Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

TIPYN 0 BOPETH BYD AC EGLWYS.

News
Cite
Share

TIPYN 0 BOPETH BYD AC EGLWYS. Row Carnarfon.—Tynwyd sylw Mr. Churchill (yr Ysgrifenydd Cartref) yn Nhy'r Cyffredin y dydd o'r blaen at heiyntion yr etholiad yn Nghaernarfon. Gallesid tybio y buasid yn ymddiried y gwaith hwnw i un o'r ddau aelod Toriaidcl Cymreig—Mr. Ormsby Gore dyweder. Ond ymdden- gys nad oedd yr un ohonynt yn deilwng, ac Arglwydd Winterton a gafodd yr anrhy- dedd. Oer oedd croesaw Mr. Churchill iddo, ac awgrymodd y talai sylw i'r cwes- tiwn pan ofynid ef gan rhywun yn dwyn rhyw gysylltiad a Chaernarfon. Cymru yn carara ymlaeri. A r ddygwyl Dewi eleni yr oedd y Bwrdd Addysg wedi caniatau i ddarlithiau, barddoniaeth, a chaneuon gwladgarol gymeryd lie y ddysg arferol yn ysgolion elfenol Cymru y cliwr- nod hwnw. Mae y bvd yn nevvid onid yw ? Mae'r Cymro yn dechreu hel tipyn o "gon- set." chwedl Tomas Bartley. Y Tir Cyfeiliorn. Ar gynyg Mr. W. Jones, penderfynodd y Blaid Seneddol Gymreig, dydd Mawrth, bwyso ar y Llywoclraeth i benodi Pwyllgor Barnol ar unwaith i chwilio i mewn i. ac i benderfynu pobmat- er mewn dadl mewn perthynas i dir y Goron a thir comin yn mhlwyf Llandegai. Yr ydys yn cymeryd y cararau hyn mewn canlyniad i'r adroddiad pwysig a drafod- w'yd gan Gynghor Sir Arfon yr wythnos or blaen. Caim Cymru.- Y dydd o'r blaen bu Mr. Harry Evans, y cerddor, yn beirniadu ei gyd gerddorion fel awcluror. a llym iawn oedd arnynt hefyd. Dywedodd yn yrnar- ferol nad oes nemor i ddarn anfarwol wedi ei gyfansoddi yn Nghymru yn oes neb sv'n fyw. Argymellai ef gyfodi ysgol hollol Gymreig o gerddorion gwyr yn myned at hen alawon Cymru, murmur enaid Cymru Fu, am eu hysbrydoiiaeth ac nid at y ffyn- onellau tramor cyffredin. Nid ydym yn honni gwybodaeth uchel o gerddoriaeth, ond gwyddom ddigon hanes i fedru dweyd mai ar y llinellau gymhellir i sylw cerdd- orion Cymru gan Mr. Harry Evans y cododd Wagner yn yr Almaen a Grieg yn Scandinavia. A chredwn yn sicr os byth yr el calon gerddorol Cymru allan mewn neges i'r byd, mai o Gymdeithas yr Hen Alawon y cychwyna. Haedda'r gym- deithas bob cefnogaeth. Cymyd ffisig, i be ?• Dan Beth ar wyneb y greadigaeth yma rwyt t"n dal ati i gymeryd ffisig o hyd, Rhobart ? Oes rhywbeth y mater ar dy iechyd di ? Rhobart Fu'm i 'rioed yn well, machgen anwyl ond, wyt ti'n gwel'd. rnae ar fy noctor i arian i mi, ac yr ydw i'n gwbod o'r gore os na fyna i fwy o ffisig na'u gwerth nhw. wela i'r un ddima byth olionyn nhw -el I ?