Mr. Vaughan Da?- mewn anerchiad yn Llandyssul, y dydd i i blaen, a ddywedai y fath ras "a fuaslql Esgob Owen pe yr arosai yn Fethodys He troi at yr eglwys. Cadwasai hy^oJ'i rhag llawer o ddrwg yn ei ganol oed hen oed, rhag gwrthod Cyllideb D. Ll?? George, sydd a'i nod i symud y beich' oddi ar gefn y werin i ysgwydda?y goludogion a'r cyfoethogion. Nis ge,llir dyweyd i'r Esgob Owen drwy ffydd dd?? yn hytrach oddef adfyd gyda phobi D" ? ?. Barnodd efe yn fwy golud drysora?y?f Aipht. Y mae llawer yr un fath ag e YV nghwasanaeth yr Eglwys.
LLYTHYR LLUNDAIN. I
LLYTHYR LLUNDAIN. I (GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.) I Mae darllenydd ei bapur dyddiol, a'r I hwn nad oes a fyno y nodiadau hyn ond ychydig wedi cael mantais i sylwi y dydd- I iau diweddaf yma ar NEWIDAD Y SEFYLLFA WLEIDYDDOL. I Edrychai yn ddigon anaddawol ddiwedd yr wythnos o'r blaen; ac yr oedd y Sul, Chwefror 27ain, yn ddydd o ddyfaliadau lawer. Awgrymid llawer o bethau gan drigolion y Brif ddinas ac yn eu plith bosiblrwydd ymddiswyddiad y Canghell- ydd. Awgrymid fod hyd yn nod ei gyfaill, Mr. Winston Churchill, wedi ei adael, a'i fod yn ymlada gyda llaw sengl y gwedd ill o'r Cabinet. Hawdd ydyw chwilio allan lawer o ddychmygion, pan nad oes genym wybodaeth gywir o amgylch- iadau. Nid yw o gwbl yn anhebyg fod peth gwahaniaeth syniadau yn mhlith aelodau y Weinyddiaeth. Ni fyddent ddim angen nag Undebwyr di-ddychymyg ar wahan i hyny. Bu ymweliad y Prif Weini- dog a'r Brenin, a chyfarfyddiad o'r Cabinet ar ol hyny yn achos o lawer o ddyfalu a damcaniaethu. Nid oes raid dyweyd fod yna chwilfrydedd mawr ar hyd ddydd Llun i fyny hyd yr hwyr. Daliai dynion pwyllog ac arafaidd i gredu fod Asquith yn feistr y sefyllfa, ac y deuai o'r anhawsder ymddangosiadol yn llwyddianus. Ac felly yjbu. Anadlai Llundain yn weddol rydd tua saith o'r gloch nos Lun oblegid yr oedd pob arwyddion fod y perygl drosodd. 'Symudasai y Prif Weinidog ei dir i fesur bychan, ac mewn ychydig o ddatganiadau sychion parthed trefn y gweithrediadau hyd Mawrth 2-tain, rhoddodd foddlon rwydd mawr er nad hollol i'w ganlynwyr. Gwelwyd nad oedd y Weinyddiaeth i gael ei gorchfygu. Cafodd y Gwyddelod ddigon o foddlonrwydd i ymgadw rhag ymyryd, a thra y gwnant hyny, nis gall yr Wrthblaid droi y Weinyddiaeth alfem. Swn] y cwbl a ddigwyddodd ydyw y deuwyd allan o'r cyfyngbwynt heb gymaint ag ymraniad, yr hyn ni a dybiwn sydd brawf o fedrus- rwydd pur fawr ar ran aelodau y Wein- yddiaeth. Y POLISI A'R AREITHIAU. I Mae'r cwbl wedi bod yn hongian ar y cwestiwn pa un ai y Gyllideb neu'r Veto ddylai ddod gyntaf ? Byddai yn ddigon naturiol, yn ngwyneb stad cyllid y deyrnas i'r Weinyddiaeth wasgu am orphen gyda'r Gyllideb. Nid oes dadl nad oes drybini arianol yn bod, yr hwn, wrth gwrs, achos- wyd gan waith yr Arglwyddi yn ymyryd heb hawl. Ond y ddadl ar yr ochr arall