Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Peidswch cymeryd Anwyd, CYi^ERWOH OIL.
Advertising
ROBERT ST ATHER'S PIANOS and ORGANS. Absolutely the Best and Cheapest in the Kingdom. ROBERT STATHER'S MUL TUM IN PARVO MODEL. The Piano of the Century. Perfect tone and Touch. Height 4ft. ill Latest Pattern Iron Frame, Improved Soundboard, Full Compass, Check Repeater Action, in Walnut, Rosewood, Ebonised, or Oak Case, as desired (33 guineas) Special Terms, 21 down, and 15/- per month. Total to for Prompt Cash. 58, Shakespeare Cresent, Manor Road, E. 21,li2)191 0. Dear Mr. Stather,-Many thanks for piano and stool. We are very pleased indeed with them, &c. Yours sincerely, A. BELIIAM. ROBERT STATHER'S D!ADE? ORC?? By Bell). y. Height 6 ft. 2 inches. ROBERT STATHER'S DIADEM ORGAN (By Bell). Height 6 ft. 2 inches.   A very handsome Organ in Solid Walnut Case with Mirror Tops. Contains 4 Sets of Reeds 11 Stops. List Price, 26 guineas. My Price, Cash net E13 15s. Od. Magnificent Tone. Wcnderful Value. Write now for Complete Lists tc- 'I Robert Stather THE FRE?!ER METHODtST?USB- R"??b????at ? ?????-S.??n???r? ? CAL INSTRUMENT MAKER, 187, Seven Sisters Road, Finsbury Park, London, E.C.
I DEFOSIWH CREFYDDOL.j
I DEFOSIWH CREFYDDOL. N id oes neb ag svdd wedi talu ychydig o sylw i wasanaeth gref- yddol yr Enwadau Anghydffurfiol, na chydnabyddant nad ydynt mor berffaith ag y carem iddynt fod. Tra yn cydnabod fod ffurf ein -Liod o symi, a di- gwasanaeth yn hynod o syml, a di- rodres, ac ni gredwn ni (oblegid hyny) yn dod yn nes i'r cynllun ysgrythyrol, perthyn i ni gyfaddef o'r ochr arall fod ein gwasanaeth yn colli, ac yn ddiffygiol iawn mewn urddas a mawredd. Nid oes ond ychydig yn ein trefniadau ni ag sydd yn gynorthwyol i ar- graffu arnom y syniad o'r urddas a'r mawredd sydd yn perthyn i'r Efengyl. Tra mae ein gwasanaeth yn fwy syml na gwasanaeth Eglwysi Lloegr a Rhufain, y mae yn colli mewn urddas. Nid oes gyda ni fel Enwadau Ymneillduol y parch dy- ladwy i'r adeilad ei hun. Tra yn cydnabod fod yna ystyr yn bod ag y gellir dweyd fod un lie mor gys- egredig a'r Ilall mae ar yr ochr arall leoedd yn fwy sanctaidd na'u gilydd, am eu bod wedi eu cysegru a gweddiau y tadau, a bod Duw wedi ymddangos yno, ac yn lie preswylfa ei ogoniant. Fe ddylai fod genym rywfaint o barch i'n capeli, lie mae ein tadau wedi bod yn addoli am lawer oes, a llawer un wedi derbyn gweledigaethau ynddynt. Cyfyd yr amharchus- rwydd hwn a'r diffyg defosiwn yma yn ein capeli, o bosibi o'r adeilad ei hun tra mai adeiladaeth Eg- lwysi Rhufain a Lloegr, gyda'u ffenestri ystaen yn fantais i gyn- yrchu braw, urddas, a pharchedig- aeth, mae tai cyrddau yr Anghyd- ffurfwyr wedi bod yn foel, syml, a diaddurn, ac yn anfanteisiol i af. graffu arnom yr urddas sydd yn perthyn i Dy Dduw. Diolch am argoelion gwella i'r cyfeiriad hwn; mae rhai o'r capeli diweddaf yn fwy tebyg o apelio at y prydferth sydd mewn dyn, a gwyddom nad oes ond cam bychan oddiwrth y prydferth i'r Dwyfol. Fe gydnebydd y rhan fwyaf o honom, nad yr un yw ein teimlad- au pan yn myn'd i mewn i gapel, a phan y byddom yn myn'd i eg- lwys. Cyfyd dros ddyn ryw iasau o fraw a pharchedigaeth pan yn myn'd i