- n i-!i Silyn a'r Gwlith. Fel hyn. yn yr Herald diweddaf y canodd Silyn i'r Gwlith,— Cauodd amrant gwridog rosyn Dan y nos-gysgodion prudd Pan ddaeth gwawr agorodd wedyn Gyda deigryn ar ei rudd. Flaul-beh'dryn a ddisgynodd I gusanu grudd y rhos, Gwridodd yntau ac anghofiodd Ddu anobaith dagrau'r nos. Oer a phrudd yw oriau gwyllnos Bywyd dan gysgodion bedd Pan ddaw gwawr, a edy'r hirnos Ddagrau ar fy newydd wedd ? Wna goleuni net belydrau L wyr ddileu pob caddug trist ? Hyn fyeld ystyr sychu'r dagrau Ddydd datguddiad Iesu Grist? Tysteb i Lloyd George. Os bu cenedl o dan rwymedigaeth i anrhydeddu ei chym- Wynaswr erioed. credaf fod y Cymry o clan rwvmedigaeth i wneyd hyny gydar Gwir, Anrhydeddus D. Lloyd George, ac mai 3" 1-1 awr yclyw yr adeg mwyaf cyfadd- <ls I symud yn y mater, er dangos ein ?od? ?yn rhoddi gwerth ar v Gyllideb fwyaf beidd--ar, cynawn, a manteisiol i'r vdad yn 93,ffre ? a ddygwyd yn miaen gan tin h 'J h C Ü he.. "?yw Wladwcinvdd yn hanes Prvdam.  yn rhaid i bob Cyllideb yn y dvfodol tV»H ar yr un llinellau a'r Gyllideb ardderch- abf  adnoddau i p"vf- or, i1?11' o hyd i'r adnoddau i gyf- Trfr a?Sen y w?' ddylasai fod wedi eu d?r 'T? ? defnyddio er'sllawerdvdd—  b h p'oco* trymaf ar yr vsgwyddau <Vvf-v£ ""??a?'ocdd, ei egwvddorion. Pipv ??"??' ?? y??ysegriad Ilwyr i les ei N\ lad Yn uChaf ?'!??" yn haeddu yr anrhyded'd uchaf sydd yn bosibl ei rhoddi i gymwynaswr penaf y wlad. Dylem gymeryd y blaen yn y symudiad, a'i weithio allan ar llnellau gwerinol—rhoddi cyfleustra i -bawb i gyf- ranu i'r drysorfa, pa mor fychan bynag y swm. Mae y nifer yn bwysicach na'r swm. Am ffurf y dysteb, dylid gweithredu yn y modd mwyaf cymeradwy gancldo ef. Ysgariaeth a Diodta.-Y mae Dirprwy- aetli Frenhinol newydd ddechreu ystyried addylid dlw-gio'r gyfraith gyda golwg ar ysgariaeth. Ddydd Gwener awgrymodd un o'r tystion y dylid cael canolwr yn nglyn a'r llys i geisio heddychu'r pleidiau cyn dyfod a r achosion gerbron y barnwr. Dengys fFigyrau fod ysgariaethau yn cyn- nyddu o flvvyddyn i flwyddyn, a bod 40 y cant ohonynt yn digwydd pan fydd y pleidiau wedi bod yn briod am rhwng deg ac ugain mlynedd. Gwna rhai o brif farn- wyr ei Fawrhydi dystio hefyd pe gellid cau drysau y Tafarndai y gellid cau drysau llysoedd yr ysgariad yn ogystal. Tysteb arall.—Y mae mudiad yn ardal Merthyr Tydfil i wneyd tysteb i Mr. Edgar Jones, A.S., yr aelod newydd dros y lie. Hvderwn y bydd yn llwyddiant, canys y mae Mr. Jones yn aelod addawol iawn, yn areithiwr anghyffredin, ac yn werinwr trwyadl. Gellir ei restru yn mhlith dynion ieuainc mwyaf addawol y blaid Gymreig, a dylai Cymry wneyd yr oil a allent i gefnogi dynion fel efe. Nid oddiwrth gyfoethogion a thirfeddianwyr y mae Cymru i ddisgwyl cymwynasau. Jonathan a John Bull.