ydyw, pe yr eid yn mlaen gyda'r Gyllideb, ag iddi gael ei derbyn, y byddai siawns y Veto yn llawer llai. At hyn, mae'rGwyddel dros wneyd i ffwrdd a Veto yr Arglwyddi; ond nid yw yn caru y Gyllideb, gan ei bod yn cymeryd tua C2,060,000 o arian Gwydd- elig y tybir na ddylid eu talu. Byddai i'r aelodau Gwyddelig bleidleisio unwaith yn erbyn y Llywodraeth yn penderfynu ei thynged. Gwelir rhwng popeth fod y sef- yllfa yn un ddigon dyrus. Newidiodd y Prif Weinidog ei dir i fesur, a bellach ei bolisi ydyw rhoddi yr .oil o'r amser hyd Mawrth 24ain i ddelio gyda'r Cyflenwadau Arianol y rhaid wrthynt er cario gwaith y deyrnas yn mlaen, a chodi'r arian diffyg- iol trwy echwyniadau. Wedi cyfarfydd- iad y Ty ar ol gwyliau'r Groglith, cyflwynir gerbron y penderfyniadau parthed cymed- roliad gallu'r Arglwyddi. Anfonir y rhai hyn yn mlaen i'r Arglwyddi. Tynir allan fesur seiliedig arnynt, yr hwn, hyd y deall- wn a wthir yn mlaen ochr yn ochr a'r Mesur. Mae pob lie i gredu y golygir appelio at y Goron os cyfyd anhawsder, ac y mae'r Weinyddiaeth am sefyll neu syrthio ar y polisi hwn. Rhoddodd y datganiad ohono fesur mawr o ryddhad i'r Rhyddfrydwyr yn y Ty, o bob lliw, a mesur o siomedigaeth yn ddiau i'r Wrthblaid. Ond ni chafwyd hollol foddlonrwydd nes i'r Canghellydd ddweyd yn groew eu bod am sefyll neu syrthio ar y polisi hwn. Cafwyd ganddo araeth gref a galluog. Nid ydym am ad- olygu areithiau. Mae awgrymiadau'r Wrthblaid yn hollol ffiaidd ambarodrwydd i gynorthwyo'r Llywodraeth yn erbyn ei gelynion Gwyddelig, nes y bydd cyllid y wlad wedi dyfod i drefn. Nis gall y Llyw- odraeth arfer gormod o ddirmyg at gyn- ygion o'r fath. Gwyddis o'r goreu eu bod oil yn sychedu am swydd yn fwy na'r gwylwyr am y boreu. A charent roddi help i gael cyllid y wlad i'r drefn oreu yn bosibl, er mwyn gallu mynd i swydd yn ddibryder pe digwyddent gael mwyafrif fel ffrwyth yr apel nesaf at y wlad. Caf- wyd areithiau cryfion gan Redmond a Dillon. Ymosodai Tom Healy ar yr Wrthblaid am na wrthwynebai ddigon. Cafwyd araeth bur gref gan Dalziel, yr hwn fygythiai gynyg gwelliant ar gynyg- ion y Prif Weinidog, nes y cafodd foddlon- rwydd ynddynt. Ymddengys hefyd pe daethai i hyny, nad' oedd ei welliant mewn trefn. Daeth yr Arglwydd Hugh Cecil yn bur amlwg yn yr ymdrafodaeth. Mae efe yn wr galluog, ac yn dra awyddus am swydd gellid tybio. Mae'n siaradwr llym a phigog, ac y mae ei foesau diweddaraf braidd yn awgrymu y gallai yn bresenol fanteisio ar y Llaw-lyfr mewn moesau gwleidyddol y cymhellai y Canghellydd i'w dwyn allan. Fodd bynag, terfynodd yr helynt braidd yn ddofaidd, ac o hyny yn mlaen caniateir y cyflenwad heb lawer o drafferth. ARWYDDION YR AMSERAU. I Mae bron bawb ynceisio eu darllen, ac nid anfaddeuol felly i neb geisio dyfalu. Ymddengys ar bob ochr fod argyhoeddiad nad oes i'r Weinyddiaeth bresenol hir ar- osfa mewn swydd. Nid