Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD.

News
Cite
Share

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD. CAN NEMO. PEXNOD VI. I JAC BRONFOEL. I Fel y nodwyd eisioes, Jac Bronfoel oedd yr unig un ymhlith y rhai oedd yn cneifio ym Maesneuadd heb ymurvo a'r eglwys, yn ystod y Diwygiad grymus a deim- Iwyd yng nghymdogaeth Abernodwydd yn nechreu y flwyddvn. Yn wir, nid oedd ond dau arall yn yr holl ardal heb blygu i'r dylanwad Dwyfol pan oedd awelon myn- ydd Seion yn chwareu dros wyneb Cymru ben-bwy-gilydd yn nechreu y fiwyddyn 1005, sef hen wr TyntwII a'i briod oeddynt yn trigianu mewn tyddyn bychan yng -i- i ngwr uchaf y Cwm. Yr oedd y ddau hyn yn ddiarebol ar gyf- rif eu bydolrwydd, ni roddent eu bryd ar ddim ond ymgrafangu am arian, yr oedd y byd a'i bethau wedi cael y fath afael arnynt, nes peri iddynt golli eu dyddordeb ymhob peth a berthyn i'r byd anweledig. Nid elai yr un o'r cldau i le o addoliad ddydd yn fiwyddyn, oddieithr ar ddydd eladdedigaeth rhai o'u cymydogion ac i gyfarfodydd Diolchgarwch am y Cynhau- af, elent i'r tri moddion gweddi a gynhelid yng nghapel Abernodwydd y trydydd Llun o Hydref bob blwyddyn, ac hefyd i gyfar- fod Diolchgarwch Eglwys St Cuthbert. Mae yn debyg mai eu paganeidd-dra a'u hofergoeledd a barai iddynt fyn'd i le o addoliad ar yr adegau hyn, rhag ofn i'r Brenin Mawr eu cospi am eu haniolchgar- weh y cynhauaf dilynol. Dywedai rhaifod Shion Rhys wedi mentro peidio myn'd un flwyddvn a boddloni ar anfon yr hen wraig i ddiolch drosti ei hun ac yntau, er mwyn iddo ef aros adref i godi tatws ond blwv- ddyn i'w chofio fu yr un ddilynol yn Nhyntwll, bu pedwar o loi farw, syrthiodd buwch werthfawr iddynt dros glogwyn yn un o'r ffriddoedd, torodd caseg iddynt ei choes pan ar ganol magu llwdn, cawsant gynhauaf difrifol o ddrwg i'w gwair, ac aeth ei hyd ar dân trwy i ddau grwydryn aeth i gysgu i'r Ysgubor trwy ryw anffawd neu gilydd ei danio llosgwyd un o'r ddau yn golsyn yn yr oddaith. Wedi hynny, elai y ddau i'r cyrddau Diolchgar- Kvch yn ddifeth. Gobeithiai ajgweddiai llawer y delai y ddau i lechu i gysgod y Groes yn ystod y Diwygiad. Gweddiai rhai drostynt yn gyhoeddus wrth eu henwau, ac aeth nifer o'r bobl ieuainc mwyaf brwdfrydig i Dyn- twll i gynnal dau gyfarfod gweddi; ond ni ddaeth Shon yn agos atynt yr ail noson, a rhybuddiodd ei wraig hwy beidio dcd yno drachefn i gadw swn. Nid oedd Jac Huws, Bronfoel, mor an- obeithiol. Arferferai ef fynd i'r capel yn rheolaidd i'r Ysgol Sul, ac i oedfa'r nos, a dechreuodd fynd yn gyson i gyrddau'r diwygiad, hyd nes y bu i Rolant Evans, y Saer, weddio drosto wrth ei enw a dweud gryn dipyn o'i hanes wrth gyfarch yr or- sedd digiodd Jac yn aruthr wrtho am hyn, cododd o'i set, ac aeth allan mewn drwg dymer, ac nis gellid ei gael i'r Capel wedi hyn. Bu William Jones yr Hendre. yn Maesneuadd ami i dro yn ceisio ei ber- swadio i ddod i "foddion gras, ond rhywbeth yn debyg oedd yr atebiad gai pawb. Meddai wrth William Jones un diwrnod, Dod i'r capel wir, i gael fy in- sultio gan hen glymach fel Rolant yna, pa fusnes oedd ganddo fo i fynd i ddweud fy hanes i ar goedd gwlad, fasa raid iddo byth fynd i'r drafferth o ddeud wrth y Brenin Mawr, mi wn i yn eitha y gwyr o fy hanes i yn rhy dda, ac mi wyr i hanes ynta hefyd, yr hen ragrithiwr iddo, y fo sydd mor barod i siarad a dysgu pobl erill, hefo'i hen yspryd crintachlyd ac yn chwilio am gyfle i dwyllo rhywun neu gilydd bob dydd yn ei waith ac mewn bargen, ac yn llymeitian yn nhafarnau ydrebob dydd Iau,acyn amlach an hyny, yn mynd i weddio ar goedd drosta i wir, gweddied drosto ei hun, mae ganddo ddigon o job, rhad arno. Gan mod i wedi dechra waeth i mi orffan deud be ydyw i yn i feddwl am y diwygiad yma. 