—Nid yw y papyrau Americanaidd yn dangos rhyw barch mawr iawn i'r Sais bob amser. Dywed un ohonynt, wrth sylwi ar ganlyn- iad yr etholiad ddiweddaf: "Y mae John Bull bob amser yn asyn, ac weithiau yn dipyn o fochyn hefyd." Dyn a helpo Jphn Bull! Pe gwelai ei hun fel y'i gwelir gan ereill ni byddai lawn cyn uched ei gloch. Gwyl Llafnr.—Deallwn fod Undeb y Chwarelwyr wedi llwyddo i sicrhau gwas- anaeth Mr L. G. Chiozza-Money, cyn-aelod Seneddol dros Paddington N., Llundain, ac aelod o Bwyllgor Gweithredol y Fabian Society, i'w hanerch ar yr Wyl Lafur flyn- yddol a gynhelir eleni ar yr ail o Fai yn y Pavilion yn Ngharnarfon. Rhaid bod yn Ymneillduwr,—I Merthyr y perthyn yr anrhydedd o fod yr etholaeth gyntaf yn y Dywysogaeth i osod i lawr fel polisi i'w haelod fod yn rhaid iddo fod yn Ymneillduwr. Penderfynwyd ar hyn yn 18(57,mewn cyfarfod dros yr hwn y llywydd- ai Mr. Charles Herbert James, yr hwn a fu wedi hyny yn A.S. dros y fwrdeisdref. Nid oedd gymaint ag un Ymneillduwr yn cyn- nrychiol i Cymru yr adeg hono yn Nhy y Cyffredin. Kitagorcldeb Gwartheg Cymru.- Dywed y Proffeswr Winter, Adran Amaethyddol Coleg Bangor, fod y gwartheg yn y rhenc flaenaf fel rhai i'w pysgi, er eu bod yn arafach yn pesgi na rhai mathau. Ond nid oes eu hafal am besgi ar dir pori neu dir glas. Gyda golwg ar gynnyrch eu llaeth amheua ef a oes gwartheg mewn unrhyw ran o Brydain ynl cynnyrchu cystal llaeth ac ymenyn. Rheolwyr Coleg y Brif-ysgol.-Y mae Miss H. M. Bonsfield, M.A., Ysgol Sir Gen- ethod, Bangor, a Mr J. W. Philipson, M.A., Ysgol Sir, Caernarfon, wedi eu hethol yn gynnrychiolwyr meistri a meistresi Ysgol- ion Sirol Goledd Cymru ar Lys Llywodr- aethwyr Coleg prifysgol Bangor. Dim rhwn g y c l u,t i au. Dim rhwng y clustiau. Gellwch dewi pan y mynoch," meddai barnwr Gwyddelig un tro wrth ddadleuydd oedd yn traddodi araeth hir iawn yn y llys, y mae'r cwbl a ddywedwch yn myned trwy un glust, ac allan trwy y llall." Mewn moment, ateb- odd y dadleuydd ffraeth ef: "Nid wyf yn synu dim at hyny, obegid nid oes bron ddim rhwng eich clustiau i'w attal. Pwy Bia'r Drwydded ?—Ar hyn o bryd '? 7--Ar hN n c, bi-cl nis gwyr neb. Maine drwyddedol Lerpwl, mae'n debyg, fydd yn penderfynu—o leiaf yn cychwyn penderfynu y mater. Gallesid meddwl mai y trwyddedydd bia'r drwydd- ed. Deil eraill mai eiddo perchen y ty yd- yw: ac fel rheol y briwydd yw hwnw. Parodd marwolaeth rheolydd tafarndy yn Lerpwl i'r mater ymwthio i sylw. Ym- ddengys fod rheolwyr tafarndai briwydd- ionyn cytuno pan elwir arnynt i ddych- welyd eu trwyddedau yn ddiymdroi ond yn yr amgylchiad y cyfeiriwyd ato, ni fyn- ai gweinyddwyr y trwyddedydd trancedig gynnorthwyo dim nes derbyn o'r weddw iawn teg gan y darllawvr. Dangoswyd