Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

DIRWEST A GWASANAETH CYMDEITHASOL.

News
Cite
Share

DIRWEST A GWASANAETH CYMDEITHASOL. [GAN Y PARCH. W. LLOYD DAVIES.] YSTADEGAETH DDIRWESTOL Y CYFUNDEB, Am lawer o flynyddoedd nid oedd y cyfrifon dirwestol i fyny a'u disgwyliadau a barnu yn ol nerth Weslevaeth yn y Deyrnas. Un cyfrif am hyn ydyw, eu bod yn anghywir. Daeth y Gynadledd i ddeall fod y modd o wneyd y cyfrifon yn ddiffygiol. Mewn rhai engreiphtiau ni chyf rifid ond y personau a ardystient Ddirwest yn ystod y flwyddyn. Collem felly nifer mawr o'r rhai na chredent fod angen ardystio, neu arwyddo llyfr dirwest bob blwyddyn. Collem nifer mawr hefyd, o'r rhai oeddynt yn ddir- westwyr, er na ddarfu iddynt erioed arwyddo llyfr Dirwest yr Eglwys o gwbl. Drwy hyn, fe welir fod yr enwad dan anfantais dybryd ynglyn a'r ystadegaeth ddirwestol. Erbyn hyn mae y pwyllgor cyffredinol yn ceisio diwygio pethau, drwy syml- eiddio y cynllun o sicrhau ystad- egaetn. Gelwir eln syl w gan y pwyllgor at ddwy golofn neillduol yn y daf- len,—sef nifer v rhai sydd a'u hen- wau ar lyfr dinvest yr Eglwys, Nifer y dirwestwyr yn yr Egiwysi sydd heb fod yn aelodau o'r Gym- deithas Ddirwestol, a gawn ni erfyn am i ymchwiliad manwl gael ei wneyd i'r perwyl yma yn mhob Eglwys. Gofynwn i'r Ysgrifenwvr dirwest yn mhob Eglwys ymgyng- hori gyda'r Swyddogion, neu'r pwyllgor dirwest (dylai yr olaf fod yn ffaith yn ein heglwysi) er diog- elu cyfrifon cywir a chyflawn. Yr un modd gyda'r Gobeithlu- oedd. Ceir llu o blant drwy Gym- ru, nas gallant bresenoli eu hunain yn y Band of Hope, oherwydd pellder ffordd, ond y maent yn ddieithriad yn cyfarfod am un o'r gloch, ac yn yr Ysgol ar ySabboth. Dylid eu rhestru ar bob cyfrif ymhlith dirwestwyr y dyfodol. Erfynir am sylw manwl i'r cyf- rifon y flwyddyn hon. Gellir eu sicrhan, ond gwneyd y gwaith yn brydlon a llwyr. Cofier nad ydym am foment yn credu, mai mewn ffigyrau y mae dirgelwch ein nerth a'n llwyddiant. Na atto Duw. Ond credwn, nad anfantais yw yr ymdrechfa yn erbyn y gelyn, ydyw ymgais am gywirdeb hyd yn oed yn y pethau hyn. Mae pob dirwestwr yn werth gwneyd cyfrif o hono, fel y mae o ochr y pur a'r da, ac yn brotest yn erbyn drygau niweidiol Alcohol. UNDEB GWASANAETH GYMDEITH- ASOL. Llawenychwn fod y tair Talaeth 'I' Gymreig yn rhoddi sylw neillduol yn eu cyfarfodydd i amcanion aruchel yr Undeb uchod. Disgwvliwn y deillia llawer o ddaioni oddiwrth y mudiad. Gall- wn longyfarch ein hunain fel enwad am ein bod ar y blaen mewn rhoddi ffurf i'r diwygiad Cym- deithasol o dan gysgod nawddog- aeth yr Eglwys. Diau er hyny, fod y mucliacl yn mryd rhai, yn araf I lawn yn cymeryd ffurf gweithiad- wy ac ymarferol. Ond y cysuryw, mai dyna hanes pob symudiad da a pharhaol. Ymbwvlled y rhai svdd am adeiladu cyn gosod sy1-1 