'does na ddim amheuaeth ar fy meddwl i nag oes yna rwbath rhyfadd yn y wlad y misoedd yma, a (icuoy gwir William Jones mi ddoth yna rwbath rhyfadd drosta i ddechreu'r flwyddyn, mi eis i i'r Angel am beint, fel y byddwn ni yn arfar ar nos Sadwrn, ond fedrwn i ddim i dwtsiad o pe taech chi yn rhoi pensiwn i mi, mi dreias i yfed o, dwn i ddim sawl gwaith, a gwr y ty yn misio gwbod beth oedd y ma tar, mi ddyliodd nad oedd gen i ddim pres i gael ail lasiad, ac mi ddeudodd am i mi frysio i gael glas- iad arall, y tretia fo fi, ond rhoi gora iddo fo ddaru i mi, ac mi neis esgus i fynd i'r stryt, fod yna rhywun yn chwibianu o'r tu allan," ond taswn ni yn deud y gwir o'r tu fewn yn fy nghydwybod i yr oedd rhyw- beth yn chwibianu ac yn rhuo hefyd o ran hyny. Fam i byth yn yr Angel wedi hyn. Mi ddois i i'r Cyfarfod Gweddi i'r capel, yr oedd yno le rhyfadd, ac mi fu jest i mi a rhoi fy hun i fyny y noson honno, ond gwrthod wneis i, ac un peth ddaru effeithio arna i oedd clywad pobl yn cym- eryd mantais ar i gweddi i godi crampia ar i gilydd, mi wyddwn i nad oedd hi ddim yn rhyw dda iawn rhwng rhai o bobl y capel yma a'u gilydd, ond hen dro shabi oedd i rai ohonyn nhw "gymeryd mantais ar i gweddi i dalu hen scores îw gilydd. Roedd cly wad rhai ohonyn nhw yn dweud wedi cau 1 llygid betha na feiddia nhw mo'u deud nhw a'u llygid yn agorad yn fy ngyru i o fy ngho. Heblaw hynny, v mae y syniad fod aeloda yn yr un eglwys. Ie, a blaenoriad yn essta yn yi un set fawr yn genfigenus o'r naill a'rllall ac yn crioi a thraflvncu i gilydd fel mae'r Salmydd yn deud y peth rnwya plentynaidd a phechadurus y clywis son am dano 'rioed, beth tybad fasa lesu Grist yn i wneud tasa fo yn dod i'ch set fawr chi a gweld Rolant Evans ac Ifan Gruayckl y Go yn edrych fel dau Dwrc ar i gilydd. ac wedi bod felly er's tua deng mlynadd, ac wedi rhoi mwy o waith nursio i'ch chi na'r gweddill o'r eglwys hefo'i gilydd. synwn ni ddim, tae'n ni'n gwbod y cwbwl nad y rheswm dros fod y'ch gweinidogion chi yn newid mor amal ydi, 1 bod nhw'n laru a'r ddan- dlo'r ddau hen cranci croes, ac yn teimlo i bod nhw'n colli amsar hefo'r ddwy hen ddafad gcrniog yma sydd yn y gorlan a ddylai yr wyn bach gael; mi wn i heth wnai yr lesu tasa fo yn dod acw, yr un peth yn union a wnaeth o yn y Tabarnacl stalwm, gneud chwip o fan reffyna a'u slasio nhw allan i'r stryt wn i am ddim sydd yncaclw cymint o rai fel y fi am bath rhag dod i'r Siat na gwelad peth fel hyn mewn eglwys, ac mae'r ddau yn meddwl mynd i'r Nefoedd mae'n debv g, p'le gebyst y medr y Brenin Mawr i rhoi nhw yno dwn i ddim, ,ond rhan hynny wela nhw byth mo'r Nefoedd mi wn i ddigon o fy Meibl i fod yn siwr o hynny beth bynag. Mi wn i yn iawn be dach chi mynd i ddeud, na waeth i mi befo sut y mae pobl erill yn byw, ond waeth heb siarad, rhaid barnu gwerth crefydd fel phopeth arall oddiwrth i dylanwad ar y bobl sydd yn i phroffesu hi, mi wn i fod y rhan fwya acw, fel chi a mistar, yma yn byw y grefydd ydach chi yn i phroffesu, ond does dim modd i rai gweiniad fel fi beidio cadw yn ol tra y bydd hen grefyddwyr yn ymrafaelio a'i gilydd fel y ddau yma." Ymdrechodd William Jones ei ddarbwyIlo,a danghosodd peth mor ynfyd fyddai i deulu Noah wrth- od mynd. i'r Arch gynt am fod yno frain a jackdaws, ond thyciai yr un dadl gyda Jac Bronfoel, ac ni welwyd arwydd arno fod Duw a byd arall yn cael lie o gwbl yn ei feddwl hyd nes y caed yr ymddiddan am y