Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

AR RA IADm

News
Cite
Share

AR RA IADm PENDREF, DINBYCH. Dydd Iau diweddaf, darparwyd Te gan Gangcn Leol Undeb Dirwestol y Merched (y byd) yn Ysgoldy Pendref. Caed cynull- iad cryf. Ar ol Te, cynhaliwyd cyfarfod, dan lywyddiaeth Miss Gee, yn yr hwn y caed Can ac Anerchiad gan yr Efengyles Miss Rosina Davies, ac eraill, a diolchwyd yn gynes iddynt. Rhoddwyd help mawr i'r achos dirwestol trwy y cyfarfodydd hyn. CHVVAER. ["Ni allwn ymgymeryd a chyfieithu ad- roddiadau. Diau y cyfieitha rywun yna y Farddoniaeth. Os felly croesaw colon. GOL."] DEWI SANT, MANCEINION. Nos Fercher diweddaf, cynhaliwyd Social yn y lie uchod, gan Gor yr Eglwys. Rhoddwyd y te yn rhad gan aelodau y Cor, a chafwyd cyfarfod byr ar ol. Amcan penaf y cvfarfyddiad oedd anrhegu Mr. a Mrs. A. L1. Arter. ar yr achlysur o'u priodas. Gan rnai Mr. Arter ydyw arweinydd y Cor, ac mae wedi profi ei hun yn hynod fedrus, teimlai y cyfeillion ar yr amgylchiad mai y peth lleiaf ynddynt fyddai cyflwyno an- rheg fechan iddo ef a'i briod, fel arwydd o barch a gwerthfawrogiad o'i wasajiaeth. Llywyddwyd y gweithrediadau gan Mr. Willie Jones, a galwodd ef ar Mr. Tibbot i gyiiwyno yr anrheg, sef Marble Time- piece, ac yn gerfiedig arno, "Anrhegvvyd i Mr. a Mrs. A. Ll. Arter, ar yr achlysur o'u priodas, gan Gor Dewi Sant a Chyfeill- ion. Cyflwynodd Mr. Tibbot yr anrheg gydag anerchiad call a phwrpasol, ac at- tebodd Mr. Arter drosto ef ei hun a'i briod. Dymunwn iddynt fel ag y dymunwyd yn y cyfarfodd, dedwyddwch, llwyddiant a hir oes. DEWI. CAERWYS. Yn y GymdeithasLenyddol Undebol nos Fawrth diweddaf, cafwyd anerchiad budd- iol ac amserol, ar "Egwyddorion Ymneill- duaeth," gan y Parch J. Lloyd Hughes. Rhoddodd sylw neillduol i hyn oedd Tad- au Ymneillcluaeth wedi er aberthu dros egwyddorion sydd wedi bod yn foddion i ddyrchafu Moes a Chrefydd yn ein gwlad. FEIBL GYMDEITHAS.—Nos Fercher di- weddaf, cynhaliwyd cyfarfod mewn perth- ynas ar gymdeithas hon yn Ngapel W., Cymerwyd y gadair gan y Parch R. F. Parry, wedi agor y cyfarfod, galwyd ar Parch Charles Edwards i anerch y cyf- arfod ar ran y cymdeithas. Aeth dros gwaith oedd wedi gyflawni yn y gorphenol. Nid oedd dim yn ein sirioli yn fwy na clwed am yr adfywiad sy wedi cymocyd lie yn Corea a rnanau craill. GOH. IEUANC. EGREMONT. Y GYMDEITAAS LENYDDOL.—-Er pan an- fonasom yr ychydig nodion diweddaf i'r GWYLIEDYDD NEWYDD, yr ydym wedi cael cvfarfodydtl rhagorol yn nglyn a'r Gym- deithas. Chwefror laf, bu aelodau'r Gymdeithas mewn dadl gyda Chymdeith- as Lenyddol capel Crascent Road (Seisnig) Egremont. Y testyn ydoedd, "A ddylid diddymu gorymdeithiau crefyddol. Cym- wyd yr ocnr nacaol gan y Saeson, a'r cad- arnhaol genym ninau, ac wedi dadleu brwd, enillasom y garmp gyda dau o fwy- afrif. Chwefror 4ydd, cawsom anerchiad gam- pus gai-i. iVIr. Pi ugh Edwards, ar yr Etholiad ddiweddaf. Gwyr y rhan fwyaf o ddar- llenwyr y GWYLIEDYDD mae'n sicr, am allu Mr. Edwards yn y byd politicaidd, ac yn neillduol ei allu a'i wasanaeth yn y cylch dirwestol. Chwefror lleg, treuliwyd noswaith ad- eiladol a dyddorol ynghwmni Mr. Amos Hughes, Liverpool, pryd y cahvyd papur ganddo ar Gyfleusderau. Chwefror ISfed, darllenwyd papurau nodedig o dda gan ddwy 6 chwiorydd ieuengaf y Gymdeithas. 0 Gaethwas i Ddinesydd, gan Miss Jenny Parry; Hap- chwareu," gan Miss Hannah Williams. Ynddiauymae y Gymdeithas yn Egre- mont yn cyrhaedd ei phwrpas, fel yr aw- grymwyd gan y Parch J. Roger Jones yn y cyfarfod, pan yn gweled aelodau mor 'ieu- aingc yn gwneuthur papurau mor rhagorol, a phawb a'rall o'r aelodau mor barod i godi a chymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth. Cafwyd hefyd bapur dyddorol gan Mr. John Edwards, ar Gwenffrewi." Treul- iwyd noswaith fuddiol gyda'r oil. CYFARFOD PWYTHO.