Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DATELIAD DYDDOROL YN INHREFFYNNON.

News
Cite
Share

DATELIAD DYDDOROL YN I NHREFFYNNON. Cymerodd amgylchiad dyddorol le yn Nhreffynon, ddydd Mercher diweddaf, sef, dyfodiad i'w oed—Mr. John R. Davies, (Ysgrifenydd Ysgol Sabbothol Pendref), unig fab Mr. a Mrs. Edwin Davies, London House. Mae Mr Edwin Davies, yn un o'r masnachwyr mwyaf llwyddianus yn y dref a'r c- vriyclogaeth. Mae'n Wesleyad selog ac haelionus, efe ydvw Trysorydd Ymddir- iedolwyr y calpel a'r eglwyi yn Mhendref, a chymer efe a'i bnod a'r unig f.erch (Miss H. Margaretta Davies), ddyddordeb mawr gyda syniadau yr achos yn gyffredinol. Ar yr achlysur o ddathliad Mr. J. R. Davies i'w oed, gwahoddodd Mr. a Mrs. Davies tua deg a thriugain o bobl ieuainc ynghyd a nifer o berthynasau a chynyrch- iolwyr rai o fasnachdai y prif ddinasoedd i wledd ardderchog a gynhelidyn mhrif ys- tafell perthynol i'r Neuadd Drefol, pa un ydoedd wedi ei haddurno yn brydferth a thestlus. Wedi cyfranogi o'r danteithion hyd ddigonedd, ymneillduwyd oddiwrth y byrddau, a thraddodwyd anerchiadau llongyfarchiadol priodol yn cael eu dilyn ag unawdau rhagorol achwareuon diniwed a difyrol. Ar yr achlysur hwn cyflwynwyd nifer luosog o anrhegion gwasanaethgar a gwerthfawr i Mr. Davies a diolchodd yn gynes am y cyfryw bresantau. Cyn ym- wahanu cyflwynwyd diolchiadau lawer i Mr. a Mrs. Davies am eu caredigrwydd mor fwynhaol i bawb ydoeddyn bresenol, gyda dymuniadau goreui Mr. J. R. Davies a'r teulu. CwiLSYN.

CYFARFOD YSGOLION. ECCLES.

CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD.

I Y MAES LLAFUR.

Advertising

I ABERYSTWYTH.

Advertising

Advertising