mewn i un o eglwysi Lloegr, ond ni theimlwn yn debyg mewn capel. Boed hyn yn gyn- nyrch meddwl ofergoelus, neu beth a fyno, mae y ffaith yn aros mai felly y mae. Yn yr eglwys mae yno yspryd o ddefosiwn yn y lie, ag sydd yn ei gwneud yn hawdd i ni addoli, tra na cheir hyn yn y capeli. Peth arall eto sydd yn ein ham- ddifadu o yspryd defosiynol yw y duedd sydd ynom i ddefnyddio y capel i bob math o wasanaeth. Caniatteir yn ein capeli i ddarlith- oedd ysgafn gymeryd lie ynddynt, ac i eisteddfoclau, cyfarfodydd ad- loniadol, ac amrywiaethol, ac yn y dyddiau diweddaf hyn, i Soirees,' Tepartit, a Bazaars,' gael eu cynal ynddynt. Meddylier am eistedd- fod yn cael ei chynal mewn capel ar nos Saclwrn, pryd mae pob math o ddynion wedi casglu at eu gilydd i gystadlu, ac ar ol cynwrf, fel cyn- wrf Ephesus gynt; fpa fath yspryd all fod yno y Sabboth canlynol i addoli Duw sydd yn berffaith mewn sancteiddrwydd, ac yn ofnadwy mewn moliant ? Yn eglwysi Lloegr a Rhufain ni chaniatteir i ddim o'r pethau hyn gymeryd lie mae y lie yn cael. ei gadw yn gys- egredig, ac mae sancteiddrwydd y lie vn cael ei argraffu ar fynychwyr y lie. Cyfaddefwn fod amgylch- iadau mewn lleoedd gwledig, lie ni cheir neuadd gyfieus, yn ei gwneud hi yn anodd iawn i beidio defnyddio y capel i bob math o wasanaeth. Ar yr un pryd mae'r ffaith yn aros fod cynal y pethau hyn ynddynt, a thuedd ynddynt i ddinystrio yspryd defosiynol. Credwn eto, mai peth arall sydd yn cyfrif am yr amddifadrwydd o yspryd defosiynol yn ein gwasan- aeth, yw y ffaith ein bod ni fel Cymry yn ddiarhebol o hwyrfrydig yn dyfod i'r cyfarfodydd. Mae'r pregethwr yn ami ia wn wedi dechreu ei bregeth cyn i'r bobl i gyd ddyfod i mewn; nid oes genym fel cenedl y syniad lleiaf am bryd- londeb i foddion gras. Pan gerdda pobl i mewn ar y pryd y mae'r gwasanaeth yn mynd ymlaen, mae'nt yn dinystrio pob yspryd o ddefosi wn a all fod yn y lie?. Y dyn olaf ddylai fvnd i mewn i un- rhyw odfa ydyw y pregethwr ac fe ddylai yntau fod mewn pryd. Gwelir eto yr un peth, sef diffyg defosiwn yn nodweddu diwedd yr odfa. Os mai canu fyddant i ddi- weddu v cyfarfod, cerdda llawer allan ymhell cyn bod yr emyn wedi ei orffen. ac os, fel yn ein cyfundeb ni, mai gweddi fydd yn terfynu cyfarfod, braidd nad yw y gair amen o enau y pregethwr, cyn bydd ein pobl yn rhuthro allan, fel o chwareudv felly mae hi ar y Sab- oth, ac felly yn y cyfarfodydd wythnosol. Gallwn, fel Ymneill- duwyr gymeryd gwers yn hyn o beth oddiwrth y Pabyddion, a'r Eglwyswyr. Cydnabyddwn fod y cyrff hyn yn jhedeg i eithafion yn hyn, ac yn credu mai defosiwn yw crefydd, mae yn bosibi aros yn y fan hono ar yr un pryd. et nad def- osiwn yw crefydd, ac fod yn bosibl cael llawer o hono lie na bydd crefydd, yr ydym yn sicr, ble byn- ag y bydd gwir grefydd, fe fydd yno hefyd ddefosiwn crefydd. Fe fydd yno barch i'r addoldy, a pharchedigaeth yn nodweddu y gwasanaeth, mwy o sylw yn cael ei dalu i'r bregeth, i'r darlleniad a'r canu, a mwy yn uno yn y weddi, a llawer llai o siarad, a sisial, ac edrych o gwmpas. Mae yn bwysig i ni fel Anghydffurfwyr fagu a meithrin mwy o ysbryd defosiynol, a chario allan yn ein gwasanaeth yr hyn mae pawb yn ei edmygu yn Eglwys Loegr.