—Dal yn brysur y mae chwiorydd yr eglwys gyda'r pwytho ar gyfer y Sale of Work sydd i'wchynal. GOH. ABERGELE. Mae y chwiorydd yn fyw gyda'r gwaith dirwestol. Prydnawn Llun v 14 0 Chwef. cyfarfyddodd oddeutu 150 a'u gilydcl i drefnu ac ymddiddan. Yr oedd Te rhag- orol wedi ei drefnu ar eu cyfer, mawr oedd y canmol. Am 7 o'r gloch yr oedd cyfar- fod cyhoeddus yn Ysgoldy St. Paul, Lady Roberts oedd yn y gadair. Y Parch. Ffrancis Jones, ddechreuodd y moddion. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. David Morris, Miss Hughes, Llanelwy; Parch W. H. Davies, Pensarn. Cafodd yr oil ohon- ynt amser da iawn. Diolchwyd i Lady Roberts ar ran yn y cyfarfod, gan J. R. Ellis. Yr oedd ilawer iawn o'r chwiorydd wedi dod ynghyd, yr ystafell yn llawn, a pawb yn canmol y cyfarfod. FFAIR ABERGELE.Y Perchill yn gwerthu yn dda, llai nac arfer o Wartheg, yr oedd stock dda. o Geffylau cryfwn, a gwerthwyd Ilawer am brisiau uchel. E. BANGOR. HOREB.—Mr. E. W. Pritchard, Bodgwyn- edd, ddewiswyd vn flaenor ar restr y blaenor symudodd i eglwys arall. Y mae Mr. Pritchard wedi bod yn Society Steward am flynyddau, ac wedi ei chyflawni gyda gofal a medr neillduol ac y mae ei weith- garweh yn cael ei werthfawrogi gan yr eglwys yn gyffredinol. Yrydymyn sicr y cyflawna y swydd bwysig hon eto gyda anrhydedc1 iddo ei hun a llwyddiant yr achos. Yn y Gymdeithas Ddiwylliadol cafwyd anerchiad ar "Billy Bray," neu "Maby Brenin, fel ei gelwid ef gan ein gweinidog, y Parch. R. Jones Williams, yr wythnos hon, ac yr oedd yn un wir ragorol. Cododd Mr. Williams wersi oddiar yr hanes.afydd o les i ben a chalon pawb oedd yn ei wrando, a chynghorwn bob mab a merch ieuanc i ddarllen y llyfr bychan. Y mae y Gymdeithas eleni yn fwy llwyddianus nag y gwelsom er's rhai blyn- yddoedd. Y mae y ddau ysgrifenydd, Mri. Hughie Hughes a Lloyd George Owen yn gwneyd eu gwaith yn rhagorol. Llywydd- wyd gan Mr. T. Ferguson Jones yn ei ddull medrus a doeth ef. Siaradwyd ar y papyr gan amryw o'r brodyr, a diolchwyd i'r Darlithydd a'r Cadcirydcl. Hefyd, y mae yr Ysgol Sul mewn llawn gwaith o dan ofal medrus Mr. D. R. Ellis yn parotoi ar gyfer y Cyfarfod Ysgol, sydd i'w gynal yn nechreu Ebrill. UN Am DRo. BETHEL, PONTRHYDYGROES. Nos Sadwrn, Chwefror 19, 1910. cynhal- iwyd Cyfarfod Adloniadol gan blant y Band of Hope. Mae yrymdrech svdd wedi ei arddangos efo'r plant yn ganmoladwy. Ni fu neb yma er's rhai blynyddau yn ffyddlonach i'r plant na'r brawd ieuanc Mr Williams, a'r plant bach wedi gwnevd eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Cadeir- ydd y cyfarfod hwn ydoedd y brawd Samuel Edwards. Llywydd ydoedd y Parch J. M. Williams. Chwareuwyd yr offerynau gan y rhai canlynol, sef, Mrs Davies, Post Office; Miss Jones, Wesley Terrace Miss Ishmael, Creugiau bach. Arweiniwyd y canu gan y brodyr canlyn- ol, sef y brawd Morgan Ishmael, yr hwn sydd yn arwain y canu cynulleidfaol, a'r brawd Jahn R. Jones, 'a'r brawd D. J. Davies. Post Office. Cafwyd cvfarfod rhagorol. Swn ymbaratoi sydd yma yn awr am yr Eisteddfod Flynyddol. Dydd Iau, Chwefror y lOfed, bu farw yr hen chwaer Mrs Hughes. Dolgroes, vn yr oedran teg o 84, buodd yn aelod ffyddlon am flynyddoedd yn Bethel, ond wedi metbu er's tro rhoddi ei phresenoldeb yn y ty. Claddwyd hi yn meddrod y teulu vn Mynydd bach. Gwas^maethwyd wrth- y ty, ac ar lan y bedd gan y Parch J. M. Williams, cin gweinidog. Duw a gysuro y teulu yn eu galar. Da genym allu hysbysu ar ol y frwydvr Etholiadol fod yma Gymdeithas Rhydd- frydig wedi ei sefydlu yn y gymdogaeth o dan nawdd y Liberal Association. Wei, rhwydd hynt iddi i wneyd Ilawer a waith! PERERIN.

Advertising