oes neb a wyr mae'n ymddangos, ond seilir y dybiaeth ar beth neu ddau. Ar y cyfan mae'r dymun- iad yn dady meddwl i'r Wrthblaid. Caw- sant lawer o siom yn nghanlyniadau yr Etholiad ddiweddaf. Faint bynag o siom gafodd y Llywodraeth cawsant hwy fwy. Ac y maent mor awyddus am newid ochr yn y Ty, fel y gallwn yn hawdd ddeallnad ydynt am i'r Weinyddiaeth bresenol bar- hau ond hyd y byddai yn gyfleus iddynt hwy afael yn yr awenau. Ond ar wahan iddynt, hwy, mae rhesymau dros gredu na fydd y Llywodraeth hon mewn grym yn hir. Un ydyw, mai prin y gellir dweyd ei bod mewn grym o gwbl. Mae cyfansodd- iad y mwyafrif yn un hollol ansefydlog. Nid yw y Gwyddel yn honi pleidio un ochr i'r Ty, orid mor bell ag y mae hono yn pleidio'r Iwerddon. A chan mai yn ei fav., ef, ac yn ei law ef yn unig y mae'r awenau ar hyn o bryd, y mae bywyd y Weinyddiaeth mewn perygl ar bob awr. Peth arall ydyw yr ansicrwydd gyda golwg ar ba beth a wna'r Arglwyddi, a pha beth wna'r Brenin os gofynir iddo. Prin y gall neb obeithio y derbynir Cynyg- ion a Mesur y Llywodraeth gan yr Ar- glwyddi. Ni fu'r gurfa ddiweddaf yn ddigon digamsyniol, a thybiant pan apelir at y wlad y tro nesaf, y bydd y pleidleisiwr mor flinedig ar Weinyddiaeth ddiallu i fyn'd yn mlaen, fel y rhoddant bleidlais i'r ochr arall er mwyn cael rhywbeth. Mae cryn lawer yn eu dyfaliad. Mae aredig y tywod yn waith sydd yn dreth ar amynedd er gwaethaf amcanion ardderchog y rhai a wnant hyny. Ac y mae trybini arianol yn graddol ddyweyd ar y wlad. Er hyn oil, nt fynem er dim i'n darllenwyr dybio nad oes bosiblrwydd tymhor o lwyddiant Mesurau Rhyddfrydol wedi i Veto yr Ar- glwyddi gael ei ddinystrio am byth. TY YR ARGLWYDDI. I Beth a ddaw ohono ? Pe yr elai y Llyw- odraeth allan yfory nesaf, nis gellir dyweyd nad yw wedi gwneyd rhywbeih tuag at wanychu gallu y Ty anghyfrifol hwn. Dechreuodd y Toriaid waeddi fod- eisseu ei ddiwygio pan welsant nad oedd y llanw mor gryf yn yr Etholaethau ag y tybiasant y byddai. Yr oedd yn arddechog cyn hyny, er fod ambell un, megis Arglwydd New- ton, ac Arglwydd Roseberry am ei ddi- wygio. Bellach cymerir yn ganiataol deued a ddelo, nad yw i aro's fel y mae. Rhodd Roseberry rybudd o gynygiad y dydd o'r blaen yn ei dy ei hun, i'r perwyl ei fod am ei ddiwygio. Wel, diwygier ef. Ond nid dyma y polisi Rhyddfrydol ar hyn o bryd. Torer ei ewinedd i ddechreu, a cheir amser i'w trefnu a'u prydferthu yn nes yn mlaen. Os ydym yn deall awgrym- au y Prif Weinidog, mae Mesur y dyfodol i roddi cyfansoddiad i Dy yr Arglwyddi cydweddol ag ysbryd gwerinol yr oes. Daw terfyn ar yr egwyddor etifeddiaethol, a dechreua ar gyfaddasterau cyfrifol. Pan y mae pob plaid am ymyryd ag ef, amlwg vw nas gall barhau yn hir fel y mae. AIL-ETHOLIADAU SWYDDOGION RHYDD- I FRYDOL. Bu amryw o'r rhai hyn, ac y mae eraill i ddyfod. Mae'r mwyafrif gawsant swydd yn gofyn