ALLOR Y WLADWRIAETH. ___I
ALLOR Y WLADWRIAETH. Yn ei araeth olaf yn Nhy y Cyff- redin, dywedodd yr enwog W. E. Gladstone y bodolai awdurdod uwch na Thy y Cyffredin, sef awd- urdod y genedl. Daw yr awdur- dod a fedd y bobl i'r golwg yn y tugel, ymha un y rhydd dynion eu pleidlais yn ffafr eu eynryehiolwyr dewisedig. Y bleidlais yw v gallu mwyaf yn y deyrnas i benderfynu tynghedion, a diogelu buddianau y wlad. Cyfleustra ardderchogyw y Tugel i bleidleisio yn gydwyb- odol, yn drefniant sydd yn amcanu at ddiogelu trefn a thegweh mewn etholiadau. Noddir dynion drwy ddo,—o leiaf bwriadwyd iddo fod yn amddiffyniad i rhai a elwir i bleidleisio—rhag blinderau, taerni a bygythion y tirfeddianwr, y meistr, y dyledwr neu y gofynwr. Daw y trefniant hwn yn fwy angenrheidiol fyth pan y meddyl- ier am ragolygon y dyfodol. Dis- gwylir i'r etholfraint gael ei heangu cyn bo hir. Golyga hynny gynnycld yn nifer pleidleiswvr o amgyichiadau isel a thlawd. Y mae rhoddi i ddynion o amgylch- iadau isel y fraint o ymarfer ag hawliau gwleidyddol yn gwneyd y Tugel yn fwy angenrheidiol. Lleiheir i fesur helaeth lygredig- aeth a gorthrwm mewn etholiad- au, a gwneir Dy v Cyffredin drwy hyn yn gynrychiolaeth berffeith- iach o syniadau a clymuniadau y bobl. Dylai y bleidlais gvnrychioli cymeriad, dealltwriaeth, cydwyb- f od a dinasyddiaeth y pleidieisiwr. Yn y bleidlais y mae ei fraint uchaf fel dinesydd, ac yn y fan hon y cvferfydd neu y rnetha gyfarfod a'i gyfrifoldeb uchaf. Dug y bleidlais dystiolaeth i'w amcan- ion, i'w egwyddor, ac i'w ddymun- iadau am ei wlad. Dylai y bleid- lais ddwyn tystiolaeth i'w argy- hoeddiadau gwleidyddol dyfnaf, a'i safon foesol uchaf. Dylai ym- arfer ei bleidlais fel peth cysegred- ig. Gyda theimlad o ddiflasdod y meddyliwn am y posibilrwydd i unrhyw lywodraeth gael ei'ciiludo i fewn i Dy y Cyffredin ar gwrw Aalewyrcha hyn yn dclnyg ar Iy- wodraeth o'r fath, yn ogystal ag ar y pleidlelsii-yr.1 Dylid edrych ar y bleidlais, gan y dyn ei hun, a chan ereill o'i gwmpas fel peth rhy gys- egredig i'w brynu na'i werthu. Fod angen dysgu peth fel hyn sydd amlwg oddiwrth y llwgr-wobrwy- on llygredig a'r bygythion anheil- wng a wnaed mewn amrai leoedd yn yr etholiad diweddaf. Un o angenion yr oes yw dysgu pleid- leiswyr a pleidiau i fod yn ffyddlon ac eiddigeddus dros burdeb a sanc- teiddrwydd y bleidlais. Er fod llvwodraeth y \vlad yn cael eu dwyn