faen. Arwyddion yr Undeb ydyw, Gwelwch a Gwasanaethwch (See and Serve). Rhaid gweled cyn y gellir gwasanaethu yn* effeithiol. Cyfnod y goleuo ar argyhoeddi j geir i ddechreu, fe ddaw cyfnod j y gwasanaethu ar adeiladu yn y man. Dylid cofio mai amcan cyntaf yr Undeb ydyw deffro meddylgarwch a dyddordeb mwy byw ynom fel crefyddwyr mewn materion cym- | deithasol. O'r amcan hwn, ceir toraeth o lenyddiaeth ar bob ag- j wecld i'r pwnc. Gresyn na fuasai genym f\vy o lenyddiaeth Gymreig ar y materion, ond credwn nad yw 0..1) J..L. LI..J.l 1 \L t. A.- J. C .J I yr amser ymhell pryd y gwelir hyn yn fwy cyflredinol. Dylai ein pobl ieuangc, sydd yn awyddus am oleum ar faterion cymdeithasol. ddod i gyffyrddiad a thri peth o leiaf-set gwybod pa lyfrau ydynt y rhai goreu ar y pwnc pa fodd i sefydlu adran dan nawdd yr Undeb a pha ddull fydd y goreui weithio yr adran yn ei thiol. Bwriadwn fwrw golwg ar y pfetnau hyn, er cynnorthwy i'r ieuangc. Dechreuwn gyda'r llyfrau ar gwestiynau cymdeithasol. Mae Pwyllgor yr Undeb wedi troi allan gytrocldlada u glverthtawr ar y pwnc. Llyfrau ydynt i rhai sv'n I cychwyn cymeryd dyddordeb yn y materion dan sylw. Nis gallwn fedawl am eu rhagorach. Dines- ydd y dyfodol" (The Citizen of Tomorrow) 2s; Efrydiaethau mewn Moeseg Llafur a Threfnid- edd (Studies in Industrial ethics and Economies) 2s 6c Llyfrydd- iaeth ar Gwestiynau Cymdeithas- ol (Bible'sgraphy on Social Quest- ions) Is a dysgeidiaeth y Bibl ar y materion" (The Social teaching of the BibleY 2s. Mae yr oil o'r llyfrau uchod wedi eu dwyn allan o dan olygiaeth y Parch. S. E. Keeble, gwr sydd a'i holl egni yn ceisio taflu ysbrydiaeth drwy y cyfundeb ynglyn ar pwnc. Ceir yn y llyfrau hyn erthyglau meistrolgar gan ddynion sydd mewn llawn gydymdeimlad ar mudiad, ac yn angerddol am ddyrchafu dyn ym mhob agwedd ar ei fywyd. Dynion fel Dr. Scott Lidgett, Dr. Ballard, Dr. Maldwvn Hughes, a'r Parchn. S. E. Keebly, J. E. Rattenburg ac eraill. Dyn- ion ydynt sydd yn llwyr argyhoedd- edig mai Cristionogaeth ydyw yr unig gyfundrefn fedr sylweddoli y delfrydau cymdeilhasol. Drwy y llyfrau hyn deuwn i wybod nid yn unig farn yr ysgrif- enwyr galluog, ond cawn yn mhob llyfr, a bron ar derfyn bob pennod gyfeiriadau at weithiau clasurol gan lenorion o fri ar y pwnc cym- deithasol. Mae'r trydydd llyfr a enwir uchod wedi ei fwriadu yn gyfan gwbl i roddi gwybodaeth am bob llyfr o bwys yn y cyfeiriad. Cynghorwn holl ieuengctyd ein heglwysi i bwrcasu y llyfrau hyn, ac i'w gwneyd yn faes arbenig eu hefrydiaeth. Wedi eu darllen, ac iddynt yfed o'u hysbryd, crea awydd ynddynt i ffurfio adran o Undeb Gwasanaeth Cymdeithasol yr Enwad. Ond, gofynir sut y ffurfir yr adran? Ateb hyn fydd ein gwraith y tro nesaf.

TALAETH GYNTAF GOGLEDD CYMRU.

IAMSER GOLEU LAMPAU.

Advertising

INODION .LLENYDDOL. [