Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

FY ADGOFION.

Y CREAWDWR YN LLYWODRAETHWR.

- . - - --BARDDONIAETH.

COLEG HANDSWORTH A'R GENHADAETH.

DIRWEST.

News
Cite
Share

DIRWEST. Gan y Parch. HUGH EVANS, (Cynfor). DIRWEST A'R SENEDD NEWYDD.— Er fod rhif y Rhyddfrydwyr yn llawer llai yn y Senedd Newydd na'r un flaen- crol, ymddengys fod yno lai hefyd o fragwyr, distillwyr, a marsiandwyr gwir- odydd. Ond y mae yno eto, yswaith, ormod o aelodau sy'n croch-lefain Our Trade is our-Politics." Collwyd o'r Sen- edd ddau ddirwestwyr pybyr, sef, Mr. T. W. Russel, Tyrone, a'n cyd-wladwr Mr. Leif Jones, Appleby. Ail-etholwyd y pum cawr dirwestol hyn,—Cameron Corbett, Glasgow; C. H. Roberts, Lin- coln Arthur T. Sherwell, Huddersfield; Syr Thomas P. Whittaker, Spen Valley, yr hwn a weithiodd mor aiddgar o blaid y mesur Trwyddedol a drywanwyd gan gledd yr Arglwyddi; a Henry J. Wilson, Holmfirth. Y mae y pump hyn yn bleidwyr selog i Gyngrair Dirwestol y Deyrnas Gyfunol. Wrth gwrs mae yn y Senedd lawer o ddirwestwyr eraill; ac y mae'r aelodau Cymreig oil, oddigerth dau yn bleidwyr i Ddirwest. Da iawn, Gymru, am beidio plygu i'r eilun-dduw, Alcohol. ANGHYSONDEB DYBRYD YR EGLWYS WLADOL.—Un o'r pethau hacraf i mi yn yr Etholiad diweddaf osdd gwaith yr Eglwys Wladol yn cysylltu ei hunan wrth y dafarn. Y fath ieuad annghym- arus! Ceisio gwneud gwaith Duw a gwaith y diafol! Naw wfft iddi, medd- af fi, o waelod fy enaid Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn ?" Gwna yn sicr. Daw dydd barn a diwedd bod ar eglwys a wna y fath fudr-waith. Mae cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwr- iaeth yn bwysicach yn ei golwg na dyrchafiad moesol gwlad a chenedl. Eglwys Loegr-tro dy gefn ar y fas- nach feddwol, onide fe dry Duw ei gefn arnat tithau. Pa gyfathrach sydd cyd- rhwng y Cymun Bendigaid a'r gyf- eddach felltigaid?" BOYCOTIO CWRW A GWIROD.— Mewn Cyfarfod Rhyddfrydol yn Work- shop y dydd o'r blaen, pan yr oedd yr ymgeisydd aflwyddianus, Mr. Frank Newnes, yn bresenol, dywedwyd fod rhyw gwmni darllawdy wedi anfon cylch-lythyr i dafarnau'r cwmni yn y lie, yn gofyn i'r tafarnwyr bleidio yr Ymgeisydd Toriaidd, a chael eu cyfeill- ion i wneud yr un peth. Ffromodd y cannoedd glowyr oedd yn bresenol, a phenderfynasant beidio yfed cwrw y darllawdy hwnw, na'r gwirodydd werth- id gan y cwmni. Da iawn! Ond gwell fuasai peidio yfed cwrw neb. Daw i hynny cyn bo hir—dalied dirwestwyr i weithio mae amser a Duw o'u tu. Boycot neu beidio, mae arnaf ofn fod synwyr moesol y rhan fwyaf o'r dar- 11awyr wedi boddi mewn breci. CYNGRAIR DIRWESTOL MEIBION LLAFUR.—Wedi ysgrifenu yr uchod yn nghylch boycottio cwrw, gwelaf rod symudiad dirwestol cryf wedi cychwyn yn mhlith gweithwyr Heckington, tref ynswydd Lincoln —" the queen of Lincolnshire vill- ages fel y gelwir hi. Achlysur cychwyn y symudiad oedd gwaith tafarnwyr y lie yn erlid y Rhydd- frydwyr yn ystod yr etholiad. Nis gallai unrhyw Ryddfrydwr fynd i dafarn yno i geisio diod heb i'r tafarnwr ei ddirmygu. Diwrnod wredi'r etholiad aeth crvdd o'r enw William Hall a'i gyfaill William Bradley at eu gilydd; ac wedi ymgynghori penderfynasant beidio cyfiwrdd diodydd meddwol am rlwyddyn. Erbyn hyn y mae yno ugeiniau lawer o weithwyr wedi ardystio, a'r Workmen's Temperance League wedi ei sefydlu, a diwygiad dirwestol grymus yn y lie. Ac yn awr nid oes agwedd wleidyddol o gwbl i'r symudiad, a gwelir rhai o brif bobl y lle-yn Rhyddfrydvvyr a Thoriaid-yn teimlo dyddordeb byw yn y mudiad ardderchog. Wythnos i'r Sabboth diweddaf, ar gynygiad un oedd yn feddwyn ychydig ddyddiau cyn hyny, aeth dros bedwar ugain o'r ardystwyr yn un gorymdaith o'r village green i'r Eglwys blwyfol yn y prydnawn, ac i gapel y Wesleyaid yn yr hwyr. Ardderchog os ceir peth fel hyn ni bydd eisiau licensing bill na dim arall. Mae Nei-iiesis-duwies barn —yn sicr o afael yn y Fasnach Feddwol cyn hir.