Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Advertising

"Nid ag Us y delir Hen Adar."

News
Cite
Share

"Nid ag Us y delir Hen Adar." Mantais ddirfawr i'r Weinydd- iaeth erbyn heddyw ydyw ei bod wedi gofalu am alw sylw, a rhy- buddio yr Arglwyddi, y byddai taflu'r gyllideb allan yn sicro esgor ar ganlyniadau difrifol, iddynt eu hunain, ac yn arbenig felly i'r wlad yn gyffredinol. ond er pob rhybudd fe fynnodd yr Arglwyddi gael cyf- lawni mesur eu hanwiredd, taflas- ant gyllideb y bobl allan yn ddiys- tyr o'r canlyniadau, yn iaith glas- urol ? Lord Milner they damned the consequences." Ond nis gellir "hau anwiredd heb fedi blinder," ac eisoes felly mae canlyniadau'r wiethred wedi dechreu gwneyd ei hun yn deimlad wy yn y ffurf o annhrefn arianol, amcangyfrifir y bydd y golled ar- ianol i bwrs y wlad. oblegid gwrth- od o'r Arglwyddi y gyllideb dros wyth-miliwn-ar-hugain o bunnau. Posibl y gellir adfer rhyw gymm- aint o'r swm hwn, ond faint bvnag a adferir fe fydd yna wedi'r cwbl swm anferth yn anadferadwy. Heddyw ceisia'r bobl achosodd yr annhrefn hwn, ymryddhau oddi- wrth gyfrifoldeb canlyniad anoch- eladwy eu gweithred, a thaflu'r bai ar gefn y Weinyddiaeth, cyhuddant hwy o wastraffu amser, yn hytrach na'u bod yn mynd yn mlaen ar un waith i ddarparu ar gyfer y sefyllfa arianol. A barnu oddiwrth eu siarad yn bresenol, mae'r bobl yma yn fwy awyddus i ddiogelu cyllid y wlad nag yw hyd yn oed y Cang- hellydd ei hun, ac i gyrhaedd yr amcan amlygant barodrwydd i gynorthwyo'r Weinyddiaeth i basio mesur i wneyd casglu'r Dreth In- cwm yn gyfreithlawn. Ydyw mae'r wrthblaid yn ym- ddangosiadol garedig, ond hyder- wn na thwyllir neb gan eu geiriau teg, a'u rhag-ofal honiadol, nid yw'r oil ond rhan o'r party game, ymgaís yw i daflu llwch i lygaid ymgais vNv 1 I y wlad, o dan fantell o garedig- rwydd mae yna galon fradwrus, a dagr gwenwynig. Yn un peth nid yw hyn ond ym- gais i ddiangc rhag canlyniadau eu gweithred, ac yn sicr wedi i'r Weinyddiaeth eu rhybuddio yn mlaen llaw, prin y gellir disgwyl iddi yn awr eu hachub rhag y can- lyniadau, na feddylai'r bobl fynodd fyn'd i ryfel fod yn ddigon gwrol hefyd i ddioddef heb gwyno, na gwingo oddiwrth ganlyniadau'r rhyfel, nid teg ydyw gwaeddi am ryfel ac ar yr un pryd ddisgwyl cael ] mwynhau cysuron heddwch. Ac mae'n dda genym fod y Weinydd- iaeth yn gwrthod cymeryd gafael yn y gangen olewydden hon sydd ] yn cael eu hestyn i'w cyfarfod, a'u bod yn benderfynol na wnant ddim ] i esmwythau'r sefyllfa achoswyd gan my Lords," yr unig lwybr < effeithiol i argraphu ar feddwl a ] chydwybod gwerin gwlad echrys- lonrwydd y. weithred ydyw port- readu o flaen eu llygaid ganlyniad- au'r cyfryw. Ac heblaw hyn pe bai'r Weinyddiaeth yn cyfarfod a chais yr wrthblaid, a thrwy hyny yn achub y trosecldwyr rhag can- lyniadau eu gwethred, tuedd an- ocheladwy hyn fyddai oeri sel ac ymlyniad y milwyr cyffredin, a dyledswydcl gyntaf pob cadfridog ydyw gwneyd pob-peth all i ys- brydoli