Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

LLANFAIRTRLHAEARN.

PENMAENRHOS.I

SOAR, CYLCHDAITH COEDPOETH.

coSOAR, RHYL..

f KODION 0 HARLECH.

News
Cite
Share

f KODION 0 HARLECH. I Gan BARDD CRWYDRAD. Y mae genym yn gyntaf oil i longyfarch Y GWYLIEDYDD NEWYDD i'n plith. Nid oes yma ond canmoliaeth ddigymysg iddo, yn ei ffurf, ei bapur, a'i gynwys. Credwn ei fod, ac y bydd yn anrhydedd ini fel enwad. Dyma fel y canodd un o feirdd y cylch am ei ymddangosiad cyntaf. Am hir oes boed mewn mawrhad Yn arweinydd i'r enwad, Yn ddidwyll newyddiadur; Wrth ein bodd, a'i iaith yn bur, I ni ar ben arlwy iach Heb ball a roddi bellach, Yna ei fawl, ai enw fydd Yn oludog WYLIEDYDD." Ar ol yr ystorm etholiadol, distawrwydd i raddau sydd yn teyrnasu yn y cwr yma o'r byd. Da genym ddweyd i ni fel Wes- leyaid ddangos pob ffyddlondeb i'r achos Rhyddfrydol. Darfu i bob un o honom sydd yn meddu pleidlais sefyll yn bur tros ein hegwyddorion. Cymerodd y Parch Daniel Williams, ac loan Glan Menai, eu lie yn amlwg yn y cyfarfodydd cy- hoeddus amryw weithiau. Nos Iau, Chwefror 18, cynhaliodd y gan- gen hon o'r Feibl Gymdeithas ei chyfarfod blynyddol. Y cynrychiolydd ydoedd, y Parch Wynn Evans, Machynlleth. Dechreu- wyd gan IoanGlan Menai,llywydd y pwyll- gor Darllenwyd Report gan yr Ysgrifenydd, a da oedd genym ddeall fod yma gynydd sylweddol wedi bod mewn cyfraniadau er y blynyddoedd o'r blaen. Prawf hyn fod yr eglwysi yn fyw i'r achos da yma. Caw- som anerchiad rhagorol gan y Cynrych- iolydd. Nos Fercher, Chwefror 23ain, yn Ysgoldy y Cyngor, traddododd y Parch Gwynfryn Jones ei ddarlith boblogaidd ar Ty yr Arglwyddi." Yr oedd Gwynfryn yn ei hwyliau goreu, a phawb am ei yru i'r Sen- edd rhag blaen i lorio Ty yr Arglwyddi. Yr oedd digon o dan yn ei anerchiad i yru y ty hwn yn fflam. Bu wrthi yn dyrnu arno mewn llawn hwyl am awr a haner, ofer ydyw ceisio manylu dim ar yr anerch- iad rhagorol. Myned ardaloedd eraill Gogledd a De ei chlywed. Cadeiriwyd yn ddeheuig fel arfer gan Dr. Jones, Harlech, boneddwr sydd bob amser yn y ffrynt gyd- a'r achos Rhyddfrydol. Yr oedd yr elw oddiwrth y ddarlith at ddi-ddyledu capel perthynol i'r Methodistiaid yn Llechwedd Ddu ger Harlech, credwn iddynt gael elw sylweddol. Wedi talu diolchgarwch i'r darlithydd, y cadeirydd &c, aeth pawb i'w fan wedi eu cwbl foddhau. Cyfarfod Dirwestol y Merched, cynhal- iwyd yr uchod yn nghapel y Weslevaid, nos Wener, y 25ain cyfisol, Miss Pritchard, Manchester, oedd yn cymeryd y brif ran yn y cyfarfod, ac y mae ei gallu i'r cyfeiriad yma yn adnabyddus yn mhlith dirwestwyr ein gwlad er's amser maith. Cafwyd cyf- arfod rhagorol yn ol tystiolaeth y rhai oeddynt bresenol. Rhoddwyd gwahodd- iad i blant y Bands of Hope i gyfarfod yn y capel am 6 o'r gloch, ac yr oedd llu mawr wedi ymgynull. Yr oedd