i gynnrychiolydd y cwmni fod y drwydded wedi ei rhoddi i berson unigol, ac nid i gwmni o friwyddion a thia y gallai fodd- loni yr ynadon a'r heddlu gallai ef neu ei weinyddwyr ddal y drwydded ar waethaf llon'd byd o gwmniau. Ni raid dyweyd fed y darllawyr wedi dychryn, canys y mae dros hanner tafarnau y ddinas yn eiddo'r darllawdai. Bydd dedfryd y Fainc ar y mater hwn yn gyfartaI bwysig i ddedfryd enwog Sharp v. Wakeneld. Hen Wron tan ei Lirfaii.Y Parch Evan Edwards Torquay, ydyw y gweinidog Ymneiilduol hynaf yn v wlad. Cyrhaedd- odd ei 95 mlwydd ar y lijfed cyfisol. Mae yn cofio Williams o'r Wern, John Elias, Christmas Evans, Ebenezer Morris, a'r to hwnw o bregethwyr yn dda, MesurlDadblyglad y Tir.—Fel y gwyddis mae Mr. Lloyd George wedi darparu trwy y mesur uchod fod 250,000p yn cael eu troi o'r neilldu yn flynyddol er dadblygu am- aethvddiaeth yn y wlad. Ac er nad yw iCymdeithasau amaethyddol Lloegr wedi rhoddi nemawr gefnogaeth i'r Llywodraeth i ddod a mesurau o'r fath yma oddiam- gylch, maent yn dra phrysur ly dyddiau diweddaf yma yn cyfarwyddo y Llywod- raeth sut i'w gwario. Siaredir yn gryf yn erbyn rhoddi dim o'r arian hyn i amcanion addysgol, gan yr honir mai gwaith yr awdurdodau addysgol yw paratoi vcyfryw. Teirnlir hefyd fody Gwyddelyn cael llawn ddigon o'r Llywodraeth i amcanion am- aethyddol heb iddo bwyso dim ar adnodd-' au ygronfahon. Ymddengj-s y pennodir yn fuan ddirprwyaeth o bump i ddosbarthu y gronfa hon. Darperir i gael ciniaw a chynhadledd fawr yn Llundain i roddi cyfarwyddiadau i'r ddirprwyaeth gyda golwg ar defnyddio yr arian. Gwneir y gynhadledd i fyny o gynnrychiolwyr Sen- eddol gwahanol ranbarthau amaethyddol, cynnrychiolwyr y cymdeithasau amaeth- yddol, prif amaethwyr y wlad, ac ereill sydd yn teimlo dyddordeb mewn am- aethyddiaeth. Mae Cymru wedi bod yn dra chysgiyd fel arfer i r darpariadau hyn, ac onicl yn awr yw yr amser i ni ymddeffro a gwneyd ein hangenion yn hysbys i'r ddirprwyaeth. Nid oes un rhan o'r I deyrnas yn meddu ar fwv o angen a phosibilnvydcl yn y cyfeiriadau hyn na Chymru. Hvderwn y cymenr y mater i fyny yn effeithiol. Chwarelau a Llechi Cymreig.—Y mae y Bwrdd Llywodraeth Leol (Werddon) ar ol archwilio samplau o wahanol lechi wedi ysgrifenu at ysgrifenydd Cym- deithas Perchenogion Chwareli Ffestiniog yn datgan eu cymeradwyaeth o'r llechi at doi bwthvnod ilafurwvr. Y mae y Bwrdd hefyd wedi condemnio defnyddio y llechi gwael a anfonir o Ffrainc, ac wedi rhoi gorchymyn nad ydys i'w defnyddio i doi bwthynod a adeiladir o dan y Ddeddf. Y mae cynnyrch y chwarelau Cywreig wedi lieihau 174.000 o dunelli yn flynyddol yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Yn ystod yr amser yma y mae pymtheg o chwarelau wedi eu cau. Yn .1899 yr oedd 4343 o chwarelwyr yn gweithio yn chwarelauFfes- tiniog, deng mlynedd yn ddiweddarach yr oedd y nifer wedi myned i lawr i 2394, llei- had o agos i gant y cant. Llechi a Royalties.