Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

FY ADGOFION.

News
Cite
Share

FY ADGOFION. (GAN EGWEST.) Ysgrif I. Pan symmudwyd y Parch Morgan Davies i blwyf Caerwys, tua y flwyddyn .1848, cafodd ardal Penegos galled fawr. Bydd- ai llawer yr amser hwnw yn enill eu bywioliaeth wrth drin gwlan. Bu y parchedig offeiriad yn help mawr trwy ei haclfrydedd i rai o'r ardalwyr i gychwyn busnes eu hunain, trwy roi arian iddynt yn fenthyg i brynu gwlan, a llwyddodd rhai mor bell a chael eu bywoliaeth yn gysurus am lawer o flynyddoedd. Cyn i'r gwr parchedig fyned i Gaerwys, byddai teulu Dafydd Wood, y Coed-cae, yn myned igL- eghvys yn wastad. Ond daeth Offeiriad arall i Rectoriaeth Penegos o Wrexham, o'r enw Edward Edwards. Ac er fod ei dduwioldeb yn ddiamheuoL, nid oedd yn galluvcyd-fynd a'r eglwyswyr. Fe antur- iodd y Clochydd i roi gair o gyngor iddo, sef, Jo-n Wh-tt-n-g-t-n, yr hyn a ffromodd yr offeiriad yn aruthr. A gofynodd i'r swyddog hwnw, a oedd efe fel offeiriad i gymeryd ei ddysgu gan Glochydd, a j hwnw yn un bychan hefyd? Ond aeth! Dafydd Wood ato, yr oedd ef yn fwy o gorph na'r Clochydd. Ond bid a fyno, ni chymerai yr Offeiriad ei gynghori gan Dafydd y Gwydd, mwy na chan Jack y Clochydd, ac ymadawodd Dafydd o'r Eglwys, ac aethant fel teulu i Gapel y Wesleyaid, lie y buont am lawer o flynydd- oedd yn allu yn y lie. Ond rhaid gadael Dafydd am ychydig, er mwyn rhoi trem ar hanes y clochydd. Gyda Haw, yr oedd efe yn dad i rai a fuant yn allu gyda'r Wesleyaid cyn geni y rhai sydd yn dippyn o allu yn awr. Ed- ward Whittington oedd fab hynaf ei dad a'i wraig gyntaf. Bu ef yn byw yn Llan- badarn Fawr am lawer o flynyddoedd, ac yn aelod gweith jar gyda.'r Wesleyaid yn Aberystwyth. Yr oedd efe yn hynod am ehangder ei wybodaeth, a llawer gwaith y bum yn ddig wrtho pan fyddai wedi fy nrhechu yn deg mewn dadl. Yr oedd efe yn daid i'r Parchedigion E. Whittington Jones a D. Egwys Jones o ochr eu mham. Maddeued y ddau wyr i mi, sef eu haner ewythr, am ddod a'u henwau i mewn i'r Adgofion hyn. Yr ail fab i'w dad oedd y Parch. Rowland Whittington (Egwysyn). Yr oedd ef yn fardd rhagorol, yn llenor gwych, ac yn bregethwr hynod o gymer- adwy. William Whittington, Penygraig, Sir Forganwg fu yn hynod o ffyddlon i Wesleyaeth tra fu byw, a deallaf fod ei blant yn dilyn esiampl ardderchog fy haner brawd. Ond rhaid dod yn ol i dclilyn ein hadgof- ion am Benegoo. Aeth y rhan fwyaf o'r Eglwysi pan ymadawodd Dafydd Wood i chwilio am borfa frasach na porfa yr Off- eiriad, a phorfa (mynwent) y Clochydd. Canys yr oedd y ddwy yn hynod o lwm, yn enwedig porfa y Clochycld. Yr wyf yn cofio yr idegau o gyfyngder, pan yroedd yn anhawdd cael crystyn o fara o herwydd rhai rhesymau, yn gyntaf (chwedl y Preg- ethwyr), yr oedd y defnydd yn hynod o ddrudd. Yn ail, yr oedd cyflogau yn hynod o isel. A'r olaf, rhy ychydig o gladdu yn yr hen fynwent. Nid wyf yn cofio beth oedd y rheswm am y pen