Miss Pritchard yn ddoniol gyda hwy. Rhoes lawer o gynghorion buddiol iawn iddynt. Yr oedd y plant wrth eu bodd gyda hi. Boreu Sabboth, Chwefror 27, llanwyd ein pulpud gan y bardd swynol "Talfardd" Dyma y tro cyntaf erioed iddo ymweled a Harlech yn y cymeriad o bregethu. Gwyddem yn dda am dano fel bardd swynol, a naturiol. Ceir ei gynyrchion yn ami ar ddalenau Yr Eurgrawn," "Y Win- llan," a'r Gwyliedydd Newydd, a'r hen." Yr hyn a ellir ei ddweyd am dano fel bardd, ellir ei ddweyd am dano fel pregethwr. Brysiwch yma eto. Rhoes foddlonrwydd cyffredinol. CONWY. Y GOBEITHLU.—Ychydig cidycldiau yn ol, cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol i an- rhegu plant y Gobeithlu. Rhanwyd gwerth C5 o lyfrau. Llywyddwyd gan y Parchedig Phillip Price. Galwyd can- euon, adroddiadau a chystadleuaeth. Gweethiodd Mri. Robert Jones, Ted Evans, ac S. Pritchard yn gampus gyda'r plant ar hyd y tymor. A oes yn Eglwys Crist waith pwysicach na gofalu am y plant ? Fel y plygir y gangen y tyf y pren. LLANDUDNO. CYNGKOR Y SIR.— Cyn v deio y geiriau hyn tan lygad y darllenydd credwn y bydd y ddau Wesleavid selog, y cynghorwyr T. W. Griffith. Glyngarth, a W. O. Williams, MeitletonNook wedi eu clewis, i gynrychioli adranau o'r drea'r wladhonyn Nghyngor y Sir. Mae Mr T.W Griffiths,Y.H., yn hen law, ac nid oes ar Gynghor Sir Gaernarfon well aelod nag ef. Cymaint ydyw sel a gwaith Mr. Griffith, a chymaint ydyw parch pawb tuag ato, fel y disgwyliwn glywed toe, ei fod wedi ei ethol yn gadeirydd y Cynghor. Parth Mr. Williams, am a wvdclom, ni fu efe yn y Cynghor o'r blaen, ond os etholir ef bydd yn rhaid i'r Cynghor deimlo ei fod yn wr dewr, ac yn wr o farn. Gwelsom ei anerchiad at yr ethoiwyr, danghosai graff- ter neillduol, amaethyn ydyw ei gyfeiriad at raib enbyd y landloriaid yn bwyta i fyny diroedd y bobl. Caiff William George yn W. O. eilydd gwych. EISTEDDFOD.-Fel arfer ar Ddygwyl Dewi cynhaliodd yr Anibynwyr ei Heis- teddfod. Deallwn mae y Cynghorwr Pierce Jones, un o'r Wesleyaid gweithgar oedd Llywydd cyfarfod y Prydnawn. Clywsom iddo wneud Llywydd gwych iawn. PENMACHNO. CYMDEITHAS DDIRWESTOL.—Nos Iau di- weddaf, o dan lywyddiaeth Mrs T. J. James. Bryn Salem, cynaliodd y merched eu cyfarfod dirwestol, pryd y cafwyd an- erchiad campus gan Mr E. Davies-Jones, cyfreithiwr, ar Ddirwest.' Eglurodd Mr Davies y gwaith mawr a wneir gyda dir- west gan y chwiorydd drwy y deyrnas. Cafwyd adroddiad o'r Gynhadledd Ddir- westol yn Manchester. Cafwyd ton gan gor plant y Ruban Gwyn,' gan Miss Mary Lloyd Jones. Cafwyd cyfarfod rhagorol. CYMDEITI-IASAU LLENYDDOL.