a thanio sel ac ymlyniad ei filwTyr, oblegid wedi'r cwbl mae'r fuddugoliaeth yn dibynu llawer cymmaint ar sel a brwdfrydedd y milwrvr cyffredin sydd yn cyfan- soddi'r rhengoedd, ag yw ar dde- heurwydd, y cadfridog. Drachefn meddylier am foment beth mae'r cais hwn yn ei olygu mewn gwirionedd. Cais ydyw i gael gan y Weinyddiaeth dorri y gyllideb i fyny yn adranau a'i hanfon i fyny bob yn ddarn i'r arglwyddi gael pasio neu wrthod yr hyn welant hwy yn dda o honi. Wrth gwrs yr ydym mor angerddol awyddus a neb i weled mesur y gyllideb wedi ei basio yn ddeddf. Pa bryd bynag y ceir etholiad, buan neu hwyr, mantais i lwydd- iant plaid rhyddid fydd bod y gyllideb ar ddeddf-lyfrau'r wlad. Oes mae ynddi bethau rhv dda i'w colli, pethau mae'r wlad yn awyddus am danynt, ac mae'n dda genym fod yr arwyddion yn bresenol yn fwy gobeithiol y pesir hi etto trwy Dy'r Cyffredin y sen- edd-dymhor presenol, ac os yw'r arglwyddi i ddibynu arnynt maent hwythau yn barod i basio'r gyllid- eb wedi iddo fod am dro yn y wlad. Ond er mor awyddus ydym i weled ei phasio yn ddeddf, gwell fuasai genym ei cholli yn gyfan- gwbl nag iddi gael ei thori i fyny yn adranau. Troi bys yr awrlais yn ol fuasai peth fel hyn. Dyrna'r arferiad yn flaenorol i'r flwyddyn 1861, anfon trefniadau arianol y gyllideb i fyny yn fan fesurau, pesid rhai, gwrthodid eraill, ac yr oedd triniaeth fel hyn yn fwy nas gallai ysbryd gwerinol Gladstone ei ddal, ac wedi brwydro caled yn y cyfrin gynghor, ac ar lawr y Ty lhvyddodd yn 1861 i gorphori holl drefniadau arianol y gyllideb i un mesur a bu raid i'r arglwyddi ei lyngcu felly, a byth er hyny maent, er yn anfoddog wedi boddloni i'r un driniaeth, fel yn cydymffurfiai'r Weinyddiaeth a chais yr wrthblaid i basio mesur i gyfreithloni casglu y Dreth Incwm. fe fuasent yn euog o fradychu a gwerthu hawlfraint, ennillwyd trwy frwydr galed, ac a drosglwyddwyd i'w gofal. Mae'r rhagorfreintiau ennillwyd trwy lafur ac ymdrech ein hynaf iaid wedi costio yn rhy ddrud, ac yn rhy werthfawr i'w gwerthu am saig o fwyd cynorthvvy ymddang- osiadol y gelyn. 0 dan rith car- edigrwydd nid yw'r cais hwn ond ymgais ddieflig o ddichellgar i geisio ysbeilio'r werin bobl o'r rhagorfraint sydd yn eiddo iddynt o gael penderfynu trwy eu cyn- rychiolwyr drefniadau cyllidol y wlad. Mae'r gyllideb yn un cyf- anwaith, ac fel y cyfryw y rhaid ei phasio, yr oil o honi neu ddim. Gwir ddywedai'r Canghellydd y dydd o'r blaen pe cydymffurfial y Weinyddiaeth a chais yr wrthblaid y teilyngent gerydd cyffredinol y ty, am y byddent drwy hyn yn euog o fradychu hawliau'r bobl. Ond drwy drugaredd maent, a hyderwn ein bod ninau, yn ormod C) hen adar i gael ein dal drwy gyfrwystra fel hyn. Yn mlaen ac aid yn ol mae bysedd awrlais rhyddid i fynd, nid gollwng gafael a gwerthu hen ragorfreintiau a hawliau drosglwyddwyd i ni gan sin tadau, ond mynd yn mlaen o'r safle ennillwyd, i ennill rhai newydd. I fynu, ac ymlaen, bo'r nod."

I 'M? bC"m. Y Pethau nid…

Advertising