etholiad, neu ail-etholiad wedi eu dychwelyd yn ddiwrthwynebiad. Nid arddengys hyn rhyw lawer o ras Toriaidd, gan fod yn anobeithiol enill yn y rhan fwyaf o'r engreifftiau. Pwy feiddia wrth- wyriebu Brynmor Jones, gyda'i dros (5,000, a Pease, y diweddar Whip, i'r hwn y rhoddwyd sedd gyda dros 7,000 o fwyafrif ? Credwn, er hyny, y gwnelai ymladd les i hwn eto. Paham na thawa ond pan y rhaid iddo lefaru ? Danghosodd y Toriaid ddiffyg boneddigeiddrwydd yn nglyn a Mr. Benn, yn St. George's in the East. Ond cawsant dal ardderchog. Credasant y gallent ei gadw allan, ond aeth i mewn gyda 75 yn rhagor o fwyafrif. Edrycha hyn yn dda iawn. Daeth yr Etholiad yn ffodus wedi i'r Prif Weinidog ddatguddio ei bolisi. Mae beiddgarwch bob amser yn wastad yn llwyddo, tra y mae ofn a petrusder yn andwyo ysbryd gweriniaeth. Diau y daw Col. Seely yn ddian&f o frwydr Ilkeston, a bydd yn dda gan lawer ei weled yn ol. Tybiwn y gall y fuddugoliaeth yn y Dwyrain dlawd fod yn brophwvdoliaeth o lwyddiant y Rhyddfrydwyr trwy Lundain, dydd Sadwrn nesaf, yn Etholiad y Cyng- hor Sirol. Tawel iawn ydyw pethau, ond mewn ambell i etholaeth. Eto, efallai fod mwy o weithio dystaw nag y tybir fod. Ond nis gallwn ddyweyd fod yr etholwyr mewn cariad mawr y naill blaid at y llall. Gwariant yn ddychrynllyd; ac y mae'r amseroedd yn ddrwg. COFFADWRIAETH SANT DEWI. I, Parchwyd ei goffadwriaeth mewn gwa- hanol foddau yn y Brifddinas. Cafwyd anferthol o gynulliad yn St. Paul's, nos Lun, Chwefror 28ain, a chafwyd pregeth ary pwysigrwydd o undeb cenedlaethol. Gwynfyd na ddeuai, ac na cheid gweled ei wawr yn y Brif ddinas mewn un cyfarlod i ddathlu coffadwriaeth ein Sant cyffredin. Yr ydym ar bob ochr mor anghyson ag y gallwn fod. Yn anffodus, cynhaliwyd dau gyfarfod ar yr un noson, sef Mawrth y laf. Ym- roddodd y naill i fwyta ac yfed, trwy ba ar- feriad yr efelychir y Saeson gan blaid o Gymry Llundain. Coffeir am ein hen Sant o Dduwinydd ac Efengylydd trwy ymroddi i gyfarfod a blysiau y corph. Wei, pawb at y peth y byddo. Nid pawb fedr fforddio cinio yn Mhrif Hotel y Ddinas. Gwelsom i'r Canghellydd fethu cymeryd y gadair, ac i Sir Vinsept Etans ei chymeryd am yr ail dro yn ei le yn nghwrs cwpl o ddyddiau. Ffurff arall ar barchu coffadwriaeth Dewi oedd traddodi a gwrando pregethau yn Nheml y Ddinas. Teneu oedd y cyn- ulliad, ond cafwyd cyfarfod gwir dda. Cynrychiolwyd y Bedyddwyr gan un Parch. Daniel Hughes, o Bontypool, yr hwn a draethodd ei genhadwri yn hyglyw a rhydd. Y pregethwr arall oedd Dr. Cynddylan Jones, geiriau yr hwn am Grist fel Dysgawdwr a hir gofir. Mae'r Dr. parchedig yn gwella fel pregethwr flwydd- yn ar ol blwyddyn. (Trwy amryfusedd, gadawyd yr ysgrif hon allan yr wythnos ddiweddaf serch ei bod ychydig yn hwyr, credaf y bydd yn dda gan ein darllenwyr wvbod am syniad- au ein Gohebydd Arbenig o Llunden-— gosodwn hi i mewn.)