Cyfarfod Pregethu yng Nghorlan Maes- neuadd ar y diwrnod cneifio. Tawedog ydoedd fel y sylwyd i derfyn y dydd. Caed rhagor o son am y pregethau yn ystod y iprydnawn, ond ni ddyweddodd Jac fawr wrth neb oni apelid ato yn uniongyrchiol. Cyn gwahanu, cyrhaeddodd modryb y Beibl Teuluaidd i William Jones, a dar- llenodd yntau y drydedd bennod ar-ddeg- a-deugain yn Esaiah. Pan ddaeth at y seithfed aclnod, "Fel oen yr arweinid ef i'r lladdfa, ac fel y tan dafad o flaen y rhai a'i cneifiai. felly nid agorai yntau ei enau," ochneidiai Jac yn ddwys a meddianwyd pawb yn yr ystafell a rhyw deimladau rhy- fedd a dieithr. Wedi dod i derfyn y bennod arweinwyd mewn gweddi gan Griff Aber- deunant, a theimlem i gyd fod y Nefoedd a'r ddaear yn hynod o agos i'w gilydd y munudau hynny. Ymwahanodd y cwmni ond nid oedd Jac am fynd i'w canlyn, eisteddai gyda'i ddwy benelin yn gorffwysar y bwrdd tu ol hwn yr eisteddai a'i wyneb wedi ei ddarn- guddio gan ei ddwylaw ysgyrniog. Toe daeth fy ewythr at y drws a galwodd arno a gofyn iddo fynd i'w ganlyn i hebrwng y defaid i'r mynydd. Mi a i fy hun os ca i meddai Jac, "O'r goreu dos ynte" meddai yntau a chofia gau Ilidiart y mynydd ar dy ol, y mae i ti groeso i aros yma dros y cynhaua os leici di, mi setlwn ni am y cyflog yfory." Waeth gen i befo'r cyflog ebra Jac," os ca i aros yma." Dod- odd dafell o fara a thipyn o gaws yn ei logell, cododd oddiwrth y bwrdd ac allan ag ef at y gorlan. Ymhen ychydig funudau gwelais ef yn ymyi Ilidiart y buarth yn tynnu y bara a'r caws o'i logell ac yn galw ar Pero y ci, ac yn estyn tamaid iddo. Ymbrancai y ci o lawenydd, yn y rhagolwg mae'n debyg, o gael ail gysylltu cyfeillgarwch a hen gyfaill mwyn a dorwyd am rhyw chwech wyth- nos. Yn fuan diflanodd y defaid a Phero a Jac o'r golwg ac elai brefiadau y defaid a'r wyn, cyfarthiadau Pero a Dal draw Jac yn wanach, wanach, bob yn ychvdig, nes o'r diwedd chlywid dim o'u swn. Cymerwyd eu lie gan swyn tyrfa o adar, y rhai a beraidd byncient am y mwynaf yn y llwyni cyfagos.fel pe buasaiganddynt ol- ddyled i'w thalu ar ol dyddiau byrion a drycinog y gauaf cynt. Buwyd yn disgwyl yn hir am ddychwel- iad Jac a Pero, ond o'r diwedd deuwyd i'r casgliad fod Jac wedi mynd i Bronfoel, gan gymeryd y ci i'w ganlyn, ac aethom oil i orffwys gan adael drws y cefn yn ddiglo i'r gwas a'r ci ddod i'r ty os mai dyna eu bwriad. Ond ni ddychwelodd Jac y noson honno i Bronyfoel nag i Faesneuadd. Cau- odd Ilidiart y mynydd, ac arhosodd yno yn ymdrechu gyda Duw nes torodd y wawr ar ei enaid. Ni fu neb ond Pero yn llygad- dyst o'r ymdrech beth bynag ddigwyddodd yn y mynydd, tynhaodd y cyfeillgarwch rhwng y ci a'r gwas ac anodd eu gwahanu oddiwrth eugilydd. Credafy gwii Ile bu'r ymladdfa, sef vnghysgod clogwyn ysgyth- rog a elwir y Gyrn, canys sylwais fwy nag unwaith, pan fyddwn yn y mynydd gyda Jac, y gwnai rhyw esgus i alw yn y fan honno, ac os y tybiai nad oedd neb yn sylwi arno disgynai ar ei liniau i adnew- yddu y cyfamod a wnaeth a'i Dduw. ran goaoaa teuiu Maesneuaaa aranoeth y cneifio, yr oedd Jac a Pero wedi cyr- haedd. Yr oedd gan bawb ohonom ddigon o synwyr ysprydol i beidio gofyn cwest- iynau. Nid oedd angen holi, yr oedd rhyw ddisgleirdeb Dwyfol yn wyneb Jac, yr hwn a'n hadgoffai am wyneb rhywun arall fu yn y mynydd gyda Duw mewn cwr o Arabia, oedd mor ddisglaer fel nas gallai y bobl edrych arno. Nid oedd wyneb Jac ond arwyddlun o'i fywyd dilynol, disgleiriai ei lwybr yn oleu- ach oleuach byth oddiar hynny. (I barhau.)

I ,., LLITH r,O'R 11, AMERICA..

PORTHFR PRAIDD.

-__.- - - . YR EGLWYSI RHYDDION…