yn mlaen ar y party system, a'r holl pleidleisiau yn cael eu rhoddi i'r ochr hon neu arall o'r pleidiau gwleidyddol, dylai y bleidlais uwchlaw bopeth fod yn ffyddlon i gydwybod. Ni ddylai roddi plaid o flaen cvdwybod. Ni ddylai neb ymaiLr a'r ymddiried- aeth hon fel party tool gyda'r am- can o ddiogelu bodolaeth plaid. Y blaid sydd yn rhoddi mynegiant i gydwybod y pleidieisiwr sydd i'w gefnogi ganddo. 0 flaen popeth, rhaid i'r bleidlais fod yn deyrngar- ol i gydwybod. Golyga pleidlais cydwybod y ddynoliaeth oraf; a'r ddynoliaeth oraf yw y ddinasvdd- iaeth oraf, ac y mae y ddinasrdd. iaeth oraf bob amser yn gwrth- wynebu popeth sydd yn darostwng, yn cynorthwvo popeth sydd yn dyrchafu, yn gwrthod cynghrair a phobpeth sydd yn llygru, ac yn sefyll am egwyddor bob amser, ac yn mhob lie, yn arbennig pan y dawr wyneb yn wyneb a'r fraint a'r cyf- rifoldeb o osod ei gydwybod, ei ddealltwriaeth—ei gvmeriad, ar allor y wladwriaeth, sef y tugel. Ni ddylid adae! i'r bleidlais i gael ei lywodraethu gan deimlad enwadol, Hawlfraint dinesydd,ac nid arf enwadol yw y bleidlais. Y mae cymeryd safle enwadol i farnu teilyngdod ymgeisvdd am sedd mewn Senedd, Cynghor Sirol, tref- ol neu bh\yfol, yn sicr o arwain. hwyr neu hwyrach, i ganlyniadau annymunol. Gostyngir safon eth- oliadau pan edrychir ar gvmhwvs- I terau ymgeiswyr trwy wydrau en- wadol. Rhaid rhestru pawb sydd yn euog o'r culni hwn yn yr un dos- parth a'r Jesuitiaid Pabyddol sydd yn darostwng popeth i ddibenion y Mother Church. Y mae buddian- au cenedl a gwlad yn bwysicach na prestige enwad. Ymgais i ddyrchafu ac hyrwyddo lleisiant cymdeithas, ac nid i sicrhau mono- poly enwad ar feinciau y Senedd, y sir neu y dref a ddylai fod yn amcan mewn etholiadau. Gorfodir ni i gredu, a barnu oddi- wrth hanes yr etholiad diweddaf, fod yn y wlad liaws sydd yn sv1, weddoli end ychydig y fraint a'r cyfrifoldeb a ddygwyd iddynt yn y bleidlais a'r tugel. Gadewir i'r bleidlais i gael ei lywodraethu gan hoffder neu anhoffder bersonol. Anodd efallai i rhai yw codi uwch- law i'r teimlad hwn eto credwn na ddylai yr un dyn mewn ethol- iad adael iddo ei hun gael ei gario ymaith gan rhyw personal likes and dislikes. Gcsyd rhai y meistr o flaen cydwybod. Y mae pleidleisio yn groes i ddymuniad meistr car- (Parhad ar tudalen 5).
Advertising
ALWAYS USE   CIOyccvrx I?%V ALWAYS T CT A ALWAYS FINEST VALUE. l !&?8 FULL WEIGHT.