—Dywed y "Slate Trade Gazette" fod chwarelyddiaeth yn Ngyhmru dan anfantais am fod perchenog- ion chwarelau fel Arglwydd Penrhyn yn hawlio "royalties mor fawr, ac y dylai y y chwarelwyr Cymreig hawlio gwell amod- au llafur, ac ychwanegiad mawr yn ei cyf- logau. Y mae yn chwerthinllyd fod y dyn- ion sy'n gwneyd y llechi (a gwaith caled a pheryglus(ydyw), yn gorfod gweithio am rot i bum ceiniog yr awr, tra y mae y towyr yn derbyn naw ceiniog a deg ceiniog yr awr. Y Cymro yn curo'r Ysgotyn.—Wrth son am gydymgeisiaeth yn y fasnach lechi elyweel y Scotyn fod y fasnach yn yr Alban wedi ei difethagan lechi Cymru, Westmore- land, a Cumberland. Nid yw cydymgeis- iaeth dramor yn werth i son am dano, meddai. Dywed fod llechi'r Alban yn fwy parhaol ac yn ddrutach mewn rhai achos- ion na llechi Cymru fod y llechi Cymreig yn feddalach ac yn haws i'w gweithio fod y ehwarelwyr Cymreig yn cael llai o gyflog na'u brodyr yn yr Alban ac fod cyfiogau chwarelwyr yr Alban wedi eu gostwng oherwydd y gydymgeisiaeth annheg yma. Beirniadu'r Sais.—Yn ddiweddar bu Almaenwr o'r enw Herr Zeiter drosodd yn y wlad yma yn edrych i fewn i'n trefniad- iau yn nglyn ag amaethyddiaeth. Dywedodd wirioneddau sydd wedi codi ystorm o wrthwynebiad yn nghylchgronau amaethyddol Lloegr—y rhai a berchenog- ir ac a lywodraethir gan mwyaf gan berch- enogion tir a thenantiaid mawrion-pobl sydd wedi defnyddio eu holl allu y mis- oedd diweddai yma i nychu darpariadau y Llywodraeth Ryddfrydol i ysgafnhau beichiau man denantiaid a gwella byd gweithwyr amaethyddol yn gyffredinol. Dywedai Zelter mai nid prisiau isel am y cynnyrch, yn gnydau ac yn dda byw, yw y rheswm nad yw sefyllfa amaethyddol Lloegr yr hyn a ddylai fod, ond y cynllun tirol sydd yn y wlad yma yn galluogi yr ychydig i ymbesgi mewn meddiant o'r holl dir, a'i ddefnyddio yn fynych ar eu hyf- rydwch a'u pleserau eu hunain ac nid er budd uchaf y wlad. Dyma y rheswm rydd ef dros nad yw cynyrch ein tiroedd mewn gwenith a haidd yr hyn ddylai fod. Nid yw y bobl sydd yn meddiannu'r tir yn meddu unrhyw serch at y gelfyddyd o drin y ddaear yn briodol, ond troant hi i'r amcan o ddwyn i fyny ryw ychydig o an- ifeiliaid i wneyd enw iddynt eu hunain. 