cyntaf na'r ail, ond yr oeddwn yn gweled digon o reswm y pryd hwnw er mor ieuenged oedd- wn nad oedd yn iawn claddu neb cyn marw. Yr oedd hyny yn afresymol, ond y rheswm oedd y tu ol iddo. Rhy ychydig oedd yn meirw, a dyma oedd yr achos o absenoldeb bara yn Mwydgell y Clochydd Byddai bias ar yr hen benill hwnw Ed- rychaf i'r mynyddoedd draw, Oddiyno y daw fy nghymorth," ac yn gyffredin fe ddeuau cymorth o gymydogaeth Aber- hosan trwy farwolaeth un o'r plwyfolion. Fel hyn yr oedd galar i rai yn llawenydd i eraill mewn pobiaid. Dyn bychan o gorph oedd John Whitt- ington y clochydd, ond yr oedd yn ddyn pur oleuedig, yr oedd yn ddarllenwr da a medrai ysgrifenu yn gywir. Yr oedd hefyd yn gantor da, er na wyddai ddim am y gwahaniaeth a fodola rhwng yr Augmen- ted 6th, a'r Diminished Seventh. Arosodd yn yr eglwys tra bu fyw, ac yr oedd ei barch yn fawr gan bawb a chan y gwir- ionedd ei hun. Yn fuan ar ol i Dafydd Wood ymuno a'r Wesleyaid, dechreuodd y teulu ymddadblygu yn y busnes gwlan. Yr oedd Rowland ac Evan yn nyddu ar y ddwy droell fawr, ac Edward a Thomas yn gweu, John a Richard yn gwneyd bobb- ins ar droell fach. A thrwy lafur a diwidrw- ydd aethant yn mlaen yn rhagorol. Cymer- asant yr hen factory lie y bum i cyn hyny yn enill gr6t y dydd, a gwnaethant ad- newyddiad mawr ynddi trwy osod i fynu WTevddion (looms) a pheirianau eraill yn ¡ cael ei gweithio gan ddwfr yr hyn oedd yn rhyfeddod mawr yr amser hwnw. Prynas- ant Bronsele, sef pedwar ty yn ymyl, ac aethant yno i fyw. Yr oedd Dafydd Wood wedi marw cyn iddynt fynd i Bronsele, a Jenny ei wraig wedi dod yn weddw. Yr oedd achos y Wesleyaid yn gryf yn Penegoes y blynyddoedd hyny. Bu y capel yn orlawn am lawer o flynvddoedd, a bu teulu y Coed-cae [a. Bronsele wedi hyny yn nerth a gallu i'r achos tra y buont byw. Y blaenoriaid cyntaf wyf yn eu cofio oedd Lewis Morgan, Rhiwfelen, ac Evan Ellis y Crydd. Yr oedd Dick fy mrawd (ac un drwg oedd Dick), yn dweyd fod Evan Ellis yn sylwi llawer ar draed pobl. Wel, os oedd, nid oedd ei waith yn edrych ar yr esgid yn ddim gwaeth na'r teiliwr yn edrych ar y got. Oddiwrth y grefft o wneud esgidiau yr oedd Evan Ellis yn cael ei fywoliaeth yr un fath a Tomos y Teiliwr wrth wneyd dillad. Am ddim a wn i, yr oedd yn ddigon naturiol iddynt, yn en- wedig pan na byddai ond ychydig alw. Ond yr hyn oedd yn' coroni bywyd Evan Ellis oedd ei dduwioldeb diamheuol; dyn duwiol iawn ydoedd, nid oedd ganddo lawer o ddawn ymadrodd fel llawer: ond yr oedd yr hyn a lefarai yn effeithio yn ddaionus ar bawb. Ac os oedd diffyg ar ei dafod mewn siarad gyda llais hynod wan, yr oedd ei fywyd difrycheulyd gyda llais cryf a soniarus yn Ilefaru cyfrolau. Yr wyf i yn meddwl fod gwir angen am rai tebyg i Evan Ellis, Bronsele, i flaenori Eglwys Dduw bob amser, ac yn mhob lie mewn trefn iddi lwyddo. (I barhau.)

Y CREAWDWR YN LLYWODRAETHWR.

- . - - --BARDDONIAETH.

COLEG HANDSWORTH A'R GENHADAETH.

DIRWEST.