- Nos Wen- er, Chwefror 18fed, cynnaliwyd Cymdeith- as Lenyddol Salem o dan lywyddiaeth fed- rus John Richards, Graianfryn. Cafwyd anerchiad gan y Parch. W. Lloyd Davies (W.), Bod Owain, ar 'Frwydrau Anghyd- ffurfiaeth.' Yr oedd Mr Davies yn ei hwyl- iau goreu, a chawsom lawer iawn o oleuni ar yr hyn a wnaeth ein tadau a gymmaint ddioddefasant. Priodol iawn y gellid dyweyd EraiU a lafuriasant, a ninnau a aethom i mewn i,w llafur hwynt.' Byddai yn werth i bob Ymneillduwr yn y wlad gael clywed yr araeth benigamp hon. Nos Sadwrn, yn Bethania, o dan lywydd- iaeth y Parch. W. Lloyd Davies, Bod Owain, cafwyd anerchiad rhagorol ar Iechyd' Bychan yw byd heb iechyd, Er ei gael yn aur i gyd.' Traddodwyd yr anerchiad gan Mr. F. O. Jones, prif-athraw Ysgol y Cynghor. Eg- lurodd Mr. Jones yn fedrus iawn am yr hyn sydd yn achosi afiechydon, a rhoddai bwys mawr ar awyr iach, ac awyriad ystaf- elloedd. PENMAENMAWR. Ty YR ARGLWYDDI.-Nos Iau diweddaf, bu Gwynfryn Jones yma yn traddodi ei ddarlith ar Dy yr Arglwyddi. Llywydd- wyd gan Mr. Rowlands, gweinidog y Methodistiaid. Yr oedd yr elw i helpu brawd sal. Gwelsom yr Hen Spec yno, ac yn mwynhau ei hun yn gampus. Pe cawsai Gwynfryn a'r Hen Spec ryddid am bum' mynyd i wneyd a fynent,-—wel! dyn a helpo Ty yr Arglwdddi a'i holl bleidwyr o hilgerdd. LLANTYSILIO. CYMDEITHAS LENYDDOL UNDEBOL LLAN- TYSILIO.-Nos Lun, Chwefror Meg, cafwyd un o'r dadleuon goreu ar y testyn A ddy- lai y Chwiorydd gymeryd rhan yn Gy- hoeddus, yn Gymdeithasol, a Chrefyddol." Agorwyd yn gadarnhaol gan Mrs. Jones, Garreglwyd. Yn nacaol gan Mr. Ewart Davies. Siaradwyd gan Mr. D. B. Davies oochr y Chwiorydd a Miss Roberts, Ber- wyn View, a Mrs. Roberts, Cymo. Dy- wedodd Mrs. Roberts fod y Chwiorydd yn fwy llwyddianus na'r brodyr am hel at y Genhadaeth Dramor a phethau cyffelyb. Cododd Mr. Edward Evan Roberts yn sydyn ar ol y chwaer, a dywedodd fod y chwiorydd yn rhai da am hel arian, ond eu bod yr un mor gyflym am eu gwario. Siaradodd eraill, Mri. L. J. Williams, D. Roberts, a J. Davies, Afondale. Cawsom gyfarfod da iawn, ac ar y terfyn datganodd Mr. Robert Morris. Cyfarfod Chwefror 21. Dechreuwyd trwy weddi gan Michael Williams, Maen- goron. Cafwyd Helyntion yr Amserau gan Mr. Edward Evan Roberts, David Morris a Ewart Davies. Ymdriniodd yr olaf yn ddeheuig ar Araeth y Brenin. Yna aed yn mlaen at brif waith y cyfarfod, sef parhad o'r ddadl. Agorwyd yn Gadarn- haol gan Miss Edwards, Gyfelie, ac yn Nacaol gan Mr. W. Roberts. Cafwyd dadl hynod frwd a buddiol. Siaradodd amryw y noson hon eto, sef, Mri. David Davies, M. Williams, D. Morris, Tom. Ed wards, a chan y Cadeirydd, Mr. Johnie Roberts, Cymo. Aed ati i bleidleisio ac er ein syndod ni chafodd y Chwiorydd yn fwvafrif ond tri. o P. D. DOLGELLAU. PWNC Y TIR.—Nos Wener, bu y Parch. D. Gwynfryn Jones, Abermaw, yn areithio ar Bwnc y Tir yn ysgoldy y Wesleyaid i gynulleidfa luosog. 