0 ganlyniad nid yw y tir yn cael ond ychydig o wrtaith naturiol, ond boddlonir ar wneyd ryw arbrawfion ar wrtaith celf- yddydol. Ac yn fynych mae elw'r cwrnni neu'r gwr a fo yn cynyrchu y gwrtaith hwnw yn bwysicach na lies gwirioneddol y tir. Casgliad terfynol yr Almaenwr yw nad ydyw y Sais wedi ei eni i amaethu y tir. Nid oes ganddo mo'r gallu. Rhydd air da iddo fel bridiwr a phesgwr anifeiliad, a gallasai ychwanegu penod arall ar fedr a mantais y Sais i fwyta y da pasgedig. Elw ar fwg.Y mae yr Imperial Tobacco Company wedi elwa drwy werthu tybacco yn y flwvddyri oedd yn diwedeluHyelref 1908, y swm aruthrol o dros ddwy filiwn o bunau Er gwaethaf y dreth drom arno y mae tybacco yn tali-i yn dda i'w wneuthurwyr. Y fath wastraff yw'r swm werir ar fwg mewn blwyddyn Talu Aelodau Seneddol.—Pan y daw, nid peth newydd a fydd hyn, oblegid cyn adeg y Stuartiaid, telid cyflog rheolaidd i ael- odau seneddol gan eu hetholaeth am eu gwasanaeth drostynt. Rheithior Meifod.—Cynnygiodd Esgob Llanelwy fywoliaeth bwysig Meifod, sir Drefaldwyn, yr hon aeth yn wag trwy farwolaeth y Parch. Wilym Jones, i'r Parch. Evan Thomas, rheithor Llanfair Tal- haiarn, yr hwn sydd wedi ei derbyn. Bu Mr. Thomas yn gwasanaethu fel ciwrad yn Nghastellnedd a Llangollen. Gadael Rhiwabon.—Cydsyniodd y Parch. T. Arthur Thomas, Rhiwabon, a galwad unfrydol dderbyniodd odcli wrth yr eglwys Annibynol yn Dogley Lane, Kirkburton, ger Huddersfield. Bwriada ddechreu ar ei ddyledswyddau yno Mai Rfeci. Wiw Priodi Fis Mai.—Wrth gyfeirio at ofergoeledd, dywedai LIew Tegid, yn ei araeth ddyeldorol, fod crediniaeth yn ffynu fod priodasau ddathlwyd yn mis Mai yn amwcus. Wrth gwrs,' meddai, nid oedd y boneddigesau ieuaingc yn credu y fath feddylddrych ffol; ond etto, nid oeddynt am briodi yn y mis hwnw.' Yr oedd ystadegau a gasglodd ef yn Mangor am y flwyddyn ddiweddaf yn profi yr honiad, o blegid yn yr oil o'r misoedd- gyda'r eithriad o'r un a dybid oedd yn anIwcus-yr oedd 22 o briodasau wedi cymmeryd lie, tra yn lVlai nid oedd nifer y priodasau ond tua hanner y rhif hwnw. Cadw eu gair,—Disgwylir y bydd pob un o'r Chineaid wedi gadael y Rand yn Ne Affrig erbyn y cyntaf o Fawrth. Dyma eto un o orchestion Rhyddid. Y mae dros haner can' mil ohonynt wedi eu hanfon gartref i China, yn ol o'u caethiwed. Gweinidog Amaethyddol Cymreig.— Perthyna i'r Chamber of Agriculture yn Sir Fynwy dros saith gant o aelodau. Gwneir cais cryf ganddynt hwy am i'r Llywodraeth benodi Llywydd arbenig i Gymru ar Fwrdd Amaethyddiaeth. Credir v deiliiai bendith i ffermwyr a thir- feddianwyr y wlad pe-'ceid hyn. Go lew Jack.—Y mae gan un o'r enw Hayward aelod o Frigad TanddiffocldVivr Wells gi o'r enw Jack sydd wedi casglu dros bum' cant o bunau mewn pum' mlynedd at Ysbyttai a sefydliadau cyffelyb yn y dref. Y mae y ci a'i berchenc-g wedi crwydro dros ddeng mil o filldiroedd i gasglu y swm mawr yna oddiar gerddedwyr, ac y mae y rhan fwyaf o'r swm yn cael ei wneyd i fyny o geiniogau. Sefydlu'r Ficer.