Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

FY ADGOFION. !

News
Cite
Share

FY ADGOFION. LGan EGWEST.] Pennod II. I Os bydd rhywun am gael gwybod pwy ydwyf, wel gwelais oleuni dydd gyntaf yn Mhentref tawel Penegos, pryd yr oedd fy nhad yn dal y swydd agosaf at yr Offeir- iad yn hen Eglwys y plwyf, Llangadfarch, a sylfaenwyd yn ol rhai hen ysgriflyfrau gan Dywysog Cymreig o'r enw Cadfarch tua'r chwechfed ne'u'r seithfed ganrif. Rhoddaf ychydig o fy adgofion am Wesleyaid yr hen bentref tawel. Y cor cyntaf sydd genvf am danynt yw, yn cyfar- fod a'u gilydd i addoli Duw eu tadau yn yr hen gapel bach a adeiladwyd flynydd- oedd cyn i mi weled Penygos, ar gornel orllewinol tir Maes-y-llwyn, sef eiddo Mr. Lewis Evans. Ac er mai Eglwyswr selog oedd Mr. Evans, dangosodd fod ganddo feddwl mawr o ganlynwyr John Wesley, pan yn rhoi ychydig o'i dir i godi Capel mewn adeg anhawdd iawn ei gael, oblegid casineb at yr Ymneillduwyr. Y cof cyntaf sydd genyf am gapel Wes- ley Penegos ydyw pan oeddwn yn myned yn llaw nain, yr hon oedd yn un o'r ael- odau ynghyd a'i gwr. Ac er mai Eglwys wr oedd fy nhad, ni ddangosodd un gwrth- wynebiad i mi i fyned i gapel y Wesleyaid gyda fy nhaid a fy nain. Yr oedd dau ddrws i'r hen gapel, os wyf yn cofio yn iawn, un ar bob pen iddo, a'r Pwlptid yn y canol, a rhes o hoelion coed o'i amgylch, er mwyn i'r addolwyr roi eu hetiau arn- ynt. Wedi hyny torwyd drws yn y canol, a chauwyd y ddau ben. a symudwyd y Pwlpud i'r pen gorllewinol. Y teuluoedd a gynorthwvodd fwyaf a'r achos y Wes- leyaid yn Penegos, oeddynt teulu Rhiw- felen. Enwir hwy yn gyntaf am mai hwy oedd y teulu mwyaf lluosog a chyfrifol o un teulu arall a berthynai i'r Wesleyaid yn y lie. Yr oeddynt yn ddeg mewn rhif, ac oil yn eu cyflawn faintioli, acyn ddiarheb- ol am eu nerth a'u cryfder. Pan oedd teulu Rhiwfelen gyda'u gilydd, yr oeddynt yn allu cryf i'r achos yn y lie. Yn wir yr oedd teulu Rhiwfelen yn ddigon i haner lanw Capel Penegos y pryd hwnw. Yr oeddynt yn Wesleyaid i'r earn. Priododd y mab hynaf, ac aeth i fyw i'r Fedw yn mhlwyf Darawen, ond byddai ef a'i deulu yn dod i Bethesda i addoli hyd nes y sym- udasant i fferm arall yn ymyl Mathafarn plwyf Llanwrin a elwir Poesnant. Yr oedd dau o feibion Rhiwfelen yn gantorion da, sef Dafydd a Huw, ac yr oedd hyny yn gaffaeliad mawr i'r canu. Bass cryf oedd ansawdd llais y ddau, ac fel hirgainc o fol Organ yn ddigon nerthol i Gor pur fawr, ac mor dyner a swynol a thant y delyn. Nid oeddynt yn deall ond ychydig ar elfenau cerddoriaeth, am nad oedd y manteision geir heddyw i'w cael yr adeg hono. Ond yr oeddynt yn gallu darllen tonau yn yr hen Nodiant yn gywir. Ni wyddai y ddau ddim am gynghanedd a chyfansoddiant (Harmony a Counterpoint). Yn wir, ychydig y pryd hwnw a allai ddyweyd beth oedd traws- ddodiad heb son am drawsgyweiriad, ond yr oeddynt yn trawsgyweirio a hyny yn gywir hefyd. Yr aflwydd mewn tonau yr amser hwnw oedd Sharps a Flats mewn ton. Yn wir yr oedd arnom gymaint o'u hofn a seirff mewn glaswellt, a mawr oedd ein hymdrech i'w hysgoi, neu lamu drostynt. Nid oedd ond ychydig o donau mewn argraff y pryd hwnw, yr oedd llyfrau meinion hirion i'w cael i bricio Notes, ac yr oedd bod yn medru pricio Notes yn lan a threfnus yn bluen lied dda yn nghap yr hwn a feddai y gallu. Bydd yn hyfryd- wch i mi fyned trwy ac edrych ar lawer o ganoedd o'r hen donau bendigedig a bric- iwyd gan ddegau a fuont wrth y gorchwyl ac yn swn pa rai yr aeth llawer o hen ardal hyfryd Penegos, a llawer o ardal- oedd eraill i ardal hyfryd yr aur delyn- au. Ond yr oedd ffarm Rhiwfelen yn rhy fach i gynal y teulu, a chymerodd Lewis Morgans ffarm arall a elwir Pen- rhosmawr, ac aeth rhan o'r teulu yno i fyw. Yn yr amser hwnw y bu farw eu hunig ferch, ac yr oedd colli Anne yn brof- edigaeth i hen deulu parchus Rhiwfelen a adawodd eu hoi arnynt am lawer o flyn- yddau. Ond daliasant ynffyddlon i achos y Gwaredwr tra y buont byw. Nid wyf yn cofio yn ddigon da pa le a chyda pwy yr oedd y Gweinidogion a'r Pregethwyr a ddeuant i bregethu yn y boreu i Benegos yn cael eu ciniaw cyn myned i Blaen-y- pant at ddau, os nad yn nhy John Jones, Pen-yr-Wtra. Ond ar ol symudiad rhan o deulu Rhiwfelen i Benrhosmawr, ac yno y buant yn myned am lawer o flynydd- oedd, a derbynient gymaint o barch a chroesaw, sirioldeb a lluniaeth ag oedd yn gwneyd yn anmhosibl i neb ddymuno mwy.

YNGHYLCH YR EGLWYS.

LLYTHYR LLUNDAIN. I