0 BEN CILSANWS. Cawsom berfformiad o Rhys Lewis ych- ydig yn ol gan y Cwmni enwog o Aber- dare, sydd yn dwyn yr enw, Cwmni Daniel Owen." Maent yn fedrus anghy- fredin hefyd; pobpeth "up to date," y golygfeudd yn ardderchog, ar cymeriadau yn gampus. Yn y Drill Hall Merthyr y cynhaliwyd ef am ddwy noson, serch fod yr amser yn ddrwg a chymaint allan o waith. Yr ydym wedi talu 1-20 on dyled, ac mae eto ychydig yn ngweddill. Teim- lwn yn ddyledus iawn i'r rhai fu wrthi ddydd a nos yn gwneyd y peth yn llwydd- iant at yr uchod cawsom ddau Entertain- ment i'r plant, trodd y cyntaf allan yn llwyddiant, agos [2 o elw, cawsom un drachefn yr wythnos ddiwedda, ar pro- gramme yn cael ei gyfansoddi o ddieithri- iad caredig, o Merthyr, Penyrheolgerrig, fel yn canlyn Mr T. Havard, Mrs Jones, Miss Rogers. Johnnie Lewis o Benvrheolgerrig, Mr T. Edward o Merthyr, Rosemery Edges, Elizabeth Morris. Cafwyd cyfarfod da dros ben, coronwyd y cyfan gan Mr W. Williams o Merthyr, yn tafiu ei lais. Can- wyd Hen Wlad fv Nhadau gan Mr. Wm. Morris ar y diwedd. STEPHANOS. BIRMINGHAM. Colled fawr i eglwys Colmore Row fydd ymadawiad y chwaer Miss Mitchell (o Bwlchgwyn). Bu yn selog a gweithgar dros ben gyda'r achos bach yn y lie. Byddai bob amser yn barod i wneyd ei rhan a medclai ar gymSvysderau neill- duol i fod yn ddefnyddiol. Dywedwyd geiriau canmoliaethus iawn am dani yn y Seiat nos Sul gan flaenoriaid yr eglwys. Bendithion gora'r Net foddo yn gwlawio ar lwybr y chwaer yn dymorol ae ysbrydol. R. CARNO. Y CYNGHOR SIPOL.-CN-il I-)vdCi y llin- ellau hyn ar ddalenau y GWYLIEDYDD bydd Etholiad Cynghor Sirol Maldwyn drosodd. Caiff Mr LIew. D. Humphreys ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Hyd 3T mae yn bosibl daw y Toriaid ac ymgeisydd i'r maes yn mhob etholaeth, ond methwyd a chael neb yn ddigon gwrol i sefyll brwydr yma, am y rheswm fe allai fod Llew ar )- ff ordd.' LLANWNOG.—Mr R. Jones, Pendinas, sydd wedi dal y Sedcl hen yn ddigwymp er creadigaeth y Cynghor Sirol, un mlynedd ar hugain yn ol, felly gweler ei fod wedi cyrhaedd i'w oed fel Cynghorwr. Gwneir ymdrech i'w ddi-orseddu bob tro, ondyn aflwvddianus. Y waith hon eto bydd raid iddo ddynoethi ei gledd. Y mae ef bellach wedi cynefino a brwydro, a bron nad yw Corn y Gad a thinciau arfau yn meddu ar fwy o swyn nag o ddychryn iddo. Pri- odol y gellir dwreyd,—" He has won such victories before, and so he shall again." Nid yw etholwyr Llanwnog yn myned i wrthod gwasanaeth yr aelod mwyaf defn- yddiol sydd yn eistedd ar y Cynghor, ac un sydd wedi eu gwasanaethu mor ffyddlon am gyfnod mor faith, neu y maent yn ffolach nag yr oeddwn yn arfer tybio eu bod, ac yn aniolchgar a drwg" gyda hyny. Y CYNGHOR DOSI;ARTH.