—Yn Eglwys Crist, Glyn Ebbwy, ddiwedd yr wythnos o'r blaen, cyflawnwyd y seremoni o osod Parch John Evans, B.A., diweddar o New Tre- degar, yn ficer yr eglwys hono, ei chario allan. Cymmerodd amrvw glerigwvr ran yn y gwasanaeth. Peth Od, a MarvvoI. Yn ol y News, y dydd o'r blaen, gosododd Gwydd- onydd gerbron Awdurdodau Milwrol Pryden gynlkm i ddifetha bywyd, sydd, os yw yn wir, yn rhwym o wneyd rhyfel yn anmhosibl. Tra yn gwneyd arbrofion gyda'r X Rays, er mwyn gwybod paham yr cedd rhai o'r pelydron yn cynhyrchu effeithiau mor niweidiol, daeth v Gwydd- orurdd i ddeall fod rhai o'r pelydron mor ffyrnig ac irad, fel y gellid eu defnyddio i ladd byddinoedd cyfan. Honnir fod yr arbronon eisoes, yn dangos y gellir troi y pelydron hyn ar anifail fyddo bedwar milldir i ffwrdd, yr hwn pan y cyffyrddant ag ef a syrth yn farw ddisyfyd. Honna v darganfyddwr y gallai ddifetha tyrfa 0 bobl yn yr ystryd, ac na byddai neb a allai olrhain eu tranc. Os gwir, arswydus onide ? Mae'r Awdurdodau Milwrol yn chwilio'r mater. X Ray scare fydd' y nesaf. Sut bynnag os bydd hyn yn ben ar ryfela, da iawn. Y Byd mewn Cynhadledd.- Yn Mehefin nesaf, yn ninas Edinburgh, cynhelir cyn- hadledd Genhadol, gynrychioliadol o'r holl fyd. Gwir nad hon fydd y gyntaf o'r fath, eto, o ran maint a phwysigrwydd bydd ymhell tuhwnt i'w holl ragflaenor- iaid. Yn New York, ddeng mlynedd yn ol, y cynhaliwyd yr olaf. Honna y Pwyllgor fod yna yn holl ranau yr Eglwys, argy- hoeddiad ayfnach yn nghylch ein rhwym- edigaeth i'r byd paganaidd, ac ynghylch aruthredd y gwaith sydd genym ei gyf- lawni. Gwneir popeth ellir i ddangoV y gwaith yn ei holl fawredd, ac i ymholi yn nghylch effeithiolrwydd y cyfryngau a arferir. Deled Dy Deyrnas. "Bydded" Duw.—Fel hyn y canodd JC H. Jones, yn 1 Drws Agored, i r Bydded Mawr.— Cwsg, 0 Wagle (ebe'r Duwdod), Yn dy esmwyth gtyd Carwn allu dy anwylo, Ond mae arnaf ofn dy ddeffro Cwsg fy maban mud, Ond ryw fore fe'i cusanodd— Cusan bydded Duw, Cododd gwrid i ruddiau'r cread Fflachiodd bywyd yn ei lygad Baban effro yw. Paid a chysgu cadw'n effro Effro—bywyd yw Tlysni gau yw'r tlws sy'n huno Tlysni gwir yw'r tlws sy'n effro Bythol dlysni Duw. Hogan goch.-Y mae geneth ieuanc wedi anfon i'r Lleuad Gymreig" i ofyn am gynghor pa fodd i newid lliw ei gwallt, oherwydd fod pob llanc ieuanc o'r bron yn ei galw yn hogan goch." Y mae yr hen wr Gruffydd Jos yn ateb ac yn ei chynghori i fyned yn gyfoethog, y bydd pob llanc wedi hyny yn dyweyd A dellt aur y-vv dy wallt dl."

GOHEBIAETHAU. I

Advertising

TRE'RDDOL. I