—Am y ddwn sedd ary Cynghor hwn enwir wyth o ber- sonau. Fel y mae mwy yn ymgiprys am ffermydd bach nag am ffermydd mawr, felly hefyd gallwn dybied y mae hi ynglyn a swyddi mawr a bychan. Gyda ychydig o ddoethineb y mae yn anhawdd genym gredu na ellir setlo y cwestiwn yma heb apelio at Ceasar. M. M. SALEM, LLANDDULAS. CYFARFOD NADOLIG:- Y tro yma eto caf- wyd cyfarfodydd da, y cynulliadau yn llu- osog. DODREFN NEWYDD :—Serch ein bod yn addoli yn y capel ers pymtheg mlynedd, nid oedd y set fawr wedi ei dodrefnu yn briodol; gwnaed hyny eleni. Rhoddodd aelodau ieuanc yr ysgol sul I.lyfr Emynau newydd hefyd at wasanaeth y pwlpud. ORGAN NEWYDD.—Yr oedd yr organ yn hen; ac yn ddiweddar rhoddwyd penau ynghyd i geisio dyfalu pa gynllun iw gael er mwyn cael offeryn newydd a phender- fynwyd cymeryd llyfrau a myned allan i gasglu a llwyddodd hyn yn rhagorol, a bore dydd Nadolig diweddaf yr oedd Or- gan newydd hardd wedi'i rhoddi yn ei lie drwy ddiwydrwyddjy brawd ffyddlon Mr. Joseph Jones (joiner), arweinydd y gan yn y He, a chafwyd hwyl arbenig y bore hwnw o dan weinidogaeth y Parch. H. Hughes. PERFFORMIAD.—Dydd Iau, Chwef. 24 caf- wyd cyfarfod neillduol, sef perfformiad 0 (Rhoda the Gipsy Girl), gan gor St. Paul Abergele, o dan arweiniad Mr. William Jones yr hwn a roddai ei wasanaeth yn rhad. Cafwyd noson o foddion gras mewn gwirionedd, yn enwedig wrth wrando ar Miss Jones, Abergele, yn darllen yr adran- au, yr oedd yn effeithiol iawn. Dylasem ddwyweud fod Mrs. Davies, priod ein par- chus weinidog, wedi llywyddu yn ardder chog, cafwyd cyfarfod da, a disgwylir elw sylweddol oddiwrtho. R. J. PENCARNISOG. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Cafwyd dadl frwdfrydig, y testyn oedd, Pa un a'i Rhan ai Dewisiad yw priodas ? Cadarnhaol, J. Ll. Jones Nacaol, W. O. Jones. Yr oedd y lie yn llawn, a dyddordeb mawr, a dadlu brwd bu rhaid ymranu, y rhai Priod o blaid Rhan, a mwyafrif y bobl ieuangc o blaid dewisiad. MARWOLAETII.—Collwyd o'n plith un ffyddlawn iawn, sef Edward Roberts, Tyn- yr-Ardd. Brawd tawel a dirwgnach yd- oedd. Aeth oganol helbulon i'r Wynfa nefol. Claddwyd ym Mryn Du, Glnvef- ror 14, tan y drefn newydd. NODION 0 GYLCHDAITH TREORCHY. NANTYMOEL.—Newyddion da sydd yn ein cyrhaedd o'r lie hwn. Rees Williams a'i gyfaill o Dreorchy fu yno y Sul diwedd- af, a chafwyd amser da. Yr oedd y tywydd yn fwy ffafriol a'r cynulliadau yn fwy llu- osog, a'r cyfeillion yn fwy calonog Y mae Mr. Moses Jones wedi addaw mynd yno y Sul nesaf. Yr oedd yn dda genym gael y newydd da fod yna fwriad i godi £ 20,000 ar gyfer anghenion gwahanol fanau. Gobeithio y caiff y jbwriad ei sylweddoli yn fuan. MAESTEG.—Y mae Maesteg mewn angen am gapel yn awr pe byddai modd ei gael, a dyna fydd angen nifer o leoedd eraill yn fuan iawn. Da genym ddweyd fod Mr. Hugh Hughes, Treherbert, a'i Gor yn barod i berfformio darn gorchestol yn fuan yn ei dref enedigol. Y mae Mr. Lewis Edwards, arweinydd y cunu yn Treorchy, yn parotoi darn arall i gael ei berfformio yn mis Ebrill.

TRE'RDDOL. I

Advertising